Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
PICTURES. PICTURES. FT PICTURES, NOFT. » PICTURES. GAUOY H°USE' IPICTURTS. S i large, Varied, and Choice Collection at LOWEST PRICES.
Pobl a Phethau yng Nghymru.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Pobl a Phethau yng Nghymru. YR ydym yn ddiolchgar i Gymro Lerpwl am iddo yn ei erthygl fywgraffyddol o'r diweddar Hwfa Mon ddyfynu mor helaeth ac mor gywir o erthygl ar y gwr parchedig a ymddangosodd yng NGHYMRO LLUNDAIN ym mis Awst. Ond buasem yn fwy diolchgar iddo pe buasai yn ddigon anrhydeddus i gydnabod y ffynonell. NID yw ewyllys Hwfa Mon wedi ei chyhoeddi eto, wrth gwrs ond credir y bydd i'w gadeiriau a'i dlysau fynd i'r Greirfa Gymreig, a'i lyfrau i lyfrgell un o'r tri choleg cenedlaethol. Dywedir ei fod wedi amlygu dymuniad am i Syr Marchant Williams, yr hwn oedd yn hen gyfaill iddo, gael y fodrwy aur a dderbyniodd yn anrheg yn yr America. NI fedrodd rhywrai aros i weddillion yr Archdderwydd druan, gael eu daearu cyn rhuthro i ysgrifenu i'r wasg i ddadlu hawliau hwn a'r llall i fod yn olynydd iddo. Dywedir fod un ymgeisydd (!) yn brysur yn canfasio y frawdol- iaeth orseddol ddiwrnod yr angladd. Dylai y ffaith honno, os yw yn ffaith, fod yn ddigon i gadw hwnnwallan o'r swydd, hyd yn nod pe bai ynddo ryw gymwysderau i'w llenwi. A phwy a fedd hawl i ddywedyd na chymerai y prifardd Dyfed mo'r swydd pe cynygid hi iddo ? Mae'r stori hon yn debyg i freuddwyd gwrach yn ol ei Z, 'hwyllys. PWY sydd yn ysgrifenu y nodiadau ynghylch y cedyrn Cymreig sy'n cwympo i newyddiaduron dyddiol Llundain, tybed? Maent yn llawn o anghywirdeb, ac yn dangos na wyr yr ysgrifen- wyr fawr iawn o hanes y personau yr ysgrifenant yn eu cylch. Bu helynt lied wyllt yng Nghyfarfod Cyngor Sir Gaernarfon yr wythnos ddiweddaf. Anfon- asai y Bwrdd Addysg yn Llundain lythyr yn achwyn ar Bwyllgor Addysg y Sir, ond dangos- odd ysgrifenydd y Pwyllgor mai cwynion disail hollol oeddynt. 0 leiaf barnodd mwyafrif dir- fawr o'r Cynghor felly, a rhoisant y Ilythyr i'r Pwyllgor Addysg i wneyd ag ef yr hyn a farnant oreu, I
Am Gymry Llundain.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
J. Lucretia Jones a Mr. Morgan Jones. Hefyd, arlwywyd cyflawnder o ddanteithion rhoddedig gan Mr. a Mrs. Jones, Whitecross Street. Da genym gael ar ddeall i lawer wneyd ardystiad ar ddiwedd y cyfarfod. Gobeithiwn yn fawr ei fod wedi bod yn foddion i wneyd yr achos dir- westol yn llawer mwy poblogaidd yn ein plith. WALHAM GREEN.—Nos Fercher, Tachwedd Isfed, cynhaliwyd cyfarfod ynglyn a'r Gym- deithas Ddiwylliadol, pan y darllenwyd papur gan Mr. Ben Evans, ar y testyn, Gofal am y Gydwybod." Papur galluog ydoedd, ac ynddo gynghorion rhagorol i bobl ieuainc. Amcan Z, Mr. Evans, yn benaf, oedd dangos i'r aelodau fod cadw heddwch a'r gydwybod yn hanfodol i wir ddedwyddwch, a'r pwysigrwydd i'r ieuenc- tyd i beidio gwneyd dim fyddo yn drosedd yn erbyn purdeb eu cydwybod. Siaradwyd gan y Mri. D. Jones, Robert Jones, J. P. Gomer Jones ac eraill. Diolchwyd yn gynes i Mr. Evans am ei bapur da ac amserol.—AELOD. DEWI SANT.—Nos Fawrth, y 14eg cyfisol, yn yr ystafell dan yr Eglwys, o dan lywyddiaeth y caplan, Parch. W. Richards, cafwyd dadl alluog ac adeiladol (yn Saesneg) ynglyn a Chymdeithas Lenyddol y lie hwn, ar y testyn, "Should underfed children be fed by the State ? Cy- merwyd yr ochr gadarnhaol gan Mr. J. G. Lloyd, a'r ochr nacaol gan Mr. Edward Owen. Gan fod pwnc yr ymdrafodaeth yn un mor amserol, cymerwyd rhan ynddi gan liaws o aelodau y Gymdeithas, ond pan ranodd y ty, cafwyd fod mwyafrif y pleidleisiau o ochr y nacaol. W ALTHAMsTow.Nos Iau, y 9fed cyfisol, o flaen y Gymdeithas Ddiwylliadol, darllenwyd papur ardderchog gan Mr. J. O. Davies, ar Dafydd Dafis, Rhydycymerau." Yr oedd 61 llafur mawr ac ymchwiliad manwl ar y papyr, a hyfryd oedd gwrandaw ar hanes un o hen gymeriadau neillduol fel y pregethwr hwn. Hyderwn y cawn ragor o bapurau fel hyn yn y dyfodol agos. DARLITH.—Disgwylir y daw llawer o Gymry Llundain i wrandaw ar Mr. David Davies, Plas Llandinam, yn traddodi darlith ddarlun- iadol ar Japan," nos Iau y 30am o'r mis hwn, yng Nghapel Jewin Newydd. Ceir tocynau gan Mr. J. O. Davies, 28, College Road. Waltham- stow. YR OPERA A'R BEIRNIAID.-Nid oedd disgwyl y buasai'r papurau Seisnig yn rhoddi derbyniad parod i'r opera Gymreig a chwareuid yr wythnos ddiweddaf yn y Coronet Theatre, am mai gwaith dau Gymro ydyw. Ond ar y cyfan mae'r critics yn Iled awgrymu fod y gwaith yn dra addawol. Lie mae un gwr yn beio'r bardd y mae arall yn ei ganmol, ac os gwelir un papyr yn rhedeg ar gyfansoddwr y gerddoriaeth fe geir un arall yn rhoddi gair da iddo. Dyma'r prawf goreu fod y gwaith yn Iled dda, sef fod y gwyr doeth hyn yn taflu gwawdiaeth ar y cyfan. Wrth gwrs, pe bai'r gwaith wedi dod o'r Almaen, byddai'r beirniaid papuryddol yn ei glodfori hyd y nen. WILLESDEN GREEN.—Y mae yn mwriad cyfeillion y lie hwn i gael nodachfa, er dileu y ddyled bresenol sydd ar yr eglwys, mor fuan ag y gellir cwblhau y trefniadau angenrheidiol ar gyfer hynny. Disgwylir cydweithrediad calonog yr eglwysi Cymreig er sicrhau llwydd- iant y mudiad, gan fod yr eglwys ieuanc hon yn parhau i lwyddo. Bydd raid, yn y dyfodol agos, gwynebu ar y cyfrifoldeb o adeiladu addoldy newydd.
Am Gymry Llundain.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYNGHERDD.—Fe welir oddiwrth ein colofnau hysbysiadol fod cyngherdd mawreddog yn cael ei gynal yn Neuadd Capel Castle Street ar nos Sadwrn, 2fed o Rhagfyr. Mae "artistes" o'r radd flaenaf wedi eu sicrhau, a disgwylir y daw Cymry Llundain yno yn gryf i fwynhau gwledd o gerddoriaeth. MR. KELT EDWARDS.—Rhoddir arddangosfa arbenig gan yr arlunydd hwn yn ystod yr wythnos nesaf yn y Dering Gallery, 67a, New Bond Street, ac mae gwahoddiad cynes i bob Cymro dalu ymweliad a'r lie. Mae ganddo ddarluniau rhagorol o rai o fanau tlysaf yr hen wlad, ac yn sicr bydd sicrhau rhai o honynt yn ychwanegu at addurn ein cartrefi. Gellir eu gweled unrhyw ddiwrnod o'r 25am o'r mis hwn hyd Rhagfyr 9fed, o 9.30 y boreu hyd 6.30 yn yr hwyr. RADNOR STREET. — Rywfodd neu gilydd llwydda'r brodyr yn Radnor Street i wneyd eu cwrdd te blynyddol yn hynod o lwyddianus, ac nid oedd yr un a gaed nos Iau yr wythnos ddiweddaf yn eithriad i'r rheol. Daeth mwy na llond y capel ynghyd, a rhoed croesaw calonog iddynt o gylch y bwrdd te gan y gwragedd siriol oeddent wedi gwneyd y trefniadau, a 'doedd pall ar y moethau a'r caredigrwydd a ddangosid tuag at bawb. Y CYNGHERDD.—Yn y cyngherdd a ddilynodd y te caed gwasanaeth parod y cantorion enwog a ganlyn:- Miss Margaret Lewys, Madame Eleanor Jones-Hudson, Mr. Maldwyn Evans, Mr. Spencer Thomas, a Mr. Idris Jenkins. Gwasanaethwyd ar y berdoneg gan Mr. D. Richards, y Tabernacl, a chadeiriwyd, yn absenoldeb Mr. Goodenough, gan y Parch J. Machreth Rees. Nid oes angen canmol y can- torion yr oeddent oil yn rhagorol, a bu raid i amryw o honynt ail-ganu, er meithed y rhaglen. DIFYRWCH."—Dyma fel yr ysgrifena Mr. T. J. Evans ynglyn a'r ddarlith a gaed ar y testyn uchod yn Wilton Square nos Wener diweddaf Yr oedd yn flin genyf ddeall oddiwrth eglurhad y Parch. G. H. Havard yn eich rhifyn diweddaf mai'r Gymdeithas Ddiwylliadol oedd wedi trefnu'r ddarlith ar "Ddifyrwch" yn y lie uchod ar yr un noson ag yr oedd yr Undeb wedi gosod y ddarlith gan yr Athro J. Morris Jones yn King's Cross. Pan wnaed y trefniadau ynglyn a darlith yr Undeb yr oedd cynrychiolwyr Cymdeithas Wilton Square yn bresenol. Deallasant fod Cymdeithas Charing Cross, y rhai oeddent wedi bwriadu sicrhau naill ai'r Prifathro Prys neu'r Parch. Barrow Williams am y noson, wedi rhoddi'r cyfan heibio er mwyn yr Undeb, eto wele Wilton Square yn cael math o ddifyrwch drwy fanteisio ar y cyfle o gael darlith ysgafn am bris ysgafn pan oedd y gwahanol Gymdeithasau wedi myned i'r gost a'r drafferth o gael un o'r Cymry goreu i'n haddysgu a'n dyrchafu. Yn sicr nid rhyw ddifyrwch i'w edmygu yw hyn yna. Yr eiddoch, &c., T. J. EVANS. CHARING CROSS.—Ddydd Sul diweddaf caed y cyfarfodydd pregethu blynyddol ynglyn a'r eglwys hon, ac yr oedd y cynulliadau yn an- arferol o luosog. Gallesid llanw yr adeilad ddwywaith trosodd yn odfa'r nos, a chaed traddodiadau a hir gofir gan y Parch. Barrow Williams a'r Athro Prys. Yr oedd pregeth y Prifathro prydnawn Sul-er mai yn Saesneg ydoedd-yn un o'r pethau goreu a gaed eto yn y capel hwn. MR. SPENCER THOMAS.—Dyma gerddor y rhaid i ni fel Cymry wylio ei gamrau. Medda ar lais hynod o swynol, ac er nad yw ond megys yn dechreu ar yrfa golegol y mae eisoes wedi gwneyd ei nod yn ein plith. Ar ol cael diwylliant y Coleg Brenhinol, ac ychydig ymarfer ar y llwyfan yn Llundain, mae'r Uanc hwn o ardal y Rhondda yn sicr o dynu'r clod i'w ran, a dwyn bri ar gerddorion ein cenedl hefyd. Pob llwydd iddo. DARLITH YR UNDEB. — Nos Wener yr wythnos ddiweddaf rhoddwyd y ddarlith gyntaf, o'r gyfres arbenig am y tymhor, o dan nawdd Undeb y Cymdeithasau Diwylliadol yn King's Cross. Er fod yr hin yn oer, ac amryw gyfarfodydd ereill wedi eu trefnu ar yr un noson. caed cynulliad llawn, a lied gynrychiadol o'r gwahanol Gymdeithasau. Llywyddwyd yn absenoldeb Mr. Ellis J. Griffith, gan yr aelod poblogaidd tros Arfon, Mr. William Jones, ac yn bresenol yn y cyfarfod gwelsom y Parchn. P. H. Griffiths, B. Arberth Evans, J. Machreth Rees, Edward Owen, a D. C. f ones y Boro, Mr. W. Llewelyn Williams, Mr. Arthur Roberts, &c. YR ATHRO.—Dyma'r tro cyntaf i'r Athro J. Morris Jones anerch torf o Gymry ieuainc yn y ddinas. Dewisodd yn destyn hanes "Edmund Prys a Beirdd ei Oes." Y rheswm am hyn meddai, oedd am fod Edmund Prys yn sefyll mewn lie pwysig yn hanes yr iaith Gymraeg, ac yn fath o ddechreu cyfnod newydd yn ei hanes. Caed hanesion dyddorol am gydoeswyr yr Archddiacon o Feirionydd a dyfyniadau lawer i ddangos mor gyfoethog oedd cynyrchion yr hen ffeiriaid oedd yn byw yn yr amser hwnw. Yn ei fanylder hanesyddol yr oedd yr Athro yn taflu aml i fflach o oleu newydd ar weithiau y cyfnod a phrin y cytunai am rai o'r hen hanesion am y beirdd offeiriadol gynt eu bod yn offeiriaid o gwbl. Gwell ganddo ef oedd eu cyfrif yn feirdd yn ngwir ystyr y gair, ac fod i'r bardd ei le a'i grefft yn y cyfnod hwnw. Y DARLITHIAU EREILL.—Deallwn fod yr Undeb wedi trefnu i gael gwyr enwog ereill i draethu ar wahanol agweddau o'r bywyd llen- yddol. Yn fuan ceir ymweliad oddiwrth Mr. Henry Jones, Glasgow, ac yna dilynir yntau gan y Prifathraw Roberts, o Goleg Aberystwyth, ac yn olaf ceir anerchiad ar Fywyd Gwleidyddol y Cymry gan Mr. Ellis J. Griffith, y llywydd am y flwyddyn.