Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Pobl a Phethau yng Nghymru.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Pobl a Phethau yng Nghymru. RHAID newid ein harwyddair cenedlaethol ar ol hyn. Y ni yw'r ysmygwyr mwyaf yn y deyrnas a barnu oddiwrth y ffigyrau swyddogol; felly, o hyn allan, boed i ni waeddi Cas gwr na charo'r wlad a'i 'baco r/ CWYNA Lloegr yn erbyn tramorwyr tylawd- aliens fel eu gelwir-ddygir i'r wlad hon, a chwyna un o offeiriaid Cymru yn erbyn yr "aliens" a ddygir i mewn i'r pwlpud Cymreig, pobl nas gallant bregethu gair o Gymraeg. MAE wyth mil o blant am ddysgu Cymraeg yn ysgolion Caerdydd, ond gwell gan yr un-mil- ar-ddeg eraill, lynu wrth y Saesneg. Dyddorol yw nodi mai'r ysgolion Eglwysig oeddent yn fwyaf pybyr dros gadw'r iaith Gymraeg yn fyw. DYWEDIR fod ymweliad Mr. Evan Roberts a Llandrindod wedi dwyn lies arianol i'r lie hwnnw. Pan glywyd fod y Diwygiwr yno aeth y torfeydd yn lluoedd ar ei ol, a thelid prisiau uchel am le a llety yn y gymydogaeth lie y lletyai Mr. Roberts. GOFIDUS gan lawer ydyw deall fod iechyd Mr. T. Gwynn Jones, Caernarfon, cadeirfardd Eisteddfod Cenedlaethol 1902, wedi torri i lawr am dymhor, ac o dan gynghor ei feddygon bwriada dreulio y gauaf dyfodol yn yr Aipht. Canlyniad gorlafur ydyw, ac y mae dan orfod i roddi i fynu am gyfnod amryw weithiau llen- yddol sydd ganddo mewn llaw. Y mae Maer Caernarfon wedi cychwyn mudiad i anrhegu Mr. Jones ar ei ymadawiad. Gyda llu mawr o'i gydwladwyr, eiddunwn i'r bardd mwyn a'r lienor coeth adferiad llwyr a buan. YM mysg y llyfrau a gyhoeddir yr Hydref gan Mri. Hodder Stoughton, y mae Theo- logical Encyclopaedia An Introduction to the Study of Theology," gan y Parch. E. O. Davies, B.Sc., gyda Rhagdraeth gan Principal Fairbairn. DANGOSODD boneddigesau y Bala na raid i foneddigion Meirion ofni ciniawa mewn pabell ddirwestol. Eleni cauwyd y ddiod feddwol allan o gae yr arddangosfa amaethyddol. Yn hyn yr oedd Meirion ar ol siroedd eraill, ond gwell hwyr na hwyrach. Yr oedd rhai yn bryderus iawn oherwydd fod ychydig o foneddigion yn dyfod i arddangosfa er mwyn cael ciniaw, ac yn arfer cael diod gyda'r ciniaw. Ond sicrheir na theim- lodd neb yr anghyfleusdra lleiaf oherwydd y cyfnewidiad. Yn wir, aeth llawer adref a'u pwrs yn llawnach a'u pen yn gliriach nag yr aethant o'r arddangosfa er's blynyddoedd. Gwnaeth bon- eddigesau y Bala eu rhan yn anrhydeddus.

flARWOLAETH MRS. JONES, CITY…

Y DYFODOL

PREGETHWYR Y SABBOTH ..NESAF.