Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cynhauwyd lliaws o fan eisteddfodau yng Nghymru dydd Llun y Sulgwyn. Rhoddid cadeiriau a choronau a chwpanau arian ynddynt i'r beirdd ar cantwyr llwyddianus. Daeth rhai o gorau Lloegr i'r cystadleuaethau, ac aethant a gwobrwyon gyda hwy adref.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
THE ST. JAMES'S ELECTRIC BATHS York Street, Jermyn Street, W. Electric Eight, Rot flir or jjyflro electric Bath, REMOVED FROM 61, TERMYN STREET, VI.
CYNHADLEDD CAERNARFON.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYNHADLEDD CAERNARFON. Cefnogaeth i Feirion. Ymgasglodd y torfeydd o holl gyrau Arfon i gapel mawr Moriah, Caernarfon, brydnawn Sadwrn diweddaf. Cynhadledd Addysg oedd yn cael ei chynal, wedi ei galw i drefnu sut i gynorthwyo Meirion yn ei hymdrech yn erbyn gormes y Ddeddf Addysg. Agorwyd y drysau yn gynar wedi dau, a llanwyd y llawr gan y dirprwywyr, a'r orielau gan y cyhoedd. Yn brydlon daeth Mr. D. P. Williams, y cadeirydd, i'r pwlpud, a'r Mri. J. Bryn Roberts, Herbert Lewis, E. J. Griffith, S. Moss, ac Osmond Williams gydag ef. Yn ei araeth, tarodd y Cadeirydd y cyweir- nod-gwrthwynebiad i'r Ddeddf Addysg. Gosododd Mr. Williams achos Cymru i lawr yn deg a chryf, a dywedodd fod Ymneilldu- wyr wedi penderfynu peidio ildio byth i ormes y Llywodraeth. Rhoddodd dri phen y diwygiad sydd yn eisieu:—(i) Llwyr lywodraeth ar ysgolion y wlad; (2) symud yr arbrawfion crefyddol i'r athrawon (3) tynu addysg enwadol o'r holl ysgolion. Credai, er y byddai eisieu amynedd a dewrder, y byddai Cymru'n ffyddlon i'w hawliau a'i hanrhydedd, ac y deuai o'r frwydr yn genedl gryfach. Rhoddwyd y cynygiad cyntaf o flaen y cyfarfod gan y Parch Dr. Hugh Jones, a darllena fel y canlyn "Fod y gynhadledd yma (a) yn datgan gwrthwynebiad disigl i bolisi addysg y Llyw- odraeth bresenol, gan ei ystyried yn drosedd ar egwyddorion sylfaenol cyfiawnder, yn or- esgyniad ar iawnderau a rhyddid y bobl, ac yn ymosodiad gormesol ar genedlaetholdeb a chrefydd Cymru; (b) yn datgan ymddiriedaeth lawn a dibaid yn y safle a gymerwyd gan y Cynghorau Sirol Cymreig i wrthod cyflawni y cyfrifoldeb anymunol o roddi mewn grym yn erbyn dynion o'r un ffydd a hwy eu hunain adranau gwrthweithiol ac anioddefol y Ddeddf Addysg." Wrth eilio y cynygiad dywedodd Mr. Samuel Moss, A.S., fod Cymru wedi cyrhaedd i'r fan pan y dylent benderfynu pa gwrs i'w gymeryd. Ar un llaw rhaid fyddai iddynt fod yn bur i egwyddor cydraddoldeb ac i lais cydwybod. Ar y llaw arall rhaid fyddai ufuddhau i'r hyn oedd yn ymddangos yn ddim llai na gormes cyfreithiol. Gwahoddodd y Cadeirydd yr henafgwr Mr. R. D. Darbishire, Manceinion (brawd i Mr. W. A. Darbishire a Mr. C. H. Darbishire), yr hwn, meddai, oedd wedi rhoddi arian-nodyn am 6op yn ei law at yr ymdrech addysg yn Nghymru. Dywedodd Mr. Darbishire fod yn dda ganddo fod ) n bresenol. Yr oedd wedi ymladd cryn dipyn ei hun yn Manceinion, a chyda Cynghrair y Gwrthwynebwyr Goddefol yno, ac yr oedd yn dda ganddo ddyweyd fod y Cynghrair yn myned yn ei flaen. Yr oedd peth o'i eiddo ef wedi cael ei werthu. Yr oeddynt yn ymladd yn benderfynol yn erbyn y Llywodraeth. Yr oedd y Prif Weinidog wedi tynu gwarth arno ei hun. Nid cedd yn siarad y gwir; nid oedd yn dyweyd yr hyn oedd yn feddwl, ac yr oedd yn derbyn bribes gan y darllawyr, ac yn myned o dan law yr esgobion. Apeliai y siaradydd atynt i frwydro pan ddaw yr etholiad, a gofynai i'r merched wneyd eu rhan. Ategwyd y penderfyniad hefyd gan Mr. J. Bryn Roberts a Mr. Osmond Williams, A.S., yr hwn a ddiolchodd, ar ran sir Feirionydd, yr hon oedd ganddo y fraint o'i chynrychioli, am y gefnogaeth oedd sir Gaernarfon wedi ei roddi i sir Feirionydd. Yr oedd y sir hono wedi cael cefnogaeth yr oil o Gymru, ac fe fyddai yn angenrheidiol i'r sir gael cefnogaeth yn y dyfodol; ac yr oedd yn gobeithio y byddai iddynt ddyfod allan o'r frwydr yn fuddugol- iaethus. Yr oedd y Bwrdd Addysg wedi ymddwyn mewn ffordd pur ryfedd tuagat sir Feirionydd. Heb fod yn foddlawn ar atal arian rhagddynt, yr oeddynt wedi atal yr oil o'r grants yn ystod y chwe' mis diweddaf. Yr oedd ymddygiad o'r fath ar ran y Bwrdd Addysg yn ddiangenrhaid, ac yn beth anghyffredin; yr oedd y Bwrdd Addysg wedi ei wneyd gyda'r amcan o osod rhwystr ar ffordd Pwyllgor Addysg sir Feirionydd Ymddygiad gwael oedd ym- ddygiad o'r fath ar ran Adran mor bwysig o'r Llywodraeth. Paham nas gallai y Llywodraeth ymddwyn at Gymru fel y gwnai at yr Ysgotland ? Cynygiwyd y penderfyniad canlynol gan Mr. Maurice Jones, Cadeirydd Cymdeithas Ryddfrydol Bwrdeisdrefi Arfon Fod y gynhadledd yn cymeradwyo yn galonog y cwrs a gymerwyd i drefnu ymgyrch cenedlaethol yn ngwyneb yr ymosodiad o eiddo y Llywodraeth ar sir Feirionydd, ac yn ym- rwymo i roddi y cynorthwy haelionusaf i Dry- sorfa yr Ymgyrch Cenedlaethol, ac yn apelio gyda hyder at bob Rhyddfrydwr a'r Eglwysi Rhyddion drwy'r wlad i drefnu gynted ag sydd yn bosibl er cael casgliad i gynorthwyo y drysorfa." Eilwyd y cynygiad gan Mr. Hugh Hughes, Maer Conwy, ac aelod o'r Pwyllgor Addysg. Cefnogwyd gan Mr. Ellis Jones Griffith a Mr. Lloyd-George, yr hwn pan y cododd i siarad a gafodd dderbyniad brwdfrydig. Dywedodd fod sir Feirionydd ar hyn o bryd ar faes y frwydr, ac yno yr oedd y frwydr yn cymeryd lie ar hyn o bryd oherwydd mai yno yr aeth y gelyn. Fe ddywedwyd gan un dyn blaenllaw pan basiwyd y Ddeddf Addysg drwy y Senedd y byddai pobpeth wedi cael ei anghofio yn mhen dwy flynedd, ac y byddai iddi y pryd hyny weithio yn iawn. Yr oedd dwy flynedd wedi myned heibio, ac eto yr oedd y Ddeddf yn fwy an- mhoblogaidd nag yr oedd erioed wedi bod nid yn unig yn Nghymru ond hefyd yn Lloegr. Yr oedd y ffaith hon i'w phriodoli i'r gwrthdystiad a wnaed yn ei herbyn nid yn unig gan Ymneill- duwyr Lloegr ond hefyd gan Ymneillduwyr Cymru. Arferai y diweddar John Parry, Llan- armon, a dyweyd Rhaid cadw y crochan i ferwi." Dyna beth yr oeddynt wedi ei wneyd yn Nghymru, ac yn y diwedd fe gaent botes go dda. Yr oedd y Cynghorau Sir yn Nghymru yn cael eu beirniadu yn bur llym gan y gelyn, ac i raddau gan eu cyfeillion eu hunain. Yr oedd y Cynghorau Sir yn gwneyd eu gwaith gyda deheurwydd, pwyll, gwroldeb, a phenderfyniad. Gallai ddyweyd fod Cynghorau Sir Cymru wedi gwneyd dan gamp yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf. Yr oedd yn rhy fuan eto i ddyweyd y chwedl, ond pan y deuai yr adeg i ddyweyd yr hanes fe geid gweled fod Cynghorau Sir Cymru wedi bod yn ymladd dros ryddid, nid yn unig i Ymneillduwyr Cymru, ond hefyd i Ymneill- duwyr Lloegr. Yr oedd yn rhy fuan eto i ddyweyd eu bod wedi gallu tori y Ddeddf Addysg i lawr. Arferai y diweddar Joseph Thomas, Carno, ddyweyd ystori am yr ebol llwdn asyn. Yr oedd yr ebol wedi tori i gae a methai y bachgen a'i ddal. Dywedodd y bachgen, "Os y methaf a'i ddal gallaf ei atal rhag pori." Dyna yr hyn yr oedd Cynghorau Sir Cymru wedi bod yn ei wneyd. Yr oedd y clerigwr wedi tori i'r cae, ond nid oeddynt eto wedi gallu rhoddi ffrwyn yn ei ben, ond yr oeddynt wedi gallu ei rwystro rhag pori ac os y gallai wrth garlamu bigo blewyn i fyny, ni fyddai lawer tewach. Dyna'r hyn yr oeddynt wedi ei wneyd hyd yn hyn. Y cwestiwn ddylid ofyn ydoedd yn mha le yr oeddynt ? Nis gallent fyned lawer yn mhellach heb ddyfod i wrthdarawiad a'r Ddeddf. A oedd Cymru yn barod ? Pe y gofynid y cwestiwn i'r aelodau Rhyddfrydol dros Gymru, y gofyniad fyddai, Beth fydd i chwi aberthu ?" Dyna'r cwestiwn i Gymru yn awr. Bydd i ni daro," meddai Mr. Lloyd-George. "Y mae y gelyn yn gofyn, Paham na wnewch daro ?' Paham na wnewch roddi penderfyniadau Caer- dydd mewn grym ?' Bydd i ni daro yn y modd ac ar y pryd pan y bydd yn fwyaf manteisiol i Gymru ac yn fwyaf anfanteisiol i'r gelyn. Darfu i'r Rwsiaid gyfarfod y Japaniaid mewn culfor, ac aeth y Rwsiaid i'r gwaelod. Bydd i rhywbeth cyffelyb ddigwydd i'r Llywodraeth bresenol. Fe basiwyd y Ddeddf ganddynt, yna arhosasant, ac aethant heibio i Madagascar a suddasant gwch pysgota bychan ar Lyn y Bala. Y mae y Cynghorau Sir yn dechreu ymosod arnynt, ac yn fuan fe ddeuant i'r culfor. Y mae yn bur gul arnynt eisoes. Bydd yn feinach eto arnynt a: phan y daw hyny fe suddant." Yr oedd llawer yn dibynu ar yr hyn a wnai Cymru yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf. Yr oedd yr amser i weithredu wedi dyfod. Nid digon oedd pasio penderfyniadau mewn cyfar- fodydd o'r natur hwnw. Beth oedd Cymru am wneyd ? Dyna'r cwestiwn pwysig. Pa adno- ddau y mae yn myned i roddi yn ein dwylaw ? Nis gallwn ymladd gyda phenderfyniadau. Ymladd fyddai hyny gyda gwn clats. Nis gellwch ymladd trwy guro dwylaw. Rhaid i Gymru ddangos beth y mae yn barod i'w aberthu. Os y cyffyrddwch a chalon Cymro dechreua ganu emynau, ac nid oes genyf ddim i'w ddyweyd yn erbyn canu emynau, ac yn enwedig os y byddant yn emynau Cymreig yn cael eu canu ar hen donau Cymreig a chan leisiau Cymreig. Nid oes dim i'w curo. Bu lluoedd Cromwell yn canu emynau, ond cymerasant ofal fod ganddynt bowdwr. Bydded i ni yn Nghymru gymeryd gofal fod ein powdwr yn iawn." "Y mae arnaf eisieu gweled beth y mae Cymru yn myned i'w wneyd. Rhaid i ni gael enw pob Ymneillduwr i lawr. Y mae y Saeson yn barod i'n helpu. Nid oes ddiwrnod yn myned heibio heb fy mod yn derbyn llythyrau o Loegr yn gofyn beth ydyw enw ein trysorydd. Rhaid i Gymru wneyd rhywbeth. Rhaid i ni gael enw pob Ymneillduwr drwy Gymru i lawr, mawr a bach, hen ac ieuanc. Bydd yn ymffrost iddynt weled eu henwau i lawr cyn pen deng mlynedd. Bydd y llyfr yn mhob llyfrgell drwy Gymru, a phan y bydd y plant sydd bron yn gallu cerdded yn awr wedi myned yn hen fe fydd iddynt dynu y llyfr i lawr a dyweyd wrth eu hwyrion a'u gor-wyrion, Gwelwch y mae fy enw i i lawr." "Y mae hon yn frwydr galed i Gymru, ac y mae yn rhaid i ni gael enw pob Ymneillduwr i lawr ar y llyfr. Yr ydym yn ymladd dros egwyddor. Pa bris ydym yn ei roddi ar hyny ? Pe y gwnai pob gweithiwr drwy Gymru roddi wns o dybaco heibio bob wythnos hyd dranc y Llywodraeth, fe fyddai i'r frwydr gael ei henill. A ydyw gweithwyr Cymru yn prisio egwyddorion yn llai na hyny ? Peth digon rhad yw gosod eich enw i lawr, ond rhaid gwneyd rhywbeth mwy na hyny. Pa bris y mae gweithwyr Cymru yn osod ar eu hegwyddorion ? Bydd valuation Cymru ar ei hegwyddorion yn myned yn mlaen yn ystod yr wythnosau nesaf hyn. Y mae anrhydedd Ymneillduwyr yn y fantol." Cariwyd y penderfyniadau yn unfrydol, ac aeth y casglyddion o amgylch i gasglu ypapyrau addewidion yr oeddis wedi eu rhanu eisoes. Pasiwyd ymhellach y penderfyniad canlynol ar gynnygiad Cadeirydd Cymdeithas Ryddfrydol Arfon, ac eiliad Mr. J. Herbert Lewis, yr hwn a dalodd deyrnged uchel i Mr. Lloyd-George :-— Fod i Bwyllgor Sirol cynrychioliadol, yn cynwys dau aelod o bob rhanbarth addysg, yn nghyda dau gynrychiolydd o bob enwad, i gael ei benodi i drefnu yr ymgyrch yn mhob sir, ac i roddi pob help angenrheidiol i sicrhau ei lwyddiant."