Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

MISS ELLENOR WILLIAMS YN YR…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MISS ELLENOR WILLIAMS YN YR AMERICA. Yn yr America yn efengylu y mae Miss Ellenor Williams o hyd. Diau genym y bydd yr adroddiad canlynol o hanes ei theithiau diweddaraf yn ddyddorol i lawer o'n dar- IIenwyr :— Taith boenus yw myned i West Bangor y ffordd yr aethum i, a dywedodd pobl wrthyf y cawn drafferth ryfedd yn croesi y Susquehanna River mewn cwch bach, ond yr oedd yr angel gwarcheidiol ym mherson W. C. Roberts wedi cofio am danaf, a chyfarwyddo pobl y tren ¡'m gollwng i lawr yn y lie y cawn gwch mwy. Pan y disgynais yn Peach Bottom, yr oeddwn fel pe wedi fy nghipio i fyd arall. Noson deg « wanwyn, a'r gauaf hir fel pe wedi diflanu mewn eiliad, a minnau yn nesu i'r de. Yr oedd y maple trees wedi newid eu ruchins gwynion am (rills amryliw. Mae blodau y coed hyn yn dod allan o flaen y dail. 0 gwmpas y ffordd yr oedd fel purple carpet o flodau gwylltion, a elwir "Johnny Jump Up," tebyg i flutias y gog yr Hen Wlad. Yr oedd afon fawr y N Susquehanna yn filltir a hanner o led i'w chroesi, a honno yn orwyllt. Yma ac acw yn ei chanol y mae ynysoedd bychain crynion, fel byrddau te, ar y rhai y tyfai y weeping willows, a'r gwallt hirlaes yn chwyfio yn yr awelon ac yn ymolchi yn y /dyfroedd glan. Un o hynodion mwyaf fy nhaith yn America yw croesi yr afon fawr hon. Dyma yr unig beth welais yn y wlad ag sydd yn meistroli medrusrwydd yr lanci. Fedr ef ddim rnorwra y Susqehanna wyllt, ond mae y Duw a'i pia yn medru ei dofi am hinsawdd y gauaf a'i rhewi mor galed nes y mae pobl yn ei cherdded fel pe ar hyd ddol wastad. Ond y ffordd y croesais i ydoedd drwy i ryw ddyn ddod a bad mawr fflat fel sled, gan fy mhacio i, fy mhethau, y ceffyl, y buggy, a'r gyriedydd iddo, a dyna ni yn myned drosodd, tra y dyfroedd gwylltion yn ffrothian, ond yr oedd y golygfeydd ar y glanau yn ardderchog,-gweled anian yn ad- fywio o'i chwsg gauafol, y blue jay wedi dod 1 frigau y coed i berori eto. Ar y lan draw yr oedd y brawd caredig H. Rees, yn fy Nisgwyl, 1 m cymeryd i'm llety dros y Sul. Ambell dro Mae ffawd yn gyrru ceffyl dall, dro arall un cloff im cwrdd. Ond am geffyl y brawd Rees, credwn mai un o anifeiliaid gwylltion Buffalo 13ill ydoedd. Gwelais y rhai hynny yn gwneyd eu campau yn Llundain. Ni welais na gwybyr Ila daear tra bum yn myned o lan yr afon i Delta, ond dyma fi a'm hesgyrn yn gyfan i gyd yn cyrhaedd ty yr anwyl Mrs. Humphreys, ond ^or flin fel y buasai yn well genyf farw na byw, hyd nes y cefais wely esmwyth a gofal mamol y foneddiges dduwiol i'm meddyginiaethu. Bore Sul ddaeth-y ddau enwad Cymreig yn cyduno. Yr oedd pobl West Bangor a Delta Wedi cael llwyddiant crefyddol mawr yn nechreu y^flwyddyn hon, llu o wrthgilwyr wedi ymuno ar eglwys. Yr oedd y teimlad hwnnw wedi oeri i fesur, er hynny fe gafwyd rhai cyrddau gWresog a ffrwyth arnynt. Unai y gwahanol Eglwysi y lie ar brydnawn Sabboth i gael cyrddau ^eisnig. Mae y dinasoedd bychain hyn ar lan y Susquehanna yn wir uchel eu moesau, ac am cadwraeth o'r Sabboth. Mae yr eglwysi Cymreig wedi dal eu tir yn ardderchog. Mae y Trefnyddion Calfinaidd heb yr un bugail ar yn o bryd dyna paham. y bum i yno ddau Sul ac Wythnos. Y Parch. H. W. Jones, M^mro o Lanrwst, yw gweinidog yr Annibynwyr. J7ae iddo frawd yn weinidog yn Summerland, l°egr, hefyd. Yr oedd eglwys fechan y Bed- yctawyr Seisnig yn cynhal eu cyrddau diwygiadol yr un wythnos a ni, a darfu yr eglwysi Cymreig yn garedig fy rhyddhau un noson i fyned at fy hobi. Aeth y Parch. J. Wynne Jones, D.D., &Itimore, a'r Parch. W. H. Jones a brodyr a Wiorydd o'r gwanhanol eglwysi gyda ni i syiiorthwyo y gweiniaid. Nos Sadwrn yr oedd yngherdd yng nghapel yr Annibynwyr o dan arweiniad y Proffeswr Rees. Talentau cartrefol i gyd. Yr oedd yn glod i'r Proffeswr a'r bobl ieuainc, ac yno arwyddion o ddiwylliant medd- yliol uchel. Synais weled yn Delta Howell J. Williams, brawd y diweddar a'r parchus flaenor, Richard Williams, Charing Cross Road, Llundain. Ni chladdwyd neb mwy parchus o Gymry Llundain na'r hen frawd duwiol a'r dirwestwr cadarn. Mae ei fab, Howell J. Williams, L.C.C., yn un o ddynion goreu y Brifddinas. Synais, hefyd, weled pobl ieuainc mor Gymreigaidd yn y ddinas fach hon sydd yn byw ar ei phen ei hunan, mor bell oddiwrth y byd, ac yr oedd graen grefyddol arrtynt, y plant yn cael y gofal mwyaf. Mae Miss Mary Williams, merch Howell Williams, wedi cyflwyno ei bywyd i wasanaeth Crist, ac yn gofalu am fywyd goreu y rhai bychain, a thra y mae yr eglwys Fethodist- aidd heb weinidog, mae hynny yn fendith iddynt. Ni chefais hanner digon o amser ym mysg y bobl anwyl. Hawdd fuasal genyf wylo wrth ymadael a'r garedig Mrs. Humphreys, a Miss Morgans ei nhith, fuont mor dda wrthyf. Mae rhai hen settlers Cymreig yn yr ardaloedd. Aeth Mrs. R. L. Jones a mi yn ei cherbyd i weled yr hen a'r methedig, ac i gynhal gwasanaeth yn eu cartrefi. Mae Mrs. Jones yn hanu o hen deulu enwog y diweddar Syr Hugh Owen o Fallwyd. Gwnaeth ef lawer dros Gymru yn ei oes. Mae R. L. Jones, a'i frawd D. P., yn dod o Ben- machno. Cefais dderbyniad cynhes gan fy nghydgenedl yn Delta. Mae yno berthynas agos i mi, Mrs. E. J. Hughes. Yn ddilynol i West Bangor aethum ar ym- weliad a Baltimore. Yr oedd Dr. Wynne Jones a'i deulu, oddiar eu teimladau cenedlgarol at y ddynes ddieithr yn y wlad, wedi gyrru gwahoddiad i mi gael aros gyda hwy; a dyna fraint arbenig oedd genyf i gael adnabyddiaeth bersonol a'r Cymro enwog. Ganwyd y Doctor yn Beauford, Mon., Deheudir Cymru. Daeth i'r wlad hon yn ieuanc, a bu yn byw ar fferm ei riaint yn Wisconsin hyd nes y torrodd y rhyfel allan, pryd yr ymrestrodd gyda'r fyddin. Bu mewn dwy ar hugain o frwydrau, a dyrchafwyd ef yn swyddog yn y fyddin. Aeth rhyw iasau rhyfedd trwof pan yn cerdded wrth ei ochr drwy un o heolydd Baltimore, ac yntau yn dweyd dyma y fan lie torrodd Rhyfel y Chwyldroad allan bedair blynedd a deugain yn ol. Bu yma laddfa fawr," meddai. Pwy feddyliai fod heol- ydd Baltimore wedi eu lliwio a gwaed dynol mor ddiweddar. Ar ol i'r Rhyfel Cartrefol derfynu galwodd Duw y gwr ieuanc i ryfel ysbrydol. Trwy hael- ioni rhyw foneddiges Gristionogol anfonwyd ef i athrofa enwog Princeton am naw mlynedd, lie y graddiodd. Ymsefydlodd yn weinidog ar eglwys fechan Gymreig, ond buan daeth i sylw gyda'r Presbyteriaid, a dechreuodd ar Waith Mawr ei Fywyd, trwy godi y capel hardd ar Highland Ave., a'r Manse ardderchog. Costiodd y capel ei hun dair mil a deugain o ddoleri, a'r Manse wyth mil. Darfu cyfoethogion y lie ymddiried yn y gweinidog ieuanc a rhoddi iddo yr arian at y gwaith mawr. Mae wedi llenwi yr adeilad a phdbl, ac mae ganddo un o'r eglwysi goreu yn y ddinas. Yn gysylltiedig a hi mae llyfrgell an- ferth, yn cynwys 5,233 o gyfrolau, a miloedd o fisolion a newyddiaduron. Yr oedd attendance y flwyddyn hon yn 17,680. Fel y dywedai y Doctor, dyma gyfrwng gwerthfawr i gadw yr ieuenctyd o demtasiynau yr heolydd. Miss Charlotte Jones yw y librarian. Nid yw ond 22 oed, ond y mae yn M.A. a B.A. o Brifathrofa .y Merched. Mae mab Mr. Jones wrth y bar, a'r oil o'r plant ar y ffordd i enwogrwydd. Mae sefydliadau eraill gan y Doctor, The People's Institute" a'r Bethany Home for Baltimore Girls." Gallwn fel Cymry fod yn falch fod y gwr hwn yn perthyn i'n cenedl ni. Nis gallaf ddweyd y mwynhad a gefais yng nghwmni y Doctor a'i deulu hoff. Aethant a fi o gwmpas i bob man. Y noson gyntaf aethum gyda'r Esgob i gyfarfod y Presbytery, pa un oedd yn cwrdd yn Baltimore. Tybiwn ei fod yn an- rhydedd i Fedyddwraig gael bod yng nghwrdd etholiad y Cymedrolwr yng nghynulliad y Presbyteriaid. Yn ystod y ddau ddydd y bum yn Baltimore gwnaethum fy ngoreu i weled Y Ddinas Losgedig. Nid oes ond blwyddyn a hanner er pan ddifaodd y tan ofnadwy 78 blocks o brif adeiladau y ddinas, gan eu gadael yn domen o ludw, ond mae yn cael ei hadeiladu yn drefnus, a bydd yn fuan yn un o ddinasoedd harddaf America. Y syndod yw, dim ond un bywyd gollwyd yn y tan hwnnw; a dim ond 26 a wnawd heb gartref. Banciau a masnachdai losgwyd. Mae am- gylchedd y ddinas yn grand ar gwr y de, y Bay mawr, lie daw llongau mawr o bob parth o'r byd i mewn. Mae y ffrwythau yn cael eu cario yn dunelli i'r farchnad. Mae 25,000 o bobl yn gweithio gan gwmni yr oysters, pa rai sydd yn supplio y wlad ag oysters. Malir y cregyn i wneyd rfyrdd maent fel tywod gwyn. Mae y ddinas oil yn odidog. Dydd Mercher gadewais Baltimore am Philadelphia, a dyna grand oedd y wlad, Y Gwenith ar Ehedeg, ac os na fedr yr Yankee nofio na morwra y Susquehanna medr ei phontio. Mae yr afon yn ddwy filldir o led mewn un man, yn fforchogi ac uno ar ei chanol, a'r tren mawr yn myned yn araf tan chwibanu dros ei phen. Bwriadwn aros noson yn West Philadelphia, gyda Mr. a Mrs. D. W. Roberts, ond er ein mawr ofid yr oedd ein hanwyl Mrs. Roberts yn y gwely yn sal iawn. Nid oedd wed'yn ond myned i 1313, Pine Street, at y garedig Mrs. Lewis Richards a'r plant, sydd yn fy nerbyn pa bryd bynnag yr af yno. Aeth Mrs. Richards a minnau i gapel yr M. E., 13th Street, i glywed y Cymry yn canu emynau y Diwygiad i lon'd capel o Saeson. Hyfryd oedd cwrdd a fy nghydgenedl yno a chael eu hanerch unwaith eto. Boreu dranoeth yr oedd raid brysio am Slatington i anerch am ddwy noson. Pur hwyrfrydig fu trigolion dinas y llechau i dderbyn y ddynes bregethwrol, ond wedi torri trwy y crystyn caled ni chefais well calon yn unman na Slatington. Cawsom Oedfaon Bendigedig yno, yn neillduol yng nghwrdd y chwiorydd a chwrdd nos Wener. Nid oedd y Diwygiad yn mhell oddiwrthym. Dyma le prydferth yw Slatington, yn nythu rhwng y bryniau. Mae y tai wedi eu hadeiladu yn hynod o ddestlus. Ni chefais fyned lawer o gwmpas, am fy mod yn flin iawn, a darfu Dr. Richards (leuan Fardd), yn ei gymeriad o ddoctor meddygol, ddweyd mai i'r gwely yr oedd rhaid myned. Cefais gartrefu lie mae pawb yn cael, gyda Mr. a Mrs. I R. G. Pierce. Mae Mrs. Pierce yn enedigol o Gapel y Beirdd, yn gyfnither i G. H. Humphrey, Utica Cefais beth o gwmni y boneddwr oedranus Ellis Owen. Mae pregethwyr Cymru yn dod yn dewion i Slatington--Parchn. Teifion Richards a Mr. Griffith o Dreforris, a W. Rees o Lundain. Blynyddoedd y gwartheg tewion oedd yno. Ond fe giliais i lie mae yn flynyddoedd gwartheg teneu, Mahanoy City, lie mae eglwys y Bedydd- wyr heb weinidog er's amser. Yma y bum y Sul a'r wythnos hon. Mae yma Gyrddau Diwygiadol gan y gwahanol eglwysi Seisnig. Darfu hynny effeithio yn ddrwg ar ein cyrddau Cymreig ni. Darfu Dr. Graves, gweinidog yr M. E., yn ei ysbryd Cristionogol, fy ngofyn yno i'w hanerch hwy nos Sul am 7. Yr oedd yno dyrfa fawr, ac ol gras Duw arnynt. Cawsom gyrddau chwiorydd yma a chyrddau yn nhai y cleifion, a gobeithiwn fod daioni wedi ei wneyd i'r ddeadell wan. Mawr fy niolch i a'r eglwys i Proff. T. Lloyd (Crych Elen), ddigwyddai fod yn y ddinas, ac a ddaeth i'n cynorthwyo bob nos gyda'r canu. Canodd ei gan newydd odidog i ni un noson gydag effaith da. Cartrefaf yma gyda Mrs. Thos. Lewis, hen Gymraes hynaf y lie o'r bron. Gwelais yma hefyd Mrs. J. Davies, chwaer- yng-nghyfraith y Parch. Ben Davies, Cwmllyn- fell, D.C.