Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
A. E. ROOTES 62, Harleyford Rd., Kennington Oval, S.E., BUILDER & DECORATOR. Sanitary morn a Speciality. Every Description of Shop Repairs carried out. ESTIMATES CIVEN FREE. MY PRICES ARE LOW. The favour of your esteemed orders for work, which I guarantee to be done well, will oblige.
Y DYFODOL
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Y DYFODOL [Dymunir ar i ysgrifenyddion a threfnwyr y gwahanol Gyfarfodydd anfon gwybodaeth yn brydlon am unrhyw gynulliad a fwriedir gynnal, er mwyn rhoddi hysbys- rwydd amserol yn y golofn hon. ] 1906. Chwef. 8. Swper Goffi a Chyngherdd Eglwys St. Padarn, yn Emmanuel Mission Hall. 10. Eisteddfod y Tabernacl, King's Cross. 15. Cyfarfod Te a Chyngherdd Blynyddol y Boro'. 21. Cyfarfod Adloniadol. Noson Genedl- aethol," Charing Cross Road. 28. Cyfarfod Gwyl Dewi Sant yn y City Temple. Pregethwyr, Parch. T. J. Wheldon, B.A ,!Bangor; Parch. J. Gomer Lewis, D,D., Abertawe. Maw. 8. Eisteddfod Eglwys y Wesleyaid, City Road, yn y Shoreditch Town Hall. 8. East Ham. Cyngherdd Cystadleuol yn y Recreation Hall, Manor Park. 15. Cymdeithas Ddirwestol y Tabernacl, King's Cross. Cyfarfod Cyhoeddus. 29. Eisteddfod Flynyddol Shirland Road. Ebrill 5. Te a Chyngherdd Blynyddol Little Alie Street, Aldgate. £ 6. Cymanfa Ganu M.C. Llundain yn Jewin Newydd.. 26. Cyfarfod Te a Chyngherdd Blynyddol Wilton Square. Os am wneyd y cyfarfodydd a enwir yn y golofn hon yn llwyddiant yn mhob ystyr nis gellwch wneyd yn well na rhoddi hysbysiad o honynt yn y WELSHMAN. Telerau rhes) mol a gostyngiad sylweddol am gyfres. A'r papur i bob teulu Cymreig a chedwir ef fel reference. Gweler y telerau ar tudalen I I.
PREGETH WYR Y SABBOTH NESAF.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
PREGETH WYR Y SABBOTH NESAF. YR EGLWYS SEFYDLEDIG. Eglwys St. Benet, Queen Victoria-street— 11. o a 6.30, Parch. J. Crowle Ellis. Eglwys Dewi Sant, 'St. Mary's Terrace, Paddington Green- 11.0 a 6.30, Parch. W. Richards, B.A. Eglwys St. Padarn, Hornsey Road— 11.0, 3.0, a 6.30, Parch. W. Davies. Eglwys St. Mary, Camberwell New Road— I I. ° a 6.30, Parch. Lewis Roderick. Cenhadaeth y Dwyrain, Bridge Street, Bow- 11.0 a 6.30, Parch. Howell Watkins, B.A. Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Jewin Newydd 10.45, Parch. J. E. Davies, M.A. 6.45, D. Picton Evans, Tre. forris. Charing Cross Rd. 10.30 a 6.30, Parch. P. H. Griffiths. Wilton Square 10.30, Parch. G. H. Havard, M.A. 6.30, T. M. Jones, Colwyn Bay. Falmouth Road 10.45, Parch. S. E. Prytherch. 6.30, F. Knoyle, B.A. Mile End Road 11.0, Parch. D. Oliver. 6.30, Ll. Edwards, M.A. Shirland Road 10.45, Parch. T. M. Jones, Colwyn Bay. 6.30, G. H. Havard, M.A. Holloway 10.30, Parch. R. O. Williams. 6.30, J. Wilson Roberts. Hammersmith 11.0, Parch. F. Knoyle, B.A. 6.30, S. E. Prytherch. Stratford 11.0, Parch. J. Wilson Roberts. 6.30, R O. Williams. Clapham Junction 11.0. Parch. John Davies, Bontddu. 6.30, D. C. Williams, B.A., Penygroes. Walham Green. 10.30, Parch. D. C. Williams, B.A., Penygroes. 6.30, 11 John Davies, Bontddu. Willesden Green 11.0, Parch. W. T. Davies, Closy- graig. 6.30, Supply Tottenham. Lewisham 11.0 a 6.30, Cyfarfodydd Gweddi. Walthamstow 11.0, Parch. Ll. Edwards, M.A. 6.30, D. Oliver. Wood Green I I. 0, Parch. D. Picton Evans, Tre- forris. 6.30. J. E. Davies, M.A. YR ANNIBYNWYR. Y Tabernacl, King's Cross— 11.0 a 6.30, Parch. H. Elvet Lewis. Y Boro', Southwark Bridge Road— 11.0 a 6.30, Parch. D. C. Jones. Radnor Street, Chelsea- 11.0 a 6.30, Parch. J. Machreth Rees. Barrett's Grove, Stoke Newington- 11.0 a 6.30, Parch. E. Owen, B.A. East Ham, Sibley Grove- 11.° a 630, Parch. Ll. Bowyer. Woolwich, Parson's I-Iill- 11.0 a 6.30, Mr. Caradoc Jones. Battersea Rise- 11.0 a 6.30. Y BEDYDDWYR. Castle Street, Oxford Circus 11.0 a 6.30. Little Alie Street, Aldgate- 11.° a 6.3°, Parch. B. Arberth Evans. Tottenbam-i i. o a 6.30, Mr. D. Davies, Regent's Park College. Norman Hall, 252, Harrow Road— 3, Ysgol Sul. Y WESLEYAID. City Road— I 1.0, Parch. T. Jones. 6.30, Mr. H. T. Barker. Gothic Hall, St. Thomas Street, W.- 11.0, Mr. J. H. Edwards. 6.30, Parch. T. Jones. Poplar, Duff Street- 3.0, Parch. T. Jones. 6.30, Mr. D. Owen. Dymunir am i bob hysbysrwydd ar gyfer y golofn hon gael ei anfon i'r Swyddfa erbyn Dydd Mawrth y fan bellaf.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Before giving your orders for SHTERING Send for my Estimates, as I make a Speciality of Teas, Socials, Beanfeasts, n;nnppC and all Church or U1I111C1 S, SCHOOL Socials. I REFRESHMENT J. ^IldllllUlI, CONTRACTOR, Maidenhead Court, Aldersgate St., E.C.
Am Gymry Llundain.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Finchley, dydd Mawrth, y 23ain, gan y Parch. J. Crowle Ellis, ficer St. Benet's. Oddi rhwng ei hoff anwyliaid, Aeth ei henaid heb ddim braw, A daeth engy] i'w chroesawu Ar y lan yr ochr draw.-LL. CARON. CHARING CROSS RoAD.—"Would the Muni- cipalisation of the Drink Traffic promote Temperance?" Dyna oedd testyn y ddadl a gymerodd le yn y lie uchod, nos Fercher, lonawr 24ain, o dan nawdd y Gymdeithas Ddirwestol. Cymerwyd yr ochr gadarnhaol gan Gymdeithas Ddirwestol King's Cross a'r nacaol gan Gymdeithas Ddirwestol Charing Cross Rd. Agorwyd y ddadl yn y cadarnhaol gan Mr. David Thomas, King's Cross, a'r nacaol gan Mr. John Morris, Kensington. Yna rhoddwyd y ddadl yn rhydd i'r cyfarfod, Ar ol llawer o y'mddadleu bywiog ar bob ochr, cymerwyd pleidlais y cyfarfod, ac enillwyd y ddadl gan y cadarnhaol gyda dwy vote.-R. DEWI SANT, PADDINGTON.-Nos Fawrth, Ionawr i6ed, yn ystafell y neuadd eglwysig, cafwyd gwledd o de, gydag amryw ddanteithion, pryd y cyfranogodd lluaws mawr o aelodau yr eglwys ac eraill. Rhoddwyr y wledd y tro hwn oedd -gwyr ieuainc yr eglwys, a gwnaethant ddarpariaethau helaeth ar gyfer y dyn oddi- mewn. Q mor ddymunol yw gweled y to ieuainc yn cymeryd rhan yn holl waith yr eglwys. Pe ceid pobl ieuainc ein heglwys i wneyd yr hyn a allant, ni fyddai raid i ni ofni ynghylch tynged dyfodol yr eglwys. Ar ol gorphen gyda'r te, awd yn mlaen at yr ail ran o'r gweithrediadau am y noson, sef y cyngherdd. Y cadeirydd dewisedig gan y gwyr ieuainc oedd Mr. W. Evans, athraw yn un o ysgolion y brif- ddinas, ac fel pob gwr o'i safle ef llanwodd ei le yn ddeheuig ac anrhydeddus, Efe hefyd gymerodd yr arweinyddiaeth am y noson mewn llaw, a chyflawnodd ei waith yn rhagorol. Yr ydym yn disgwyl pethau mawr oddiwrtho yn y dyfodol. Dyma drefn y rhaglen :—Pianoforte solo, Miss Nancy Pierce; song (selected), Miss Josephine Gordon (encoriwyd); can, "Y Bachgen Dewr," Mr. Edward Owen; recita- tion, The Women of Mumble's Head," Miss Alice Watkins; song, "Carmencita," Miss Emily Hayes. Rhan ail: Song, "April Morn," Miss Emily Hayes (encoriwyd); song (selected), Mr. Edward Owen; recitation, Miss Alice Watkins song, Two Little Irish Songs," Mr. Tom Jenkins song (selected),. Miss Josephine Gordon. Mae rhestr yr enwau hyn, yn mhlith pa rai y ceir cantorion proffesedig, yn ddigon i brofi ein bod wedi cael cyngherdd o radd uchel, a derbynied pob un o honynt ein diolchgarwch llwyr am eu gwasanaeth gwirfoddol. Cynygiwyd pleidlais arferol o ddiolchgarwch iddynt ac hefyd i'r gwyr ieuainc gan y Parch. W. Richards, caplan, ac eiliwyd yn hapus gan Mr. R. H. Morris. Terfynwyd trwy i Mr. W. Thomas Williams ganu Hen Wlad fy Nhadau."—Nos Sul, Ionawr 14eg, ar ol y bregeth, yn yr ystafell
Am Gymry Llundain.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
eglwysig, etholwyd drwy gyfrwng y tugel aelodau i wasanaethu ar y Cynghor Eglwysig am y flwyddyn eleni.—Nos Sul, Ionawr 2iain, yn ystod y gwasanaeth, canwyd y solo gyssegredig, "He was Despised," gan Miss Davies, Birnam- road, Holloway. Mae y foneddiges ieuanc hon yn feddianol ar lais contralto cryf a soniarus, ac yr ydym yn prophwydo iddi ddyfodol gwych fel cantores.-Nos Fawrth, Ionawr 23ain, yn yr ystafell eglwysig, cafwyd dadl ddyddorol ac addysgiadol ar y testyn, Pa un a ddylai cynulleidfa gael rhan yn newisiad ei gweinidog ai peidio." Cymerwyd yr ochr gadarnhaol gan Mr. David Evans, Hampstead, a'r ochr nacaol gan Mr. Griffith James, Elephant and Castle. Siaradwyd yn alluog gan y ddau, ond pan roddwyd y cwestiwn i bleidlais cafwyd mwyafrif o ddau o ochr y cadarnhaol. Llanwyd y gadair yn ddeheuig gan Mr. Evan Lloyd, un o'r is- lywyddion, yn absenoldeb y Caplan, Parch. W. Richards. Siaradwyd yn mhellach ar y pwnc gan Mri. Hugh Jones, Owen Davies, T. K. Hughes, ac eraill. EALING.-Bob mis bydd yr Ysgol Sul yn rhoddi ffordd er cyfleustra i ni wrandaw ar un o'n gweinidogion Cymreig yn traethu yr efengyl yn y lie hwn. Felly y bu y Sabboth diweddaf, Ionawr 28ain, pan y cafwyd pregeth arnserol a grymus gan y Parch. W. Davies, Llantwit Major, sir Forganwg. Hyderwn i'r gwirion- eddau a draethwyd gael yr effaith priodol ar galonau y lluaws oedd yn bresenol. Yr oedd Mr. Davies ar ddiwedd yr odfa yn ein cymhell i ddal ati gyda'r achos yn y lie hwn, a llawenhai oblegid gweled cynifer wedi dyfod ynghyd. Ond i ni ymroi o ddifrif, a dyfal ddisgwyl, fe ddaw llewyrch are ein hymdrech yn nghymydog- aeth Ealing. HAMMERSlVIITH.-N os Fercher, y 24ain cyfisol, bu y Parch. Edward Owen, B.A., Barrett's Grove, yn darlithio ar Ann Griffiths," yn y lie uchod, ar wahoddiad y Gymdeithas Ddiwylliadol. Er fod llawer o siarad wedi bod ar y testyn o bryd i bryd, rhoddodd y darlithydd hanes Ann Griffiths yn fyw ac yn newydd ger ein bron, a da fydd genym glywed ein cyfaill Mr. Owen yn traethu yn mhellach ar yr un testyn pan gaiff hamdden i ymweled a ni. Diolchwyd iddo ar ran y Gymdeithas gan y Parch. F. Knoyle, B.A., Mr. R. M. Thomas, ag eraill. Deallwn fod Mr. John Morgan, yr ysgrifenydd llafurus, yn parotoi gwledd arall erbyn nos Fercher nesaf. Dowch yno'n llu.—J.