Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CLEBER O'R CLWB.

A DASTARDLY ATTEMPT.

Advertising

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y CYNGHERDD.—Unoamcanion y cyngherdd a roddid yn Jewin ar y noson oedd sicrhau arian er lleihau y ddyled, a da genym ddeall fod y mudiad wedi troi yn llwyddiant hefyd, oherwydd gwnaed elw pur sylweddol o'r cyfarfod. Canwyd yn wir effeithiol gan Miss Gwladys Roberts, Miss Amy Evans, Mri. Trefor Evans, ac Ivor Foster, a rhoddwyd derbyniad cynes i'r oil gan y dorf oedd wedi dod ynghyd. Y SIARAD. — Caed anerchiad fer gan ei Arglwyddiaeth, yn yr hon y cymhellai bawb i wneyd eu goreu tuag at leihau dyled y capel.' Ni wyddai o'r blaen, meddai, fod y fath nifer o addoldai Cymreig yn ein mysg, ac 'roedd yn amlwg ein bod yn parhau yn dra ffyddlon i'n haddysg foreuol ar ol ymsefydlu yn y brif ddinas. Yr oedd yn barod i wneyd unrhyw beth dros achosion Cymreig, a chan fod y He hwn o'r tu fewn i ffiniau'r ddinas yr oedd yn barod i gyd- synio a'r gwahoddiad i lywyddu yn y cyfarfod. Diolchwyd i'r Arglwydd Faer mewn geiriau- caredig gan y Parchn. P. Hughes Griffiths, Charing Cross R. O. Williams, Holloway; a J. E. Davies, M.A., Jewin. Y TABERNACL.—Dadleu fu gwaith Cymdeith- asau'r Tabernacl Cymraeg yrwythnos hon. Nos Sadwrn diweddaf caed noson o siarad gan y merched ar ragoriaethau "Llyfrau neu Gyfeillion er Ffurfio Cymeriad." Pleidiai Miss Walters yn gadarn dros Lyfrau, ac 'roedd Miss J. Davies mor gryf a hynny ar ran Cyfeillion. Cefnogwyd y ddwy gan bleidwyr selog, a chymaint oedd y brwdfrydedd fel y tybiem ein bod ar lawr y Senedd. Wedi ymranu ar derfyn dadl ragorol caed mai cyfeillion oedd mewn ffafr gan y bobl ieuainc. Y nos Fercher dilynol bu'r Gymdeithas Ddirwestol ar ymweliad a Charing Cross yn dadleu yn galed ar bwnc dirwestol. Yn sicr y mae pobl y Tabernacl yn dod yn siaradwyr glew. LLONNI'R PLANT.—Nos Sadwrn cyn y diw- eddaf caed noson hwyliog yn nghwmni'r plant yn ysgoldy'r Tabernacl, King's Cross. Llywyddid gan y gweinidog, Elfed, a phrif amcan y cwrdd oedd cyflwyno anrhegion blynyddol i'r plant a fynychant yr Ysgol Sul yno. Fel y soniwyd dro yn ol gadawodd un o hen aelodau yr eglwys gymunrodd arbenig at yr amcan, ac ar ddechreu pob blwyddyn gofelir am nifer o lyfrau a theganau i'r ysgolheigion, a'r flwyddyn eleni yr oedd y nifer mor lluosog ag erioed. Yr oedd y plant wedi eu parotoi i ganu ac adrodd mewn modd deheuig gan yr arolygwr, Mr. Emlyn James, yn cael ei gynorthwyo gan Misses Towena Thomas ac Annie Roberts, Highbury, a chyn cael eu rhoddion aethant drwy raglen faith o ddarnau deniadol. Ar y terfyn diolchwyd iddynt gan y gweinidog, yr hwn hefyd a'u hanogai i ofalu am ragor o ddarnau Cymraeg erbyn y flwyddyn nesaf. BARRETT'S GROVE.—Ynglyn ag Ysgol Sul y lie uchod cafwyd cyfarfod brwdfrydig nos Iau cyn y diweddaf. Bob blwyddyn edrycha'r plant ymlaen at y treat roir iddynt gan Mrs. Williams, Allen Road, ac nid oedd dim yn eisieu yn y te ddarparwyd ar gyfer ffyddloniaid yr Ysgol Sul. Ar ol y te cafwyd cyfarfod o ganu ac adrodd, a chystadleuon mewn darllen a chanu, a bu'r plant yn rhoi difyrwch ac adeilad- aeth i bawb oedd yno. Yn ychwanegol at y te rhoddwyd hefyd, fel arfer, lyfrau gwerthfawr yn wobrau i'r plant am eu ffyddlondeb i'r Ysgol Sul-rhodd yr un chwaer haelionus. DYMUNIR arnom alw sylw Cymry Llundain at gyngherdd cenedlaethol a gynhelir yn Heol- y-Castell nos Sadwrn, Chwefror 24ain. Mae cerddorion poblogaidd wedi eu sicrhau, a dis- gwylir y bydd amryw o arweinwyr y genedl yn bresenol. Cadeirydd, Y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd George, A.S. CHARING CROSS ROAD.-Nos Fercher, Ion. iyeg, cynhaliwyd y cyfarfod adloniadol cyntaf am y flwyddyn hon yn y lie uchod o dan nawdd y Gymdeithas Ddirwestol. Daeth nifer liosog ynghyd i fwynhau y rhaglen ardderchog oedd wedi cael ei threfnu ar gyfer y noswaith. Yr oedd yn hawdd gweled wrth y gwynebau llawen fod pawb wrth eu bodd ac yn mwynhau eu hunain. Trueni na fuasai Ilawer mwy o gyfar- fodydd o'r fath er mwyn rhoi cyfleusdra i Gymry ieuainc Llundain i fwynhau eu hunain ac i adnabod eu gilydd yn well. Cymerwyd rhan gan y personau canlynol :—Unawd ar y berdoneg, Miss Mary James caneuon gan Miss Nellie Edwards, Mr. David Jones (Llew Caron), Mr. J. Davies; 'cello a violin solos, Mr. David Parry; adroddiadau, Miss Fulcher cyfeilyddes, Miss Bessie Jones. Cymerodd pawb at eu rhan yn ardderchog, ac o dan lywyddiaeth Mr. Benjamin Evans trodd y cyfarfod allan yn llwyddianus iawn. Ar y diwedd cafodd pawb eu digoni o ddanteithion oedd wedi cael eu darparu ac yn rhoddedig gan Mr. a Mrs. D. James, William Street, N.W. Terfynwyd y cyfarfod trwy ganu Hen Wlad fy Nhaclau," Miss Pierce yn arwain yn y canu.—R. THE London and North Western Railway Company announce that they have just issued three new sets of post cards—No. 34, Mis- cellaneous Views; No. 35, Motor Vehicles and No. 36, Views in North Wales—and as these are nicely printed, collectors and others will be after them with avidity, more especially as they are all produced in England by British workmen. The price is the same as formerly, viz., 2d. per packet of six different cards, and as the "Coat of Arms of the Company has been transferred from the "picture" to the "address" side, their value from an artistic point of view is enhanced.