Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Byd y Gan.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Byd y Gan. Clan IDRIS. Y MAE parotoadau mawr yn cael eu gwneyd ar hyd a lied Cymru gogyfer a Gwyl y Banc ddechreu'r mis nesaf. EISTEDDFODAU fyddant atdyniadau y Cymry yn ystod y dydd hwnnw. Da yw meddwl y gall ein cydwladwyr fwynhau eu hunain yng nghwmni lien a chan hyd yn oed yn mhoethder mis Awst. YM mysg y rhai sydd i feirniadu yn yr adran gerddorol gwelir nifer ffafriol iawn o enwau ein cyd-ddinasyddion. YR un sydd a galw fwyaf arno i wasanaethu fel beirniad o'r holl Lundeinwyr, feallai, ydyw Mr. Madoc Davies, yr hwn sydd yn llwyddianus iawn hefyd fel athraw yn y coleg. ELFEN addawol iawn ynglyn a'r Eisteddfodau lleol eleni ydyw yr amlygrwydd a roddir i'r cor cymysg, yr hwn sydd wedi bod megis dan orchudd er's peth amser. Sicr y bydd 11awer yn falch o weled y cor cymysg yn teyrnasu ar y llwyfan cerddorol unwaith eto a pha beth sydd yn fwy ysbrydlawn na chlywed meibion a merched yn canu, dy weder, er engraifft, For unto us a child is born o oratorio Handel. YR ydym yn hoff iawn o'r cor meibion yn ogystal a'r cor merched, ond gwell genym y cor cymysg na'r oil. Y mae'r ffaith fod lleisiau y merched wythawd yn uwch na'r meibion yn creu effaith hapus yn y cor cymysg. CAED cyfle rhagorcl yn ddiweddar i wylio gogwydd y cyhoedd Cymreig ar y pen hwn, yng nghyngherdd Cor Cymry Llundain yn Neuadd y Frenhines. Cofir gan y rhai hynny oeddynt yn bresenol, er rhagored ydoedd y cor meibion, mai yn y cor cymysg oedd y dyddordeb mwyaf. Ac yr oedd y dadganiad a gaed ganddynt o "Thanks be to God yn ysbrydiaeth l'r dyrfa. Pe ceid mwy o ganu o'r safon yma gellid dweyd fod cerddoriaeth yn cyflawni ei chenad- wri uchel i ddynolryw. Nis gwelwn pahatri nas gallai Cymry Llundain gadw'r cor cymysg gyda'u gilydd, a rhoddi perfformiad o weithiau newydd David Jenkins, Emlyn Evans a Harri Evans. Y MAE yng ngallu pwyllgorau ein gwahanol gyfarfodydd cystadleuol a'n Heisteddfodau lleol, os mynant, i wneyd llawer er hyrwyddo cerdd- oriaeth a cherddorion Cymreig. Un ffordd drwy ba un y gallasent wneyd daioni mawr ydyw dewis darnau a chaneuon Cymreig fel testynau i gystadlu arnynt. Y MAE genym ein cyfansoddwyr gwych, a'u cynyrchion galluog, lawer o honynt, megis yng nghudd ac er hynny i gyd, aiff rhai pobl oddi amgylch gan floeddio nad oes genym gerddor- iaeth Gymreig. Ond, diolch i'r drefn, y mae'r bobl synwyrgall a gwladgarol yn pregethu gwell efengyl na Dicshondafyddiaeth. CLYWSOM y dydd o'r blaen fod y cyfeillion yn Falmouth Road yn bwriadu cael cystadleuaeth i gorau cymysg yn eu Heisteddfod nesaf. Gobeithio fod hynny )n wir. Gyda'r gwobrau ardderchog a gynygir )n yr Eisteddod hon, gellir denu corau y Canoldiroedd a Gogledd- barth Lloegr yn ogystal a phrif gorau y Dywys- ogaeth i ymgystadlu ynddi. DEALLWN fod rhai pwyllgorau ynglyn ag Eglwysi Cymreig y Brifddinas eisoes wrthi yn tynu allan gynlluniau Eisteddfodol erbyn y tymhor nesaf. Goddefer i ni dynu eu sylw at gyfansoddwyr a drigant yn ein plith, yn arbenig ein cydwladwr Mr. Vincent Davies, gan yr hwn y mae caneuon a darnau priodol iawn at gystadleuaethau. BYDD Tom Morgan, Battersea (y chwareuwr cornet poblogaidd), yn beirniadu yng nghys- tadleuaeth y seindyrf yn Eisteddfod Llandilo ar ddydd Llun Gwyl y Bank. NID oes ond ychydig wythnosau er pan y soniasom am lwyddiant Mr. Gwilym Rowlands, organydd Holloway, fel athraw plant gyda'r berdoneg. Cawsom y fraint, y dydd o'r blaen, o glywed un o'i ddisgyblion yn chwareu dernyn clasurol iawn ac yn wir y mae'r athraw yn haeddu pob clod a roddir iddo. UN arall o'n cydwladwyr yn y byd cerddorol ag sydd yn llwyddianus iawn ydyw Mr. Howard Lewis, 109, Balham High Road, S.W. Y mae yntau yn athraw da yng nghelfyddyd y llais, yn ogystal ag yn gantor medrus. Y MAE'N debyg mai un o'r athrawon goreu ar yr organ ym mysg ein cydwladwyr yn Llundain ydyw Mr. David Richards, A.R.C.O., organydd newydd y Tabernacl Cymreig, King's Cross; a chan fod organ newydd y capel hwn yn un wych, diau y bydd llawer yn awyddus i fod yn ddisgyblion i Mr. Richards. CAED perfformiad llwyddianus iawn o Don Giovanni" nos Sadwrn diweddaf yn Nhy yr Opera, Covent Garden, am y waith gyntaf y tymhor hwn. Ym mysg y mawrion oeddynt yn bresenol yn mwynhau eu hunain gwelsom Arglwydd Aberdare a'i briod. BYDD cyfle heno, yn yr un lie, i'r rhai hynny o'n cydwladwyr ydynt hoff o'r opera i glywed Madame Selba Kurz fel Marguerite yn Faust." Ceir y gantores boblogaidd hon ar ei goreu yn y cymeriad hwn. Ac i'r rhai hynny nas gallant fforddio myned i Dy'r Opera, y mae cyfle ar hyn o bryd i glywed scene o Faust," yn y Coliseum, gan gantorion gwych. Y mae yno gant o feibion yn y cyd- gan, ac y maent yn canu yn wir dda. Y MAE'R Americaniaid bron mor frwdfrydig yn eu derbyniad i awdwr "Yr Apostolion," Syr Edward Elgar, ag oeddynt i Dombey and Son Charles Dickens flynyddoedd yn ol. Rhoddir pob anrhydedd i'r cerddor Prydeinig yno ar hyn o bryd. Nis gall y colegau hawlio y clod y mae'r Doctor wedi ennill i'w wlad. Athrylith bur sydd y tu ol i'w gyfansoddiadau, a hi bia'r clod. Nis gellir creu athrylith yn y coleg, ond gellir ei mheithrin yno. MAE y Dywysoges Henry o Battenberg wedi addaw cyflwyno y gwobrwyon i efrydwyr y Royal Academy ar yr 2iain o'r mis hwn yn yr opera yn Covent Garden. Bydd yn ddyddorol gwylio faint o blant gwlad y bryniau a fyddant ym mysg y rhai llwyddianus. CAED cyngherdd y R.C.M. Patron's Fund," yr wythnos ddiweddaf, ac o'r pedwar sydd wedi eu cynhal hyd yn hyn hwn ydoedd y mwyaf llwyddianus yn yr ystyr arianol, a'r lleiaf yn yr ystyr gerddorol. Amcan y Patron's Fund" ydyw dwyn i'r amlwg weithiau cyfan- soddwyr ieuainc. Amcan rhagorol ond y mae lie i ddiwygiad, meddir, ar y pwyllgor sydd yn barnu pa weithiau a ddylid eu dwyn i'r amlwg. CAED sylwadau amserol iawn ar y mater hwn gan Mr. E. A. Baughan, yn y Daily News, ddydd Sadwrn diweddaf, a doeth fuasai i'r rhai sy'n rheoli y Patron's Fund wrando ar gynghorion y critic hwn. Ni ddaeth dim byd neillduol i'r allllwg yn y cyngherdd eleni. DA fydd gan llu o gyfeillion Mr. John Jones, A.C. (brawd Mr. Caradog Jones, yr arweinydd corau meibion poblogaidd), ddeall ei fod yn mynd i'r byd gwell ddydd Llun. DAW y Mason Glee Society," o Pensylvania, drosodd i Eisteddfod Gaernarfon. Y mae try- sorydd y cor, Mr. John Hughes, Caernarfon, ar ymweliad a'r wlad hon ar hyn o bryd.

RHODD UN 0 GYMRY LLUNDAIN…

Advertising