Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

Y LLOFFT FACH; YN YR HON Y…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y LLOFFT FACH; YN YR HON Y CAWN GWMNI'R PERERINION. 1, ¿.t' l Gan y Parch. D. RHAGFYR JONES, Treorci, r V PENOD VII. Y LI offt Each" yn son am Ramant Dinah. Tybed nad oes gan bob dyn a dynes eu rhamant mewn bywyd, pe ceid gafael arno- y'mha un y maent wedi bod yn arwyr megis heb yn wybod iddynt eu hunain yn sicr, heb yn wybod i'r byd y maent yn byw ynddo. Ffrwyth sylwadaeth haner can' mlynedd sydd wedi peri i mi gredu peth felly oblegid adwaenwn ber- sonau, byw a marw, a gyfarfyddasant a digwydd- iadau mor anghyjfredin ag oeddynt hwy eu hunain o gyffredin-digwyddiadau a redent eu bysedd dros y tanau tyneraf o delyn eu natur yn benaf, megis y galon a'r dychymyg-y rhai, pe gwybyddid hwy, ac yr ysgrifenid hwy bob yn un ac un, a ddiorseddent lawer breuddwyd gwag sydd yn myn'd dan yr enw chwedel,, a barent fod astudiaeth o'r natur ddynol yn d'od yn beth mwy cyffredin a phroffidiol, ac a ddygent adref yn fwy byw i bob mynwes nerth y wireb sydd yn datgan fod ffaith yn rhyfeddach na ffug." Beth bynag, i dd'od yn nes adref, yr oedd i fy hen ffrynd Dinah ei rhamant wedi bod. Ond odid nad yw'r darllcnydd yn cofio imi addaw croniclo'r hanes; eithr nid heb beth petrusder yr ymgymeraf a'r gorchwyl, oherwydd amryw resymau. Yn gyntaf oil, mae arnaf ofn taw dim ond i Dinah a minau y mae yn rhamant, ac yr ymddengys i arall yn hanes digon tila. Heblaw hyny, mae'n bosibl i'r gyfaredd sydd ynddo i mi ddianc wedi ei ddwyn i oleuni, a'i wneud yn feddiant cyhoeddus, nes ei fod i minan hefyd yn damed llwm a diogoniant yr hyn ni fynwn ar un cyfrif. A pheth arall, o dan ddylanwad ryw nwyd frwdfrydig ar y pryd, mi a'i gelwais "y gwin goreu yn hanes Dinah erbyn hyn, buasai yn dda genyf pe wedi tewi son, a 'does dim eisiau i mi ddweyd paham. Ond y mae'n rhy ddiweddar i dynu'n ol, ac nid yw funud yn rhy gynar i wasgu 'mlaen. Pan oedd Dinnh yn ferch ieuanc, nid oedd ei harddach a'i hoewach yn yr holl wlad. Clyw- ais rai o'r hen gonos tua'r un oedran a hi yn dweyd laweroedd o weithiau cyn eu symud i'r byd mawr, fod son am dani y'mhell ac yn agos, a taw yn ei henw hi y byddai pob crwt yn tyngu pan y gwnai ei Iw ar rywbeth pwysicach na'i gilydd. Fel pe bai hyny yn gwella pethau. Ond mae'n hawdd genyf gredu eu tystiolaeth, oblegid mae'r olion yn aros o hyd. Er ei bod wedi gweled agos i bedwar scor o flynyddoedd, heriaf y plwy' i ddangos ei gwisgiach a'i syber- wach. Yr oedd cryn ymorol am ei llaw y pryd hwnw, a chaffai amryw gynygion rhagorol mewn ystyr fydol; ond ni fynai Dinah roi ei llaw ond lie gallai roi ei chalon. Gallasai wneud yn waeth na derbyn cynyg mab Pentrehwsmon go- gyfer a bywioliaeth. Merch i bwt o ffarmwr digon tyn ei amgylchiadau ydoedd hi, tra 'roedd y dyn ieuanc yn etifedd y ffarm oreu yn y sir, heblaw fod ganddo lon'd coffr o arian sychion, yn ol clebar gwlad. Ond taflwyd ef o'r neilldu yn bur ddiseremoni, ac aeth y si ar led yn fuan taw Wil Denis oedd y dyn. Garddwr oedd Wil dan Lady Pryddro, y'mhalas Rhianlliw, ac yn fachgen nad oedd gan neb ddim i'w ddweyd am dano, mewn ffordd o anghymeradwyaeth. Ond yr oedd wedi pechu yn erbyn yr oraclau yn ddirfawr drwy fod yn fwy lwcus na neb arall i ddal Dinah, a dygid cyhuddiadau difrifol yn ei erbyn. Megis y rhai canlynol-nad oedd yn frodor o'r lie, na wyddai neb ddim yn ei gylch, ei fod yn arfer cadw bant oddiwrth ei gydienctid penchwiban, ei fod yn meddwl ei hun yn well na phawb, a'i fod yn Wyddel o ochr ei dad. Am y cyhuddiad cyntaf, yr oedd hwnw'n wir am lawer o'r bechgyn eraill hefyd oedd yn y ras am Dinah; felly yr oedd yn harddach iddynt dewi ar y pen yna. Am yr ail, chwi allech feddwl eu bod hwy yn gwybod y cwbl am Wil, druan, wrth eu clywed yn siarad; o ganlyniad, 'doedd hwnw ddim yn dal rhywlawer o ddw'r. Am y trydydd, dylasai hwnw fod drosto yn hytrach nac yn ei erbyn; felly rhaid fod cenfigen wedi dallu eu meddyliau. Am y pedwerydd, yr oedd- ynt yn siwr o fod yn meddwl hyny am danynt eu hunain, ac yn gwneud eu goreu i'w argraffu ar lech calon Dinah; felly, b'le 'roedd y gwa- haniaeth rhyngddynt hwy ac yntau, a chaniatau eu bod yn dweyd y gwir am dano. Ac am yr olaf, beth all'sai Wil help fod ei dad yn Wyddel ? Tae'r gwir i gyd yn cael ei wybod, hwyrach nad oedd gwaed llawer o honynt hwythau mor ddigymysg ag y carasent i chwi gredu ei fod. Ond beth oedd barn Dinah, oblegid dyna oedd yn bwysig ? Wel, y cwbl wyddai Dinah am Wil Denis oedd, ei fod yn fachgen crefyddol, yn weithiwr da, ac yn enill arian cyson. Ni wnai llai y tro iddi, am ei bod yn ferch o'r un cymeriad ei hunan; ac nid oedd arni eisiau mwy. Priodasant, ac fel bu'r lwc, daeth un o lodges y palas yn rhydd ar yr adeg. Apeliasant am dano at yr hen Lady, a chawsant ef yn ddidrafferth. Yr oedd Wil Denis yn feistr ar arddwriaeth, ac yr oedd ei dy, ei ardd, a'i amgylchoedd ei hun mor gyfoethog o flodau a'r baradwys dlysaf a greodd eich dychymyg. Arferai yr hen Lady ddweyd yn chwareus wrth basio fod y lodge yn curo'r palas i rywle. Ac yr oedd chwaeth Wil i fyny a'i hyfrydwch bob tipyn. Yr oedd y modd y trefnai y tiwlips, a'r dalias, y sweet William, a'r minionett, y droppars, a'r rhododendrons, y botwnau, a'r jeraniums, yn dotio pawb a elai heibio. Clywais Dinah yn myn'd drostynt yn ddigon ami i mi i'w cofio i gyd; ac nid unwaith na dwywaith y dywedodd wrthyf mai'r sweet William oedd ei ffafryn hi o blith y blodau. Mi wn amcan paham. A phan byddai'r blodau bertaf, dyna lie byddai Wil a hithau yn cerdded ar hyd y rhodfeydd, ac yn cwmpasu'r llwyni a'r gwelyau, can berted eu hunain ag y medrai iechyd a hapusrwydd eu gwneud, nes tynu'r shein o bob blodeuyn. Pysut yr wyf mor hwyrfrydig i adael y darn hwn o'r hanes ? Am mai dyma lie mae Dinah yn byw o hyd. A gwn bellach er's llawer dydd yr hyn ni wyr pawb-sut y mae cynifer o flodau yn Tanllofft, a sut y mae mwy o sweet William yno na dim arall. Buont yn briod am bedair blynedd, a bu farw Wil Denis o'r declein. Bu farw ar yr un dydd a'i briodas, ond fod y flwyddyn wedi newid. Gadawodd ei ferch fach ddwy a haner oed ar ei ol i gymedroli gofid y fam. Oni bai am ei phlentyn a Duw, tystia hyd y dydd heddyw y buasai wedi tori ei chalon. Ond rhwng y ddau daliodd i fyny yn rhyfedd. Helpai y gallu lleiaf hi i ddiddyfnu ei meddwl oddiwrth y marw, a helpai y Gallu Mwyaf hi i beidio a rhoi ei serch yn ormodol ar y byw. O'r ddau, yr olaf oedd y caletaf. Yn wir, dyma lie 'roedd ei phrif berygl yn awr. Yr oedd cymaint o olwg ganddi ar Sophi—dyna enw'r plentyn-nes bod bron yn ddall a byddar i bobpeth ddywedai rheswm, a chrefydd, a syn- wyr cyffredin wrthi. Yr oedd y groten yn cael ei 'spwylo'n ddiameu. Dywedai'r cym'dogion iddi gael ei 'spwylio yn ei henw i gychwyn, nad oedd dim busnes gan ddynion cyffredin fel hwy alw eu plentyn wrth rywenwpaganaiddfel Sophi- taw Dinah neu Nans a ddylasai fod, yn ol enw ei mam neu ei mamgu. Ond Wil fynodd yr enw, a phe myn'sai Wil ei galw yn Jezebel, Jezebel a gawsai fod. Bu gorfod iddynt adael y lodge gan bwyll, oblegid yr oedd eisiau'r ty i'r garddwr newydd. Aeth Dinah yn ol i dy ei thad a'i mam, a'i phlentyn gyda hi. Buont yno nes i Sophi dyfu yn strapen un-ar-bymtheg oed, ac i'r hen bobl fyn'd i chwilio am ffortiwn i fyd arall, wedi methu ei chael yn hwn. Yr oedd yno ddau neu dri o nwncwlod ar ol, gyda'r rhai nid oedd y fam na'r ferch ar y telerau goreu. Cyhyd ag y bu'r hen bobl byw, a'i pethau y'mlaen yn esmwyth ddigon ond can gynted ag yr aeth yr anadl allan o'u ffroenau, aeth pob cysur a thawelwch allan o'r ty. Dyna i gyd oedd y ffrae-yr oedd Sophi yn ormod o hoeden wastraffus i siwtio eu syniad a'u dull hwy o fyw, ac wrth brotestio yn rhy fynych a chwerw yn ei herbyn, yr oedd Dinah yn bownd o ddangos ei hochr. A 'does dim taro i ddweyd pa ochr oedd hono. Pe gwrandawech ar ei mam, Sophi oedd y groten geinda', berta', ora' yn y byd; pe gwran- dawech ar ei nwncwlod, hi oedd yr un fwyaf dafodrydd a diddaioni o holl ferched y wlad. Gorweddai y gwirionedd yn daclus cydrhwng yr erchwynion yna, tra yn ei blaen yr elai Sophi yn ei chyfer, a'i phen yn yr awyr, heb hidio dim am ei nwncwlod, ac yn haner addoli ei mam. Ond ni pharodd pethau fel hyn yn hir. Arferai Sophi fyn'd i Rhianlliw yn awr ac yn y man yr oedd gan yr hen foneddiges a drigai yno gryn olwg arni, a hoffai ei chael o gwmpas ei pherson i siarad a hi, ac i dder- byn newyddion yr ardal. Yr oedd Dinah, chware' teg iddi, wedi gwasgu ei hun i roi addysg gwell na'r cyffredin yn y dyddiau hyny i'w merch; y canlyniad oedd, ei bod y tu hwnt o glyfar gyda'i nodwydd—i'r hyn y tystia;r samplars ardderchog sydd ar furiau Tan- llofft—yn fedrus i ddarllen Saesneg a Chymraeg, yn gwic i seiffro, ac yn llaw ar wneud tamed o fwyd blasus cystal a chwc y palas heb fragio dim. Ryw ddiwrnod, dyma Lady Pryddro yn gwneud ei hymddangosiad yn y Mount (lie 'roedd Dinah yn byw), yn dweyd ei bod yn myn'd i Lunden y'mhen mis, gan fwriadu aros yno bellach a rhentu Rhianlliw, ac yn ceisio gan ei mam ollwng Sophi i fyn'd gyda hi. Pe bawn yn dechreu adrodd am y brwydro fu rhwng y ddwy yn ystod y mis hwnw buasai genyf ddigon o waith gan fod digon o waith genyf heb hyny, yn unig dywedaf sut fu yn y diwedd. Mae'n debyg fod Sophi a'r hen Lady wedi setlo'r mater cyn ymgynghori a Dinah, fel nad oedd hyny ond mater o ffurf. Fel y gallech ddisgwyl, yr oedd Sophi yn wyllt am fyn'd, a phrin y mae eisiau i mi ddweyd taw hi gariodd y dydd. Yn fuan ar ol i'r digwyddiad pwysig yna gymeryd lie, ail briododd Dinah. Nid am ei bod wedi anghofio Wil Denis—mae cymaint o sweet William yn Tanllofft heddyw a'r flwyddyn yr aeth yno gyntaf ond am fod ei brodyr yn ddiffaeth iddi; a dyheai am gartref cysurus iddi ei hun. Yr oedd yr hon a arferai ofalu am bremises y ty cwrdd, ac a drigai yn Tanllofft-jael Jones wrth ei henw-wedi marw er's rhagor na blwyddyn ac oni bai fod ganddo lodes lysti o ferch i wneud y gwaith, buasai raid i Benni, ei gwr, droi ei wyneb i rywle arall. Ond yr oedd Elin wedi blino gweithio am ddim, a bygythiai fyn'd i wasanaeth. Gwelodd Betini ei bod yn myn'd yn gyfyng arno, a dechreuodd edrych o'i gwmpas. Cyn bo hir daeth Dinah ac yntau i gyd-ddealldwriaeth, aeth Elm i'w gwasanaeth, a symudodd Dinah i Tanllofft. Ac aeth y byd yn ei flaen fel cynt. Deuai gair yn awr ac yn y man oddiwrth Sophi, o Lunden, fel ymweliadau angylion, yn dweyd ei bod yn iach a chysurus, a dyna i gyd. Parhaodd pethau fel yna am ddwy flynedd; o hyny allan, dim gair oddiwrth Sophi, nac oddi- wrth neb arall i adrodd ei helynt. Y'mhen blwyddyn wed'yn daeth y si i glustiau Dinah fod Lady Pryddro wedi marw, a bod y ty wedi ei chwalu--y celfi wedi myn'd dan forthwyl yr arwerthwr, a'r gwasanaethyddion wedi gwasgaru. Ond dim hanes am Sophi. Ofni'r gwaethaf- pryderu nes fod y meddwl yn dadfachu—dis- gwyl nes clafychu o'r galon-eto gobeithio yn erbyn gobaith o hyd-cael ei gorfodi i wrando