Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Am Gymry Llundain. DIWF.DD BLWYDDYN.—Gweddus ini ar derfyn blwyddyn arall yw diolch am ffyddlondeb ein cyfeillion, a boed iddynt yn y dyfodol wneyd y golofn hon mor ddyddorol ac mor gyffredinol ag sydd bosibl. Y GWYLIAU.—Addefir yn gyffredinol na chaed y fath dywydd ffafriol i'r Nadolig ers blwyddi maith. Bu masnach ar ei goreu, ac nid rhyfedd i'n darllenwyr gael Nadolig hapus eleni. YN Y WLAD.—Gymaint oedd y tyrru tua'r Hen vVlad ddeuddydd cyn y Nadolig! Ni welwyd trens Cymru mor llawn ers talm yn cychwyn o'r gorsafoedd Llundeinig, a da genym ddeall fod y tywydd a'r teithio wedi bod yn ddymunol dros ben. EiN CYFARFODYDD.—Gan fod y Sul yn rhan o'r gwyliau nid syndod oedd gweled y cynull- iadau mor deneu yn y gwahanol eglwysi. Yr oedd y bobl ieuainc wedi cilio, ond arhosai y teuluoedd yn bur gryno yn y dref. CARTREF ODDI CARTREF."—Mae'r cyrddau hyn wedi dod yn ffasiynol bellach ar adeg y Nadolig. Ar un adeg nid oedd y fath gwrdd yn unman ond yn Jewin. Erbyn hyn y mae pob cynulleidfa bron yn cadw ei chartref oddi cartref rr bobl ieuainc ar adeg yr wyl flynyddol hon. YN JEWIN.— Gan mai yn Jewin y dechreuodd y mudiad priodol yw sylwi ar y cynulliad a gaed yno nos Nadolig. Daeth torf fawr ynghyd, a chaed cwrdd a digon o hwyl ynddo. Rhoed danteithion a the yno ar y dechreu, ac roedd y wedd gymdeithasol yn ddigon amlwg, ond pe baem i feirniadu carem weled mwy o'r wedd hon yn parhau trwy y cyfarfod. Yr oedd y cyfan yn rhy ffurfiol, heb gyfleusterau i bobl ddod i deimlo mai mewn "cartref" oeddent. Nid eisieu cyngherdd sydd ar bobl adeg y Nadolig. CHARING CROSS.—Caed cynulliad mawr yn y lie hwn, a daeth torf o gystadleuwyr yno hefyd i ymgeisio ar y gwahanol ddarnau cystadleuol. Math o eisteddfod fechan gaed yma, ac roedd y nodwedd gartrefol yn absenol o'r He. KING'S CROSS.—Daeth rhyw gant o bobl ieuainc ynghyd i'r lie hwn, a threuliwyd noson hapus i wledda ac i ymgomio ond yma eto trowyd y cynulliad ar y terfyn i fath o gyngherdd adloniadol, gan y tybid feallai fod chwareuon y Nadolig yn bethau nas dylid eu cynal mewn ystafell perthynol i addoldy. Ond ar adeg y Nadolig rhaid rhoddi'r flaenoriaeth i lawenydd a difyrwch diniwed. CLAPHAM JUNCTION, ac amryw leoedd ereill. —Yr un yw'r gwyn a glywir. Cyngherddau hapus ddigon, ond fod rhy fach o'r wedd gym- deithasol yn bodoli. I ugeiniau o bobl dyma'r adeg y cant ychydig gyfleusterau i ymgomio a difyru eu hunain ag adgofion am yr Hen Wlad, a dylid ar bob cyfrif roddi cyfleusterau i hynny. BOXING NIGHT.-Caed eisteddfod pur Iwydd- ianus ar y Boxing Night. Yr oedd y cynulliad yn fawr, ond nid tan reolaeth mor fedrus ag yn y blynyddoedd o'r blaen. Yr unig frwdfrydedd gwirioneddol gaed yno oedd pan y traddododd Mr. Howell J. Williams ei araeth amserol, ac yn llawn o'r tan Cymreig hefyd. RHAGOR 0 YMARFER.—" Mae defnyddiau llais da gan y gwr hwn," meddai Mr. Christmas Williams pan yn beirniadu un o'r unawdwyr, ond y mae eisieu mwy o ymarfer arno, ac yna fe ddaw yn lleisiwr gwych." John Humphreys oedd y cystadleuwr, a phan gofiwn fod "John wedi cael dros chwarter canrif o "ymarfer" ar y llwyfan y mae gobaith y daw i'w gyflawn nerth o hyn i ben can mlynedd. Nid rhyfedd i John waeddi allan Too late, wir PARCH. SILYN ROBERTS.—Beirniad craff yw Silyn, ac roedd yn llawen gan ei hen gyfeillion ei weled mor sionc ar ol ei gyfnewidiad deublyg —trwy briodi a newid ei faes bugeiliol. Yr oedd yn llawdrwm iawn ar Gymraeg y newydd- iaduron ac yn beio'r golygwyr yn ddidrugaredd am ddefnyddio geiriau Seisnig a dwyn i fewn briod-ddulliau'r Sais i'n hysgrifau Cymreig. Hwyrach fod gormod o wir yn hyn, ond mae'n debyg mai talu'r hen bwyth oedd Silyn i wyr y wasg, oherwydd dyna yw cwyn y bodau hyny ers talm yn erbyn preswylwyr y pwlpud. Y COR MAWR.—Yr oedd yn bur hwyr cyn i'r brif gystadleuaeth gorawl gael ymddangos ar y llwyfan nos Fawrth diweddaf. Nid teg hyn a'r nifer cystadleuwyr, oherwydd y mae amryw o'n cantorion yn gorfod myned i'w llety cyn un-ar- ddeg o'r gloch. Trefniant gwael yw cadw y fath gystadleuaeth hyd yn hwyr ac anhegwch hefyd a'r gwahanol gorau. CAN MR. GWILYM ROLANDS.—Talodd Mr. Christmas Williams deyrnged uchel o barch i gan newydd Mr. Gwilym Rolands, Mae fy Nghariad yn Hwylio," yr hon oedd darn cystadleuol y pedwarawd yn eisteddfod Boxing Night. Da genym weled Gwilym yn dod allan fel cyfansoddwr, a boed i'w haul ddisgleirio yn y cyfeiriad hwn. EISTEDDFOD ARALL.-Gwelwn fol pobl City Road yn amcanu cael eisteddfod fawr ar yr 8fed o fis Mawrth nesaf. Y mae'r rhaglen eisoes wedi dod o'r wasg ac yn cynwys nifer o destynau tra deniadol. Gellir cael y manylion ond ym- ofyn a'r ysgrifenyddion, Mr. Eddie Evans a Mr. Ebenezer Hughes, 16, Warham Road, Holloway. LLWYDDIANT. — Ym mysg enwau y rhai llwyddianus yn arholiadau Coleg y Drindod mewn chwareu ar y berdoneg, &c., da genym weled enw Miss J. Lucretia Jones, 68, White- cross Street, E.C. Y mae Miss Jones yn bur adnabyddus ar lwyfanau ein cyrddau cystadleuol yn y ddinas, ac wedi cipio llawer gwobr o bryd i bryd. Un o efrydwyr Mrs. D. R. Hughes ydyw Miss Jones. Dymunwn iddi bob llwydd- iant yn y dyfodol. Hi oedd yn fuddugol am chwareu'r berdoneg yn y Memorial Hall nos Fawrth ddiweadaf. BARRETT'S GROVE.—Nos Sul, yr 17eg cy- fisol, oedd y cyfle diweddaf i Mrs. Rowlands, gweddw y diweddar Barch. R. Rowlands, gael bod gyda'r cyfeillion yn Barrett's Grove cyn ei hymadawiad i Gymru, a chymerwyd mantais ar y cyfle i gyflwyno iddi anerchiad goreuredig yn datgan gofid y brodyr a'r chwiorydd yn yr eghyys o'i cholli. Cyflwynwyd yr anerchiad—oedd wedi ei arwyddo gan y gweinidog a'r diaconiaid -an Mr. E. Price. Cyflwynwyd hefyd bar o wydrau aur ar ran y cyfeillion yn yr eglwys gan Mrs. Williams, Allen Road, a mynnodd y genethod oedd yn nosbarth Mrs. Rowlands yn yr Ysgol Sul hefyd gael datgan eu gwerth- fawrogiad o ffyddlondeb a gofal eu hathraw mewn rhodd gyfhvynwyd gan Miss Jesse Williams. Cydnabyddwyd y rhoddion yn gynes gan Mrs. Rowlands ei hunan, ac er na fu llawer o siarad da oedd bod yno i weled ffydd- londeb,' rhinwedd go brin yn ein heglwysi, yn cael ei gydnabod. Eiddunwn bob cysur i Mrs. Rowlands yn ei chartref newydd. SHIRLAND ROAD.-Fel yn y capelau ereill, caed cyfarfod hynod 0 ddyddan a hapus yn y lie hwn ar nos Nadolig. Buwyd yn gartrefol ddigon ar y dechreu i gydfwynhau y te a'r moethau oeddent wedi eu paratoi, a threuliwyd gweddill y noson mewn canu ac adrodd a chystadleuaethau difyr. Llywyddwyd yn dde- heuig gan Mr. R. J. Lloyd, y cyfreithiwr poblog- aidd, a barn pawb oedd eu bod wedi treulio nos Nadolig hynod o gysurus a chartrefol. I Z--), CENHADAETH SILVER STREET (DWYRAIN).— Dydd Mawrth diweddaf caed cyfarfod tra phwysig yn Silver Street mewn cyssylltiad a dosbarth y chwiorydd. Daeth nifer dda at eu gilydd i wledd ardderchog —rhoddedig gan Miss Rees (Stepney Green) a'i mham garedig. Mawr oedd y dysgwyliadau, ond siomwyd hwy tu hwnt i'r cyfan. Nid oedd prinder yn y darpariadau, a mawr oedd y canmol ar y caredigrwydd a ddangoswyd. Ar ol gorphen ag angenrheidiau y corph, aethpwyd at y gwaith o ranu y gwisgoedd y bu y merched am rai misoedd yn eu paratoi, dan arolygiaeth y ddwy chwaer ieuanc weithgar a charedig, Miss Rees a Miss James (0 dan nawdd Cymdeithas Ddirwestol y Chwiorydd, Llundain). Hawdd oedd gweled a deall wrth yr hyn oedd wedi eu casglu at eu gilydd fod yr aelodau wedi bod yn gyson yn ystod yr amser. Derbyniodd rhai amryw o wisgoedcl, ac eraill lai ) n ol eu cysondeb yn y cyrddau. Ar ol y rhanu gymeryd lie,

Advertising

Notes of the Week.