Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

MARWOLAETH Y PARCH. N. CYNHAFAL…

Y DYFODOL

PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.

Advertising

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

cyhoeddai y ddarlith hon ar ffurf llyfr, a'i werthu am swllt y copi, y cawsai ddigon o Gymry gwladgarol yn Llundain yn unig i'w brynu mewn trefn i gario y cynllun allan. Siaradwyd yn mhellach ar y testyn gan Mri. D. Evans, Edward Owen, J. Evans Hughes, ac eraill, a diolchwyd yn gynhes i'r darlithydd am ei ddar- lith ddyddorol. YSGOL SUL GYMRAEG EALING.—Cynhaliwyd y Cyfarfod Amrywiaethol cyntaf mewn cysylltiad a'r ganghen ysgol hon nos Fercher, Rhagfyr 13eg, yn Swift's Assembly Rooms, High Street, Ealing, lie y cynhelir yr ysgol bob Sul am 3 o'r gloch. Yn absenoldeb Mr. Samuel Jones, West Ealing, llywyddwyd yn ddeheuig gan Mr. H. Parker Rees, yr hwn sydd bob amser yn barod i wneyd unrhyw beth er llwyddiant yr achos Cymraeg yn y rhan hon o'r ddinas. Daeth lluaws ynghyd, a synwyd y Pwyllgor gan y dyddordeb a gymerwyd, nid yn unig gan aelodau yr ysgol, ond eraill trwy ei presenoldeb, ac ni chawsant eu siomi. Hwn ydoedd y cyfar- fod cyntaf o'r fath yn y lie hwn, ac mae llwyddiant y cyfarfodydd sydd i ddilyn yn ystod y tymhor yn barod wedi ei sicrhau. Darparwyd gwledd o de a coffee" a bara brith gan y chwiorydd ieuainc perthynol i'r ysgol ar eu traul eu hun. Maent yn teilyngu pob canmoliaeth. Anaml y gwelir y fath frwdfrydedd mewn un- rhyw Ie ag sydd yn cael ei arddangos yn y ganghen fechan hon, gan bob aelod yn ddi- wahan. Heblaw y danteithion cafwyd gwledd hefyd. mewn canu ac adrodd. Cymerwyd rhan yn y gerddoriaeth gan Miss Roberts (Madeley Road), Miss Roberts (Clovelly Road), Miss Williams (Kenilworth Road), Miss Lewis, a Miss Thompson (Southall), Mr. Clifford Evans (yr arolygwr gweithgar), a Mr. Evan Hughes. Adroddwyd gan Miss Burbrook, Master Clifford Evans, a Master Gwilym Hughes. Chwareu- wyd ar y berdoneg gan Miss Lily Niblock a Master Leo Edwards. Wedi canu Hen Wlad fy Nhadau" aeth pawb i'w cartrefleoedd wedi eu llwyr foddhau. Rhoddir croesaw cynhes i'r holl Gymry yn Ealing a'r gymydogaeth i'r cyfarfodydd hyn, y rhai a gynhelir yr ail Fercher yn y mvs, he.b anghofio yr Ysgol Sul.-E. H. WALHAM GREEN.—Nos Fercher, Rhag. iseg, cynhaliwyd cyfarfod y Gymdeithas Ddiwylliadol, Parch. D. E. Jenkins, Dinbych, yn llywyddu, pan y darllenwyd papur rhagorol gan Mr. Timothy Davies, C.S.Ll., ar Cymry a'r Ddeddf Addysg." Rhoddodd Mr. Davies hanes da a chynwysfawr am addysg yn Nghymru yn y gorphenol, a chyfeiriodd yn neillduol at ddiffygion Deddf Addysg 1902. Mae Mr. Davies yn credu yn gryf y gwnaiff y Llywodraeth Ryddfrydig ei goreu i'w gwella, er mwyn cario allan ddymuniadau yr Ymneilldu- wyr. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan y Llywydd, ac Mri. Thomas, "Idris," Gomer Jones, a Teify Lloyd. A diolchwyd am bapur mor amserol. Yr ydym yn mawr obeithio y bydd pob Cymro a Chymraes yn Ftilham a'r gymydogaeth yn dod allan fel un gwr i weithio dros Mr. Davies yn yr Etholiad Seneddol sydd yn awr mor agos. Bydd ef yn sicr o wneyd ei oreu yn y Senedd dros y mesurau mae Cymru wedi rhoddi ei bryd ar eu cael. Dyma gyfleus- dra iawn i'r Cymry Fyddion (rhai o honynt sydd mor hoff o siarad) i wneyd gwaith syl- weddol dros eu gwlad a'u cenedl, i weithio yn galed hyd Ionawr Isfed dros Gymro teilwng o'r hen wlad anwyl. WALTHAMSTOW. — Trwy ryw amryfusedd gadawyd enw Mr. Eddie Evans, City Road, allan yn y rhifyn blaenorol o'r LONDON WELSH- MAN. Drwg genym am hyn. Mae Mr. Evans yn barod bob amser i gynorthwyo yr eglwys yn

Am Gymry Llundain.