Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

--.---------COFFADWRIAETH…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COFFADWRIAETH EMYNYDD. Prydnawn ddydd Gwener, yr wythnos ddi- weddaf, yn ffrynt Capel Mawr, Llansannan, darfu i Mr. J. H. Roberts, A.S., ddadorchuddio cofgolofn i Edward Parry, Bryn Bugad, yr em- ynydd peraidd. Yr oedd cynulliad lliosog yn bresenol. Mr. Parry oedd un o gychwynwyr yr achos Methodistaidd yng Ngorllewin Meirion- ydd. Yn Llansannan y dcchreuodd yr emynydd ar ei waith fel asiedydd. Yn ychwanegol at y golofn goffadwriaehol hon, y mae tabl coffadwr- iaethol wedi ei godi er cof am dano yng Z7, Nghapel Tanyfron. Dyma ychydig o hanes yr emynydd hwn :— Ganwyd Edward Parry yn Llysbychan, sir Ddinbych, yn 1723. Yno hefyd y magwyd ef ac y tyfodd i fyny yn fachgen. Ymddengys na chafodd nemawr o fanteision addysg. Prentis- iwyd ef, pan oddeutu deunaw oed, yn saer coed, a'r grefft honrro fu ffon ei gynhaliaeth ar hyd ei oes. Dywed awdwr Hanes Emynwyr Cymru fod Edward Parry a Twm o'r Nant yn arfer a chyfansoddi rhigymau, a chwareu interliwdiau gyda'u gilydd pan yn ieuainc, a dywedid y caent hwyl anghyffredin gyda'r chwareu ym mysg dynion ieuainc "penchwiban y wtad" (fel y sylwa yr awdwr uchod). Fodd bynag, cymer- odd tro ar bethau le in hanes Edward Parry, pan y cafodd ei argyhoeddi o'i fywyd ofer a phechadurus o dan bregeth o eiddo yr hen gynghorwr tanllyd Dafydd William Rhys un prydnawn Sabboth yn Henllys. Yna, yn gym- aint ag iddo dclerbyn gogoniant yr Efengyl i'w galon ei hun, yr oedd ) n llosgi mewn awydd am i eraill fwynhau yr un goleuni, ac i'r diben hwnnw agorodd ddrws ei dy i dderbyn pre- gethwyr i draethu y Gwirionedd ynddo. Pre- gethwyr ag oeddynt ar eu teithiau drwy Gymru ydoedd y rhai hyn. Fodd bynag, bu y ffaith yma yn ddechreuad gofidiau yn ei hanes. Fel y mae yn resynus gorfod dweyd yr oedd y rhan fwyaf o offeiriaid (Eglwys Loegr) yr oes honno yn elyniaethus iawn i'r "blaid newydd (fel y galwent y Methodistiaid Calfinaidd), ac yn gwneuthur eu goreu i berswadio y tirteddianwyr i'w troi o'u tai a'u ffermydd. Felly fu yn hanes Edward Parry. Pan ddeallwyd ei fod yn rhoddi ei dy at wasanaeth y pregethwyr Ymneillduol, cafodd ei droi o'i le rhag blaen. Ac nid un- waith na dwywaith, mae'n ymddangos y trowyd ef allan o dai, ond amryw weithiau. Ond

Advertising

HYMNOLOGY AND REVIVAL.

CARDIGANSHIRE CONVENTION.

Advertising

--.---------COFFADWRIAETH…