Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

CYMANFA GYFFREDINOL Y .METHODISTIAID…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMANFA GYFFREDINOL Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Cynhaliwyd y Gymanfa eleni, am y tro cyntaf, yn Birkenhead, a pharhaodd o nos Lun hyd nos Iau. Y llywydd am y flwyddyn oedd y Parch. D. Lloyd Jones, M.A., Llandinam. Cyfarfod dirwestol a gynhaliwyd nos Lun, pryd y siaradwyd gan Lywydd y Gymanfa, y Parch. Evan Jones, Caernarfon, a'r Parch. Thomas Levi, Aberystwyth. Cymerodd eisteddiad cyntaf y Gymanfa le brydnawn dydd Mawrth, ac wedi galw enwau'r cynrychiolwyr, cyfeiriodd y Llywydd yn f)r ac yn dyner at yr ymadawedigion canlynol:— Parchn. T. E. Edwards, Cwmavon; B. D. Thomas, Woodstock; James Harris, Clarbeston Road; David Rees, Bronant; Thomas Davies, Abertawe; T. M. Green, Aberystwyth; T. R. Saunders, Llanelli; Josiah Thomas, M.A., Lerpwl; Richard Williams, Llangwyllog; T. F. Roberts, Machynlleth John Ellis, Llanarmon; E. Myrddin Rees, Pwllheli; Henry Jones, Fflint; W. V. Jones, B.A., Beddgelert; John Davies, Pennant; John Owen, Bettwsycoed; a Mri. T. Cledanydd Evans, Bethania; J. R. Hughes, Bethesda, a Robert J. Jones, Pensarn. Bu raid wrth ail bleidlais yn newisiad llywydd Cymanfa, 1906, a chafodd y Parch. Thos. Gray, Birkenhead, fwyafrif ar y Proffeswr Hugh Williams, M.A., D.D., y Bala. Y Parch. J. M. Saunders (mab yr hybarch Ddr. Saunders) a ddewiswyd yn ysgrifenydd. Pellebrwyd cydymdeimlad y Gymanfa a'r Proff. H. Williams, oherwydd marwolaeth ei dad a derbyniwyd y gwahoddiad i'r Gymanfa i Flaenau Ffestiniog. Yn yr hwyr traddododd y Llywydd ei anerchiad ymadawol o'r gadair. Dewisodd yn destyn-" Rhwymedigaeth Ewrop i'r Diwygiad Protestanaidd," a thraethodd arno yn alluog a hyawdl. Ymwnelai y rhan helaethaf o'r araith a chyflwr Ewrop, yn syniadol a moesol, cyn y rhyferthwy diwygiadol hwnnw; a llygredigaeth y Babaeth, a'r castiau fyrdd a ddyfeisiodd i godi arian tuagat borthi ei balchder a'i blys am adeiladau gorwych, drudfawr; a'i huchelgais aniwall am awdurdod gwladol cystal ag eglwysig; ac a'r chwyldroad bythgofiadwy a barodd Luther yn hanes Ewrop. Dydd Mawrth derbyniwyd dirprwyaethau yn cynrychioli Eglwys Rydd Unedig Ysgotland, Eglwys Henaduriaethol Lloegr, y Cynghor Pan- Presbyteraidd, a Chyfundeb Iarlles Huntingdon. Cyfiwynwyd hwv mewn dull hapus a doniol gan Dr. Cynddylan Jones, ac ar gynygiad y Prif- athraw I'rys, yn cael ei gefnogi gan y Parch. Puleston Jones, M.A., pasiwyd penderfyniad o gydymdeimlad a'r Eglwys Rydd yng ngwyneb yr amgylchiadau profedigaethus a'i gorddiwes yn ddiweddar. Wedi hynny ystyriwyd aclroddiadau y gwahanol sefydliadau a berthyn i'r C,furideb, megis yr Adroddiad Cenhadol, Pwyllgor y Forward Movement, Pwyllgor Seneddol Mudd- ianau y Cyfundeb, &c. Ynglyn a'r ndroddiad olaf a nodwyd caed anerchiad dyddorol gan Mr. Herbert Lewis, A.S., yngh Ich Rhyddfreiniad Addoldai, a bawl 1 gael tir i adeiladu a>idoldai arno. Mae mesur yn delio a phob un o'r ddau bwnc yn awr gerbron y Senedd, ond dywedodd Mr. Lewis nad oes obaith i'r un o'r ddau basio tra y byddo y Llywodraeth bresenol mewn grym. Yr Ystadegau. Er fod cryn lawer o elfenau dyddordeb yn ystadegau blynyddol y gwahanol gyrph crefyddol bob amser, mae llawer mwy nag arfer o ddydd- ordeb ynddynt eleni, a bydd mwy eto y flwyddyn nesaf, ar gyfrif cyffro y Diwygiad a'r dychweledigion drwyddo. Cyflwynodd y Parchn. Joseph Evans, Dinbych, a T. J. Morgan, y Garn-ystadegwyr y cyfundeb- eu cyfrif blynyddol i'r Gymanfa. Dylid cadw mewn cof wrth ddarllen yr ystadegau hyn, ac eiddo yr eglwysi eraill, nad ydynt yn cyrhaedd ym mhellach na diwedd 1904, ryw ddau fis wedi i'r Diwygiad dorri allan. O'r braidd hefyd hyd yr adeg a nodwyd y teimlid ei effeithiau oddiallan i Forganwg a Mynwy. Ond yr oedd nifer y dychweledigion i eglwysi y Methodistiaid hyd Rhagfyr 31am, yn 8,092. O'r nifer hwn yr oedd 5,727 yn Morganwg. Y nifer ar brawf Rhagfyr 31ain oedd 6,875, mwy 0 4,393 nag ar ddiwedd y flwyddyn o'r blaen. Adeiladwyd 17 o gapeli a lleoedd pregethu yn ystod y flwyddyn, a 5 o ysgoldai. Sefydlwyd 10 o eglwysi newyddion. Cyfanrif aelodau yr enwad yw 257,012, cynnydd o 13,724. Casglwyd at bob achos £ 305,742, mwy o £14,031 nag a gasglesid yn 1903, ond yr oedd chwech ran o saith o'r ychwanegiad hwn tuagat dalu dyled capeli. Chwyddodd casgliad cynnal y weinidog- aeth £ "2,645, tra y lleihaodd y casgliad cenhadol ;679 2. Mae'r holl ddyledargapeliy cyfundeb yn £446,9°7, ychwanegiad o £ 8,789. Ond cyfrifir fod yr holl eiddo yn werth dwy filiwn o bunnau. Mae y cyfraniadau yn 35s. ar gyfer pob aelod ar gyfartaledd. Ceir yn yr adroddiad y tabl cyflawn a ganlyn Capeli a lleoedd pregethu 1,516 Eisteddleoedd 465,089 Ysgoldai 1,081 Tai gwenidogion 202 Eglwysi 1,395 Gweinidogion 900 Pregethwyr 361 Blaenoriaid 5,887 Cymunwyr 173,310 Plant yn yr Eglwysi. 77,827 Ar brawf 6,875 Ysgolion SuI 1,708 Ysgolheigion 220,194 Cyfanrif y cynulleidfaoedd 336,997 Wrth gwrs, cynwysa y manylion uchod yr holl eglwysi Cymraeg a Saesneg perthynol i'r enwad, yn y trefi Seisnig yn ogystal ag yng Nghymru. C, Nos Fawrth cynhaliwyd Cyfarfod Cenhadol, yn cael ei anerch gan Dr. Griffith, Treffynon Dr. Edward Williams, Miss A. W. Thomas, a'r Parch. Jenkyn James, Llydaw. Siaradodd Mr. Jenkyn Jones, ond yr oedd amser bellach wedi ei gymeryd lawer yn rhy helaeth gan y siaradwyr blaenorol. Chwarddai y cynnulliad yn galonog am ben yr engreiphtiau a goffheid gan Dr. Williams o hygoeledd a symlrwydd y Khassiaid; a dywedai eu bod yn chwanog fel y Cymry i ganu emynau pan wedi meddwi. Yr oedd y cenhadon wedi dysgu Ilawer o'n hoff emynau ni i'r brodorion; a chaed un brodor ar ffordd lydan y pentref un diwrnod, yn drwm dan clclylanwdcl y diodydd, yn canu nerth ei gorn,- Gwnes addunedall ill I gadw'r llwybr cul, Ond methu'r wy', &c. Yr oedd yn amlwg fod Sylhet afiach a manau ereill yn dweyd ar y cenh.idon—edrychent yn welw a lluddedig ddigon a phriodol iawn ydoedd gwaith y pwyllgor yn penderfynu tynu cyfnod cyntaf y gwasanaeth ar fryniau Ivhassia i lawr o ddeg i wyth mlynedd. Dydd Iau bu Pwyllgor Addysg o dan ,sylw. Cyfiwynwyd adroddiad Pwyllgor Addysg gan y Parch. R. Aethwy Jones, M.A. Caed anerchiad pybyr a gwresog gan Mr. Herbert Lewis. A.S., yn mhlaid y polisi cenhedlaethol sydd yn dechreu ei waiih yn Meirion, ac anogodd y Cyfundeb i chwyddo ton y gwrthdystiad yn erbyn Mesur y Llywodraeth, fel ag i wneyd yn amhosibl niweidio y gweithwyr a'r rhieni hynny a dynent eu plant o afaelion y Ddeddf anghyfiawn. Pasiwyd y rhan hon o'r adroddiad gyda brwd- frydedd, ynghyda'r rhanau ereill yn mlaid dysgu'r Gymraeg yn yr ysgolion, a chyfranu addysg Feiblaidd. Cyflwynwyd adroddiad Casgliad y Can' Mil gan y Parch. E. J. Jones, M.A., oedd newydd ei gwblhau y boreu hwnnw. Casglodd y Gog- ledd £ 61,736, a threuliocld £ 700; casglodd y De £ 40,000. a threuliodd £370; yn gadael gweddill, wedi tynu'r treuliau, o £ "100,666. Pasiwyd penderfyniad o ddiolchgarwch am gwblhad y casgliad, fu o flaen yr eglwysi am bum' mlynedd, ac ydoedd yn un o'r symudiadau mwyaf cofiadwy yn hanes y Cyfundeb; ac yna caed eglurhad ar yr egwyddorion wrth ba rai yr oedd yr arian i'w rhanu gan Mr. Peter Roberts, Llanelwy :—(1) Yr oedd £ 15,500 i'w neillduo at ddiddyledu neuaddau y Mudiad Ymosodol, ac i'w gweinyddu gan bwyllgor o benodiad y Gymanfa Gyffredinol; (2) £ "25,000 at dalu dyledion yr eglwysi gweiniaid-ZI2,500 i'w rhanu gan Gymdeithasfa'r De, a 412,500 gan Cymdeithasfa'r Gogledd; (3) £ 30,000 at weini- dogaeth a gofalaeth yr eglwysi gweiniaid- £ 14,000 i'w weinyddu gan Gymdeithasfa y De, a £ 16,000 gan un y Gogledd; (4) £ 30,000 i'w neillduo at y Genhadaeth Gartrefol— £ ^12,000 i'w weinyddu gan Gymdeithasfa'r De, a £ 18,000 gan un y Gogledd. Yn ddiweddarach yn y dydd traddododd y Proffeswr Hugh Williams, M.A., Bala, fras- linelliad o Ddarlith Davies ar Gristion- ogaeth Gyntefig Prydain." Ceir crynodeb o honi mewn colofn arall. Dygwyd gweithrediadaU y Gymanfa i derfyniad gyda chyfarfod i'r bobl ieuainc nos Iau, pryd y siaradwyd gan y Parch, W. Prytherch (Llywydd), a'r Parchn. R. Ernest Jones, Dolgellau; T. Charles Williams, Porth- aethwy a'r Prifathraw Owen Prys.

Advertising

I .. .IN LOVELY WALES.,