Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

CYMRU A'R ETHOLIAD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMRU A'R ETHOLIAD. YMHLITH y pedwar aelod cyntaf a etholwyd i'r Senedd dydd Gwener yr oedd Mr. D. Brynmor Jones, dros Ddosbarth Abertawe. Dydd Sadwrn etholwyd Mr. S. T. Evans (Canol Morganwg) a Mr. Tom Richards (Gorllewin Mynwy). Dydd Llun ychwanegwyd atynt y Mri. J. Lloyd Morgan (Gorllewin Caerfyrddin) a J. Herbert Roberts (Gorllewin Dinbych). Afraid dweyd i'r rhai hyn oil gael eu dychwelyd yn ddiwrthwynebiad, a hwy yw blaenffrwyth y cynhauaf yng Nghymru. MAE Llywydd Bwrdd Masnach yn gweithio fel cawr yn yr etholiad, ac yn tramwy drwy y wlad fel comed gan lewyrchu goleuni a gwres. Bu mewn lliaws 0 fanau yn Lloegr yr wythnos ddiweddaf, ac yn Leamington gwrthodwyd gwrando arno. Dychwelodd i Gymru, a bu ar daith mewn'modur drwy Gallestr a Dinbych. Mae y dyddiau hyn yn ei etholaeth ei hun. Yr unig berygl yw iddo dorri i lawr yn ei iechyd Ni fedr neb ddal fel hyn yn hir. MEWN araeth yn Nefyn dydd Llun gwnaeth Mr. Lloyd-George gyhuddiad difrifol yn erbyn ei wrthwynebwyr. Dywedodd fod ei sylw wedi ei alw droion yn ystod y misoedd diweddaf at yr ymgais i lygru yr etholaeth, a bod y peth wedi mynd mor ddifrifol yn awr fel nas gallai beidio cyfeirio ato. Yr oedd amryw achosion wedi eu dwyn ger ei fron, a sicrheid ef gan ei gyfar- wyddwyr cyfreithiol eu bod yn droseddau o Ddeddf Llygredigaethau Etholiadol. Yr oedd y pwnc o erlyn yr euogion yn awr dan ystyr- iaeth. AR yr awr olaf daeth gwrthwynebwr i Mr. Keir Hardie i'r maes yn Merthyr yn mherson Mr. Henry Radcliffe, perchenog llongau, Caer- dydd. Mae teimlad cryf iawn yn erbyn ymgais barhaus Keir Hardie i ddinystrio y blaid Rydd- frydol. Bernir y bydd y frwydr yn un galed, gan fod Mr. Radcliffe yn frodor o Ddowlais, ac yn cael cefnogaeth corff yr Ymneillduwyr yn yr etholaeth. Bu rhywun mor anfud a gosod pelen o ddynameit ar ffenestr adeilad yn yr hwn y cyn- helid cyfarfod o blaid Mr. Ellis Jones Griffith ddiwedd yr wythnos Chwalwyd y mur, ond o drugaredd ni niweidiwyd neb yn drwm er fod pawb wedi eu dychrynu bron i farwolaeth. Hyd yma nid yw y drwgweithredwr wedi ei ddal. YM Mwrdeisdrefi Maldwyn y mae y frwydr boethaf o bob man yng Nghymru, a pha fodd bynnag y try ni bydd y mwyafrif ond bychan iawn. Mae y Cyrnol Pryce Jones yn wr cryf, wedi byw o'i gryd yn y Drefnewydd, yn cyflogi llawer o weithwyr, ac yn foneddwr rhadlon, caredig, a haelionus. Unig obaith ei wrth- wynebydd i'w drechu yw grym y llanw Rhydd- frydol, ac amhoblogrwydd y Ddeddf Addysg. MAE'R Cyrnol Phillips wedi ennill sedd oddiar y Toriaid yn Southampton. Un o wyr Pcnfro ydyw ef, a brawd i'r ddau Phillips sydd yn ymgeiswyr am y seddau dros y sir honno a'i bwrdeisdrefi. Diau y bydd el lwyddiant ef yn help iddynt hwy. MAE rhagolygon Mr. Llewelyn Williams yn hynod o ddisglaer yn Llanelli a Chaerfyrddin. Ymdyrra y gweithwyr o dan ei faner. Talodd y Western Mail deyrnged uchel iddo ddydd Llun drwy gyhoeddi gwawd-ddarlun ohonnc. Nid oes eisieu arwydd sicrach fod y papyr hwnnw, sydd yn deall curiad gwaed Cymru yn lied dda, yn teimlo nad gwr i'w anwybyddu yw awdwr Gwilym a Benni Bach PAN geisiwyd gan Mis. Llewelyn Williams siarad yn un o g) ftrfodydd ei phriod y dydd o'r blaen gwrthododd gan ddywedyd ei bod hi yn ystyried y dylai fod o leiaf un "aelod distaw ym mhob teulu. Eithaf gwir.. MAE yr A'glwyddes Osborne Morgan yn cymeryd dyddordeb mawr iawn yn y frwydr ym Mwrdeisdrefi Dinbych. Ysgrifenodd lythyr at Mrs. Clement Edwards yn dymuno i'w phriod bob llwyddiant, ac yn dadgan yr hyder cryfaf y bydd yn orchfygwr. A therfyna drwy ddweyd 0 fel y buasai fy niweddar briod yn gweithio dros Mr. Edwards. Mae yn amhosibl i mi gredu dim amgen nag y bydd i'w hen gyfeillion anwyl nid yn unig weithio yn egniol am fuddug- oliaeth, ond ei hennill hefyd." DERBYNIODD Maer Caerdydd gynifer a 49 o bapurau enwebu i Mr. Ivor Guest-y nifer liosocaf, mae'n debyg, a roddwyd i mewn dros unrhyw ymgeisydd erioed. Boddlonodd ei wrthwynebydd, Syr Fortescue Flannery, ar lawer llai o nifer. Nid lliosogrwydd papurau enwebu sy'n ennill y frwydr mewn etholiad bob amser. YR oedd un o bapurau enwebu Mr. Lloyd- George wedi ei lenwi gan Undebwyr yng b nghymydogaethau Pwllheli a Chriccieth, yn cael eu blaenori gan Mr. John Ernest Greaves, Arglwydd Raglaw y sir.

Advertising

Y LLOFFT FACH;.