Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

GAIR 0 PATAGONIA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GAIR 0 PATAGONIA. Ieuenctyd y Wladfa Gymreig yn danfon cri dros y don, at eu brodyr a'u chwiorydd yn Nghymru, ac yn gofyn gyda difrifwch—Paham yr ydych mor ddiystyr ohonom, ac mor ddigydymdeimlad a'n anghenion, a'n hanfan- teision, tra chwi yn nofio mewn moroedd o freintiau Eithr daeth un fraint fawr i'n meddiant ninau hefyd, er lleted yw'r Werydd-sef yr Adfywiad crefyddol grymus a dwyfol, a phwy a ddichon draethu ei ddylanwad dyrchafol a phur.. Mae Cymru'n dechreu gofyn-beth yw'r cynllun goreu i gadw'r tan ar yr allor, a chadw'r praidd newydd yn ddiddos yn nghorlan yr Oen ? Ond mae genych chwi ddigonedd o fugeiliaid ac arweinwyr yn barod ac aiddgar i'r gwaith. Eithr er i ni ddanfon i Gymru chwe' mis yn ol am athraw i gychwyn Ysgol Ganolraddol i'n pobl ieuainc, i'w hyfforddi mewn Cymraeg a Saesneg, a phob gwybodaeth fuddiol; ac am weinidog, i'w harwain a'u tywys ar hyd llwybrau'r Nef-Wele nid oes lais na neb yn ateb. Mae y gweinidogion sydd genym wedi bod yn gweithio fel cewri am ddeugain mlynedd, a phwy a draetha eu llafur; mae ein hathrawon hefyd, hwythau'n ddiwyd-ddyfal Ond mae genym ni genhedlaeth gyfan wedi deffro 'nawr, ac yn dyheu am wybodaeth a hyfforddiant fel yr hydd am afonydd dyfroedd Pwy yn Nghymru ddaw i'n helpu ? Mae'r meusydd yn wyn i'r cynhauaf, a chynhauaf i'w gofio fydd un 1905. Onid oes digon o dan y Diwygiad mewn ambell i galon ieuanc i gefnu ar Gymru am ychydig flynyddoedd, a chroesi'r Werydd i'r Gyrn Fach tuhwnt i'r mor? Byddai ei groeso yn sicr a chynes. Am fanylion a thelerau, ymofyner ag Eluned," Llyfrgell Rydd, Caerdydd.

Advertising

Notes from South ;Wales."