Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

CANLYNIADAU Y FRWYDR YNG NGHYMRU.

MARWOLAETH MR. TOM STEPHENS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MARWOLAETH MR. TOM STEPHENS. Gofidus genym orfod cofnodi marwolaeth Mr. Tom Stephens, yr arweinydd corawl enwog. Cymerodd y digwyddiad pruddaidd le dydd Mercher. Yr oedd y cerddor adnabyddus yn wael er's tro byd, a bu raid iddo fynd o dan driniaeth lawfeddygol yng nghlafdy Caerdydd rai misoedd yn ol. Ni wellhaodd fel y disgwylid, ac yr oedd yn amlwg o hyd i'r rhai o'i gylch nad oedd y diwedd ym mhell iawn. Brcdor o Brynaman, yn sir Gaerfyrddin, ydoedd Tom Stephens. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1855. Symudodd ei rieni i Aberdar, pan oedd y bachgen yn ieuanc, ac yn y dref honno y derbyniodd ei addysg o dan yr athraw gwladgarol, y diweddar Dan Isaac Davies. Dechreuodd cerddoriaeth fynd a'i fryd yn foreu. Yr oedd Caradog yn brif arwr cerdd yn Aberdar yn y cyfnod hwnnw, a thaflai ei ysbrydiaeth i holl ieuenctyd y dref. Yn 1877 symudodd Mr. Stephens i Gwm Rhondda, i fod yn arweinydd y gan yng nghapel Annibynol Bethesda, Ton Ystrad. Yn fuan wedyn ffurfiwyd y cor a ddaeth mor fyd- enwog o dan ei arweiniad. Cadwodd y cor i fynu am ddwy flynedd-ar-hugain. Yn ystod y blynyddoedd hynny ennillasant mewn cys- tadleuaethau dirif. Aeth yr arweinydd a'i gor drosodd i'r Unol Dalaethau ddwywaith, y tro olaf i Eisteddfod Ffair y Byd, a dygwyd y brif wobr gerddorol oddiyno i Gymru, er fod corau o bob parth yn ymgeisio am dani. Yn 1898 cafodd Tom Stephens a bechgyn y Rhondda eu galw i ganu o flaen ei diweddar Rasusaf Freiihiiies Victoria, yng Nghastell Windsor, a chanasant nes ennill cymeradwyaeth uchaf ei Mawrhydi. Rhoes anrheg werthfawr i'r arweinydd, gwa- hoddodd ef i'w hystafell breifat, a gwnaeth iddo ysgrifenu ei enw yn ei halbum. Ond yng nghanol ei lwyddiant a'r anrhydedd a bentyrid arno daeth afiechyd ar ei lwybr, a bu raid iddo droi o'r neilldu. Y mae cerdd Cymru yn dlotach heddyw o'i golli, a hiraethir yn hir am dano.

Football Chat.

Advertising

Gohebiaethau.-

Advertising

.THE DEATH OF MRS. JUSTIN…

[No title]