Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
In ancient Wales rivers become gods, and were worshipped by the people. In modern Wales some rivers are turned into saints, and have churches dedicated to them. An illustra- tion is found in the name Llanbradach." There never has been a saint called Bradach. It is simply the name of a small tributary of the Rhymney. Years ago there stood a solitary homestead there called Glan Bradach, anglice Bradachside. Glan in composition changes into Lan," and some wise man believed that the latter was the same word as Llan," which from that moment was attached to the name of the river, converting it, of course, into a saint.
TO STOCK FARMERS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TO STOCK FARMERS. THE MATABELE REEFS AND ESTATES COMPANY, LIMITED. GWANDA RAILWAY SYNDICATE LIMITED. RHODESIA CONCESSIONS, LIMITED. The above Companies, owning about 900,000 acres of land in Matabeleland, Southern Rhodesia, are prepared to sell on advantageous terms to Settlers blocks of from 200 to 1,000 acres with a frontage to the railway traversing the Estates. There is no better land in South Africa for grazing and agriculture, and 70,000 acres being enclosed in a ring fence, the whole of the stock carried has been unaffected by the cattle diseases introduced into other parts of Rhodesia. At the present time 1,600 head of breeding cattle are carried Qn the land now offered for settlement, and Settlers will be allowed to select Breeding Stock from this healthy herd at reasonable prices. In addition to the pastoral facilities, the whole area (well watered throughout) includes large valleys of deep alluvial soil, suitable for the cultivation of specialized crops, including Cotton, Tobacco, &c., no less than for corn and other products of consumption on the farm. To the first batch of Settlers the Companies are prepared to sell blocks on terms so advan- tageous as to ensure a very satisfactory invest- ment of capital, and to render special assistance to such Settlers. It is believed that the district must ulti- mately become a populous and important centre, owing to the nature of the land and the proximity of numerous gold mines. Cottages will be erected and furnished, adjoining the Home-Farm, on the well-known Essexvale Estate, in order that Settlers may reside for a term rent free, previous to taking up land, an arrangement which will enable them to become thoroughly acquainted with the prospects and conditions of farming in Rhodesia before making any purchase. The Companies have arranged with Colonel Owen Thomas, a well-known English agricul- tural expert (Author of "The Agricultural and Pastoral Prospects of South Africa"), who has made an exhaustive study of South African Stock-raising, to advise the Companies in the development and settlement of their landed estates in Rhodesia. Under his direction a pamphlet is being issued which gives full par- ticulars of this land, Stock, and other matters of importance to the Settlers, together with a general outline of the Companies' land develop- ment scheme. This brochure which cannot fail to interest any practical farmer, will be forwarded free of cost on application to The Secretary, THE MATEBELE REEFS AND ESTATES COMPANY, LIMITED, 3, Copthall Buildings, LONDON, E.C,
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
a defnydd gormodol o'r gair "enfysau" hwyrach ond ar y cyfan mae ei iaith yn lan, a'i Gymraeg yn llednais. Dyma ymgais at rywbeth allan o'r ffordd eto :— Cewri oeddynt ar y ddaear yn y dyddiau cynar hynny, Ond mae'r cewri yn y ddaear erbyn hyn," &c. Fel y dywedais eisoes, y mae meddyliau tor- eithiog a chryfion yn hon, ac ergydion byw ar hyd-ddi Pan aiff enaid ar gyfeiliorn pwy all draethu maint y golled ? Dyma ddifrod rhaid i'r meddwl droi yn ol heb ei amgyffred Pan y crwydrai'r eneth yma drwy y llaid ar wallgof antur ?Roedd barddoniaeth ei hemynau'n haenau dyfnion yn ei natur. Fel daeth Miriam ar ol Moses i roi can i genedl y-ig, Daeth Ann Griffiths ar ol Williams gyda'i thelyn gyssegredig; Teimlent rym yr un cymhellion gweini wnaent i'r un genhadaeth, Tynent ddyfroedd mewn llawenydd o ffynhonau'r lachawdwriaeth. A chyfeiria at annibyniaeth awen yr Emyn- yddes Ffordd y mynai'r Ysbryd, crwydro wmi ei hawen ar ei hynt, Gan wneyd llwybr iddi eu hunan gan dyneru llais ygwynt, Torri'i lwybrau heb gardota am gydsyniad neb wnaiff mawredd, Ond eiddilwch geir yn chwilio am ganllawiau yn ddiddiwedd. Fel hyn y can Cymru Newydd o hyd ymron gyda meddylgarwch a newydd-deb. Y mae egwydd- orion bywyd Ann Griffiths wedi eu cyffwrdd o un i un, a'i hanes wedi ei ganu o gam i gam heb orfanylu, ond y bardd yn trin prif linellau ei gyrfa. Yn sicr nid bardd cyffredin yw hwn. Mab y Salm.-Nerth yw nodwedd benaf y gerdd hon-nerth meddwl. Yn wir, rhyferthwy gwyllt o feddyliau yw'r cyfansoddiad hwn, ac yn nghanol y cwbl dyrysir ni ymron ambell dro. Methwn a gweld y dolenau, a pha fodd y mae'r naill syniad yn cydio yn y llall; a beth sydd yn arwain y bardd o'r fan hon i'r fan acw, &c. Y mae naturioldeb llifeiriol Rossetti a Cymru Newydd ar goll yn y bryddest hon. Can y bardd yn dywyll a chymysglyd weithiau, a'r ffigyrau ymhell ac yn anaturiol. Ond deuwn yn ol ati eilwaith, yn cael ein hud-ddenu gan y meddyliau llachar sydd yn cael eu hafradu ar bob llaw. Gallasai'r ymgeisydd wneyd mwy o ddefnydd o hanes Ann Griffiths a chadw yn nes ato; dewisodd ef yn hytrach lamu o fan i fan ar ei hot, ac aros mewn rhai lleoedd gyda hi. Mae'r oil mewn cyfeiriadau ganddo :— Nid yw'r ddawns ond 11am llawenydd ar gyfeiliorn nid yw'r mwyniant Namyn rhinwedd wedi colli'r llwybr gloyw i ogoniant. Hawdd gwneyd telyn aur i Uriel: telyn Ann sy'n costio'n ddrud- Myrdd ochneidiau'n troi yn ganu yw pob emyn ddaw i'r byd. Deuai iaith y ddeddf at Moses dros y mynydd mewn taranau, Deuai iaith y ddeddf at Dafydd dros y delyn mewn emynau. Mae yn dyner yn ei awgrym am Ann Griffiths yn ei hymdrech i buro'r ardal ar ol ei dych- weliad ei hun :— Sancteiddrwydd fin hwyr yn Llanwddyn yn troi i gyfeddach y gwin, Fel angel yn troi i Sodom it gair o bell ar ei fin Yr yspryd a sobrodd y Sassiwn yn dechreu sobri y fan, A Satan yn ofni codi ei ben yn ymyl Ann. Yr Emynyddes yn gweddio :— Ber yw ei stori gan gymaint sydd ganddi i'w ddweyd wrth Dduw, Mae iaith ar ei min yn marw, a gweddi'n ei bron yn fyw; Ochenaid ddaw hyd y wefus, un ddyfnach yn methu dod Ochneidiau anrhaethadwy sy'n fud dan bwys eu clod I Dduw. Gwna Mab y Salm gryn lawer o gyfeiriadau at ddarlun Ann Griffiths-yr un tybygol dychmygol geir yn nghapel Dolanog erbyn hyn, a dwed fod y darlun ar fur cyssegr ei fywyd yntau, &c. Sonia am ei fam hefyd yn troi dalenau y llyfr hymnau ar benhillion Ann Griffiths,-ac ol ei Haw ar y dail:— Beth yw pris y gyfrol fechan ? holer pris fy nghalon i: Bydd tynerweh yn y farchnad ar y dydd y gwerthaf hi. Wrth gwrs, nid yw hwn yn ddifrychau mwy na'r pedwar arall. Y mae yn ansicr o ffurfiau iaith ar adegau Sawl can a ganodd hi yn nghan ei hun? Nid yw gramadeg yr ymadrodd yn gywir. Ti, fudan dwys na chlywaist lais dy hun Yn nghor y cyssegr, yr wyt ti yn un O'r dorf a geni yn nghaniadau hon, Os cadd ei hysbryd lety yn dy fron. Y mae dau wall yn y pedair llinell hyn. Y blaenaf yn nodweddiadol o lafar gwlad yn y De: ond na chlywaist dy lais dy hun" a olygir. O'r dorf a gan yw meddwl y prydydd yn y drydedd linell, ac anodd deall sut y llithrodd i geni. Mae hefyd dermau geirwon ganddo weithiau :—"Pan yn marwor mellt yn gwlychu i bwyntil," &c. Mae son am "farwor mellt" yn eithafol, a mwy byth i wlychu pwyntil yn y marwor. Draw yn nhesni pell winllanoedd nef y cenfydd Rosyn Saron, Gwywodd holl rosynau daear wedi i hwnw fynd a'i chalon; Nid yw'n teimlo'r peraroglau heb eu cael o'r gwledydd draw, Ni chaiff undyn gwrdd a'i thelyn heb ol hoelion yn ei law. Dyma Rosyn Saron mewn gwinllanoedd. Dyma deimlo peraroglau, a dyma hefyd syniad garw braidd yn y llinell olaf-fel petai'n bosibl bod mwy nag un Person" ag ol hoelion yn ei law." Y syniad sydd gan y bardd yn ddios yw na chaiff undyn ond y Gwr sydd ag ol yr hoelion arno gwrdd a'i thelyn-hawdd fuasai dweyd hyn yn fwy llednais. O'r ochr arall y mae teleidion lawer yn y cyfansoddiad yn gorbwyso meflau man hwnt ac yma; a chwpledau meddylgar sydd yn bachu ynom ac yn aros gyda ni ar ol gorffen darllen y gerdd. Anodd yw gwybod ymhle i ddechreu difynu, na pha ddarnau i'w pigo allan. Gellir gwneyd ar antur ymron A trugaredd nid cyfiawnder i Dduw gostia'n fwyaf drud, Rhad yw'r llechau ddeil y Ddeddf: tra'r drugaredd- fa'n aur i gyd. Dyma gyfeiriad at blentyn bach yr Emynyddes hiraethus :— Ei bychan aeth ffwrdd heb ffarwelio a neb, yn byth- efnos oed, A magwyd ef yn Ngwynfa heb weled y byd erioed Marw mor gynar," meddai. "A oedd yn werth, fy Nuw, It ddysgu fy mhlentyn i farw cyn iddo ddysgu byw ? Sut na wnaethost ef yn angel gan mai y nef oedd ei Ie, Dim ond pythefnos o ddaear a thragwyddoldeb o ne' Gallsai'r corfanau fod yn fwy hylithr ac esmwyth yn y darn, ond mae tynerwch anwyl ei lond. Mae ffansi y bardd yn aros ac ymdroi gydag hen fwthyn Dolwar Fach gryn lawer hefyd Fwthyn bach y Ddolwar unig yn ymguddio yn y Cwm, Pam y galwn di yn fychan? pam y galwn di yn 11 wm ? Bu goludoedd awen loyw yn dy adeiladu di, Mae goludoedd per adgofion yn gofalu am dy fri Y mae awen yn addoli pan yn nesu at y lie,— Pan yn nesu at y Ddolwar 'rwyf yn nesu at y ne', Nid yw'r ffordd ymhell o'r bwthyn; y mae'n hawddach byw yn bur Wedi gweld y ty, a gweled Hun Ann Griffiths ar y mur. Fel hyn yn gryf a chywir y can Mab y Salm Iaith lied gyffredin, ac arddull gyffredin sydd ganddo, ond awen gref, dychymyg hyf, a meddwl llawn o newydd-deb treiddgar. Mae'n bosibl fod mwy o naturioldeb yn Rossetti a Chymru Newydd, ond yn hwn y mae'r nerth, ac iddo ef dyfernir coron ac anrhydedd 1905. GWYLFA.