Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Byd y Gan.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Byd y Gan. Cian IDRIS. "Os am brofi grym caniadaeth y cysegr," ebe un gohebydd, yr wythnos hon. Eled i gyfarfodydd cenhadol Torrey-Alexander a gyn- helir yn y Strand ar hyn o bryd." CYMERER y canu allan o'r gwasanaeth, nid yw'r effaith ar y cyhoedd ond ychydig. Tra'n myned heibio'r adeilad eang saif crwydriaid wrth glywed y cor yn canu, ac mewn canlyniad try amryw i mewn a derbyniant les fe gredwn. DYNA un engraifft lie mae caniadaeth yn help i ddenu dyn i feddwl am gyflwr ei enaid. Ond o'r tu fewn i'r adeilad y mae'r canu, os yn wresog, yn effeithio yn ogoneddus ar ddynolryw, ac y mae clywed y Gymraes (Miss Davies) yn canu caniadau Seion yno. yn gynorthwy mawr tuagat iachawdwriaeth dyn. Y MAE'R cerddorion wrthi'n ddiwyd yn parotoi gogyfer a'r British Festival a gynhelir yn y Palas Grisial ar y 24ain o'r mis hwn. Y mae'r adran Lundeinig o Gor Gwyl Handel, yr hwn a rifa oddeutu 3,000 o leisiau, i wasanaethu yn yr Wyl Brydeinig eleni. GAN fod y cor hwn wedi ei barotoi dan ddysgyblaeth yr enwog Dr. Cowen gellir disgwyl canu da ar y dewis-ddarnau, ym mysg pa rai y mae perlau cerddorol. HEFYD, i ychwanegu at gyfoeth yr wyl, y mae'r trefnwyr,wedi gofalu am sicrhau gwasanaeth yr enwogion yn yr adian unawdol ymhlith pa rai y mae ein cydwladwr Mr. Ben Davies. Y MAE llawer tro ar fyd wedi bod er pan yr ymddangosodd Ben Davies am y tro cyntaf yn y Palas Grisial, yn y flwyddyn 1873. Nid oedd amgen na bachgen yr adeg honno, yn canu yng nghor yr arweinydd enwog Caradog. UN arall o'n cydwladwyr a fydd yn gwasan- aethu yn yr Wyl Brydeinig yw Mr. Ffrangcon Davies. Bydd y dyddordeb yn fawr i gyd- wladwyr y Dafisiaid yma. HEDDYW, ddydd Sadwrn, cynhelir y cyng- herdd blynyddol gan Mr. John Thomas (Pencerdd Gwalia), yn y Royal Palace Hotel, Kensington. Chwith meddwl fod yr hen le (Neuadd Sant Iago) wedi mynd. Ychydig, yn ddiau, o'n cydwladwyr a wyddant am y Royal Palace Hotel, Kensington. FEL arfer, bydd gan y Pencerdd seindorf o delynoresau yn y cyngherdd, ac y mae'r olygfa ar y rhianod teg mewn gynnau gwynion yn chwareu telynau aurliwiedig yn beth nas gwelir ond yn anfynych yn sicr. J WRTH gwrs, fe chwareuir unawdau gan y Pencerdd ei hun a phan y sylweddolir fod y telynor yn hen wr 8oain mlwydd oed, fe ryfeddir yn sicr wrth weled ei fysedd yn rhedeg mor chwim ar y tannau man. A (T DIAU y ceir ganddo chwareuad o'r hen alaw Dafycld y Garreg Wen." Tra'n chwareu yr alaw h°n, fel rheol, mae'r hen wr gorph ac enaid yn ei delyn. Os am weled gogoniant a nerth yr hen alaw hon rhaid clywed y Pencerdd yn chwareu ei drefniant o honni; ac os oes rhithyn o farddoniaeth ynnom rhaid addef na chlywsom enoed ddim byd tebyg iddi ar y delyn. GWYR y mwyafrif am yr amgylchiadau O dan a rai y cyfansoddwyd yr unawd hon. Os gwir yr hanes, ac mae pob rheswm i gredu hynny, ymddengys i Dafydd ymofyn ei delyn ac iddo chwareu yr alaw hon ar ei wely angeu. Y mae'r gerddoriaeth yn nodweddiadol o wr ar fin marw, ac os am gael y darlun yn fyw aed ein darllen- wyr i glywed y Pencerdd yn "tynnu mel o'r tannau man heddyw'r prydnawn. YMDDENGYS erthygl ddyddorol iawn ar hen Eglwys Blwyfol Doncaster, yn y Musical Times am y mis hwn, ym mha un y ceir sylwadau dyddorol am yr hen organydd enwog, Dr. Edward Miller, awdwr y don boblogaidd, Rockingham." Mab i balmantydd o Norwich ydoedd Edward Miller, ac yn y dref honno y ganwyd ef yn y flwyddyn 1731. DA genym glywed hanes mor ffafriol am ein cydwladwyr ar lwyfanau cerddorol mewn gwa- hanol barthau o'r wlad. Yr oedd un newydd- iadur yn siarad yn uchel iawn am y baritone addawol Mr. David Evans. EREILL a glywsom ganmol arnynt yn ddi- weddar ydynt Miss Margaret Lewys a Mr. Herbert Emlyn. Rhoddir carictor ardderchog i Mr. Madoc Davies, hefyd, fel beirniad ac arweinydd cymanfaoedd, &c. Bu oriawr yr anfarwol Handel ar werth y dydd o'r blaen, a phrynwyd hi gan Dr. W. H. Cummings, Prifathraw Ysgol Gerddorol y Guild- hall. Nis gallasa: yr oriawr ddisgyn i ddwylaw mwy priodol nag eiddo'r Doctor, yr hwn sydd yn un o edmygwyr penaf Handel. PRIF atdyniad y gohebwyr cerddorol yr wyth- nos ddiweddaf ydoedd y gala performance yn Covent Garden. Y mae'n rhaid fod y Brenin Alfonso wedi llygad-dystio llawer golygfa hardd, yn enwedig yn ddiweddar, ond prin y gallwn gredu iddo erioed weled golygfa harddach na'r hon amlygwyd iddo ar ei fynediad i wrandawle Ty'r Opera, fraich-ym-mraich a'n Brenhines ni, nos Iau yr wythnos ddiweddaf. NID yw Ty'r Opera yn gyffredin yn llawenydd i'rllygad; ondar yr amgylchiad hwn yr oedd yr awdurdodau wedi parotoi cynllun o addurn- iadwaith. Pangodwyd er parch i Marcha Real," Anthem Genedlaethol yr Yspaen, cyfansoddai y mawrion olygfa na welwyd ei chyffelyb er's llawer dydd. Yr oedd y coronigau deimwnt a'r gemau dirifedi yn fflachio fel ser gyda'r goleuni trydanol, ac yr oedd yr amrywiol wisgoedd milwrol, gwladwriaethol, &c., yn ychwanegu yn ddirfawr at brydferthwch yr olygfa. Ac fel hyn y dywed un gohebydd am danynt: The chief scenic effects were, indeed, not on the stage, but in the auditorium and I am not sure that the most interesting part of the entertainment was not the half-hour preceding the King's arrival, when everybody was busily engaged in pointing out who was who, and in criticising each other's appearance." YNGLYN a'r perfformiadau ar y llwyfan nid oes fawr wedi ei ddweyd. Ond y mae amryw lythyrau wedi ymddangos yn y papyrau dyddiol yn galw sylw at y dirmyg a wnaed i gelfyddyd frodorol drwy amddifadu yn hollol gerddoriaeth Brydeinig. Gyda'r lliaws cyfansoddwyr Prydeinig talentog, y mae'r ffaith na chafwyd gymaint ag un nodyn o'u cerddoriaeth ar y rhaglen nid yn unig yn ddirinyg, ond yn afresymol i'r eithaf. FEL y sylwyd genym lawer gwaith o'r blaen, cyfansoddwr a chantor gyda Signor o flaen eu henwau sydd yn cario'r dydd. Ceir yr un egwyddor yng nghyngherddau y Cymry-canu Seisnig yn lie caneuon ein gwlad. Bu farw'r cerddor enwog, Dr. Charles Steggall, athraw mewn cynghanedd a'r organ yn y Royal Academy of Music, yr wythnos ddiweddaf, yn 71 mlwydd oed. Appwyntiwyd y Doctor yn bro- ffeswr yn yr Academy yn y flwyddyn 1851, 'ac ennillodd y gradd o Mus.Doc. yn yr un flwyddyn yng Nghaergrawnt. Bu yn ddisgybl a chyfaill i'r diweddar Sterndale Bennett, gyda pha un y bu yn offerynol i ddwyn gerbron yn Lloegr Passion Music (Bach). YR oedd Dr. Stegall yn adnabyddus iawn fel cyfansoddwr tonau ac anthemau, ac ym mysg y rhai mwyaf poblogaidd y mae ei Jerusalem on High (Ancient and Modern), ac anthem y Sulgwyn, "God came from Teman." Ym mysg ei liaws disgyblion yr oedd y diweddar Syr J. Stainer a'r diweddar Syr J. Barnby. CYNHALIODD y London Symphony Orchestra eu ciniaw blynyddol cyntaf y noson o'r blaen, ym mha un y cynrychiolwyd y baton gan Her Nikiach, Syr Charles Stanford, Dr. Cowen, Signor Mancinelli, Mr. Randeggar a Mr. Landon Ronald, a lliaws eraill. Y mae gwedd lewyrchus iawn ar y gerddoxfa ar derfyn eu tymhor cyntaf, acy mae'r ffaith eu bod, ar ol chwareu mewn 50 o gyngherddau, mewn sefyllfa arianol dda, yn waith llawer mwy nag a wnaed gan unrhyw gorph cerddorfaol yn Lloegr o'r blaen. Y MAE y gerddorfa wedi ennill enw hefyd, fel y tystiai Nikiach, mewnatebiad i lwncdestyn. Dywedai:—" Not only have you done a great thing for yourselves, but you have done a great work for English music. You are regarded on the Continent as a proof of the musical develop- ment of the country. It is an enormous pleasure for me to conduct you, for you are one of the finest orchestras in the world. I am in a position to say this because I have conducted the best orchestras in Europe, and I am direc- tor of the famous Gewandhaus orchestra at Leipzig and of the Berlin Philharmonic." CAED cyngherdd gan blant y Dosbarthau Crythol Llundain yn y Palas Grisial ddydd Sadwrn diweddaf. Nid gwaith bychan ydoedd arwain 700 o blant gyda 700 o grythau. Ond gwnaeth Mr. Walter Hedgcock hynny gyda chryn lwyddiant, ac yn sicr y mae i'w longyfarch yn fawr am y modd medrus gyda pha un yr arweiniodd yr ieuenctyd. YR oedd Master Florizel von Reuter yn chwareu yn y cyngherdd, a hawdd oedd gweled fod ei chwareuad gorphenol ar y crwth yn rhyfeddod nid bychan i'r plant. BWRIEDIR cynhal cystadleuaethau rhwng y dosbarthau crythol hyn yn y dyfodol. DAW adroddiadau hynod ffafriol am gorau a chyrddau cystadleuol yn y Gogledd.

Advertising