Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF. YR EGLWYS SEFYDLEDIG. Eglwys St. Benet, Queen Victoria-street— 11.0 a 6.30, Parch. J. Crowle Ellis. Eglwys Dewi Sant, Paddington- ILO a 6.30, Parch. W. Richards. Eglwys St. Padarn, Hornsey Road- 11.0 a 6 30, Parch. W. Davies. Eglwys St. Mary, Camberwell New Road- 11.0 a 6.30, Parch. Lewis Roderick. Cenhadaeth y Dwyrain, Bridge Street, Bow- 11 o a 6.30, Parch. Howell Watkins, B.A. Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Jewin Newydd 10.45, Parch. Ll Edwards, M.A. 6.30, J. E. Davies, M.A. Charing Cros, Rd. 10.45, Parch. R. O. Williams. 6.30, J. Griffiths, Cross Hands, Llanelli. Wilton Square 10.30, Parch. F. Knoyle, B.A. 6,30, G. H. Havard, M.A. Falmouth Road 10.45, Supply Shirland Road. 6.30, Parch. S. E. Prytherch. Mile End Road 11.0, Parch. J. Garnon Owen. 6.30, D. Oliver. Shirland Road 10.45, Parch. S. E. Prytherch. 6.30, Holloway 10.30, Parch. J. Griffiths, Cross Hands, Llanelli. 6.30, R. O. Williams. Hammersmith 11.0, Parch. G. H. Havard, M.A. 6.30, F. Knoyle, B.A. Stratford 11.0,3.0, a 6.30, Cyfarfodydd Diw- ygiadol. Efengylwyr o Gymru. Clapham Junction 11.0. Parch. J. Wilson Roberts. 6.30, John Hughes. Walham Green. ;i.o, Supply Wood Green. 6.30, J. T. Williams, M.A. Willesden Green 11.0, 6.30, Lewisham 11.0, Supply Willesden Green. 6.30, Tottenham 11.0, Parch. D. Oliver. 6.30, J. Garnon Owen. Walthamstow 11.0, Parch. J. E. Davies, M.A. 6.30, LI Edwards, M.A. Wood Green 11.0, Parch. J. T. Williams, M.A. 6.30, YR ANNIBYNWYR. V Tabernacl, King's Cross- 11.0, Parch. D. C. Jones. 6.30, H. Elvet Lewis. Y Boro', Southwark Bridge Road- > 11.0, Parch. H. Elvet Lewis. 6.30, D. C. Jones. Radnor Street, Chelsea- 11.0 a 6.30, Parch. J. Machreth Rees. Barrett's Grove, Stoke Newington— 11.0 a 6.30, Cyfarfodydd Diwygiadol. Yr Efengylwyr o Gymru. East Ham, Sibley Grove- I I. ° a 6.30, Woolwich, Parson's Hill- I 1.0 a 6.30, Battersea Town Hall- 11.0, Mr. E. Owen, Richmond. 6.30, Parch. LI. Bowyer. Y BEDYDDWYR. Castle Street, Oxford Circus- 11.0 a 6.30, Parch. W. Thomas (Saesneg). Little Alie Street, Aldgate- 11. o a 6.30, Parch. B. Arberth Evans. Tottenham- i i. o a 6.30, Norman Hall, 252, Harrow Road- 3, Ysgol Sal. Y WESLEYAID. City Road- 11.0, Myfyriwr. 6.30, Parch. T. Jones. Gothic Hall, St. Thomas Street, W.— 11.0, Parch. T. Jones. 6.30, Myfyriwr. Poplar, Duff Street- 3.0, Myfyriwr. 6.10. Mr. D. N. Edwards. Dymunir am i bob hysbysrwydd ar gyfer y golofn hon gael ei anfon i'r Swyddfa erbyn Dydd Mawrth y fan bellaf
Y DYFODOL
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Y DYFODOL LDymunir ar i ysgrifenyddion a threfnwyr y gwahanol Gyfarfodydd anfon gwybodaeth yn brydlon am unrhyw gynulliad a fwriedir gynnal, er mwyn rhoddi hysbys- rwydd amserol yn y golofn hon. ] 1905. Meh. 25. Cyfarfod Undebol Ysgolion Sul yr Anni- bynwyr yn y Borough. 25. Cyfarfodydd Diwygiadol yn Stra ford. 25, 26, 27. Cyfarfodydd Diwygiadol yn Barrett's Grove. Yr Efengylwyr o Gymru. Hyd. 15. Cyfarfod Pregethu Blynyddol Clapham Junction. Tach. 24 a 25. Eglwys y Bedyddwyr, Little Alie Street, Sale of Work yn Castle Street. 30. Eisteddfod Flynyddol Hammersmith, Town Hall, Hammersmith.
Y DIWYGIAD YN Y WLADFA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y DIWYGIAD YN Y WLADFA. Gohebydd o'r Wladfa Gymreig a ysgrifena fel y canlyn Fel ymhob man arall drwy'r cydfyd Cymreig yr wythnosau hyn, y Diwygiad yw dechreu, canol, a diwedd pob stori yma. Dechreuodd y cyfeillion tua'r Gaiman gynal cyfarfodydd gweddiau i ofyn am y fendith ers tua deufis yn ol, a'r wythnos ddilynol dilynwyd hwy gan Seion Bryn Gwyn gyda'r un gwaith da, a chafwyd y tywalltiadau nerthol' yn amlwg. Dywedai un o'r swyddogion wrthyf bythefnos yn ol fod 19 wedi ffoi i'r noddfa yn Bryn Gwyn mewn pythefnos o amser, ac nid oes ond tri yn yr ardal boblog honno heb fod yn aelodau o'r eglwys yno ar y pryd, a'u bod yn disgwyl y tri hynny hefyd-ac wed'yn ardal gyflawn yn proffesu Crist Cynhelir cyfarfodydd gweddiau llewyrchus iawn agos ymhob capel drwy y lie erbyn hyn. Y mae Eluned Morgan a Tudur Evans, mab y Parch. Mr. Evans, gweinidog anwyl y Gaiman, wrthi yn llawn tan sanctaidd gyda'r symudiad, Eluned yn canu, anerch, a gweddio gydag arddeliad neillduol; a Thudur yn cyngori mewn amser ac allan o amser. Y mae amryw o chwiorydd eraill yn gweithio yn ardderchog i'r un cyfeiriad, megis Mrs- Evan Roberts yn Bryn Gwyn, a Mrs. Owen Roberts tua Bethesda a Glan Alaw. Goeliaf i fod yn rhaid wrth galon o ddefnydd caletach na chareg i allu gwrando gweddiau y chwiorydd hyn heb deimlo. Duw a'u bendithio Nodwedd ddymunol iawn arall ynglyn a'r cyfarfodydd hyn ydyw gwaith bechgyn ieuainc a ystyrid i raddau yn beryglus o ddifater yn nghylch y capel a'i waith yn dod ymlaen yn ewyllysgar i gymeryd rhan yn y moddion. Duw a'u bendithio. Cerdd ymlaen, nefol dan, Cymer yma feddiant glan.
WELSH CONSERVATISM.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
WELSH CONSERVATISM. Lord Kenyon and a Policy of Attack. The third dinner of the London Welsh Con- servative and Unionist Association was held last Friday at the Holborn Restaurant. Lord Kenyon presided, and among those present were Lord Glanusk, Lord Raglan, Sir John H. Puleston (chairman of the Association), Sir J. T. D Llewellyn, Sir David Evans. General Sir James Hills-Johnes, Sir William Russell, Mr. D. F. Pennant (vice-chairman), and Mr. D. Williams (hon. secretary). The Duke of Marl- borough, whom the guests were invited to meet, was not present. Lord Raglan, in proposing The Imperial Forces," said the army had had an exceedingly bad time of late. We lived in times when a bolt from the blue might descend at any moment, and he was' afraid we were not pre- pared for it. He saw no signs inside the Govern- ment or outside of it that we grasped the fact that before long we might be required to put into the field an army far in excess of any- thing we had had before. The British army was 'excellent so far as it went, but it did not go far enough. He urged upon employers the im- portance of giving employment to soldiers when they left the colours. General Sir James Hills-Johnes responded, and urged the importance of our youths being trained in rifle-shooting. Lord Kenyon, replying for His Majesty's Ministers," stated that the Duke of Marlborough, who was to have replied to the toast, had sent a telegram regretting his inability to be present through having to attend an inspection of the yeomanry regiment of which he was colonel. Z, Lord Kenyon said that the Government was not in the moribund state which its opponents had represented. They must not be discour- aged by the results of by-elections. With regard to the education controversy in Wales, he said that the Radicals were not having great success, notwithstanding the conventions which Mr. Lloyd-George called together. The policy of the Conservatives at the next general election must be a policy of attack. Mr. Naylor was making such progress in the Carnarvon Boroughs that he would not be sui prised if Mr. Lloyd-George were turned out.
PENTECOST YN Y BALA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
yn orlawn o bobl awyddus am wrando yr hen hanes "am Iesu a'i farwol glwy' O'r braidd y cafodd y pregethwr orphen ei bregeth, nad oedd y bobl ieuainc yn gwaeddi allan ar draws eu gilydd, rhai yn canu, eraill yn gweddio, ac un yn adrodd am Iesu yn dioddef yn llys Pilat; ond gan fod y tren yn gadael y Bala yn fuan ar ol wyih, bu raid torri yr oedfaon yno yng nghanol y gor- foledd a'r diolch. Am 8.40, cyfarfyddwyd drachefn ar brif heol v Bala, ac ymffurfiwyd yn orymdaith eto i Gapel y Methodistiaid. Golygfa hardd oedd gweled yr orymdaith yn aros yn gylch o gwmpas Cofgolofn Tom Ellis, 3.C yn canu Newyddion braf a ddaetb i'n bro Hwy haeddant gael eu dwyn ar go', Fod lesu wedi cario'r dydd, Caiff carcharorion fynd yn rhydd. Ail adroddent o hyd ac o hyd "Fynd yn rhydd!" Fynd yn rhydd Caiff carcharorion fynd yn rhydd." Mr. David Jones, dyn distaw, sydd wedi bod yn ffyddlon iawn gyda'r bobl ieuainc, oedd yn llywyddu yn y cyfarfod hwyrol. Dechreuwyd yn gynes, a chanwyd rhai o'r hen emynau gyda hyder nefol. Yr oedd tua naw o'r gloch pan. gyrhaeddais i i'r cyfarfod hwn a synwvd fi yn fawr i weled y capel eang yn rhwydd lawn yr adeg hono o'r nos. Y pryd hwnnw yr oedd pawb a'u penau i lawr mewn agwedd ddefosyniol ddwys ac nid oedd dim i' W glywed ond llais geneth ieuanc yn diolch am gael ?gweddio yn gyhoeddus yn y Bala y tro cyntaf erioed iddi gael dyfod i'r dref. Ond fel yr elai y cyfarfod yn ei flaen ennillai mewn nerth a brwdfrydedd o hyd, nes o'r diwedd, y clywid rhyw swn dyethr i bawb ohonom. Yr oedd yn debyg i swn dwfr yn berwi neu furmur diymbaid y gwenyn pan fyddont ar fin heidio; ni chlywais el gyffelyb erioed onid unwaith yn Ferndale yn Rhagfyr diweddaf. Cynnyddodd y murmur dyeithr yna hyd onis torrodd allan yn fonllef o orfoledd buddugoliaethus a gwefreiddiol. Teimlai pawb fod Llifeiriant Afon Duw yn cario pob peth o'i blaen. Yn y fan draw y mae merch ieuanc o Ddolgellau, a'i llais fel cloch arian, yn diolch i'w Gwaredwr am ei deffro a'i chodi ar ei thraed i'w ganmol Ef am wisgo'r goron ddrain a dioddef loes yr hoelion dur er jfiwyn pechadur. Yr ochr arall i'r capel y mae oachgen ieuanc o'r Rhos yn canu fod y diafol Wedi colli'r dydd, ac yntau wedi mynd yn rhydd. pwaeddai Enos, un o blant y Diwygiad Diolch 1 Ti am rwymo Satan. Gwr bonheddig i'w gadw wrthy chain ydi o." Yma a thraw ar hyd y £ apel y mae ugeiniau o bobl ieuainc, a rhai hen o°bl, yn gorfoleddu yn Nuw eu hiachawdwriaeth. ^tewn gwirionedd, y mae yr holl gynulleidfa yn goddaeth berw drwyddi draw. Clywais ^dweyd flynyddoedd MI ol ein bod ni yn yr °es oleu hon wedi cael gormod o addysg i neb ohonom waeddi a gorfoleddu mewn Diwygiad crefyddol pe y deuai peth felly i'r wlad. I bawb £ edd yn y Bala nos Lun y mae y pwnc yna wedi ei oenderfynu am byth. Yng nghanol cythrwfl y cyfavfod cododd myfyriwr ieuanc ar ei draed i weddio, ac yr oedd yn amlwg i bawb ei fod o an deimladau dwysion iawn. Ond fe ddichon gweddi dyn ieuanc arall sydd yn M.A. o rifysgol Cymru, oedd Un o'r Pethau Rhyfeddaf ytl y cyfarfod. Yr oeddwn wedi sylwi .arno er's jneityn ei fod yn rhwyfo mewn dyfroedd dyfn- "> ond rywsut yn methu a chael yn glir o'r & anau ond o'r diwedd dyna waedd a chyfoeth o erth eigionau o deimlad crefyddol yn ei gyrru ros y gynulleidfa fel tidal wave. Coeliaf fi y bydd S^'aedd enaid y dyn hwnnw yn fy nghlustiau tra p yddaf byw. Baich ei weddi oedd, Cofia yniru Wen," Cofia Gymru Wen," gwlad y ^vygiadau "Cofia afradloniaid y Bala," "Cofia Gymru Wen." Fel y dywedodd Iolo Carnarvon, nid yw yn yg i ddynion erioed fod mewn cyfarfod llawer dcf G(^ach na hwn a dichon na welir ar y Q ^ar JAWER MWY 0 angerddolach teimlad. ejthio y bydd i'r wyl brofi yn fendith a hir r *r Bala a'r wlad.—(O'r Genedl.)