Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
REVIVAL OF CELTIC ART.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
REVIVAL OF CELTIC ART. INTERESTING MOVEMENT IN WALES. (From our Special Correspondent.) Mr. E. Seward, Architect, Cardiff, has designed a remarkably interesting novelty in Architecture. This is the Celtic Corridor in Newport Road, Roath, and through Mr. Seward's courtesy I was enabled to be present at the opening ceremony on Thursday afternoon and had a good opportunity of inspecting the place. Sir T. Marchant Williams presided, and the company present included a large number of prominent residents of the district, interested in the revival of Celtic Art and the Pan-Celtic movement generally. Sir Marchant gave an interesting opening address, and Mr. T. H. Thomas spoke ably on Celtic Art." Mr. Seward's little daughter presented a silver key to Sir Marchant as a memento of an unique and pretty ceremony. After the customary votes of thanks the com- pany were entertained to tea by Mr. Seward on the roof garden. An eminent London architect who inspected the Celtic Corridor a few weeks ago thus gives his impressions in the Builder :—" It is of rather unusual character, and one which may have useful suggestions for architects who are desirous of imparting some national feeling into their designs for Welsh work." The London architect goes on to state that in Wales (and of course in Cardiff) there is a movement of archaeological, historical, or patriotic tendency now receiving much attention, and which leans towards the liking and the study of Celtic. It touches that revival of interest in the Celt-not in Wales only, but in Ireland, Scotland, Cornwall, Brittany, and elsewhere-which has become known as the Pan-Celtic movement." In the Celtic Corridor, a short corridor of shops forms part of the scheme, and although the inevitable plate-glass must dominate, there are places-recessed galleries, and waggon-head archways-where antique form and modern requirements blend satisfactorily. Amongst the Celtic features of the Central Archway panelling there are adaptations from the shrine of Ste Molaise, of carvings from a shaft at Llandough, from the great Cross of Conbelin at Margam, from Golden Grove, Carmarthenshire, from Pen Arthur, Pembroke- shire, and from the cross at Neuadd Siarman, near Builth, &c. Another interesting departure is the intention to call some of the shops by Welsh names. For instance, the smart Florist and Fruit shop opened near the entrance by Miss M. C. Small will probably be named Blodau Hyfryd."
Byd y Gan.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Byd y Gan. Gan IDRIS. Nos Iau nesaf cynhelir cyngherdd agoriadol -yn cael ei flaenori gyda the—y Gymdeithas Ddiwylliadol yn Jewin Newydd, pryd y disgwylir y rhai canlynol i gymeryd rhan Miss Carrie Jones, Mr. David Evans, Mr. W. Spencer Thomas, Mr. Kenneth Park, Miss Amy Watts, a Mr. Walter Hughes. FEL rheol, y mae'r cyrddau agoriadol yma yn hwyliog iawn, ac y mae y cyfeillion yn Jewin bellach yn rhai hynod am wneyd cwpan- aid o de. Y mae cael ymgom uwchben y shaden ar ddechreu tymhor fel hyn yn gym- helliad mawr. FE egyr rhai o'r Cymdeithasau ereill hefyd eu tymhor yr un noson. Afraid yw dweyd wrth neb Cymro nad oes dirfawr ddaioni yn deilliaw o'r Cymdeithasau hyn. Ond y maent yn wa- hanol iawn i gwrdd llenyddol y pentref yr hwn a roddodd fod iddynt. Ychydig iawn o le roddir ynddynt i'r gelfyddyd gerddorol—dim mwy na chyngherdd yn awr ac yn y man. CEIR cewri i ddarlithio ar wahanol bynciau llenyddol, &c., i'r aelodau (a pha beth sydd well?), ond ai ni fuasai'n llawn mor fuddiol hefyd cael un o'r cewri cerddorol i ddarlithio. Nid oes genym gymaint ag un sefydliad yn ein mysg i hyrwyddo'r gelfyddyd gerddorol, a da fuasai gweled y Cymdeithasau yn cymeryd y mater i fynu. BETH amser yn ol gwnaethom sylw ar agwedd y Neuaddau Cerddorol yn Llundain, a'r ffaith fod diwygiad yn eymeryd lIe ynglyn a hwy. Yn ddiweddar yr ydys wedi cael cerddoriaeth glasurol yn rhai o honynt, ac y mae'r cyhoedd yn dechreu dysgu sut i werthfawrogi y cyfryw, fel, mewn gwirionedd, yn y dyfodol agos bydd cerddoriaeth aruchel yn anhebgorol ynddynt. MAWR bregethu sydd wedi bod o bryd i bryd gan wahanol feirniaid am ddiwygiad ar lwyfan y neuaddau, ond syrthiai y perchenogion a'r rheolwyr (pobl a'u bryd ar un peth, sef cyfoeth bydol) yn ol ar yr hen esgus nad oedd y cyhoedd yn ddigon diwylliedig. Ond erbyn hyn wele brawf wedi ei wneyd, a'r caiilyniad yw, fel y mae'n hysbys i'r cyfarwydd, fod mwy o lwyddiant y tu ol i gerddoriaeth dda na dim arall ond rhoddi cyfle i'r dosbarth cyffredin ei glywed gyda'r manteision goreu. YMHELLACH, syned y byd Yr wythnos hon dechreuwyd cyfnod newydd yn hanes y Neuadd Gerddorol. Soniasom eisoes am gyfnod y ganig a'r opera a'r baledau, &c.; ond yn awr wele yr elfen grefyddol ar y llwyfan. Caed dernyn cerddorol seiliedig ar stori Feiblaidd yn dwyn y teitl Joseph and his Brethren," yn y Coliseum. Cawn son am hwn eto, ond dylem ddweyd ddarfod i'r gynulleidfa ddangos ei hedmygedd drwy ymddwyn yn barchus a theilwng o'r Beibl. Y MAE rhaglen Eisteddfod Flynyddol Undeb Ysgolion Sabbothol Llundain newydd ddod i'n Haw, ac y mae golwg ddestlus iawn ami, ac yn Gymreig drwyddi draw. Torrir tir newydd yn yr adran gerddorol drwy gynyg £ I is. am ganu hefo'r tannau man, a chynygir gini hefyd am chwareu'r delyn fwyn. Da iawn, wir! TESTYN y prif gorau fydd "Goruehafiaeth ar Angau" (D. Emlyn Evans), yr un dernyn ag sydd ganddynt yn Eisteddfod Hammersmith. Gan hynny, y mae lie i ddisgwyl y bydd y gys- tadleuaeth ar y Boxing Night eleni yn un frwd- frydig. Bydd y gerdd yn amlwg iawn yn yr Eisteddfod hon. Y mae'r unawdau a'r deuawdau yn rhai poblogaidd. Y pedwarawd yw, Mae fy Nghariad yn dy wylio (Gwilym Rolands), a da yw gweled cynyrch un o'n cerddorion ieuainc yn cael amlygrwydd fel hyn. HEDDNW (y Sadwrn) cynhelir cystadleuaeth y seindyrf pres yn y Palas Grisial.
TAITH DRWY OHIO.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TAITH DRWY OHIO. Gan Ellenor Williams, Castle Street. Arol talu ymweliad a bedd y Arlywydd Mc- Kinley yn Canton aethym i'r orsaf i chwilio am dren i fyned i Youngstown, ond yr oedd yr olaf am y dydd wedi myned. Y peth nesaf oedd cymeryd y street car am Alliance. Yr oedd Mrs. Rottomy wedi rhoddi cyfeiriad ei chartref yn fy llaw, a dymuno arnaf alw i weled ei rhieni. Yr oedd yn hwyr y nos pan y cyraeddais Alliance, a Mrs. James yn y gwely. Curais wrth y drws, ond neb yn ei agor yn hwylus iawn. Pwy sydd yna ? gofynai Mr. James. Ellenor Williams meddwn inau. Dyna ddigon. Fy ngeneth anwyl i," meddai yr hen frawd, dewch i mewn. Yr oeddwn wedi ofni na chawn byth eich gweled." Dyna fi yn dda fy ngwala arnaf. Ni chawn symud i'r hotel nag un man. Treuliais y darn boreu o dranoeth i fyned o gwmpas gyda James i weled yr hen deuluoedd Cymreig, a gofalais am amser y tren i Youngs- town y diwrnod hwnw, lie yr oedd genyf ffrynd- iau caredig yn fy nisgwyl, Mr. a Mrs. Frank Edwards. Eu cartref hwy yw fy nghartref inau tra yn y cylchoedd hyn. Oddiyno aethym i Sharon at y Sul, i wasan- aethu yr eglwys Gymreig. Gwan yw y Cymry, ond y nos yn y cwrdd Seisnig yn gryf. Nos Lun aethum i Wheatland. Bu y lie hwnw yn enwog pan oedd y gweith- feydd yn myned yn dda. Mae y Parch. Thomas Griffiths yn aros yno yn ffyddlon gyda'r aelodau sydd yn sefydlog yn y lie. Synwn weled pedwar o weinidogion yn y cwrdd-y Parchn. J. J. Jen- kins o Brookfield; Thomas Thomas, U. H., Sharon; Owen Thomas, South Sharon, a T. Griffiths. Siaradodd y brodyr oil yn yr ail gyfarfod gyda dylanwad. Nid buan yr anghofir y gyfeillach hono yn Wheatland. Yr oedd yn tynu at haner nos erbyn i ni gyraedd adref y noson hono. Treuliais rai dyddiau yn Sharon gyda theulu Squire Thomas. Nos lau aethym i Hubbard. Yno hefyd bu eglwys flodeuog. Dim ond ychydig enwau sydd yn Sardis erbyn hyn, ond trwy fod yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr yn uno, cafwyd cynulliad da. Daeth rhai teuluoedd Cymreig o eglwys y Methodistiaid Calfinaidd hefyd. Ar y Sul mae eisieu pregeth- wyr er mwyn cael y bobl, gan fod cynifer o'r brodyr yn gorfod gweithio y nos. Pe baem ni bregethwyr teithiol yn gwneyd ein dyledswydd i'r lleoedd gweiniaid y dylem fyned ar y Suliau ac i'r eglwysi mawr sydd a gweinidogion sefydlog ganddynt yn yr wythnos. Un o'r pethau sydd wedi cyffwrdd a fy nghydwybod i yw meddwl am yr hen Gymry anwyl fu yn ffyddlon iawn yn eu dydd yn Church Hill, Weathersfield a'r lleoedd yna. Nid ydynt wedi cael cynyg pregethwyr o'r Hen Wlad er's amser. I beth yr ydym ni yma ond i wasanaethu ein cenedl yn yr Arglwydd ? Mae yr eglwysi bach yn talu yn anrhydeddus, ond iddynt gael amser i barotoi i dderbyn pobl ddieithr. Yr oedd genyf un Sul gwag a bwriadwn dreulio hwnw i wrando ar y Parchn. J. T. Lloyd a J. D. Davies yn Youngstown, ond nid oedd yr un o'r ddau gartref. Cyfarfod plant ardderchog oedd gan yr Annibynwyr y bore. Anerchais inau yn Gymraeg y nos, a dyna Sul hyfryd gawsom. Cefais garedigrwydd mawr gan y gweinidog a'r eglwys. Bum yn aros un noson gyda Mr. a Mrs. J. M. Jones. Yr oeddwn wedi cwrdd a Mr. Jones eu mab, yr hwn sydd gyfreithiwr ieuanc addawol yn Pasadena, California. Gan fod genyf un Sul arall yn Ohio treuliais wythnos o- amgylch Youngstown i weled ffryndiau a mynychu cyrddau wythnosol y gwahanol eglwysi —cwrdd gweddi y Bedyddwyr nos Lun. 0 gwrdd bendigedig Yr oedd yno swn genedigio" newyddion yn Seion. Nos Fercher yr oedd cwrdd y bobl ieuainc yno, a chefais glywed y brawd ieuanc Joseph Lloyd, mab Mr. a M.rs: J. T. Lloyd, yn anerch. Mae ef yn parotoi i fyned i'r weinidogaeth. Yr oedd rhyw bwysau o ddifrifoldeb nefol yn ei genadwri atom. (pw barhau).
- Enwogion Cymreig. XXXVIII.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Yates, ac eraill o'r un ysgol, a chred mai ar linellau cyffelyb y daw dadblygiad uwch Hen Gymreig. Nid yw yn rhyfedd fod ei gydym- deimlad yn cofleidio Celtiaeth yr Ynys Werdd yn ogystal a Cheltiaeth Cymru. Merch o'r Werddon yw ei briod, ac y mae ei chariad at bob peth Celtaidd lawn cryfed a'r eiddo ei gwr. Mae Mrs. Rhys hefyd yn awdures adnabyddus, a rhai o'i nofelau wedi eu cyfieithu i amryw o ieithoedd y Cyfandir. Gofidia Mr. Rhys yn fawr na byddai mwy o ddarpariaeth i gadw y Cymry ieuainc yn Llun- dain mewn cydymdeimlad byw a bywyd Cym- reig. Pan ddaeth ef ei hun i'r Brifddinas yn wr ieuanc nid adwaenai un Cymro yn y lie. Teim- lodd yr unigrwydd i'r fath raddau nes y mae yn barod i wneyd pobpeth all i gynorthwyo ei gydwladwyr. Bu yn Llywydd Undeb Cym- deithasau Diwylliadol Cymru Llundain ryw dair blynedd yn ol, ac yn ystod y flwyddyn honno cymerodd finteioedd o Gymry ieuainc drwy yr Amgueddfa Brydeinig i ddangos iddynt y llaw- ysgrifau sydd yno. Mae wrth ei fodd yn son am Gymru, a'i thraddodiadau, a'i henwogion, a phob peth cysylltiedig a hi. Gwnaeth wasanaeth mawr i'w genedl yn y gorphenol, disgwylir wrtho i wneyd mwy eto yn y dyfodol.