Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

- Enwogion Cymreig. XXXVIII.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Enwogion Cymreig. XXXVIII. Mr. E. Rhys (Rhys Goch o Ddyfed). WRTH ystyried mor gref ydyw y dalent W lenyddol yng Nghymru y mae yn rhyfedd mor lleied o'n cydgenedl sydd yn cymeryd i fynu waith llenyddol fel gwaith eu bywyd. Cyfeirio yr ydym yn benaf at y Cymry sydd yn ymsefydlu yn Lloegr, ac yn ennill eu bywioliaeth ymhlith y Saeson. Ceir ym mysg masnachwyr, meddygon, a chyfreith- wyr Lloegr lu mawr o feibion Gwalia mewn safleoedd uchel a dylanwadol. Ond pur ychydig a geir ohonynt yn y cylch llenyddol, Uawer llai beth bynag nag mewn unrhyw gylch arall. O'r ychydig Gymry sydd wedi ymgyflwyno yn hollol i wasanaeth duwies lien saif Mr. Ernest Rhys yn y rhestr flaenaf, ac y mae iddo safle uchel ymysg ysgrifenwyr a golygwyr Seisnig. Er mai JLlundeiniwr ojran Genedigaeth yw Mr. Rhys, yr oedd ei dad yn Gymro pur, ac y mae yr aman Gymreig yn ei llawn rym ynddo yntau. Ganwyd ef ar yr J 7eg o Orphenaf, 1859. Pan oedd y bachgen yn un-mis-ar-ddeg. oed, symudodd ei rieni i fyw i Gaerfyrddin, ac yn y dref henafol honno sydd mor gyfoethog ei thraddodiadau y treuliodd flynyddoedd ei febyd. Symudasant drachefn cyn pen hir iawn i Ogledd Lloegr, ac yng N ghastell- N ewydd-ar- Dain y derbyniodd y llanc ei addysg. Gan fod ei dad yn dal cysylltiad a chwmni masnachol cryf ac adnabyddus, galluogodd hynny ef i roddi i'w fab gyfleusderau gwell na'r eyffredin i ymbarotoi ar gyfer gyrfa bywyd. Yr oedd y dueddfryd lenyddol yn gref yn Ernest Rhys er yn fachgen, ac arferai ysgrifenu barddoniaeth bron cyn cof ganddo; eithr ychydig o olwg oedd gan y tad ar lenyddiaeth, ac ni roddodd nemawr gefnogaeth i'w fab i feithrin y duedd honno. Dygwyd ef i fyny yng ngalwedigaeth Peirianydd (Mining Engineer). Ond nid oedd yr alwedig- aeth yn dygymod a'i anianawd, ac yn bur fuan wedi gorphen tymhor ei brentisiaeth rhoddodd y goreu iddi, a phenderfynodd ymgyflwyno yn hollol i lenyddiaeth. Ac ynglyn a llenyddiaeth y mae wedi treulio ei oes. Ymsefydlodd yn Llundain a llwyddodd i gael ei droed yn gynnar ar ffon yr ysgol sydd yn arwain i ddigon o waith. Y gorchwyl cyntaf o bwys a syrthiodd i'w ran ydoedd golygu gweithiau George Herbert yng nghyfres y Canterbury Poets. Daeth o hyd i rai o ganiadau Herbert mewn llawysgrif yn Llyfrgell Dr. Williams, ac ychwanegodd y dar- ganfyddiad yn fawr at werth yr argraffiad. Tynnodd ei waith sylw, ac ni bu yn hir heb ymgymeryd a golygu y Camelot Series a ddaeth allan o Swyddfa enwog ac anturiaethus Walter ocott. Rhedodd y gyfres honno i driugain neu driugain a-deg o gyfrolau, y rhai ar ol hynny a au-gyhoeddwyd o dan y teitl, Scott's Library." Galygadd, hefyd, chwareu-gerddi Dekker, y rhai a gyhoeddwyd yn y Mermaid Series. Ym mhlith ei weithiau cvhoeddedig eraill gellir nodi y" cyfrolau ar The Lyric Poets, A London Rose, Lord Leighton, The Fiddler of Carne, Welsh Ballads, Whistling Maid, a Readings in Welsh History. Gwelir na bu ei yrfa fel golygydd nac fel awdwr na segur na diffrwyth. Er mai yn Lloegr y treuliodd Mr. Ernest Rhys y rhan helaethaf o lawer o'i oes, y mae yn Gymro trwyadl ym mhob ystyr. Dysgodd yr hen iaith" mewn cyfnod, ac o fewn. cylch y ,1. MR. ERNEST RHYS. credid mai mantais i ddod ymlaen yn y byd ydoedd ei hanghofio. Nid oes yr un o gyfnewid- iadau y deng-mlynedd-ar-hugain diweddaf yn fwy hynod iddo na'r cyfnewidiad yn syniadau Cymry ar wasgar am yr iaith Gymraeg. Tyn- wyd ef i Astudio Llenyddiaeth Gymreig gan gydymdeimlad cynhenid, ac nid oes neb wedi gwneyd cymaint ag ef i ddwyn trysorau lien ein cenedl i sylw darllenwyr Seisnig.. Cy- hoeddodd y,chwedlau Arthuraidd yn y Camelot Series, a thrwy hynny gwnaed hwy yn adna- byddus i filoedd na wyddent ddim am danynt yn flaenorol. Ers blynyddau bellach llenydd- iaeth Gymreig sydd wedi cael ei sylw blaenaf, yn wir, ei holl sylw bron. Dwyn ein lien gudd- iedig i oleuni, a sicrhau i Gymru y gydnabydd- iaeth a deilynga oddiwrth lenorion cenhedloedd eraill yw prif nod ei egnion. Ac y mae ynddo gymhwysderau arbenig ar gyfer y gorchwyl. Mae yn drwyadl Geltaidd o ran anianawd a delfryd, athrylith freuddwydiol a llednais y Celt yw ei athrylith, ymhyfryda yng nghymdeithas yr encilion, mae wrth ei fodd yn cyfrinachu ag ysbrydoedd Arthur, a Gwenhwyfar, a Thaliessin, a Dafydd ap Gwilym. Yn ddiweddar y mae wedi bod yn cydlafurio a Chymro arall sydd yn prysur ddringo i en- wogrwydd ym myd cerdd—Mr. Vincent Thomas-i gyfansoddi chwareuawd (opera) o dan y teitl "Gwenhwyfar." Bwriedir perfformio y chwareuawd hon tua chanol mis Tachwedd, ac yr ydym yn sicr y bydd yn dda gan lawer weled pennill neu ddau o un o'r caneuon sydd ynddi- can yr hen wr Merlin, yn Llys Arthur, yng Nghamlod, pan yn disgwyl y newydd sut y troes pethau allan ym Mrwydr Camtan :— The shaft to the firs, The leaf to the clay: The tree-top of Arthur Is wasting away. This Hall is the House Of a tree that has lost The flower of its crest, and The queen of its cost. But where is the Bough Of its bounty and prime ? The tree cries, Come, Arthur The spear, "It is time." Come back to your Host, Or your trouble, but come The tree is thine, Arthur This House thy one Home Ond y mae ynddo fwy na chariad brwdfrydig at farddoniaeth a thraddodiadau ei genedl, mae yn feirniad o fedr a chwaeth uchel a diwylliedig, a gwyr pa fodd i wahaniaethu cydrhwng y grawn a'r us. Ers saith neu wyth mlynedd ysgrifena erthygl wythnosol i'r Manchester Guardian ar ryw bwnc yn dal cysylltiad a llenyddiaeth Gymreig, a dengys yr erthyglau hynny ymgydna- byddiaeth eang a thrysorau ein Hen ynghyda chraffder beirniadol uwch na'r cyffredin. Mae Mr. Ernest Rhys mewn llawn cydym- deimlad a dadblygiadau diweddaraf bywyd llen- yddol Cymru. Cred fod yr ysgrifenwyr ieuangaf yn arddangos talent eithriadol, a disgwylia bethau mawr oddiwrth Gymry y dyfodol. Edrycha ar yr Eisteddfod fel ffynonell ysbryd- iaeth a symbylydd meddyliau ieuainc i feithrin awen a chan—y hi sydd yn creu yr awyrgylch angenrheidiol i ddadblygu dawn barddas a Hen. Ond cred nas gall yr athrylith Gymreig gyr- haedd yr oil sydd gyrhaeddadwy iddi nes y daw y ddrama yn boblogaidd yng Nghymru. Mae ar Gymru eisieu Llwyfan, llwyfan yn ateb rhyw bwrpas gwirioneddol fel y llwyfan a ga y Werddon yn y dyddiau di- weddaf hyn drwy yr Irish theatre. Mae Mr. Rhys yn llawn edmygedd o'r gwaith a wneir mewn llenyddiaeth Wyddelig gan Mr. W. B.