Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

EISTEDDFOD BOXING NIGHT.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EISTEDDFOD BOXING NIGHT. Cynulliad Mawr yn y Memorial Hall. Cor Jewin yn Enill. Er hylled yr enw, y mae Eisteddfod y Boxing Night wedi dod yn deitl blynyddol gan Gymry Llundain. Gall y pwyllgor foddloni ar yr enw syml cyfarfod cystadleuol, a gall llenorion coeth fel y Parch. Silyn Roberts gystwyo'r papurau am argraffu'r fath gyfuniad, waeth hyny na rhagor, rhaid i'r Llundeiniwr cyffredin alw'r hen sefydliad yn Eisteddfod Boxing Night. Hen sefydliad ddywedasom ? Wei, y mae yn mynd yn mhell iawn yn ol i'r ganrif o'r blaen, a does dim wedi dal ati gyda mwy o gyndyn- rwydd na'r cwrdd cystadleuol h wn ar adeg y Nadolig, o dan nawdd yr Ysgolion Methodist- aidd yn ein mysg. Bu'r cynulliadau yn boblog- aidd iawn yn nechreu yr 8o's, ac 'roedd mynd ar y gweithrediadau. Ond yn ddiweddar, nid yw'r safon wedi bod yn rhyw uchel iawn, nac wedi apelio yn rhyw gyffredin ar y cylchoedd Cym- reig o'r tuallan i'r Ysgolion Methodistaidd. Er hyny, y mae gwell llewyrch ar y cynulliadau yn y Memorial Hall nac yn yr hen neuadd yn Shoreditch, ac os pery'r cynydd amlwg sydd wedi bod y tair blynedd diweddaf hyn gellir yn hawdd brophwydo fod dyfodol gwych i'r hen wyl eto. Yr oedd y cynulliad eleni yn fwy nag. a welwyd er's talwm, a thystia hyny i boblogrwydd yr eisteddfod, ond er fod y neuadd yn llawn, a rhai o'r cystadleuaethau yn dra dyddorol, nid oedd y safon yr hyn a welwyd ar y llwyfan hon yn y blynyddoedd o'r blaen. Yn wir, bu raid i'r beirniad cerddorol fwy nag unwaith ddatgan mai cerddorion lied sal oedd yn ymddangos o'i flaen y tro hwn. Llywyddwyd y cynulliad eleni gan y bonedd- wr ieuanc poblogaidd, Mr. Howell J. Williain, C.S. LI. yr, hwn yn ei araeth o'r gadair a roddodd gyweirnod hapus i'r cwrdd. Gan mai esteddfod oedd hon, meddai, o dan nawdd yr Ysgol Sul, priodol oedd datgan ein dyled i'r ddau sefydliad Cymreig hyn a'r mawr les oedd wedi deilliaw i'n gwlad trwy eu cenhadaeth yn y blynyddoedd a fu. Prophwydai rhai fod dyddiau yr eistedd- fod wedi myned heibio, ac mai peth i'r oes o'r blaen oedd yr Ysgol Sul yn unig, ond credai ef mai megys dechreu ar eu gyrfa oeddent, ac y gellir disgwyl llawer iawn oddiwrthynt yn yr oesau i ddod, ond eu datblygu ar linellau priodol a'u cyfaddasu at anghenrheidiau y to ieuainc sydd yn codi. Onid yr Ysgol Sul fu'n gryd i'n cenedl i'w chychwyn ar ei gyrfa addysgol ragorol, ac er wedi enill cynllun addysgol o'r radd oreu, eto gwaeddai ein harweinwyr am ragor, a thra yr oedd yr awyddfryd yma yn bodoli, hawdd oedd gweled mai megys dechreu byw ein cenhadaeth oaddem fel cenedl. Yr oedd y cenhedloedd Celtaidd eisoes wedi ffurfio rhan helaeth yn ffurfiad yr Ymherodraeth Brydeinig, ac er ei fod wedi teithio dros foroedd lawer i bellafoedd y byd, ni chafodd yr un ddinas na sefydliad o bwys nad oedd rhyw Gymro, neu Ysgotyn, neu Wyddel yn brif reol- wyr arnynt. A chan ein bod wedi gwneud llawer dros Brydain yn y gorphenol, nid oeddem yn disgwyl llai na chael un o'n meibion glewaf i'n cynrychioli yn mhrif gynghor y llywodraeth fel ag a gaed yn ddiweddar yn nyrchafiad Mr. Lloyd George. Yr oedd ein hysgolion a'n hathrofeydd yn troi allan wyr glew bob blwyddyn, a phriodolai ef eu llwyddiant yn y byd o'r tuallan i ddylanwad yr Ysgol Sul a'r eisteddfod, ac ar ol etifeddu'r fath freintiau, yr oedd yn ddyledswydd arnom i wneyd y goreu o honynt, a'u cadw yn dalgryf fel ag i'w trosglwyddo ar eu gwell i'r oes sydd i ddod. Y Cystadleuaethau. Yr adran gerddorol oedd yn cael y flaenor- iaeth yn y cyfarfod yn naturiol, a bu'r pwyllgor yn ddigon ffodus i sicrhau Mr. D. Christmas Williams, Merthyr, i glorianu'r cystadleuwyr yn yr adran hon. Gwnaeth ei waith yn rhagorol hefyd, ac er ei fod yn llawdrwm weithiau ar rai o'r lleiswyr, eto yr oedd ei wersi yn rhai y dylid eu dysgu gan ein hymgeiswyr profiadol. Cafodd yr adran lenyddol wr llawn mor gelfydd yn eu dosparth hwythau, ac nid oedd y Parch. R. Silyn Roberts yn llai tirion ar y gramadegwyr afler a'r sillebwyr gwael, heb son am y rhai oeddent yn arfer priodebion y Sais er ceisio egluro eu meddwl i'r Cymro uniaith. Clorian- wyd yr areithwyr gan y Parch. Arberth Evans, y map gan Mr. R. T. Owen, a gofalwyd am y cyfeiliant gan Mr. Gwilym Rolands. Yr arweinydd oedd Mr. T. H. Davies, a gofalodd Mr. J. O. Davies am y trefniadau ysgrifenyddol fel arfer. Cystadleuodd tair ar yr unawd ar y Berdoneg, ac enillwyd gan Miss Jennie Lucretia Jones, Jewin Newydd. Unawd contralto, Tad yr Amddifad." Goreu allan o dair, Miss Thomas, Morley Hall. Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg, ac o'r Gymraeg i'r Saesneg, enillwyd y ddwy wobr gan Mr. Tom Jenkins, Battersea, yr hwn gyda'i haelioni arferol a gyflwynodd y pres yn ol i drysorfa'r Undeb. Nid rhyfedd fod Tom yn boblogaidd gan y dorf. Deuawd, Tenor a Bass, "The Fishermen." Ni ddaeth ond dau barti yn mlaen, a chystwy- wyd hwy yn drwm gan y beirniad am beidio dysgu'r darn. Fel math o galondid i'r ddau oedd oreu, neu yn hytrach yn well na gwael, rhoddodd iddynt ran o'r wobr. Mr. J. Humphreys a'i nai oedd y rhai hyn. Adroddiad i blant. Tair merch yn cystadlu, a chystadleuaeth ragorol oedd hefyd. Y goreu oedd Miss Cassie Myfanwy Jones, New Jewin. Rhoddodd y cadeirydd wobr arbenig i'r ddwy fechan arall am eu hymdrechion rhagorol. Unawd Tenor. Mr. J. Humphreys, Barrett's Grove. Cystadleuaeth i barti o ddeuddeg. Goreu, Jewin, o dan arweiniad Mr. Thomas, Morley Hall. Unawd dan 16 oed. Miss Lalla Thomas, Morley Hall, a datganiad rhagorol oedd hefyd. Chwedl Gymraeg. Goreu, Mrs. Tibbott, Charing Cross. Unawd Soprano. Miss Thomas, Morley Hall. Adroddiad. Mr. Owen Thomas, Charing Cross. Can ddesgrifiadol o Hen Seiadau Cymru. Mr. R. G. Evans, Hammersmith. Y Map goreu. Mr. James, Hampstead. Tiaethawd i rai dan 21 oed. Mr. H. Jones, Holloway, ac enillwyd y prif draethawd gan Mr. Morgan Owen, Shirland Road, yr hwn nid ymddangosodd ar y llwyfan. Unawd Baritone. Mr. Hughes, City Road. Pedwarawd. Parti Morley Hail. Y brif gystadleuaeth gorawl. Daeth dau gor ymlaen, sef cor Jewin a chor Falmouth Road, a chanasant yn wir dda, ond y goreu o ychydig oedd cor New Jewin. Terfynwyd y cynulliad gyda'r diolchiadau arferol i'r cadeirydd am ei araeth a'i lywyddiaeth, ac ymadawyd ar ol canu Hen Wlad fy Nhadau."

Pobl a Phethau yng Nghymru.

[No title]

Advertising

Am Gymry Llundain.