Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Y DIWYGIAD YN SIR FON.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y DIWYGIAD YN SIR FON. CYFARFOD RHYFEDD YNO NQHAERQYBI. Yn ystod y pythefnos diweddaf y mae sir Fon wedi ei chyffroi drwyddi gan y cyfarfodydd diwygiadol a gynhelir yno gan Mr. Evan Roberts. Fe wyr pawb nad yw poblogaeth "Mam Cymru" yn gymaint a phoblogaeth y rhan fwyaf o'r siroedd eraill, ond er hynny deuai tyrfaoedd anferth ynghyd i bob man, a bu raid cynnal y rhan fwyaf o'r cyfarfodydd yn yr awyr agored am nad oedd yr un adeilad a gynwysai chwarter y bobl a dyrrent ynghyd. Amrywiai y cyfarfodydd yn fawr yn eu nodwedd, rhai ohonynt yn bur gelyd, yn gymaint felly fel y teimlai y Diwygiwr ac eraill yn dra siomedig. O'r braidd nad ellid dweyd fod rhai yn fethiant mor bell ag yr oedd dylanwad ysbrydol a rhifedi dychweledigion yn y cwestiwn. Ond yr oedd eraill yn nodedig fel arall, y dylanwad yn anorchfygol, a lliaws mawr yn gwneyd proffes o'u ffydd. Y rhyfeddaf ohonynt oil, ac un o'r cyfarfodydd rhyfeddaf er y torrodd y Diwygiad allan gyntaf ydoedd yr olaf yng Nghaergybi, o ba un yr ysgrifena gohebydd arbenig y Genedl fel y canlyn Bu Ficer Rhos yn y cyfarfod hwn yn siarad, a da iawn oedd gan bawb ei weled. Dywedodd fod Duw wedi gwneyd pethau mawr yng Nghymru—pethau mawr oedd yn cyfnewid bywyd moesol Cymru, fel y gallai ef ei hun dystiolaethu. Yr oedd gweddiau dyddiol yn cael eu hoffrymu yn y Rhos o gannoedd o dai gweithwyr, pan fyddai yno gynt lawer o feddw- dod ac aflendid. Yr oedd enwadaeth gul hefyd wedi ei symud i raddau pell, ac yr oedd eglwysi yn agoshau mwy at yr Eglwys Brydeinig gyntefig ac at y Beibl, rhanau o'r hwn yr oedd rhai o'r bobl ieuengaf wedi ceisio eu diwreiddio. Feallai fod rhai pethau yn agored i feirniadaeth yn y mudiad, ond nid oedd hynny ond naturiol pan fyddai y Dwyfol yn gweithio drwy y dynol. Pa beth bynag oedd yn gwahaniaethu Cymry oddi- wrth eu gilydd y dyddiau hyn, gadewch ini, meddai'r Ficer, fod yn un ar bynciau crefyddol. Diweddodd ei anerchiad dyddorol drwy ofyn am weddiau ar ran Evan Roberts oddiwrth bawb, ac am fendith arno yn ei waith dyfodol. Pob laith. Dywedodd y Parch. John Williams fod rhyddid a chrcesaw i bawb, o bob iaith, gy- meryd rhan yn y gwasanaeth os oeddynt yn dymuno. Cyn pen hir yr oedd rhywun yn gweddio yn hwyliog yn Saesneg, a gweinidog ar y llwyfan yn gweddio yn Gymraeg. Yr adeg yma daeth Mr. Evan Roberts i mewn, oddeutu haner awr wedi chwech. Y mae y cyfarfod erbyn hyn mewn llawn gafael, ac mae y gweddiau yn codi yn ami. Mae un gweinidog yn gweddio yn daer am fendith ar bob cenhadaeth yn mhob man. Erbyn hyn mae gweddiau Saesneg yn bethau cyffredin iawn, ac ar un adeg mae llawer mwy ohonynt nag o rai Cymraeg. Mae yma lawer o Saeson, yn ddiameu, heb ddeall yr un gair o iaith y wlad. Er hynny y gweddiau Cymreig sydd yn codi'r hwyl. Mae yma Feddyg anffaeledig o fewn cyrhaedd heno," meddai un, (a hwnnw yn ddigon rhad i bawb gael Ei gon- t, sultio, ac ni fethodd Ef efo'r un case erioed." "Gwna ni o ddifrif," meddai'r un gwr—"o ddifrif yr oeddyt Ti yn. cymeryd Dy arwain i'r Groes i achub hen rebels fel ni." Y Dyrfa. Nid yw y dyrfa heno hyd yn hyn mor fawr ag un neithiwr, ond y mae yn cynyddu o hyd. Mae yn ymddangos mewn teimladau dwysion, ran fawr ohoni. Mae cryn lawer o weddio ar y cyrion pell. Mae llawer wedi dyfod yma o'r Wlad, ac y maent o gynorthwy mawr: rywfodd mae mwy o dan ynddynt hwy nag yn mhobl y dref fechan hon. Cadwa fi o law y diafol," Meddai un o'r rhai hyn, "'rydwy i yn ei deimlo ar y maes yma heno Meddai un arall, Mae y gelyn tel llew rhuadwy yn ceisio ein llyncu ni, ond daw y Llew o Lwyth Juda yma i'w anfon ymaith." Mae yma ddwy gynulleidfa heno eto 1 raddau, ac mae'r canu yn ami yn ddyblyg. 0 dan y llwyfan mae hen wraig, dlodaidd lawn yr olwg arni, yn gweddio yn Saesneg- My prayer," meddai, "is very poor, but Thou will take it as it is." Drwy a thros yr holl weddiau mae llais merch yn canu emyn. Tua'r adeg yma mae rhywun yn taro hen bennill pob cnwad Ymneillduol yng Nghymru, 0 fryniau Caersalem ceir gweled; ond nid yw y canu yn unol, ac y mae yr effaith i raddau pell yn cael ei golli. Cyn pen hir mae rhywun yn yr un fan yn cychwyn hen bennill arall- Diolch i Ti, yr Hollalluog Dduw, Am yr Efengyl Sanctaidd ond gyda hon eto sal iawn yw y canu-mae eisieu ar'weinydd. Ond mae gwell myn'd ar Agor ddorau hen garcharau, Achub bentewynion tan; Cod yr eiddil gwan i fyny, Dysg i'r mudan seinio can. Mae gweddi un gweinidog yn tanio dipyn ar y cyfarfod. Y Duw darodd ei Fab er achub- iaeth dynion," meddai, "tarawed y gelyn heno." Cyndynrwydd. Mae hyn yn dyfod a'r Diwygiwr ar ei draed. Gorchfygu cyndynrwydd yr eglwys, meddai, ydyw yr anhawsder mawi. Gwyn fyd na fuasem yn sylweddoli y galluoedd ofnadwy oedd yn ein herbyn. "Fedrai wneyd dim," meddai, yn gynhyrfus, mi af oddiyma a'm cydwybod yn dawel fy mod wedi gwneyd fy ngoreu, ond gall fy nghydwybod fod yn dawel a'm hysbryd wedi ei glwyfo." Yna cymerodd golygfa boenus iawn le,-un na welais ei bath ers yr amser y bu y Diwygiwr yn Lerpwl. Torodd allan mewn gweddi, ofn- adwy o daer, y dagrau yn tywallt i lawr ei wyneb, a golwg fel pe b'ai arteithiau yn ei ddirdynu. Plyg nhw, 0 Arglwydd meddai drachefn a thrachefn, ac mae miloedd o bobl gynhyrfus a dychrynedig yn uno yn y weddi. Mae ing Evan Roberts yn ofnadwy i edrych arno a'i rudd- fanau yn boenus i'w gwrandaw pan y mae yn eistedd i lawr. Ni chlywais yr un weddi gy- hoeddus gan y Diwygiwr o'r blaen. Y mae yr olygfa ar y dyrfa yr un mor ofnadwy, ac yn hollol anisgwyliadwy. Y mae canoedd a'u dwy- law i fyny, yn gweddio yn uchel, fel pe wedi eu hysgwyd drwyddynt. Mae y Diwygiwr wedi eistedd, ac mae ei ruddfanau yn anamlach: credaf fod pawb yn tosturio drosto. Cyn pen hir mae yn cyfodi, ac mae ei wyneb yn ysgafnach mae hyd yn nod gwawr gwen arno, yn enwedig pan mae un brawd yn gwaeddi,—" Diolch i Ti mae ein plygu ni yr wyt Ti, ac nid ein tori ni." Mae swn y dyrfa yn gweddio fel swn tonau'r mor,—pob llais yn toddi i'w gilydd. Y Frwydr wedi Troi. Yna mae yn neidio ar ei draed, Gallwn ganu yn awr, a chwerthin," meddai, mae y frwydr wedi troi! Y fath gyfnewidiad! Mae bloedd fawr o or- foledd yn tori allan oddiwrth y dyrfa, a bloedd drachefn. Mae hetiau yn cael eu taflu i fyny, ac mae y Diwygiwr yn chwerthin ei oreu dan ddy- lanwad ei deimladau gorfoleddus. Mae rhywun yn dechreu canu, ac mae'r canu yn myned yn mlaen, yn uchel, yn ddrylliog, yn ddyryslyd, yn orfoleddus, am gryn amser. Yna y mae Evan Roberts yn dechreu siarad drachefn. Yr oedd y frwydr yn hynod o boeth," meddai, "cyn iddo ddyfod o'r ty, ac yr oedd rhwng dau feddwl a ddeuai i'r oedfa ai peidio. Nid oedd yn ddigon dyfod i'r frwydr, ond yr oedd yn rhaid i ni ddyfod wedi ein gwisgo. Ond y mae y gelyn wedi gor- fod not A daliwch i'w gadw i fyned Dyma floedd fawr eto oddiwrth y dyrfa, ac mae pawb yn dechreu canu Haleliwia Iddo Ef Ar delynau aur y nef! Ond mae y Diwygiwr yn cynyg gwelliant. Nid ar delynau y nefoedd yn unig," meddai, "ond ar y ddaear hefyd, cenwch Ar delynau dae'r a nef. Yna mae yr emyn yn myned yn mlaen gyda'r gwelliant. Profi Gorfoleddus. Mae y profi yn myned yn mlaen yn orfoleddus; y Diwygiwr ar ei draed bob mynud,weithiau yn craffu ar y dyrfa, dro arall yn arwain y canu gyda'i law a'i lais ei hun. Weithiau y mae yn dyweyd gair i gynorthwyo ambell i frawd sydd yn methu tori'r ddadl-dro arall mae ei lais yn uwch nag eiddo neb yn y "Diolch." Mae gwen ar ei wyneb o hyd. Mae yr enwau yn dyfod i mewn yn brysur, ac mae boddhad fel yn meddianu pob un. "Ar ol cael yr eglwys i blygu," meddai Mr. Roberts, mae yn rhaid i'r byd ddyfod iddi wed'yn." Ar un adeg y mae dyn o'r enw Samuel yn dyfod i mewn. Diolch am ufuddhau i lais yr Arglwydd yn galw Samuel," meddai'r Diwygiwr. Gwaeddodd rhywun fod dyn fyddai yn arfer myn'd o amgylch mewn van wedi rhoddi ei hun. Glory be to God, save them all!" gwaeddai rhywun o'r dyrfa. Nis gallaf ddyweyd yr oil a gymerodd Ie. Y mae yr olwg ar Evan Roberts, fel yn casglu y bobl i'r gorlan, yn un fendigedig, Diolch," meddai, "am weled y gelyn yn ei le-dan draed!" Dyma floedd fawr wed'yn, ac y mae rhagor yn dyfod i mewn. Mae y gair gwrthod yn dyfod i mewn ambell i waith, ac y mae y Diwygiwr yn gofyn i bawb ddyweyd yr un adnod dair gwaith drosodd, Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist a chadwedig fyddi," ac fel swn tonau y mor mae y miloedd yn dyweyd yr adnod. "Dyna," meddai Evan Roberts, "ddigon o efengyl i bawb Cyn pen hir mae y cyfarfod gorfoleddus yn diweddu drwy ddyweyd Gweddi yr Arglwydd. Geiriau olaf Evan Roberts i Gaergybi oeddynt- Cofiwch fod ystordai gras yn llawn, ac mae'r ffordd yn rhydd tuagatynt." Mae yn debyg mai dyma y cyfarfod goreu gafodd Mr, Roberts yn Sir Fon eto. Mae yn dda genyf fod y genhad- aeth yn Nghaergybi wedi gorphen dan gymaint o fendith. Ni welais erioed y fath engraipht o ddylanwad difrifoldeb angerddol y Diwygiwr ar ei gynulleidfa, nag o barodrwydd y bob! i ateb iddo.

THE BISHOP OF BANGOR ON THE…