Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Wear WALTON'S Good Clothes. » WINTER m £ jm OVERCOATS I Made to Order or ready to wear. i|!| From 29(6 Iff •fiA': tlli All the newest fashion- g able materials-Cheviots, ^jSli Tweeds, Beavers, Meltons, &c. Write for sample cuttings or call and fjg inspect the Cloths. ISAAC WALTON & CO., LTD., 97, 99 & 101, NEWINGTON CAUSEWAY, S.E. U 3, 5t 7 & 9, LUDGATE HILL, E.C. 518,520 & 522, BRIXTON ROAD, S.W. *42, 444 & 446, HOLLOWAY ROAD.N.
CYMRU RYDDFRYDOL.\
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYMRU RYDDFRYDOL. MAE Cymru yn gwneyd ymdrech arbenig yn yr etholiad presennol i anfon catrawd gyfan o Ryddfrydwyr i'w chynrychioli yn Nhy'r Cyffredin. Ychydig yw nifer y Toriaid wedi bod ar hyd y blynyddoedd, ac er iddynt lwyddo i gadw pedair sedd yn etholiad 1900 y mae argoelion fod dwy neu ragor o'r rhai hyn mewn perygl y tro hwn. Dyma fel y safai'r pleidiau yn y pum' etholiad dnveddat I< hydd- Ceid- frydwyr. wadwyr. 1885 27 3 1886 26 4 1892 28 2 1895 22 8 1. 1900 26 4 A chyfrif Caerdydd fel sedd Doriaidd ar adeg dadgorphoriad y Senedd, y mae pum' sedd i'w hennill, ac nid yw'r gwaith yn edrych yn anhawdd iawn pan mae'r fath frwdfrydedd i'w ganfod drwy yr holl wlad.
Am Gymry Llundain.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Daeth y newydd yn gynar am fuddugoliaeth gwyr y bel droed yn Richmond, ac roedd y Clwb yn gwisgo gwedd hynod o hapus. Cafodd y Saeson y fath gurfa a'u cadarnha bellach mai nid rhyw ddigwyddiad ffortunus yn unig oedd ein buddugoliaeth ar wyr New Zealand. A'I BRWDFRYDEDD.—Ond yn fuan ar ol naw o'r gloch anghofiwyd y cyfan am y bel droed. Yr oedd sibrwd wedi dod fod cyfrifon rhai o'r etholaethau ar ddod tros y pellebyr. Nid hir y bu raid disgwyl, ac ni welwyd y fath frwdfrydedd ers tro yn y Clwb Rhyddfrydol-sydd gerllaw'r Clwb Cymraeg-ac a welwyd y nos Sadwrn hon. Y FFIGYRAU.-O un i un deuai'r ffigyrau i fewn, ac mor ami a hynny deuai'r newydd fod y Rhyddfrydwyr wedi enill y sedd, ac roedd clywed am lorio Mr. Balfour yn fath o newydd y bu raid ei gadarnhau cyn y gwnai'r dorf gredu'r fath hanes. Yr oedd mor annisgwyliadwy; a galwyd i gof ar unwaith ymddygiad y gwr ei hun a'i wawdiaeth ar ben yr hen Harcourt druan pan fu raid iddo chwilio am sedd yn Mynwy wedi cael ei gurfa fawr yn Derby. Rhyfedd fel y daw peth o'r fath adref i ddynion angharedig. YN Y CLWB RHYDDFRYDOL.—Yr oedd ystafell eang y Clwb yn orlawn hyd dan hanner nos. Yn mysg y cwmni roedd ugeiniau o Gymry cenedlgarol a phawb yn llawenhau wrth weled y newyddion da o un i un yn cael eu gosod ar y lien, ac roedd darlun yr hen Gladstone oedd gerllaw megis yn gwisgo gwen foddhaus am y tro. Yn mysg y rhai a waeddent hwre Gymreig oedd Mri. John Hinds, Watkin Jones, J. Owain Evans, Arthur Griffith, Hugh P. Roberts, Dan Thomas, a 11 u o hen Gymru Fyddion, sydd eto heb anghofio eu Rhyddfrydiaeth. Yr oedd enill rhyw 210 seddau ar y noson gyntaf yn ddigon i roddi pawb mewn cywair lion dros y Sul. YN LLANELLI.-Cafodd Elfed gyfarfodydd hynod o frwdfrydig yn Llanelli a Chaerfyrddin yn ystod yr wythnos a aeth heibio, ac roedd y croesaw Cymreig a gafodd yn ei galonogi yn ddirfawr yn ei grediniaeth fod Cymru ar ei gwell wedi'r brwydro diweddar ac wedi'r plygu adeg y Diwygiad. Yn ei dyb ef rhaid cael y weddi a'r weithred cyn fod y dyn wedi ei lwyr drawsnewid. Ac mae argoelion fod Cymru wedi ei thrawsnewid yn ei gwedd wleidyddol ar hyn o bryd. Y CYMMRODORION.- Yn anffodus bu cwrdd o'r Cymmrodorion nos Fercher diweddaf, a
Am Gymry Llundain.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
hynny yn nghanol berw'r etholiad. Y canlyniad fu nad oedd y cynulliad mor fawr ag y disgwylid. Pwnc yr ymdrafodaeth oedd "Hanes Hen Arian Bathol y Cymry yn yr Oesau Boreu," a'r darlithydd oedd Mr. \V. Carlyon-Britton, F.S.A., un o'r awduron goreu ar y mater sydd yn Mhrydain heddyw. BORo.-Collodd yr eglwys uchod ddwy o'i haelodau ffyddlon yn ddiweddar, sef Mrs. Catharine Williams, 114, Jamaica Road, Ber- mondsey. Genedigol oedd o Ystumtuen, sir Aberteifi. Bu mewn masnach yn St. George's Road, Southwark, yn Warham Street, Camber- well, ac yn 'Jamaica Road, Bermondsey. Bu farw bore Sabbath, Rhagfyr 24ain, yn 52 oed. Claddwyd hi Rhagfyr 30am yng nghladdfa y Wesleyaid yn Ystumtuen. Cydymdeimlir a Mr. Williams a'r perthynasau ar ei hoi. Prydnawn Llun, Ionawr iaf, hunodd Miss Mary. Davies, 4, Short's Gardens, St. Martin's Lane, W., yn 55 oed. Ganwyd hi yn Cwmyrodyn, Talysarn, sir Aberteifi. Daeth i Lundain ers dros ddeng- mlynedd-ar-hugain yn ol, a bu yn aelod nodedig o ffyddlon a pharchus yn y Boro oddiar hynny hyd ei marwolaeth. Claddwyd hi Ionawr 4ydd ym medd y teulu yn Ilford yrig ngwydd tyrfa fawr o'i chyfeillion. Gadawodd y ferch rin- weddol hon le gwag iawn ar ei hoi. Bydded nodded i'w chwiorydd a'i brodyr a'r perthynasau lluosog. BARRETT'S GROVE.Dydd Iau nesaf cyn- helir cyngherdd blynyddol a chwrdd te yr eglwys uchod, a disgwylir cynulliad mawr yno fel arfer. Un o nodweddion y cyfarfodydd blynyddol hyn yw y canu rhagorol a geir yn eglwys y Gohebydd, ac nid yw'r pwyllgor yn ol eleni eto yn eu rhestr benigamp o gerddorion gwych i ymddangos ar y llwyfan. Er cyn- orthwyo yr achos y mae'r elw a wneir o'r cyngherdd i fyned. YSGOL SUL GYMRAEG EALING.—Myned rhagddo mae y gwaith da yma. Mae hynny yn amlwg yn y cynnydd sydd i'w weled yn nifer yr aelodau ar ddechreu y flwyddyn hon. Yn ddiamheu fod hynny yn ddyledus i raddau helaeth i'r cyfarfodydd amrywiaethol a gynhelir yma bob mis. Cafwyd cyfarfod rhagorol nos Fercher, Ionawr iofed, yn Swift's Assembly Rooms, High Street, pan y cadeiriwyd gan y boneddwr haelionus, Mr. Samuel Jones, West Ealing. Yr oedd y lie yn llawn. Y tro hwn eto darparwyd gwledd o ddanteithion, trwy garedigrwydd Mr. a Mrs. Clifford Evans. Heb- law hynny trefnwyd rhaglen faith mewn canu, adrodd, &c. Mae y pwyllgor yn ddiolchgar i Miss Getta Jones, Mr. a Mrs. Strangward, Mr. Way, a Mr. C. Lamble (Ealing) am eu cyn- orthwy yn yr adran gerddorol o'r rhaglen. Adroddwyd gan blant yr Ysgol Sul, sef Misses Peggy Evans, Doris Rees, Gladys Hughes, Olive Jones, a, Master Glynmor Hughes. Cyfeiliwyd gan Miss Lily Niblock, Master Leo Edwards, a Mr. Strangward. Coronwyd y cwbl trwy y difyrwch a gafwyd pan ddarllenodd Mr. Spencer Jones (Melbourne Avenue) ei lythyr caru cyntaf. Yn ol pob tystiolaeth gwella mae y cyfarfodydd hyn, ac mae croesaw cynhes i Gymry Ealing a'r gymydogaeth i roddi eu presenoldeb ynddynt. DEWI SANT, PADDINGTON.-Nos Fawrth, Ionawr 9fed, yn ystafell y neuadd eglwysig, ger bron y Gymdeithas Lenyddol, traddodwyd darlith gan y Parch. W. Richards ar "Emyn- yddiaeth Gymreig." Yr oedd y maes yn un eang i wneyd cyfiawnder a'r fath destyn mewn amser byr, er hynny cafwyd cipdrem gan y darlithydd o hanes emynyddiaeth o ddyddiau Taliesin hyd yr oes bresenol. Cymerwyd y gadair gan Mr. James Williams (Gwyddfryn), gan yr hwn hefyd y cafwyd sylwadau buddiol a phwrpasol o'r hen ddull a ffynai yn mhlith y werin bobi o ddysgu hymnau yn y dyddiau gynt. Diolchwyd yn gynhes i'r Caplan am ei ddarlith gan Mr. Evan Lloyd, Kilburn, ac ategwyd gan eraill. MASNACH.-—Ar gynyclcl mae masnach, ac mae gwell argoelion yn awr nac a welwyd ers rhai blynyddau. Yr adeiladwyr yw'r unig ddosbarth sy'n cwyno ar hyn o bryd. JEWIN.'—Y Sabboth nesaf cynhelir y cyfar- fodydd pregethu blynyddol yn y lie hwn, a chan y ceir dau o enwogion yr enwad i draethu'r genadwri yno mae disgwyliad y ceir cynulliadau llawn. Cynrychiola'r Parch. H. H. Hughes, B.A., yr oes newydd o bregethwyr, tra rnae'r Hybarch Evan Phillips, er o dan bwysi blyn. yddoedd lawer, yn dal mor iraidd ac ieuanc ag erioed, Parheir y gyfres o odfaon hyd nos Lun. I EIN MAN-WENDIDAU.—Un o'r pregethwyr sydd wedi gwneyd ei fare yn Llundain yw'r Parch. T. Dinsdale Young, Great Queen Street, a saif yn rheng flaenaf ei enwad heddyw yn y brifddinas. Nos Sadwrn diweddaf caed ei glywed yn nghapel y Tabernacl, King's Cross, yn rhoddi darlith boblogaidd mewn dull hyawdl ar "Y Bobl a Andwyir a Man-Wendidau," ac roedd yn amserol dros ben i'r bobl ieuainc yn ei gynghorion a'i engreifftiau o'r man frychau a lygrant gymeriadau da. Caed cynulliad llawn i wrando y gwr talentog. n -is ST. BENET'S.—On Thursday, the list inst., the Literary Society held, at the Lecture Hall of the Sunday School Union, Old Bailey,- its annual social gathering. Tea was kindly provided by Mr. and Mrs. J. E. Davis, Putney, and a full hall testified their enjoyment of the good things provided. After refreshments had been dis- posed of, Mr. J. Mason Williams opened the concert with a few remarks. Miss Annie Pierce played a pianoforte solo in an excellent way. The St. Benet's Male Voice Party, con- ducted by Mr. W. Emlyn Edwards, followed, singing Wyr Philistiaid in their usual spirited style. The well-known baritone, Mr. John Hughes, was splendidly received and sang "Three for Jack," and Arm, Arm, ye Brave" as an encore, in his general pleasing manner. Recitations were rendered by Miss Emily Thomas, Master and Miss Crowle Ellis. Mrs. Roberts gave Merch y Melinydd," and was recalled for an encore. Miss Jennie Hughes sang She wandered down the Mountain Side," which was so appreciated, that she responded with "Daddy." The treat of the evening was the newly-formed ladies choir, who sang "Llwyn Onn in a very capable way, and no doubt will be heard of further in connection with the meetings. Great credit is due to Miss Jennie Griffith and Mr. Alun Edwards for organising and teaching the ladies to sing so well. After the Vicar, the Rev. J. Crowle Ellis, had thanked the Chairman for his presence among them, the artistes for contributing to the musical portion of the gathering, and also to Mr. and Mrs. Davis for the enjoyable tea and other dainties they had provided, the Male Voice Party rendered Landerkennung," the solo part being taken by Mr. W. liar Edwards, after which "Hen WIad fy Nhadau terminated an enjoyable evening.