Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

MARWOLAETH MR. ROBERT DAVIES,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MARWOLAETH MR. ROBERT DAVIES, BODLONDEB. Bydd yn ddrwg gan filoedd glywed am farwolaeth Mr. Robert Davies, Bodlondeb, ger Bangor, yr hyn a gymerodd le am bedwar o'r gloch boreu dydd Gwener. Y mae ei glod fel gwr haelionus ar daen ar hyd y wlad. Helpodd achosion da yma a thraw, a bydd yn golled ddirfawr i dlodion siroedd Caernarfon a Mon. Ganwyd Mr. Davies yn y flwyddyn 1816, ac yr oedd yn fab i Mr. R. Davies, Llangefni. Cadwai y tad fasnachdy lie y gwerthid pob peth o'r bron, a ffynai masnach yno. Yn raddol, darfu i John, y mab hynaf, ddadblygu masnach coed yn Mhorthaethwy. Arweiniodd hyn i brynu llongau; ac yn y diwedd aeth son am fasnach coed a llongau Davies y Borth." Athrylith fasnachol y teulu oedd y Mr. John Davies hwn, a bu farw bum' mlynedd a deugain yn ol. Fel y llwyddai y fasnach, fe werthodd Mr. Richard Davies yr hynaf y fasnach yn Llan- gefni, a chafodd ei phrynu gan y diweddar Mr. Charles Pierce, yr hwn a fu yn Faer Bangor. Oddeutu yr adeg yma, darfu i'r ffirm godi ffowndri yn Nghaernarfon, ac wedi hynny fe'i gwerthwyd i'r Mri. H. Owen a'r Mab. Ar y pryd yr oedd y boneddwr ymadawedig sydd yn destyn hyn o sylwadau yn cyfyngu ei hun at y fasnach yma Bu Mr. Robert Davies yn bartner yn y cwmni llongau a elwid Hughes and Co. a pherchenogent ar un adeg ddeg ar hugain o longau hwylio mawrion. Yn ychwanegol at hyn yr oedd yn bartner yn y fasnach coed sydd yn awr yn dwyn yr enw William Roberts and Co., Limited," ond a adnabyddid gynt fel "R. and R. Davies." Yr oedd hefyd yn berchenog etifeddiaeth fawr ym Mon, a chyd-berchenog a'i frawd, y diweddar Mr. Richard Davies, yr Arglwydd-Raglaw, ac ar un adeg a fu yn aelod seneddol dros Fon, mewn etifeddiaeth fawr arall, a honno hefyd yn Sir Fon. Meddai eto etifeddiaeth fawr yn Sir Dublin. 0 ran ei gredo crefyddol Methodist Calfinaidd oedd y diweddar foneddwr. 1'r enwad yma cyfranodd filoedd o bunau. Fel yr ennillai yr arian yn rhwydd, felly yn rhwydd y cyfranai. Rhoddodd filoedd lawer o bunau at Gymdeithas Genhadol y Methodistiaid Calfinaidd; talodd ddyled llu o gapelau; cyfranodd at helpu achosion crefyddol mewn gwahanol fanau; a phwy sydd yn gwybod faint a roddodd yn ddistaw i helpu hwn a'r Hall ? Hysbys i dlodion Mon ac Arfon am ei haelioni; canys unwaith yn yr wythnos gwelid tyrfaoedd o'r ddwy sir yn cyrchu at ei balasdy i gael blawd. Bydd bendith y tlodion hyn ar ei ben. Meddai y boneddwr amryw agweddau rhyfedd ar ei gymeriad mewn llawer modd yr oedd yn wahanol i ddynion yn gyffredin Gwr dibriod ydoedd, syml ei arferion ac er ei holl gyfoeth mawr, nid ymhyfrydai efe mewn moethau. Yr oedd yn Ynad Heddwch ym Mon ac. Arfon. Efe oedd Uchel Sirydd Sir Fon yn y flwyddyn 1862

MARWOLAETH Y CANON D. WALTER…

[No title]

Advertising

Am Gymry Llundain.