Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Am Gymry Llundain. YR ARGLWYDD FAER.—Yn ol y trefniadau presenol, y Cymro — yr Henadur Vaughan Morgan--gaiff ei ethol yn Arglwydd Faer am y flwyddyn ddyfodol. Y CYMDEITHAsAu.-Mae tymhor y Cym- deithasau Llenyddol ar ddechreu, ac yn ystod .yr wythnos ddyfodol bydd dwy neu dair wedi agor eu drysau am y gauaf. JEWIN.—Un o'r Cymdeithasau mwyaf llew- yrchus yn ein mysg yw Cymdeithas Jewin, a nos Iau nesaf dechreuir y tymhor gyda gwledd o de, a gwyddis fod y gwyr lien bob amser yn hoffi cwpanaid. PREGETHu.-Caed cymanfa flynyddol Eglwys y Tabernacl yn ystod y Sul diweddaf, a daeth llawer ynghyd i'r gwahanol oedfeuon, a rhodd- wyd pregethau hirion iddynt fyfyrio am danynt hyd yr Hydref nesaf. Y pregethwyr eleni oedd- ent y Parchn. Owen Jones, Aberpennar, a J. L. Williams, Great Mersey Street, Liverpool. Y CENHADON.—Un o wyr ieuainc addawol yr enwad yw Mr. Williams, Lerpwl. Cafodd ddechreu ei yrfa yn chwareli Ffestiniog, ac oddi- yno aeth i astudio llyfrau yn Rhydychen, lie y graddiodd yn anrhydeddus. Dengys ei breg- ethau ei fod yn efrydydd sylwgar o'r natur ddynol hefyd, a diau y ceir ei glywed yn ami yn uchelwyliau ei enwad. Un o hen bileri'r Annibynwyr yw Mr. Jones, wedi gwasanaethu ei genedl a'i Dduw gyda ffyddlondeb am flyn- yddoedd lawer, a chaed yn y ddau gynrychiolaeth deg o'r newydd a'r hen ym mhwlpud y genedl heddyw. ———— DIOLCHGARWCH.—Caed cyfarfodydd Ilawnion yn Eglwys St. Benet yn ystod y Sabboth pan y cynhaliwyd y gwyliau arferol ynglyn a rhoddi diolchgarwch am y cynhauaf. Yr oedd yr adeilad wedi ei addurno yn weddaidd a blodau a ffrwythau, a golwg lewyrchus a ffrwythlon ar bob peth yn y lie. Pregethwyd yn y gwahanol wasanaethau gan Canon Williams, Tyddewi- gwr sydd yn fawr ei barch yn yr Eglwys, ac yn sefyll yn rheng flaenaf y cewri pwlpudaidd yn ein gwlad heddyw. Y CANU. — Yn ychwanegol at bregethau grymus yr oedd y cyfeillion yn St. Benet wedi trefnu gwasanaeth corawl addas i'r wyl, a chaed gwledd o'r fath oreu ganddynt. Mae'r organydd, Mr. J. E. Davies, yn abl i gael y goreu allan o aelodau ei gor, a phrofwyd hynny yn bur eglur nos Sul diweddaf. Y PARCH. PETER HUGHES GRIFFITHS.—Y mae yn llawenydd mawr i holl Gymry Llundain glywed fod y gwr parchedig ac anwyl uchod wedi dychwelyd yn ol i'w plith, ac wedi cael adferiad mor llwyr o'r afiechyd trwm a blin a'i dygodd mor agos i byrth y bedd. Edrycha yn rhagorol, a phregethodd y Sabboth diweddaf gyda grym ac eneiniad. Ond peidier a gyrru yn rhy galed arno am dipyn, a pheidied yntau a chodi treth rhy drom ar ei natur nes y bo wedi llawn gryf- hau. Nis gall Llundain fforddio gadael i ddyn fel Mr. Hughes Griffiths dorri i lawr. MARWOLAETH MRS. JONES, CITY ROAD.- Chwith iawn genym gofnodi marwolaeth Mrs. Jones, anwyl briod y Parch. Thomas Jones, City Road, yr hyn a gymerodd le yn rhyfeddol o annysgwyliadwy yn ei phreswylfod yn Almorah Road, Islington, dydd Gwener diweddaf. Yr oedd yn y capel nos Iau, ac i bob ymddang- osiad yn ei hiechyd arferol. Ond bore Gwener, tra gyda goruchwylion y ty, tarawyd hi yn wael iawn, a chyn pen dwy awr ehedodd ei hysbryd ymaith. Merch ydoedd i Mr. a Mrs. Edward Jones, Clapton. Mae cydymdeimlad cyffred- inol Cymry Llundain a'i phriod ac a'i holl berthynasau yn y brofedigaeth sydyn a llem iawn hon sydd wedi ei goddiweddyd. Cymerodd yr angladd le dydd Iau yng Nghladdfa Abney Park. Disgwyliwn y bydd genym ragor o fanylion erbyn ein rhifyn nesaf.

Y DYFODOL

Advertising

PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.

Advertising