Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Am Gymry Llundain. Y DYCHWELIAD.—Yr wythnos hon 'roedd y trens Cymreig yn bur lawn o ddychweledigion i'r Brifddinas. Cyn pen ychydig ddyddiau bellach bydd y byd Cymreig yn gwisgo ei wedd arferol yma. TUDNO. — Cyfeiriad y Parch. J. Tudno zn Williams, M.A., diweddar weinidog eglwys Walham Green, o hyn allan fydd "Wyddfyd Villa, Llandudno." YSGOL ASHFORD.—Mae'n syndod mor lleied a wyr Cymry'r ddinas am yr ysgol hon. Sefydlwyd hi ar y cyntaf er budd i blant Cymreig y ddinas, ond erbyn heddyw 'does ond adran fechan yn gwybod dim am dani. Rhaid cael gwelliant ar hyn yn sicr. COLLI JOSEPH !—Mae'r Goleuad yn holi am gyfeiriad un Mr. A. T. Joseph, gynt o'r Post Office, Cwmystwyth, ac yn ddiweddarach o'r Brifddinas. A oes rhywun a wyr hanes y Joseph hwn ? TYSTEB DDA.-Cyfanswm y casgliad o Lun- dain i gronfa tysteb y Parch. Evan Phillips, Emlyn, oedd £ 62 14s. oc. Go dda, wir, chwi Gardis, ac edmygwyr yr Hybarch Dduwinydd o Gastell Newydd. Y NEWYDD-DDYFODIAID.—Gwnaed cais ar- benig yng Nghymdeithasfa Caernarfon ar i'r eglwysi Cymreig anfon i eglwysi y Brifddinas enwau pob aelod a.fyddai'n gofyn am lythyr aelodaeth i Lundain. Mae'r cais wedi ei wneyd droion o'r blaen, ond hyd yn hyn ychydig o sylw a roddir iddo gan eglwysi'r wlad. Pe sylweddolent y miloedd eneidiau a gollir trwy eu hesgeulusdod hwyrach y telid peth sylw i'r cais. Y TYLAWD.—Yn ol ffigyrau diweddaf y Llywodraeth y mae nifer y tylodion yn Llundain ar hyn o bryd yn 115,418, sef cynydd o 6,665 ar y nifer a gedwid o dan dreth y tylodion yn 1904. SYR ALBERT.-Brodor o sir Benfro yw Syr Albert de Rutzen, prif ynad y ddinas, ac yn y sir honno gyda'i frawd, y Barwn de Rutzen, y mae'n treulio ei wyliau eleni. TElFY."—Bu Madam Teify Davies gyda'i phriod ar ymweliad a'i hen gartref yr wythnosau diweddaf, a rhoddasant gyngherdd arbenig un noson yn nhref Aberteifi. Daeth torf fawr i wrando'r gantores boblogaidd, ac er mai Mrs. Meyrowitz yw hi yn ol y ddeddf, eto "Teify Davies yw hi gan werin ei hen wlad. HERR W. MEYROWITZ yw enw gwr "Teify," ac mae yn gerddor gwych ac yn chwareuwr penigamp ar y berdoneg. Er mai brodor o'r cyfandir yw y mae wedi ei swyno gymaint gan brydferthwch Cymru fel y bwriada dreulio y rhan fwyaf o'i ddyddiau hamddenol yn y wlad a 'roes iddo ei gydmar dalentog a melodus. Pob llwydd iddynt. MR. PETER JONES. — Collodd draperiaid Llundain un o'u gwyr blaenaf yn marwolaeth Mr. Peter R. Jones, o'r hyn y gwnaed nodiad yn ein rhifyn diweddaf. Yr oedd wedi sefydlu un o'r masnachdai mwyaf yn Chelsea, a'i enw yn hysbys i bawb yn ei fasnach ac yn yr ardal lie y trigai. YN GYMRO.Brodor o sir Gaerfyrddin-o ardal Castell Newydd-oedd Mr. Jones, ond ychydig iawn oedd y dyddordeb a deimlai tuagat achosion Cymreig na'r ardal ei magwyd. Rhodd- "I odd ei holl fryd ar gyfoeth, a llwyddodd yn rhagorol i gasglu toraeth o dda'r byd hwn. Yr oedd yn barod i gyfranu ychydig at fan achosion Cymreig a osodid ger ei fron fel yn haeddianol o gefnogaeth, ond ar wahan i hyny ei fasnach oedd ei bobpeth. Ei DEULU.—Gedy Mr. Jones weddw a dau o feibion ac un ferch i alaru am dano. Y mae'r meibion yn dilyn camrau masnachol eu tad llwyddianus, ac mae'r ferch yn briod a Mr. Charles Higgins, o deulu yr Higgins yn mas- nachdy Peckham. PARATOI. —Gyda bod y gwyliau ar ben y mae gwahanol bwyllgorau y Cymdeithasau Llen- yddol yn cwblhau'r trefniadau gogyfer a thymor y gauaf dyfodol, ac mae argoelion y ceir amser lied fywiog eleni eto. Y mae rhaglen Eisteddfod Hammersmith eisoes mewn llaw a chynygir gwobrau hael yno, o ddeg gini i lawr. Gellir cael yr holl fanylion ond ysgrifenu at Mr. G. O. Williams, 120, The Grove, Hammersmith. Y DIWYGIAD.—Daw hanes fod amryw o bobl ieuainc Llundain yn frwd iawn gyda gwaith y Diwygiad yng Nghymru yn ystod eu gwyliau yr haf eleni. Yn y lleoedd hynny lie 'roedd y brwdfrydedd yn dechreu cilio rhoddwyd ail fywyd yn y gwaith gan amryw o'n ieuenctyd o'r cylchoedd crefyddol yn y Brifddinas. Y CANON W ILLIAMS.- Uno. bregethwyr goreu yr Eglwys yng Nghymru heddyw yw'r Canon Williams, Tyddewi, a bydd ar ymweliad a'r ddinas hon ddiwedd y mis presenol. Preg- etha yng ngwasanaeth blynyddol Diolchgarwch am y Cynhauaf yn Eglwys St. Benet, Queen Victoria Street, nos Sul, Medi 24ain, ac yn yr un lie, am bedwar o'r gloch yn y prydnawn, rhydd anerchiad yn Seisnig, ar Y Diwygiad yng Nghymru." Mae'n sicr y manteisia llawer

Advertising

Notes of the Week.