Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Cymrieithas Ddiwylliadol JEWIN NEWYDD. Llywydd Parch J. E. DAVIES, M.A. CYNHELIR CYNGHERDD AOORIADOL 1\ I x x A THE. y Gymdeithas uchod NOS IAU, HYDREF 5ed, 1905. Cadeirydd = GWILYM OWEN, Ysw. Dadgenir gan- MISS CARRIE JONES, R.A.M. MR. DAVID EVANS, R.A.M. MR. W. SPENCER THOMAS, R.C.M. Cellist MR. KENNETH PARK, R.A.M. Adroddiadau- MISS AMY WATTS. Cyfeilydd MR. WALTER HUGHES. Danteithion am 6.30 o'r gloch. Cyngherdd am 8. Mynediad i mewn drwy docynau, 11", yr un. CTE~3XrCB-XX2ESRX>X>. CYNELIR CYNQHERDD MAWREDDOQ, yn Portobello Rd. Board Schools, nos Fawrth, Hydref 10. Er cynorthwyo LLEW. EVANS (Great Western & Metropolitan Dairies, gynt yn ngwasanaeth, Mr. Hughes, Kingsland Road). Cadeirydd J. T. EDWARDS, Ysw., Richmond Hill. Drysau i agor am 7. Tocynau, 1/- a 2/- Am fanylion pellach ymofyner a A. DAVIES, 169, Walmer Road, Notting Hill, W. ELECTRIC LIGHTING. Country Houses, Shops, Factories, &c. Over 20 years experience with Oil, Gas, and Steam Engines, Water Turbines, Motois, &c. All Work Guaranteed. Practical Representative sent to advise, and Estimatesfree. J. S. CUNNINGTON & CO., 93, ST. MARTIN'S LANE, LONDON, W.C. When you are in London stay at THE CHAPTER HOTEL (The favourite house of Charles Dickens), New Street, St. Martin's Lane, CHARING CROSS. CHARGES VERY MODERA TE. Bed and Breakfast, 3/6. We have a large Dining Room where Customers can get good Luncheons and Teas without staying with us. Well recommended. Give us a call. We give a cut from Joints and two Vegetables for 6d. TRIAL SOLICITED FROM THOSE UP FROM THE COUNTRY. To accommodate 20 people. Rooms reserved on the shortest notice. NO CHARGE FOR ATTENDANCE. Proprietor-MARTIN WILLIS. THE WELSH LANGUAGE. A SERIES OF CLASSES In WELSH GRAMMAR, HISTORY, and LITERATURE will be held Weekly during the coming Winter at the LEYSIAN. BUILDINGS, 122, CITY RD., Commencing September 30th. For information apply: The School, 122, City Road. Do you want to Learn to Speak Welsh? I Join the Welsh Classes at 122, CITY ROAD, Held Weekly, the Evening to be decided upon later. ELEMENTARY- 7-8 ADVANCED 8-9 Students can join both Classes. For List of Teachers, Schedule of Courses, and any further information apply- THE PRINCIPAL, 122, City Road, E.C. Cyfeirierpob Gohebiaeth a fwriedir t'n colofnau, The Editor pob Hysbysiad,, The Adver- tising Managera phob Archeb, "The Manager," a'r oll i'r Swyddfa, 45, 46, 47, St. Martin's Lane, W.C. Bydd yn hyfrydwch gan y Golygvdd dderbyn gohebiaethau ac erthyglau i'w hystyried, ond nis gellir ymrwymo i ddychwelyd vsgrifau gwrthod- edig. The Editor invites correspondence. All letters must be signed with the full name of the writer. and the address must also be given, not necessarily for publication, but as a guarantee of good faith.
————————.———————————————————————————…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
————————.——————————————————————————— Nodiadau Golygyddol. BETH SYDD ALLAN O'l LE? Yn un o newyddiaduron Llundain ceir yn feunyddiol er's wythnosau, os nad misoedd bellach, golofn neu ddwy o lythyrau o dan y penawd, Beth sydd allan o'i le ?" Cymer yr oil o'r ysgrifenwyr yn ganiataol fod rhywbeth allan o'i Ie, a rhyngddynt oil llwyddant i wneyd yn glir, iddynt eu hunain, beth bynag, fod.pob- peth allan o'i Ie, ac nad oes dim yn iawn. Nid yw yr ymholiad yn newydd mewn un modd, er y gellid meddwl wrth ddarllen rhai o'r llythyrau y cyfeiriwyd atynt mai darganfyddiad ddoe yw y darganfyddiad nad yw y byd yn fyd perffaith. Ond y gwir yw, fod yr ymholiad cyn hyned a dynoliaeth, o leiaf cyn hyned a'r adeg y dech- reuodd dynoliaeth geisio byw yn gymdeithasol. Mae yn bur amheus a fu rhywun o oedran a phrofiad a rhywfaint o feddylgarwch mewn unrhyw gyfnod yn teimlo fod pethau fel y dymunasid iddynt fod. Er i Robert Browning ddywedyd ar un foment, God's in his heaven All's right with the world," gofynodd yntau ar foment arall "Wanting is what?" Ac megis y mae yr ymholiad yn hen felly hefyd y mae yr atebion a roddir iddo. Yr ydym wedi darllen cynnifer o'r llythyrau ag a allasem nes iddynt fynd yn rhy galed i ni, oblegid yr ydym yn dra awyddus i wybod paham na byddai y byd yn amgen nag ydyw, a pha fodd y gellir ei wella yn llawer mwy awyddus am wybod yr ail na gwybod y cyntaf. Nid ydym yn medru credu chwaith fod pethau mewn ystad mor ddifrifol ag y myn apostolion pesimistiaeth i ni gredu. Gwyddom fod anesmwythder a chyffro yn Rwssia, ac yn Hungary ac yn Twrci, ac mewn mannau eraill. Ond gwyddom fod yn yr holl wiedydd hynny filoedd o bobl yn medru mwynhau bywyd, ac yn medru cysgu bob nos mor ddiofn a babanod. Gwyddom fod lliaws mawr o bobl cyn deilynged a neb gerddodd y ddaear yn methu cael diwrnod o waith, ac oblegid hynny yn methu cael cynhaliaeth ddi- gonol. Ond gwyddom hefyd fod mwyafrif gweithwyr pob gwlad yn cael digon o fwyd, digon o ddillad, a digon o waith, er eu bod yn gorfod ymostwng i ddeddfau galw a chyflenwi. Gwyddom fod llawer o ddrygau yn ffynnu, ond y mae rhinweddau yn ffynnu hefyd, ac y mae rhinwedd yn medru ffynnu heb dynnu sylw, yr hyn na fedr drwg ei wneuthur. Gwyddom fod llawer o Phariseaeth yn y byd, a llawer o bethau yn cael eu gwneuthur yn enw crefydd sydd yn anheilwng o honi. Ond nid ydym yn petruso dweyd fod mwy o ddidwylledd a daioni yn y byd nag a fu mewn unrhyw gyfnod erioed. Os nad ellir lliwio y byd i gyd yn wyn, ni raid i neb ei liwio i gyd yn ddu ychwaith, ac ni wna neb sydd yn meddu llygad i'w weled fel y mae. Nid oes neb mor ynfyd a honni nad oes dim allan o'i Ie, yr ydym yn gobeithio nad oes ond ychydig mor ynfyd a honni fod pawb a phobpeth allan o'u lie oddi- gerth hwy eu hunain. Yr hyn sydd yn synnu mwyaf arnom ni ydyw yr effaith a ga anfoddlonrwydd dynoliaeth ar ei sefyllfa ar lawer o bobl a dybiem oedd yn bobl gall. Y maent yn myned yn besimistiaid prudd a llwfr. Ond effaith gwbl wahanol a ga hynny arnom ni. Pe gwelem bawb, neu hyd yn nod y mwyafrif, o'r rhai o'n cwmpas yn gwenu a chanu megis uwchben eu digon, fe aem ninnau yn brudd a llwfr, ond y mae eu clywed bron oil yn achwyn ac yn cwyno eu hanfoddlonrwydd yn codi ynom awydd canu a neidio o lawenydd. Anystyriaeth sydd yn peri i unrhyw un brudd- hau pan y clyw arall yn cwyno. Effaith rhyw boen corphorol neu feddyliol yw cwyno, a phe baem yn ddigon ystyriol ac yn ddigon llawn o gydymdeimlad a'r delfrydau uchaf chwerthin a wnaem ym mhresenoldeb poen. Mae poen, ys dywedodd rhyw sylwedydd craff yn ddiweddar, "yn brotestant ac yn brophwyd." Swn egni bywyd yn dryllio ei rwymau ac yn taflu ymaith ei lyffetheiriau yw poen lief ei obaith anffael- edig pan wel wlad ei addewid yw anfoddlon- rwydd. Y ffaith fod dynion yn teimlo nad yw y byd yn ei le yw y dystiolaeth gryfaf y daw yn well a'i fod yn gwella. Digon tebyg ei fod yn gwneyd llawer o bethau rhyfygus wrth wella, ond dyna wna un fo'n gwella yn wastad i olwg rhai cleifion. Nis gwyr yn iawn beth y mae yn ei wneuthur yn ami, a rhaid iddo ddysgu drwy brofiad beth yw terfynau ei nerth. Perygl mawr pob un fo'n gwella yw gorbrisio ei gryfder, a dyna berygl dynoliaeth heddyw. Dyna ei pherygl yn Rwssia, dyna ei pherygl ym Mhrydain. A oddefa y werin air o gyngor ? Os gwna, dyma fe-peidied ceisio gwneyd gormod ar unwaith. Nid mewn un dydd yr adeiladwyd Rhufain. Nid mewn un dydd y troed allan y Canaaneaid o wlad yr addewid. Ac nid mewn un dydd y datodir rhwymau cymdeithas ac yr iacheir ei briwiau. A chofied hefyd mai egwyddorion moesol sy'n cadw y byd wrth ei gilydd, ac mai drwy ddal yr egwyddorion hynny yn wastad gerbron ei llygaid y daw yn gref ac yn gyfoethog.
GWAELEDD HWFA MON.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GWAELEDD HWFA MON. Gofidia holl Gymru yn ddwys oblegid fod yr hybarch Archdderwydd, Hwfa Mon, yn gorwedd yn beryglus wael yn ei breswylfod yn y Rhyl. Tarawyd ef gan enyniad yr ysgyfaint, a phan gofir ei fod yn yr oedran mawr o bedwar-ugain- a phump, fe welir y rhaid fod ei sefyllfa yn gyfryw ag a bar bryder dirfawr. Er fod Hwfa Mon yn eithriadol gryf o gyfansoddiad, y mae yr ymosodiad hwn yn dreth drom iawn arno. Yr ydym newydd dderbyn brysneges o Lys Hwfa yn dywedyd, No improvement, no pains; very weak." Ond y mae y ffaith fod ex nerth yn dal cyhyd yn arwydd galonogol. Ym- holir yng nghylch ei sefyllfa gan lu mawr yn feunyddiol, a'r rhai hynny o bob gradd a dos- barth, ond nid oes neb yn cael myned i olwg y claf oddigerth y rhai a weinyddant arno. Mae y llythyrau a'r brysnegeseuau o gydymdeimlad a dderbynir bron yn afrifed. Profa hyn oil pa mor ddwfn yw yr Archdderwydd yn serch ei geneal, a pha mor angerddol y dymuniadau am iddo gael ei adfer.