Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

THE SQUIRE OF LLANDINAM'S…

."TRIO GYMRY LLUNDAIN YN YMGEISWYR…

CYMRU A'R ETHOLIAD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMRU A'R ETHOLIAD. i -4- MAE Arglwydd Faer Caerdydd—yr Henadur. Robert Hughes wedi troi clust fyddar at bob l cais a dderbyniodd i ddod allan fel ymgeisydd. Dywed; ei fod am ymgadw o bob ymryson politicaidd, gartief ac oddicaftref, yn ystod blwyddyn ei faeroliaeth, er. mwyn gwneud hytriy o wasanaeth a all i Gymry 0 bob plaid. Chware'teg iddov wir. :f •, } GWRTHWVNEBYDD Mr. William Jones yn Arfori yw Mr. Arthur Hughes, brawd y diw- eddar Dr. Alfred Hughes a aeth yn aberth i'r haint tra allan yn yr Yspytty Cymreig yn Neheubarth Affrica yn' amser y rhyfel. Hanna Mr. Hughes -1 o'r tylwyth yr oedd Robert Roberts, Clynnog, a Michael Roberts, Pwllheli, yn addurniadau mor ddisglaer iddo. RHODDODD Mr. Lloyd George rai cyfarfodydd politicaidd heibio rhag gosod unrhyw rwystr ar ffordd y cyfarfodydd Diwygiadpl a gynhelid gan Mr. Evan Roberts yn y sir., Yri awr mae Cyngor yr Eglwysi Rhyddion a'r Diwygiwr wedi penderfynu gohirio y rhelyw o'r cyfar- fodydd Diwygiadol a drefnasid- ,'oblegid yr etholiad. Tebyg y bydd rhywrai yn galw peth fel hyn yn dalu'r echwyn adre'. BRWYDR galed fydd ym Mwrdeisdrefi b'fiifit cydrhwng Mr. Howell Idris a Mr. Eldon Bankes. Mae teulu Mr. Bankes wedi' byw yng nghymydogaeth y Wyddgrug am dair cenhedL- aeth, ac y mae yntau ei hun yn siaradwr medrus ac yn ymladdwr pybyr. A gwr felly yw Mr. Idris hefyd. UN o. golofnau crynon yr Undebwyr yng Ngogledd Cymru am flynyddoedd fu Arglwydd Raglaw sir Gaernarfon. Ond gryfed yw ym- lyniad y gwr wrth Fasnach Rydd fel y mae y tro'yma yn cefnogi Mr. Lloyd George, ac y mae wedi addaw bod yn gadeirydd ei gyfarfod ym Mhwllheli yr wythnos nesaf. Mae dylanwad yr Arglwydd Raglaw yn sicr o fod yn allu pwysig ym mhlaid Llywydd Bwrdd Masnach. MEWN tair o etholaethau Cymru a Mynwy y ceir ymdrechfa daironglog-Casnewydd, Caer- dydd, a Rhanbarth Gwyr. Ymgeiswyr Llafur yw y trydeddau yng Nghasnewydd a Gwyr, a Radical yw y trydydd yng Nghaerdydd. Oherwydd hyn gall ymgeisydd lleiafrif yn y tair etholaeth yma gael ei ddychwelyd. SONIR yr wythnos hon fod rhywun yn dod allan i wrthwynebu Mabon yng Nghwm Rhondda serch iddo- gael mwyafrif o wyth mil a hanner yn yr etholiad diweddaf. Os felly y bydd, nis gellir dweyd fod gwroldeb, heb son am feiddgarwch, wedi diflanu o'r tir. AETH canfasiwr i ryw dy un o'r dyddiau diweddaf i ofyn am bleidlais y penteulu. Y wraig a welodd, ac ar ol iddo ddweyd ei neges dyma'r ateb a gafodd Nid yw fy ngwr yn ymyraeth fawr mewn pethau fel hyn, ond bydd iddo osod y mater 0 flaen yr Arglwydd mewn gweddi, ac fe fotia os cyfarwyddir ef i wneyd hynny, ond ni fotia byth dros ——

Advertising

Welshmen Known in London.-XI.…