Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Gohebiaethau.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gohebiaethau. [Nid ydym mewn un modd yn gyfrifol am syniadau ein gwahanol phebwyr." COFGOLOFN LLEWELYN. At Olygydd y "LONDON WELSHMAN." ANWYL SVR,-Cof genych yn ddiau i mi anfon gair attoch rai wythnosau yn ol yn nghylch y casgliad wnaed rai blynyddoedd yn ol yn mhlith Cymry Llundain-at y symudiad uchod, a pha beth ydoedd wedi digwydd i'r arian a fwriwyd i'r drysorfa. Diamheu genyf hefyd eich bod yn cofio na chefais unrhyw fath o eglurhad—mewn gwirionedd, ni wnaeth neb ond Glan Menai un sylw o'r peth. Ni fuaswn yn cyfeirio at y mater drachefn oni bai i mi, yn ddamweiniol, ddyfod ar draws y nodiad canlynol mewn copi o'r London Kelt am Tachwedd 14eg, 1896, a dyma fe, air am air Bu llawer yn prophwydo mai methiant a fyddai y Gronfa er codi cof-golofn i Llewelyn ein llyw ola', ond y mae Cymry Llundain, yn dihuno, a dywedir y ceir yn agos i gan punt o'r brifddinas cyn- y terfynir. Bydd rhaid cau y gronfa cyn bo hir, a chan hyny taer gymhellir ein gwladgarwyr, o bob plaid a chred, i anfon eu tanysgrifiadau yn union at yr ysgrifenydd-Mr. Arthur Griffith, 112, Gower Street." Dichon fod rhywun neu rywrai allant roddi gwybod pa faint o arian a gasglwyd, a pha beth ddaeth o honynt; o'r hyn lleiaf gall y cyfaill a enwir uchod roddi cyfrif o'r oruchwyliaeth mor belied ag yr oedd ef yn dal cysylltiad o'r mudiad. a Yr eiddoch, gyda dymuniadau goreu am "Flwyddyn Newydd Dda," GLYNDWR.

CYMRU FYDD.

MR. TIMOTHY DAVIES AND FULHAM.

Advertising

SEFYLLFA YR ENWADAU YNG NGHYMRU.

ST. DAVID'S EVE SERVICES.

Football Chat.

[No title]