Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Pobl a Phethau yng Nghymru.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Pobl a Phethau yng Nghymru. MAE'R Arolygydd Roberts, diweddar o Lun- dain, wedi ei benodi yn swyddog y Gymdeithas er Atal Creulondeb at Anifeiliaid yn Sir Benfro. Hyd yn awr yr oedd y Sir, gyda Siroedd eraill, yng ngofal yr Arolygydd Bowyer, o Gaerfyrddin. BYDD yn rhaid i'r rhai a ewyllysiant weled Mabon yn ystod yr wythnosau nesaf fyned i chwilio am dano i Klondyke. Nid Klondyke lie mae'r aur ychwaith, ond palasdy haf yr aelod anrhydeddus a elwir felly, ac a saif gerllaw Llanilltyd Fawr. FFAIR Griccieth, a gynhelir ar y 2gain o Fehefin bob blwyddyn, sydd yn penderfynu cyf- logau pladurwyr a chynauafgwyr gwair yng Ngogledd Cymru. Amrywiai y cyflogau a gynygid yno yr wythnos ddiweddaf o ddeunaw swllt i ddau swllt ar hugain a bwyd a lletty. BETH yw y rheswm tybed fod mor lleied o gystadleuwyr ar bron holl destynau yr Eisteddfod eleni ? Dywed rhai mai y Diwygiad, dywed eraill mai y testynau oed yn rhai sal, tra y myn y lleill mai y swllt blaendal, peth na chlywyd am dano ynglyn ag Eisteddfod o'r blaen, sy'n gyfrifol. MAE dychweledigion y Diwygiad yn Siloh, Pentre, Cwmrhondda, wedi cydnabod gofal y gweinidog am danynt drwy ei anrhegu a ffon addurnedig ac ysgrifen briodol arni. A yw hyn yn arwydd mai teimlo y dylent gael eu ffonodio y mae'r dychweledigion yn fwy na dim arall. MEWN cyfarfod yng Ngriccieth, dywedodd- Mr. Lloyd-George fod y rhai sy'n meddu'r cym- hwysder goreu i farnu, yn credu yr enilla y Rhyddfrydwyr yn yr etholiad nesaf y fuddugol- iaeth fwyaf a gawsant er y flwyddyn 1868. ALLAN 0 ^20,000 sy'n eisieu er symud y Coleg Eglwysig o Aberdar a'i osod mewn adeilad cymwys yn Llandaf, mae ^13,000 eisoes wedi ei gyfranu. Amcan y Coleg yw rhoddi parotoad ysbrydol i'r rhai sydd yn myned i'r weinidogaeth. YN mysg yr enillwyr yn arddangosfa amaeth- yddol sir Gaer a'r cylch, cawn enwau Mr. Thos. Williams, Llewesog, a Mr. J. Ellis Jones, Din- bych. Ctpiasant wobrau ill dau yn nosbarth y cwn. Mae hyn yn myned yn mhell i brofi fod Cwn Dinbych yn frid nas gellir yn hawdd eu curo. DYMA un o ganigau tlysion yr Athro John Morris Jones o Goleg y Gogledd :— LILI LON. Gwelais lwyni gwynion drain, Pob blodeuyn gwyn mor gain Yn fy n^ardd mae g nyf lili, Lanach, lanach na'r holl lwyni Lili Ion ydyw hon, 0, ni welais yn fy mywyd Un mor hyfryd a hon. Gwelais wledydd teg eu drych, A goludog wledydd gwych Tecaf, mwynaf im o unman Ydyw f'anwyl wlad fy hunan Cymru Ion ydyw hon, 0, ni welais yn fy mywyd Fro mor hyfryd a hon. Dysgais lawer enwog iaith, Wedi llafur, myfyr maith Godidocach iaith na'r cyfan Yw fy heniaith i fy hunan Heniaith Ion ydyw hon, 0, ni ddysgais yn fy mywyd Iaith mor hyfryd a hon. Clywais gerdd a chlywais gan Pob rhyw offer mawr a man Telyn, telvn gwlad y bryniau, Mwyna'i sain i'm mynwes inau Telyn Ion ydyw hon, 0 ni chlywais yn fy mywyd Ddim mor hyfryd a hon. RHES I RA Morien yr ysgrifenydd enwog Baring Gould ym mysg hereticiaid hanesyddol Cymru. Y gwir yw, nas gall neb ysgrifenu hanes fel Morien. METHODD Mr. Lloyd-George fynd i Gymru y dydd o'r blaen i'r cynadleddau yng Ngher- edigion, am fod cymaint o alw am ei wasanaeth yn Llundain. MAE'R rhyw fenywaidd yn peri llawer o drafferth i 01. y Western Mail, yn arbenig mewn gramadeg. Ychydig amser yn ol bu'n amheu t, a oedd ein gramadeg ni yn gywir ynglyn a'r gair Ctneges," ac er profi iddo ein bod yn berffaith gywir yn ol yr awdurdodau goreu, ni wnaeth gy- maint a rhoddi diolch i ni am y wers. Yn hytrach dyma ef eto'n amheu ein cywirdeb yn defnyddio arfer yn y rhyw fenywaidd, a chan fod ei wybodaeth mor gvfyng yn elfenau cyntaf ein hiaith, ofer rhoddi ffeithiau a phrawfion ger ei fron. Gwell fydd iddo fynd i ddosbarth Cymraeg am dymhor-ond rhywle tuallan i Gaerdydd. DYWRDIR yn awr mai yn Nghaerfyrddin y cychwynwyd yr ysgol Sul gyntaf, a hyny yn 1787. Yn Abertawe y cychwynodd yr papyr newydd gyntaf, The Cambrian, yn 1804. Ac yn Aberystwyth y sefydlwyd y bwrdd ysgol a'r llyfrgell rydd gyntaf yng Nghymru. Lle y mae Caerdydd, wys ? MAE Mr. Edward Jones, M.A., o Goleg Mansfield, wedi pasio arholiad y B.D. ym Mhrifysgol Cymru yn llwyddianus, ac wedi dechreu ar ei weinidogaeth yng nghapel y Gwernllwyn, Dowlais. Mae dau gapel mwyaf Dowlais yn meddu gweinidogion o raddau uchel. ADRODDIR am arolygwr ysgol Sul oedd ma's o dymher oblegid gwres y prydnawn a thwrw y plant. Disgynodd ei lygad ar ddosbarth o blant o gyfeiriad yr hwn y deuai y twrw mwyaf, a gwelai yno hogyn dipyn mwy na'r lleill ar ei draed. Rhuthrodd arno, a chariodd ef yn ei grynswth i'r set fawr, gan ei osod i eistedd ar gadair yno, a'i orchymyn i aros yno hyd oni roddid cenad iddo i ymadael. Ym mhen ychydig o amser daeth un o'r plant o'r dosbarth ymlaen ato gan ddywedyd yn alarus, Yr ydych chi wedi cario'n hathraw ni i ffwrdd, syr." HYSBYSIR am farw y Parch. B. Davies, Ponty- pridd, gweinidog pur adnabyddus gyda'r Bedydd- wyr. Mab iddo ef yw Awstin" y Western Mail, sydd wedi bod yn bur amlwg ynglyn a chofnodi hanes y Diwygiad. ER fod lliaws mawr o weinidogion Eglwys Loegr yng Nghymru wedi dymuno Duw yn rhwydd i'r Diwygiad, dim ond dau o honynt, yn y Gogledd beth bynag, sydd wedi cymeryd rhan amlwg yng nghyfarfodydd Evan Roberts,-y Parch. T. Pritchard, Ficer y Rhos, a'r Parch. Peter Jones, Rector Llanddona. Bu y Diwygiwr yn cynnal oedfa yn Eglwys Llanddona, ac oedfa nodedig oedd hi hefyd. CYMANFA i'w chofio oedd Cymanfa Caernarfon yr wythnos ddiweddaf. Y pregethwyr yno oeddynt y Parchn. Elfed Lewis, O. R. Owen (Lerpwl), Peter Price (Dowlais), a Dr. Davies (Castellnewydd Emlyn). Torrodd allan yn orfoledd mawr, y gorfoledd mwyaf sydd wedi bod ynglyn a'r Diwygiad hyd yma. Clywid swn y canu ar y ffyrdd yn yr holl gylchoedd am oriau wedi i'r oedfa hwyrol derfynu.

Advertising

Am Gymry Llundain.