Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

CLEBER O'R CLWB.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CLEBER O'R CLWB. [Gan yr Hen Shon.] YR wythnos hon yr oedd politics Cymru wedi myn'd a bryd pawb yn Llundain. Ni waeth pa le y cyfarfyddech a Chymro yr oedd tynged ei etholaeth ar unwaith yn dod yn bwnc siarad. Gan fod cynifer o wyr Llundain yn y fnvydr daeth llu o'u cyfeillion i'r Clwb nos Fawrth a nos Fercher, er mwyn gwylio'r can- lyniadau, a nosweithiau llawen a gaed hefyd. Erbyn yr wythnos nesaf bydd yr holl fanylion wedi dod i law, a diau y ceir catrawd hapus ac effeithiol o Gymry enwog yn ein cynrych- ioli yn Sant Stephan YR oedd pawb yn llawenhau wrth weled fod Mr. Timothy Davies wedi llwyddo i guro'r Toriaid mewn sedd hynod ddiogel yn Fulham. Mae unrhyw ddyn a feiddia ymosod ar gaerfa ddiogel, fel ag a gaed yn Fulham, yn hawlio ein hedmygedd. Pan gaed etholiad yma ddiweddaf Z, yr oedd y Rhyddfrydwyr mewn lleiafrif o yn agos i 2,300, ac nid oedd ond ychydig o'r tuallan i'r etholaeth a freuddwydient ei bod yn bosibl i ysgubo'r fath fwyafrif o fodolaeth y tro hwn. OND yn ol y tystiolaethau a roddid yn y Clwb o nos i nos gan y Cymry oeddent yn gweithio ar ran Mr. Davies, yr oedd yn amlwg fod y bobl yn Fulham yn credu eu hunain ei bod yn bosibl ennill y sedd. Cafodd Mr. Davies wr glew i drefnu ei rengoedd, a chwareu teg i'w gynorth- wywyr buont yn ddyfal ddydd ar ol dydd i geisio dod o hyd i'r rhai a ofnid eu bod yn cloffi rhwng dau feddwl. PAN gyrhaeddodd y newydd yma, rhyw chwarter i hanner nos, fod Mr. Davies wedi ennill ac wedi cael mwyafrif o 630, yr oedd y brwdfrydedd yn angerddol. Er fod rhyw ugain o ennillion wedi eu croniclo yn flaenorol yr un noson, rhaid addef na chafodd yr un gystal hwre ag a roed i'r Cymro o Fulham ac ar 01 y fath fuddugoliaeth y mae rhagolygon y caiff gadw y sedd am hir dymhor, oherwydd unwaith y daw yr aelod newydd mor adna- byddus i'w wrthwynebwyr Toriaidd ag yw gan y Rhyddfrydwyr bydd yn sicr o ennill cannoedd yn ychwaneg o gefnogwyr iddo yn y lie, a z, gellir rhestru Fulham o hyn allan ym mysg seddau Rhyddfrydol y ddinas. MAE perchenog Tit-Bits wedi llwyddo i gadw y sedd yn Abertawe yn erbyn Ceidwadwr cadarn a gwr galluog. Er cystal gwr yw Syr George, nid yw yn boblogaidd iawn gan Gymry Llundain oherwydd ni cheir ei bresenoldeb ond yn bur anaml yn ein cynulliadau. Gwell gan y gwr cyfoethog hwn fwynhau ei hun ar y mor a'r Cyfandir na rhoddi rhyw sylw arbenig a chyson i'r genhadaeth sydd ganddo i'w etholaeth yn Westminster, ond feallai ar ol ei addewidion amrywiol y tro hwn yn Abertawe y ceir ei weled ef yn fvvy ami yn ei sedd o hyn allan, yn en- wedig pan fo materion Cymreig yn cael eu dwyn ger bron.

Pobl a Phethau yng Nghymru.

Y DYFODOLI.

PREGETHWYR Y SABBOTH ..NESAF.

Advertising

Advertising