Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Am Gymry Llundain. Y DECHREU.—Dyma ddechreu blwyddyn arall. Boed iddi ddod yn llwythog o fendithion i'n darllenwyr oil. TREM YN OL.—Wrth ganu ffarwel i 1905 byddai'n ddyddorol i bob un o honom ymholi beth fu'r cynydd yn ei thymhor. Bu ein cyfleusderau yn lliosog, ond a wnaethom bawb y defnydd priodol o honynt er lies ein cydwladwyr a dyrchafiad ein cymeriad cenedlaethol. CYFFR-O GWLF.IDYDDOL. — I )dydd Llun 'nesaf dechreuir ar yr ornest fawr etholiadol. Mae'r tywydd yn anff^friol i'r rhai sy'n gweithio ynglyn a'r etholiadau, ond mor bell ag y mae a fyno a masnach feallai fod canol Ionawr mor gyfleus ag unrhyw dymhor gauafol. GWYLIO'R DDEDFRYD.—Bydd yr ornest yn sicr o fod yn eithriadol o chwerw. Mae'r ddwy- blaid ar eu heithaf yn ceisio denu'r etholwr, ond ofnwn mai'r blaid arianog ga'r clod wedi'r cyfan gan werin anwybodus gwlad y Sais. Yng Nghymru mae argoelion y ca'r pleidwyr cenedl- aethol a Rhyddfrydol yr oruchafiaeth yn llwyr. LLAWENHAU.—Bwriada Cymry'r ddinas roddi gwledd groesawiadol i'r tri aelod sydd wedi eu hanrhydeddu a safleoedd yn y Weinyddiaeth, a gwneir y trefniadau yn gyilawn mor fuan ag y cilia y berw etholiadol ddiwedd y mis hwn. COFIO 1905.-Dywed un o'n gohebwyr y bydd coffa am 1905 fel y flwyddyn y sefydlwyd Clwb Cymraeg yn y ddinas ac y bu farw'r Cymru Fyddion trwy orfwyta ar ddydd Gwyl Dewi. Ond hwyrach mai nid wedi marw y maent eithr cael him ar ol cinio. DILYN EI GVFAILL.-Mae Mr. Herbert Lewis yn dilyn yr un camrau a gerddodd y diweddar Tom Ellis. Yn ol pob tebyg bydd yr un ystafell ag oedd gan Ellis at ei wasanaeth yn y Ty, a gobeithio ei gwelir cyn hir wedi dringo i fod yn brif chwip y blaid. BODDLONI'R ENWADAU.—-I rai sy'n hoff o waeddi enwad ar ol pob peth mae'n siriol meddwl fod C. B. wedi gofalu am bob sect Gymreig. Cynrychiola Mr. Lloyd-George y Baptist, Mr. Herbert Lewis y Methodist, a Mr. M'Kenna yr Annibynwyr. Trueni na cheid Wesle mewn rhyw gornel o'r blaid eto PLA'R CARDIAu.Roedd cardiau'r Nadolig a'r Calan yn fwy lliosog y tymhor hwn nag erioed yn ol pob hanes. Daeth amryw ugeiniau i'r swyddfa hon oddiwrth gyfeillion y papur, ac er wedi eu hargraffu'n arbenig yr oedd yn syn- dod ac yn ofid i ni weled nad oedd y Gymraeg yn cael fawr o sylw gan neb. Y Cyr, ARCHIADAU.-Rhyfedd mor ystrydebol yw y rhai hyn wedi mynd. 'Does dim newydd- deb ynglyn a'r un o honynt, a'r unig gysur yw fod yr enwau a'r cyfeiriadau yn newid rhyw ychydig. Paham nas gailem ni Gymry ddech- reu cyfnod newydd yn hyn o beth, a dwyn ambell i bennill o'n hen feirdd i mewn weithiau. Al DIFFYG DEFNYDDIAU ?—Ond ai diffyg defnyddiau at y pwrpas yw'r rheswm ? Nid yw'r beirdd Cymreig wedi canu ond y nesaf peth i ddim ar y gwyliau hyn. Wrth gwrs, mae'r carolau a molawdau Mair yn lleng, ond i'r cyffredin o gyfarchiadau ni fyddant yn addas o gwbl. UN ESIAMPL DDA.-Ond wele esiampl ragorol yng ngherdyn y bardd a'r Cymmrodor Finsent. Mae'n werth ei ail-adrodd :— NADOLtG Wedi blwyddyn o ofalon, Wedi cwrdd a stormydd geirwon Fe ddaw tangnef gwynfydedig f Ar adenydd Dydd Nadolig. Y CALAN Dyma ngwaedd, a dyma ngweddi, 0 fy nghalon i fy Ngheli,— I'r cyfaill hoff sy'n anwyl gen' i Byd o loniant boed eleni Cyda phob dymuniad da, oddiwrth Vincent Evans. 0 LANAU'R TAWELFOR.—Boreu Nadolig daeth cerdyn tlws o San Diego, dinas ar lanau'r Tawelfor, yr ochr draw i'r'Merica, yn cyhoeddi llongyfarchiad i'm hen gyfeillion yn Llundain oddiwrth Evan Griffiths, Chelsea." Da genym glywed fed Mr. Griffiths yn mwynhau tywydd hafaidd yn y wlad bell ac yn gwella yn rhagorol o'i anhwyldeb maith. Disgwyliwn ef yn ol yr haf nesaf wedi cael llwyr adferiad. LLENYDDIAETH.—Addawa'r bardd-bregethwr Elfed gyfres o lyfrau ar y Diwygiad, a chy- Z, hoeddir hwy yn swyddfa'r Cymro, Lerpwl. Daw y gyntaf allan yn ystod yr wythnos nesaf. AWGRYM I'R CVMRY FYDDION.—Os digwydd i'r Gymdeithas hon ddadcbru mewn pryd i gynhal cinio ddydd Gwyl Dewi, ac yn awyddus i gael rhyw "wr enwog i fod yn guest, paham nas gwahoddir Teddy Morgan, y gwr a enillodd ornest y bel-droed i'r Cymry ? Yr ydym wedi cael Gwyddel ac Ysgotyn, a gwr o Gernyw, heb son am arglwyddi a duciaid, a byddai'n newid i gael rhyw fath o Gymro am unwaith. BORo.-Dydd Anrhegion Flychau (Boxing Day) diweddaf cafodd Cymdeithas Lenyddol y Boro gyfarfodydd llwyddianus. Yn y prydnawn am dri, dan lywyddiaeth y llenor a'r hynaf- iaethydd galluog, Mr. T. W. Hancock, traddododd y llywydd ei ddarlith flynyddol ar "Y Flwyddyn." Hon oedd y bymthegfed ddarlith flynyddol iddo yng ngwyl Alban Arthan yn y Boro. Am bump eisteddodd ugeiniau wrth y byrddau i yfed te dan lywydd- iaeth y foneddiges haelfrydig, Mrs. Morgan, 26, Newcomen-street, yn cael ei chynnorthwyo gan Misses Katie Jenkins, Kate Llywarch, Lizzie Hodges, Jennie Jones, A.R.C.M., Annie Williams, Jennie M. Jones, M. E. Davies, Winnie Evans, E. A. Pritchard, Mary Llywarch, Eda a Daisy John, Mary Edwards, Mrs. Trewhela, Mrs. D. C. Davies, ac eraill. Caf- wyd ymgomwest fuddiol hyd saith o'r gloch. Am saith cafwyd cyfarfod amrywiaethol dan lywyddiaeth y Parch. D. C. Jones. Cymerwyd rhan yn y gweithrediadau gan Misses Marie Evans, Gwladys Jenkins, Hannah Evans, Jennie Jones, Daisy John, M. E. Davies, Mrs. Ellis Richards, Mri. Trevor Evans, Evie Jenkins, Owen Evans, Gwilym ap Tomos, E. D. Morgan, Harry Watkins, Campbell-Jones, D. Lewis Jones, J. Edward Jones, Gwilym Thomas, W. O. Roberts, Hugh Watkins, D. Csesar Davies, W. R. Watkins, D. Cardigan Pritchard, William Jones, John Lewis, John Islwyn Lewis, a J. Lloyd Davies. Yr oedd pob un o honynt yn rhagorol. Cafwyd un o'r cyfarfodydd goreu. Cafwyd afalau, aur-afalau, gellaig, cnau, gwin- rawn, a ffrwythau eraill. Ar y diwedd rhoddwyd digonedd 0 luniaeth i bawb. Mae clod mawr yn ddyledus i Mrs. Morgan a'r boneddigesau a'r boneddigion ieuainc oeddynt yn ei chyn- northwyo am gael y fath gyfarfod llwyddianus. Nos Fercher diweddaf traddododd Mr. D. Tyssilian Jones, cadeirydd y Gymdeithas, ddarlith odidog ar Ficer Pritchard." Deallwn fod rhaglen eisteddfod flynyddol y Gymdeithas allan. Ewch rhagoch.—J. D. YR WYTHNOS WEDDI. — Ar ddechreu blwyddyn, yn ol yr arfer, y mae amryw o'r eglwysi Cymreig yn cynal cyfarfodydd gweddi bob nos, ac mae'r cynulliadau eleni yn fwy nag erioed. Hawdd canfod fod ychydig o ffrwyth y Diwygiad wedi syrthio ar ein hachosion cref- yddol yn Llundain hefyd. GWLEDD I BLANT.Ers blynyddau bellach mae plant eglwys y Tabernacl wedi cael noson arbenig y nos Sadwrn cyntaf yn y flwyddyn newydd. Anrhegir hwy a llyfrau a theganau o bob math, a chant gryn hwyl wrth gludo'r trysorau i'w cartrefi. Un Mrs. Davies, Breck- nock Villa, Holloway, oedd yn rhoddi'r wledd gynt, a phan fu farw rai blynyddau yn ol yr oedd ei hoffder o'r plant gymaint fel y gadawodd gymunrodd arbenig i'r eglwys er cadw yr arferiad yn mlaen tra bydd y Cymry yn addoli yn y lie.

Advertising

Notes of the Week.