Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
e t Buy jj A GOOD PIANO. I Gash oa* Easy Te"tms. I H Nothing can hide ^excellence of a good piano— H B n- Therefore, take no risk when buying—^ecure'n H B| reliable instrument. For over fifty years we have B9 ■ been manufacturing pianos, and have now attained M H the highest point of perfection in Tone, Quality H B Balance and Harmonv. H WORKMANSHIP AND FINISH GUARANTEED H I Pwecs range from 18to IOO Guineas I ■ DELIVERY AND TUNING FKEE ■ ■ „ Special Terras on the Hire-Purchase System H H Bargains. in Secondhands (all makes) High H I e^cha,fge a\°rcinn°ort d^tt S 9 ■ Special List of Secondhlinds"0' 21 a"d I » We have a Large Stock to choose Uom H ■ THOMAS OETZMANN & CO. I ■ 27, BAKER STREET, LONDON, W. fl
Am Gymry Llundain.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
hynny hyd .yn awr. ISunsai Mr. RJberts yn aelod tros y rhanbarth ers blynyddau, ei htm,, pe wedi aros yn gadarn yn y ffydd yr adeg honno. Ond mae'n 11awen. gweled yr afradlon- iaid yn dod yn ol. MR. THOMAS LOUGH.- Does yn un person yn fwy ei boblogrwydd yn ngogledd Llundain na Tommy Lough. Y mae gwyr Islington yn ei hanner addoli, ac efe oedd un o'r ychydig ddewrion a gadwasant eu sedd i'r Rhyddfrydwyr yn mhenboethni igoo. Disgwylir gornest galed yn y rhanbarth eto, ac mae un gweinidog Ym- neillduol wedi troi yn fradwr i'w achos trwy gefnogi'r Tori a ddaw allan fel pleidiwr i addewidion Chamberlain. Gwellgan y pregeth- wr druan gredu mewn mantais y boced na glynu dros egwyddorion Ymneillduaeth. EI WRAIG YN GYMRAES.—Ni wyddis yn gyffredin mai Cymraes yw priod Mr. Thomas Lough. Merch yw i'r diweddar Barch. John Mills-y cenhadwr enwog fu am flynyddau yn gweithio ymysg yr Iddewon. Yn Islington y cartrefai Mrs. Mills a'i phlant hyd yn ddiweddar, ac mae un o'r merched eto yn ddibriod. GWYL DEWI.—Yn nghinio yr Hen Frytaniaid .ar nos Gwyl Dewi bydd yr Arglwydd Faer 'Cymreig yn un o'r prif siaradwyr, ac efe hefyd fydd llywydd y wledcl. Mae'r Henadur Vaughan Morgan yn dod i gryn enwogrwydd drwy ei rgysylltiadau Cymreig wedi'r cwbl, a sicr y bydd mor genedlgarol a neb o honom ar y dydd 'pwysig hwnnw. YN JEWIN.—Fel y gwelir oddiwrth ein ,colofnau hysbysebol mae'r Arglwydd Faer i gadeirio yn nghyngherdd blynyddol Jewin nos Iau nesaf, a hynny yn ei rwysg swyddogol fel y gweddai i gapel "cadeirid" (os priodol galw ein prif gapel felly). Mae cantorion campus wedi eu sicrhau erbyn y cyngherdd, a rhwng y .cyngherdd a'r arddangosfa Arglwydd-faeryddol dylai'r cynulliad fod yn deilwng o'r achos. A da chwi, Gymry gwladgarol, anwybyddwch y tocyn swllt am y tro DADLEU.—Ceir llawer o hwyl, yn ogystal ag .addysg, yn y dadleuon ami cydrhwng y gwahanol gymdeithasau llenyddol a'u gilydd. Nos Wener yr wythnos ddiweddaf bu Charing Cross yn cynal gornest areithyddol a'r Tabernacl, a daeth llond y neuadd i'r lie blaenaf i wrando y ddwy- ■blaid yn siarad. Cynydd Arfogaeth Milwrol gan y gwahanol Alluoedd" oedd y mater yr ymdrinid arno, a cheisid penderfynu pun ai lies ai niwed a wnelai hynny i achos Heddwch. Y SIARADWYR.-Arweinid plaid y Tabernacl gan Mr. Cyrus Evans, yr hwn mewn araeth .alluog a geisiai brofi fod y cynllun presenol o arfogi wedi profi y peth goreu er sicrhau heddwch, ac mai ffug a gwegi oedd y siarad am leihau'r byddinoedd pan mai "trechaf treisied gwanaf gwaedded oedd arwyddair holl wledydd cred. Gwawdiai ymgais y Czar i geisio heddwch tra ar yr un pryd ar ei eithaf yn eangu ei allu milwrol, a'i gyngor ef oedd am i Brydain fod a'i nherth yn barod i wrthwynebu pob ymgecraeth o eiddo gwledydd ereill. Yn ei erbyn caed araeth feirniadol gan Mr. Capell, Charing Cross, a bu cewri'r ddwy Gymdeithas yn cefnogi eu harwyr hyd awr ddiweddar o'r nos. Ar y diwedd curodd Charing Cross yr ymwelwyr trwy fwyafrif o unarddeg. Ar ol hyn gellir disgwyl heddwch ar y ddaear. GWYR MORGANWG.—Da genym weled fod gwyr Morganwg yn cadw eu Cymdeithas mor llewyrchus a bywiog. Y maent eisoes wedi trefnu darlith i gymeryd lie ar y 25am o'r mis hwn, hefyd giniaw ar y 24ain o Chwefror, a dawns cyn diwedd y mis. Wrth hyn gwelir eu bod yn gofalu am y pen y cylla a'r traed Dylent gael boxing match eto neu ornest rwyfo i 'cychod ar y Thames er mwyn dadblygu'r s breichiau a'r dwvlo. c ] ARAETH MR. LLOYD GEoRm:Addefir mai araeth y gwr anrhydeddus hwn yn Fulham pwy ] noson oedd un o'r pethaugoreu y mac wedi draddodi eto ar wleidyddiaeth yn Llundain. Yr oedd tine y gwladweinydd drwy yr holl draethiad, ac addefai/ei feirniaid mwyaf llym, mai cynyrch gwr galluog ydoedd. Hyderwn y gwna etholwyr Mr. Timothy Davies weithredu yn ol cyngor yr araeth dclechreu yr wythnos nesaf. "Y FINSENT."—"Yr oedd darllen am y bardd Finsent yn eich rhifyn diweddaf," ysgrifena "Hen Gymmrodor," "yn dwyn ar gof i mi amryw o'i ysgrifau yn y Traethodydd yn gynar yn yr '8o's. Nid fel arweinydd a threfnydd y cadau Cymreig yr edrychem arno ar y pryd ond fel lienor ieuanc gwych, ac yn sicr nis ymddangosodd yn y cylchgrawn cenedlaethol hwn ysgrifau mwy darllenadwy a beiddgar na'r rhai a gyhoeddwyd uwchben enw Vincent." CITY ROAD.-Cynhelir cyfarfod Undebol yn y capel uchod nos Fercher, Ion. 17eg, am 7.30 o'r gloch, dan nawdd Cynghor yr Eglwysi Rhyddion. Mater y cyfarfod fydd "Y Diwygiad." Ymdrinir ag ef fel hyn :-( I) Y Diwygiad a Chenhadaeth yr Eglwysi (2) "Y Diwygiad a'r Bobl Ieuainc (3) Y Diwygiad ag Athrawiaethau (4) Y Diwygiad—ei Beryglon." Bydd personau o bob enwad yn cymeryd rhan yn yr ymdrafodaeth. Gwahoddir holl Gymry Llundain i'r cyfarfod. CHELSEA.—Yng Nghapel Radnor Street, nos Lun, o dan lywyddiaeth y Parch. Machreth Rees, cynhaliwyd cyfarfod Rhyddfrydig er rhoddi cyfle i'r etholwyr Cymreig gael clywed Mr. E. J. Horniman, yr ymgeisydd. Rhoddodd Mr. Horniman, mewn araeth ragorol, ei olyg- iadau ar Ddeddf Addysg, a Dirwest, a Dadgy- sylltiad, &c. Mae yn hollol iach yn y ffydd ar y mesurau hynny y mae Cymru eu heisieu. Cafwyd araeth gan y Llywydd, yn cefnogi ei ymgeisiaeth, a chan Mri. W. Davies, C.S.Ll., Phillip, Walters, Isaac J. Lloyd, E. Owen, Miss Hannah Jones, a Mr. Williams, Earl's Court Road, yr oil yn dwyn tystiolaeth i gymeriad uchel Mr. Horniman, ac yn dymuno llwyddiant iddo yn yr etholiad, a gobeithio y bydd i'w holl gyfeillion yn Chelsea wneyd eu goreu drosto o hyn hyd ddydd yr etholiad, i6eg, a dyna fydd yn ardderchog gweled Battersea, Chelsea, a Fulham yn dychwelyd tri Rhydd- frydwyr i'r Senedd. FULHAM.-Da genym hysbysu fod ymgeis- iaeth egniol Mr. Timothy Davies yn myned ymlaen yn rhagorol, ac y mae ei gydwladwyr yn parhau i ddod allan i weithio drosto. Cafodd Mr. Lloyd-George dderbyniad ardderchog yma yr wythnos ddiweddaf, ac y mae ei araeth odidog wedi symbylu pleidwyr Mr. Davies i benderfynu gwneyd eu goreu i'w gael i mewn. Yr ydym yn erfyn yn daer ar i bawb a all, dreio dod i Fulham ddydd Mawrth nesaf, y i6eg, sef diwrnod yr etholiad, i weithio dros un sydd mor deilwng ymhob ystyr o help pob un o'i gyd- wladwyr. HAMMERSMITH.—Nos Wener cyn y diweddaf cynhaliwyd cyfarfod cystadleuol blynyddol y plant o dan nawdd Cymdeithas Lenyddol Hammersmith. Trodd y tywydd yn y pryd- nawn yn hynod anffafriol, ond er gwaetha'r hin daeth cynulliad da ynghyd, a sicr fod y dydd- ordeb gymerir gan y Gymdeithas yn ngwaith y plant yn galondid nid bychan i'r plant ac i'w hathrawon. Nis gall yr eglwys hon ymffrostio mewn rhyw lawer iawn o blant, ond dangosodd y cyfarfod nos Fercher nad ydyw plant Hammersmith yn ail i neb yn Llundain mewn gallu a medrusrwydd. Yn mysg y rhai llwydd- ianus gellir enwi :-Florrie a Katie Thomas, Beatrice Evans, Jack Thomas, Teddie Jones, rom a Teddie Edwards. Beirniadwyd y canu jan Mr. David Jones (Llew Caron), ac er fod y ^waith o glorianu plant mor ieuainc yn bur mhawdd gwnaeth y Llew waith rhagorol. Datganodd Mr. Jones yn swynol iawn ddwy vaith yn ystod y cyfarfod. Dyma'r tro cyntaf i VIr. Jones dalu ymweliad a Hammersmith, ond ?' t f } icr nvu nid hwn yw y tro diweddaf. Beirm'nd- wyd yr adroddiadau, gan Mri. T. R. Evans a R. M. Thomas. Trodd, y cyfarfod yn llwyddiant hollol, ac mae hyn yn adlewyrchu clod nid bychan ar Miss Myfanwy Parry, athrawres y plant. Cyn terfynu dylasem gyjfeirio at wasanaeth Miss Shearwood wrth y berdoneg, ac hefyd at garedigrwydd Mrs. Price, y Grove, yn ein cyflenwi a the, cacen, a ffrwythau. AII.-ADEILADU'R CAPEL.-Elai elw y cyfarfod uchod at gronfa'r adeiladu. Ganol y mis nesaf tynir yr addoldy presenol i lawr ac adeiladir yn ei le addoldy fydd yn addurn i'r Hen Gorph yn Llundain. Mae'r pwyllgor wedi sicrhau gwas- anaeth Mr. L. Wynne Williams, Liverpool, fel arch-adeiladydd, a chan fod Mr. Williams wedi cael profiad helaeth mewn adeiladu capelau ar hyd a lied Cymru, sicr yw fod y pwyllgor wedi gwneyd dewisiad doeth. Mae'r Parch. F. Knoyle a'r holl eglwys yn hollol argyhoeddedig o'u 9 I, cyfrifoldeb mawr, ac maent wedi ymdaflu a'u holl galon i'r gwaith.-A. E. R. DEWI SANT, PADDINGTON.—Nos Fawrth, Ionawr 2il, yn ystafell y neuadd eglwysig, cyn- haliodd y Gymdeithas Lenyddol a Cherddorol ei noson lawen. Hawdd ydoedd canfod wrth yr arwyddion allanol fod y boneddigesau a'r gwyr ieuainc wrth eu bodd ac yn mwynhau eu hunain i berffeithrwydd. Yr oedd y trefniadau a'r holl chwareuaethau diniwed gawsom am y noson wedi eu hymddiried i ddwylaw medrus. Mr. Tom Jenkins, yr hwn sydd yn cymeryd rhan flaenllaw gyda phob achos o bwys yn yr eglwys hon. Derbynied Mr. a Mrs. Pierce, Haverstock Road, ein diolchgarwch gwresocaf am y darpariaethau helaeth wnaethant ar gyfer y dyn oddimewn, y rhai a roddwyd i ni yn rhad ac am ddim. Mae y teulu yma yn hynod am eu caredigrwydd. Hir oes iddynt wneuthur llawer o ddaioni eto yn y dyfodol. Cafwyd caneuon swynol hefyd gan Mr. H. Pierce a Miss Nancy Parry. Gobeithio y cawn noson mor lawen a hon yn fuan eto. WAS Daniel Owen, the Welsh novelist, a plagiarist ? He was undoubtedly a great student and admirer of Dickens, and it is now alleged that there is a great similarity in the scene describing the death of Seth in "Rhys Lewis" and the death of young Paul Dombey in Dombey and Son." Like Dickens, too, Daniel Owen lacked plots, and seemed inclined to over detail in trivial incidents. A writer in the Traethodydd" declares that the WTelsh novelist looked at all things through a micro- scope and consequently failed to draw perfect and symmetrical pen pictuies.