Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Gohebiaethau.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gohebiaethau. MR. EVAN ROBERTS AG EGLWYS RYDD Y CYMRY. At Olygydd y LONDON WELSHMAN." SYR,—Caniatewch ymddangosiad yr ychydig awgrym- iadau a ganlyn, a gynnygir gyda golwg a'r leddfu y chwerwedd a fodola yn yr Eglwys Rydd, mewn canlyniad i ddatguddiad Mr. Roberts o'r hyn a gredai oedd yn weledigaeth iddo, at ei mynegu. Yr wyf braidd yn teimlo fod eich dull chwi—er yn hollol anfwriadol, 'rwyn credu—o eirio yr hysbysiad yn tueddu yn hytrach i fwyhau, ac i esgusodi, y teimlad drwg. Y mae yn amlwg nad oedd Mr. Jones, gyda'i fwyneidd-dra arferol, yn ei dderbyn yn yr olwg yr ydych chwi yn ei roddi arno. Nid eondemnia" ydoedd, yn yr ystyr arferol roi'r i'r gair ac y mae'r ansoddair eithafol yn cywain argraff anhapus iawn i'r mynegiant. Nid oedd Mr. Roberts yn ei wneyd oddiar y radd leiaf o ddygasedd a diffyg teimlad, ag nid ydyw yn dyweyd dim gyda golwg ar yr Eglwys Rydd fel y mae ond yn unig am ei chychwyn. Ag nis gall neb edrych ar ei chychwyn ond fel ffrwyth tramgwydd a dialgarwch Nid ydym wrth ddywedyd hyn yn amheu am funud nad ydyw y sylfaen, yr hwn yw y Crist, ganddynt, a bod y cyfartaledd o'r aelodau—nis gallwn obeithio yr oil am yr un enwad-ar y Graig. Heblaw hyn, nid wyf yn meddwl fod yr ansoddair "erlidiedig"—" gwr erlidiedig "—yn gymhwysiadwy iawn at ochr Mr. Jones. Hyd yr wyf fi yn cofio, o'r ochr arall y mae yr erlid wedi bod ar yr Hen Gorph yn fwy, os nad yn gwbl. Y mae yr olwg a rydd y frawddeg yma ar yr helynt yn cryfhau y teimladau chwerw, ac o duedd, mwy na pheidio, i gynnyrchu chwerwedd yn ol, yn eich cymmydogion nesaf atoch—y Methodistiaid Calfinaidd yn Llundain. METHODIST.

Y PARCH. HUGH HUGHES YN UTICA.

PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.

Y DYFODOL

Advertising

Am Gymry Llundain.