Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Pobl a Phethau yng 'Nghymr…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Pobl a Phethau yng Nghymr MAE'R Cynghorydd Pierce, o Feddgelert, wedi rhoddi rhybudd y bydd yn cynnyg yng nghyfarfod nesaf Cyngor Sir Arfon i ostwng n y 11 cyflogau y swyddogion yng ngwyneb iselder masnach. Tebyg mai credu y dylai cyflogau clarcod godi a gostwng yn ol y prinder neu y cyflenwad y mae y Cynghorydd. DYWED y Daily Chronicle mai un o waed Cymreig oedd y diweddar Mr. Yerkes, y miliyn- ydd Americanaidd, a'i fod yn disgyn o'r Crynwyr Cymreig a ymfudasant i Pensylvania yn yr eilfed-ganrif-ar-bymtheg. Pwy a ymgymer ag ysgrifenu hanes Crynwyr Cymreig America ? Byddai yn sicr o fod yn ddyddorol dros ben. Y PARCH. Hermas Evans, o Gwm Tawe, a ennillcdd y gadair yn Eisteddfod Meirion y Calan. Efe a'i hennillodd yno y llynedd hefyd. Troed ei wyneb i gyfeiriad arall bellach. Bu ystorm enbyd yng nghyfarfod Cyngor Trefol Aberystwyth yr wythnos ddiweddaf. Torodcl y cadeirydd y Cyngor i fynu ddwywaith, ac ni wnaed dim gwaith yn y diwedd. Ond nid unrhyw Gymro, eithr ysbrigyn o Sais didoriad, mab golygydd y Cambriati News, oedd yn gyfrifol am yr helynt flin. Yr oedd ei iaith yn union yr hyn fuasid yn ddisgwyl wrth gofio ymha ysgol y dysgwyd ef. DYWEDODD yr Archddiacon Thomas wrth aelodau Clwb Tir Powys, y dydd o'r blaen, mai ym mynwent Llanerfy], Maldwyn, y mae y beddargraff Cristionogol hynaf y g\vyr neb am dano. BLIN genym hysbysu am farwolaeth y Parch. R. Ambrose Jones, Rhewl, gweinidog y Meth- odistiaid, neu fel yr adnabyddid ef yn fwy cyffredin, "Emrys ap Iwan." Yr oedd ers rhai blynyddoedd yn gwaelu, a bu raid iddo fyned dan driniaeth lawfeddygol galed fwy nag un- waith. Brodor o Abergele ydoedd. Aeth i'r weinidogaeth yn 1883, a bu am rai blynyddoedd Z, yn gofalu am eglwys y Tabernacl, Rhuthyn. Bugeiliai eglwysi Rhydycilgwyn a Llanbedr, Dyffryn Clwyd, hyd ei farwolaeth. Ond fel ys- grifenwr a lienor o dan yr enw Emrys ap Iwan" y daeth ei genedl i wybod am dano. Cyhoeddwyd peth wmbredd o gynyrchion ei -so,rl ysgrifell yn y gwahanol bapurau a'r cyfnodolion Cymreig. Ieithyddiaeth ydoedd prif bwnc ei astudiaeth, ac yr oedd ganddo ei syniadau ei hun am orgraff a chystrawen. Gwae i'r golygydd a newidiai ddim ar y naill na'r llall. Bydd yn chwith iawn heb wr o gymaint o wreiddioldeb. EGLWYS henafol iawn yw eglwys Tregaron, ac mae ei choflyfrau yn myned yn ol yn mhell iawn i'r oesau a fu, a chedwir hwy mewn cyflwr rhagorol hyd heddyw. Yn unol a'i hoffder at hen bethau y mae yn cadw ei chymeriad ynglyn a chyfarfod y Nadolig, oherwydd ar y dydd hwnnw ers dros chwarter canrif y mae'r cor wedi canu'r anthem Ac yr oedd yn y wlad honno fugeiliaid er mawr foddhad i'r gynull- eidfa sy'n addoli yn y lie. MAE Methodistiaid Llanilar am droi yr achos yn Saesneg. Bydd cael Inglis Cos" mewn rhan mor wledig a Chymreig yn sicr o fod yn hylldra. Y mae'r Cwrdd Misol yn ystyried y mater, meddir. MAE'R Esgob Jayne, Caer, yn anog ei holl bleidwyr i sefyll yn gadarn tros y Ddeddf Addysg. Tipyn o gamp fydd cael yr etholwr cyffredin i syrthio mor isel a Thy'r Arglwyddi, a chefnogi y Ddeddf hon. ADWAENIR y Parch. J. Puleston Jones fel y pregethwr dall yn Ngogledd Cymru, ond gallodd I gerdded o Bettws-y coed adref i Dinorwig— pellder o 16 milldir heb un cyfarwyddyd trannoeth i'r Nadolig diweddaf. MAE'R ddarlith ar uJapan a draddodwyd gan Mr. D. Davies,, Llandinam, yn Jewin beth amser yn ol yn dra phoblogaidd, a'r wythnos ddiweddaf bu yn yr. Amwythig yn ei rhoddi o flaen cynulliad mawr er budd un o achosion crefyddol y dref. AETH y si ar led ddechreu yr wythnos fod Evan Roberts, y Diwygiwr, wedi etifeddu blwydd-dal o £260 ar ol y diweddar Mr. Richard Davies, ond dywedir yn awr nad yw'r. newydd yn wir. Mae'n debyg mai mewn dull arall y cofiodd yr hen batriarch am y Diwygiwr. Ceir gweled pan y profir yr ewyllys.
CLEBER O'R CLWB.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CLEBER O'R CLWB. [Gan yr Hen Shon.] Y HRL DROED a'r etholiad oedd y ddau bwnc y siaredid arnynt yn y Clwb yr wythnos hon. 'Roedd gwyr y bel yn llawenhau am fod Clwb Cymry Llundain wedi cael cystal cynrychiolaeth yn yr ornest heddyw, ddydd Sadwrn, a'r farn gyffredin oedd fod y dewisiad yn ddoeth. Credai'r Doctor Dafis eu bod fel catrawd yn well na'r rhai a gurasant New Zealand; ac os felly byddwn yn disgwyl iddynt roddi curfa deilwng i'r Saeson. NID yw'r rhagolygon etholiadol, yn ol gwyr y Clwb, yn hanner mor addawol i'r Rhyddfrydwyr ag y myn rhai o'r papurau eu bod. Yr oedd twrne o'r Sowth yn barnu nos Fercher y collai Rhyddfrydwyr ddwy o seddau yn Abertawe a Chaerdydd, ac y byddai yn rhaid i ddwy neu dair etholaeth arall ymladd yn galed os am gadw eu safle. Pwnc mawr y Deheubarth, meddai, oedd polisi Chamberlain; ac mai baldordd pregethwrol yn unig oedd meddwl fod y Ddeddf Addysg yn y mesur lleiaf wedi dylanwadu ar Gymru. Ceir gweled o hyn i ben wythnos a yw y syniad yn gywir. O'R ochr arall 'roedd dau o wleidyddwyr o Sir Ddinbych yn credu mai ennill y cyfan a wneid yn y Gogledd. Yr oedd Mr. ldris yn ennill ffafr yn Fflint, a'r bobl yn credu fod ganddynt wieidyddwr gonest a gwr teilwng i ddilyn camrau Mr. Herbert Lewis, ac am Mr. Lewis ei hun nid oedd angen pryderu, oherwydd 'does anwylyn mwy poblogaidd nag efe yn yr holl siroedd. Yr oeddent yn hollol sicr y buasai Mr. Clem Edwards a Mr. J. D. Rees yn cario'r maen yn wrol, ac y ceid perffaith undeb o hyn allan yng nghynrychiolaeth y Gogledd. OND beth am Mr. Lloyd-George yn Nghaer- narfon ? Yr oedd un o'r llanciau wedi bod yn gwrando arno yn anerch ei etholwyr y dydd o'r blaen, a thystiai na welwyd erioed yng Nghaer- narfon y fath frwdfrydedd. Ar un adeg, meddai, yr oedd Mr. Naylor yn bur addawol, ac wedi llwyddo i hudo y gwragedd a'r plant yn wir dda gyda'i wleddoedd odea bara brith ond ar ol cael lie i Mr. Lloyd-George yn y Cabinet y mae'r cyfan wedi troi, a 'does yr un gwr yn awr a ddeil ei gymharu a'r Cymro o Griccieth. ADRODDID stori ddoniol gan un o'r aelodau am ymddygiad plant Caernarfon tuag at Miss z:5 Naylor a'i the. Gan fod y gwleddoedd te wedi dod yn bethau mor gyffredin yr oedd yn naturiol disgwyly cawsid cynulliad arbenig adeg y Nadolig. Yr oedd y trefniadau wedi eu cwbl- hau a phlant yr ysgolion wedi cael eu gwahodd, ond erbyn cyfrif nid oedd ond nifer fechan wedi addaw derbyn o'r rhoddion. Yr oedd y plant wedi troi yn gefnogwyr i Mr. Lloyd-George bob un, a bu raid gohirio'r cyfan ar rhyw esgus z, etholiadol ar y funud ddiweddaf. CAN anfarwol tref Llanslli yw'r Sospan Fach," ac mae honno wedi ei dwyn i fewn i ddyddori'r etholiad. Cyfansoddwyd geiriau addas ar yr alaw ac mae'r cyfan wrth gwrs yn bleidiol iawn i Mr. Llewelyn Williams- Mae'r llanc sydd yn wrthwynebol i Mr. Williams yn hawlio ei fod yn rhyw fath o Gymro am yr hana, meddai ei gefnogwyr, o deulu'r Guest fuont Y11 rheoli Dowlais ers blynyddau yn ol. WRTH edrych dros bapurau newyddion y dydd a'u sylwadau ar yr etholiad rhaid addef fod y cefnogwyr Toriaidd yn eithafol o sur tuag at y Rhyddfrydwyr. Mae'r Rhyddfrydwyr o'u tu hwythau yn condemnio'r hen Weinyddiaeth yn ddidrugaredd, a chan fod digon o destynau siarad ganddynt, ni raid iddynt fyned yn bersonol ac yn speitlyd fel y wasg Doriaidd. Mae beirn- iadaeth yn beth i'w edmygu a'i ganmol, ond y mae'r gwawdiaith dichwaeth a welir yn rhai o'n papurau yn sicr o fod yn ddiles, ac yn fwy 0 niwed i'r achos nac o gefnogaeth. RHYFFDD mor amhoblogaidd mae aelodau Merthyr o'r tu allan i'r dref honno. Mae Mr. D. A. Thomas yn eithaf boneddwr, ac fe gyn- rychiolai haid o landlordiaid a'r gwyr mawr yn benigamp, ond y syndod yw fod pobl weithgar Merthyr mor ffol ag ymddiried eu cynrychiol- aeth iddo. Ond am Keir Hardie y mae'r, dewisiacl yn warthus. Dyma'r fath barch a delir i goffa Henry Richard Mae'r hen ysgrif- enwyr yn son llawer am gau-brophwydi, ond yn> sicr ni chafodd yr un prophwyd na diwygiwr y fath gau-prophwydi i'w canlyn ac a gafodd Apostol Heddwch, druan. YR oedd un o foys Aberystwyth yn llawen nos Fercher, a phrophwydai y byddai Mr. Lloyd- George i fewn gyda mwyafrif aruthrol. Ei awdurdod oedd fod golygydd y Cambrian News yn cynghori pob Tori yn Sir Gaernarfon i bleidio dros y Cymro. Gan i'r Toriaid ganmol barn Mr. Gibson pan yn cefnogi Arglwydd' Penrhyn, bydd yn ddyddorol gwylio beth a. wnant y tro hwn. Os na ddilynant ei gyrgor byddai yn ddoeth i'r golygydd hwn adael gwyr mawr y North yn llonydd ar ol y tro hwn.
CYMRU A'R ETHOLIAD CYFFREDINOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYMRU A'R ETHOLIAD CYFFREDINOL. DADGORPHORWYD yr hen Senedd dydd Llun, ac am yr wythnos hon nid oes cymaint ag un A.S. yn y Deyrnas Gyfunol. PENDERFYNODD Mwnwyr Brycheiniog beidio dwyn ymgeisydd allan yn y sir honno, a thrinia y Western Mail hwy yn enbyd am hynny,, Mae rhywun yn ddigon angharedig i ddweyd mai gweled fod y sedd yn awr yn hollol ddiogel i'r Rhyddfrydwyr sydd wedi cyffroi digter y Mail. Rhyfedd fel y camesbonir pob peth gan rywrai! MAE cyfarfodydd Mr. Llewelyn Williams yn Llanelli a Chaerfyrddin yn anghyffredin o liosog a brwdfrydig. Os oes coel ar gyfarfodydd ym- ddengys ei ddychweliad yn sicr. Deallwn fod amryw o Gymry Llundain wedi myned i lawr yno yr wythnos hon i gynorthwyo. BRWYDR galed yw y frwydr yn Ne Morganwg rhwng y Milwriad Wyndham-Quin a Mr. Wm. Brace, ymgeisydd Llafur. Nos Sadwrn, ym Mhenybont-ar-Ogwy, lie sydd yn eiddo i'w dylwyth bron i gycl, methodd y Milwriad a chael. gwrandawiad. Gresyn rhoi y cloadur ar neb, ond dengys peth felly ffordd y mae y gwynt yn chwythu. BARNA Vicar Eglwys yr Holl Saint, Caer- dydd, a Rector Bishopston ym Morganwg fod. Mr. Lloyd George yn hollol gywir pan y dywedodd fod y teimlad yn ffafr Dadgysylltiad yn mynd ar gynydd ym mhlith clerigwyr ac Eglwyswyr Cymru. CWYNA Mr. Arnold Foster, cyn-Ysgrifenydd t) Rhyfel, yn enbyd am fod yr etholwyr yn y rhan- barth y bu efe yn aelod drosto cyhyd yn gwrthod gwrando arno, tra y rhoddasant wrandawiael