Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

-----Gohebiaethau.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gohebiaethau. [Nid ydym mewn un modd yn gyfrifol am syniadau ein gwahanol ohebwyr. 1 Y GENHADAETH. At Olygyddy LONDON WELSHMAN." MR. GOL.-Da genym am garedigrwydd Mrs. Price mewn cyfraniad, a dwyn y mater i sylw. Y mae y mater yn barhaus yn cael ei ddwyn i sylw ein cenedl, a llawer o anfanteision cenhadol nas gwyr yr eglwysi a'n cenedl am danynt. Amryw yn rhoddi eu gwasanaeth yn rhad, a rhoddion distaw nad ydynt am ysgrif nac argraff. Y mae y caledi yn fwy nag y tybia llawer ym mhlith ein cydgenedl, ac ar adeg o'r flwyddyn sydd yn rhoddi cyfleusdra i ddangos dymuniadau da, y maent yn gyd- genedl, ac o bosibl y cawn weled ychydig o ffrwyth y Diwygiad yn y cyfeiriad hwn. Drwg genym am waeledd Mr. Williams yr ydys yn ceisio cadw y cyfarfodydd ym m]aen. Cofier am y cenhadon a thlodi cydgenedl. Gyda diolch i'r WELSHMAN am y parodrwydd bob amser yn y cyfeiriad hwn. i, Swaton Road, Bow. MAELOR.

THE WELSH PARTY AND DISESTABLISHMENT.

THE WELSH MUSEUM.

Y DYFODOL

PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.

Advertising