Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

Y LLOFFT FACH;" ,.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y LLOFFT FACH; YN YR HON Y CAWN GWMNI'R PERERINION. [Gan y Parch. D. RHAGFYR JONES, Treorci.] PENOD XI. Y Llofit Fach yn rhoi Ad-drem dros y Diwygiad. Yr wyf wedi diolch cymaint am y Diwygiad fel nad oes eisiau i mi bryderu wrth son am dano wedi iddo fyn'd, y caf fy nghamgymeryd mewn dim a ddywedaf. Yr oedd mwy o aur yn perthyn iddo na dim arall, ond nid aur oedd yr oil o hono; meddai ar lawer gormod o sothach hefyd. A dyna sy'n rhyfedd: yr oedd yn well gan ryw ddosbarth o bobl redeg ar ol y sothach nag aros i bigo'r aur i fyny. 'Does dim taro mawr imi dd'weyd taw yr ARGLWVDD oedd pia'r aur, a dynion bobpeth arall. Mae y rhai a gawsant y cyntaf wedi gwneud eu ffortiwn am byth, ond ni fu llun ar neb o'r Ileill wedi i'r miri mwya' basio. Cynifer o honynt ag oedd yn aelodau mewn enw o'r blaen, syrthiasant yn ol i lefel eu diogi blaenorol, os nad aethant yn is a chynnifer o honynt ag a ddaethant i fewn dan ddylanwad swn a thyrfa, buan yr aethant allan i'w hen gynnefin. Mi wn taw mater cynil yw cerdded y ffiniau mewn pethau crefyddol; ond gan ei fod yn dyfod yn anghenraid weithiau, hwyrach y bydd yn haws i mi ei wneud na llawer. 0 leia', prin y tybiaf yr a neb i feddwl am dori'r Llont Fach allan o'r seiat am dd'weyd ei barn Byddai yn well iddynt beidio cyhyd ag y bydd Dinah yn y clyw. Dyrysidfiyn fawr ambell idroganddistawrwydd yr hen bererinion yn ygwahanol gyfarfodydd—hyd yn nod y'nghanol y cyffroadau mwya'. Yr hen saint oedd yn arfer d'weyd Amen am yr uwcha' pan oedd pobl eraill yn ddystaw, nid oedd na bw na be i'w gael ganddynt yn awr mwy na phe buasent wedi marw. Yr oedd y drefn wedi newid yn llwyr. Ceid y swn i gyd o blith yr ieuenctid, yn feibion ac yn ferched; ac edrychai'r bobl hena' yr un fath yn union a phe baent wedi bod yn cysgu, a chael eu hunain ar ol dihuno mewn madws." Nid am nad oeddynt yn croesawu'r dychweledigion a breichiau agored, a 'does dim dowt geh I nad oedd eu calonau mor agored a hynny. Ond yn yr afiaeth bendigedica,' ymddangosent i mi fel rhai yn breuddwydio. Ceisiwn dd'od dros ben y dyrys- wch mewn mwy nag un ffordd. Hwyrach, meddwn ynof fy hun, fod y galon yn rhy lawn i'r tafod lefaru. Yr oedd yn hawdd genyf gredu hyny am yr hen Domos Dyn o deimladau dwysion iawn oedd y gwe'ydd; ac yr oedd ei helyntion diweddar a Dafydd Morus wedi bod yn fwy na digon i'w dagu. Yr oedd llai wedi ei dagu droion. Ond perthyn i'r fintai ddi- ddal yr oedd Tomos yn cael ei ystyried fynycha': neu dyna fel yr oedd wedi bod ar hyd y blynyddau. Daeth dipyn yn fwy sefydlog ar ol busnes 'Rhen Jew. Byw yn y pegynau y byddai Jonah fyth a hefyd, fel nad oedd efe yn tori ar ei arfer wrth fod yn dawedog. Bu yn forwr pan yn Ilanc, a chlywais ef yn son am ryw Gulf Stream" yn rhywle oedd yn cario dylanwad ar holl foroedd y byd, ac mor gynes nes llacio'r ia yn y ddau begwn ar amserau neillduol. Ond yr oedd y "Gulf Stream" a gyrhaeddasai galon Jonah heb gychwyn eto yr oedd fel y ddeddf ei hunan. Ocheneidio wnai Siors Boner p waelod y set, bydded haf bydded auaf ar grefydd. Yr oedd fel dyn yn codi pwysau trwm, a'i duchan i'w glywed o'r drws. Ni chodai yn uwch, ac -ni suddai yn is a inethodd holl hwyliau'r Diwygiad ei dynu i newid ei diwn. Yr wyf yn cofio i Hiws y scwl waeddi "0 siwrne pan aeth ei ferch ei hun i weddio yn ei ymyl; ond nid oes neb yn gwybod pa esboniad i'w roi arni. Mae un peth yn sicr, na chlywyd mo Hiws yn euog o beth felly na chynt na chwedyn a'r dybiaeth yw taw cael ei gymeryd yn sydyn a wnaeth wrth glywed ei groten yn gwneud peth mor annhebyg i'w chwrs cyffredin. Arferai Simon Pilars borthi'r gwasanaeth yn ffyddlon dros ben ond o ran cymaint o ymborth a gai'r gwasanaeth gatiddo yn y dyddiau hyny, buasai wedi marw o newyn er's meityn. Yr wyf yn meddwl imi dd'weyd o'r blaen mai stoic ar y mwya' oedd Phil Llwyd, ond buaswn yn disgwyl i'r hen Abrani Bifan ymollwng iddi ar ei ben. 'Doedd neb yn fwy drylliog pan ar ei liniau, nac yn fwy cyfan pan ar ei draed; ond er fod ei lygaid yn goch a'i drwyn yn rhedeg, yr oedd mor ddihelp o ran ei waeddi ag un o honynt. Mae hyn i'w dd'weyd am Shon Rhobat: yr oeddMari ei wraig yn siwr o fod yn gwneud iawn am ei ddiffyg ef, oblegid nid wyf yn cofio i un cwrdd basio heb ei bod hi c'uwch ei swn a neb yma. Mi wn fod yna eraill nad wyf wedi enwi, ond yr wyf wedi enwi y rhai ag yr oedd pwys yr achos fwyaf arnynt. Edrychent mor hurt a thwr o ddefaid wedi eu gyru i gornel gan y cwn. Peth arall nas gallwn gamu drosto oedd araf- wch y diaconiaid i gymeryd rhan gyhoeddus yn y moddion. Nid yn unig ni phorthent y rhai oedd yn gweddio, ond ni ddeuent y'mlaen i weddio eu hunain. Ymddangosai i mi fel rhyw dric ci-yn-y preseb. Pan edliwid hyny iddynt weithiau, eu hunig esgus oedd nad oeddynt yn cael digon o gyfle. Fel y dyn wrth y llyn, yr oedd rhywun neu gilydd yn bwrw ei hun i mewn cyn iddynt hwy gael amser. Fel pe bai amser a threfn yn y cyfrif y pryd hwnw Ac nid i'r cyntaf yn unig yr oedd y fendith yma, ond i bawb a'i ceisiai. Mi welais haner dwsin ar eu gliniau yr un pryd ragor na siwrne, ond cryts a chrotesi ceddynt bob un. Dim un o wyr y set fawr." Yr oedd cystal siawns iddynt hwythau a'r lleill, heblaw y buasech yn disgwyl hyny oddiwrthynt hwy. Yn wir, wrth gofio fel yr oeddynt wedi bod ar hyd y blynyddau yn gweddio am y Diwygiad, ni fuaswn yn synu dim pe gwelswn hwy ar eu gliniau ddydd a nos heb godi dim. Ond dyna fel yr oedd. Ni pherthyn i mi ond adrodd y ffeithiau; ac er fod y Di- wygiad hwnw drosodd er's llawer blwyddyn, ac un arall wedi d'od ar ei ol, mae'r peth yn gymaint o ddirgelwch i mi ag erioed. Peidiwch rhedeg i ffwrdd a'r syniad eu bod yn cael llonydd gan y gweddiwyr ieuainc yn eu gweddiau nac yn eu tystiolaethau. Y dychweledigion newydd oedd yn eu hargyhoeddi amlaf. Yr oedd'yn naturiol iddynt hwy synu at hen gref- yddwyr yn gallu bod mor ddystaw pan oedd braich yr Arglwydd wedi ei diosg at yr ys- gwydd. Teimlwn fod ambell un y'myn'd rhy bell yn ei ergydiori; ac yr wyf wedi sylwi wed'yn fod y rheiny o blith y rhai cyntaf i wneud ysgwydd i gilio. Chwi allech feddwl wrth wrando ar eu gweddiau nad oedd yma ddim llun o achos cyn eu dyfodiad hwy. Yr oedd yn hawdd maddeu iddynt pan gofiwn na fu fawr llun arnynt hwy, druain, cyn y dyddiau hyny. Ond bu yn dda i'r achos wrth yr hen saint dystaw wedi i'r dysgyblwyr hyfion fyn'd at yr eiddynt drachefn. Methwn yn lan a dygymod a'r modd tafod- lithrig y siaradai y rhai hyn am bethau mawr crefydd, ac yn enwedig am y Personau Dwyfol. Hwyrach taw arnaf fi y mae y bai, ond yn fy myw y gallaf glosio at neb sydd yn ail-adrodd drosodd a thrachefn yr Enwau trag'wyddol yn eu gweddiau cyhoeddus. Yr oeddwn wedi d'od mor gyfarwydd ag urddasolrwydd gweddiau'r saint fu'n penlinio ar fy estyll drwy'r blynyddau, a'r parchedig ofn a nodweddai eu holl dde- fosiwn, nes fy anghymwyso i dderbyn un math o eofndra gyda chydymdeimlad. Mi fuaswn I yn meddwl y byddai cyfarch y Brenin ,Mawr wrth ei enw ddwywaith yn yr un weddi yn ddigon; wrth ei hagor ac wrth ei chwpla. Ond yr wyf wedi clywed llu o weddiau heb fawr o ddim ynddynt ond yr Enw Sanctaidd. Nid amser y Diwygiad yn unig; ond dyna pryd y daethant amlaf ac amlycaf. Mi glywais lawer cyngor yn cael ei roi yn erbyn cymeryd enw Duw yn ofer mewn siarad cyffredin; a mi glywais rai o'r cynghorwyr yn gwneud yr un peth gyda llog pan ar eu gliniau. Parod wyf i addef nad oes. genyf fi ddigon ,0 enaid i fedru marcio'r gwahaniaeth rhyngddynt. Pe baech yn gofyn i mi p'run o'r Personau Dwyfol oedd y mwya' poblogaidd yn y Diwygiad, mi fuaswn yn d'weyd yn union taw'r Ysbryd Glan yn gyntaf, a'r Mab yn ail. Ond y Mab fel lesu Grist, yn Ddyn ac yn Dduw. Byddai llawer o weddio ar Iesu Grist, yr hyn a brofai fod duwinyddiaeth y gweddiwyr yn llac yn fwy na dim arall. Ond yr Ysbryd Glan oedd yn cael mwyaf o le gan bawb a balch oeddwn ar y cyntaf, oblegid yr oedd yr Ysbryd yn ddiameu wedi cael ei wthio o'r naill du yn ngwaith a gweddi'r eglwys er's gormod o amser. Y per- ygl mawr oedd i'r bobl ieuainc fyned yn rhy eofn arno, a siarad am dano mewn termau oedd yn merwino clustiau ambell i gydwybod dyner y'mhlith y saint. Edrychwn ar Dinah ar adegau o'r fath, oblegid hi oedd fy hin fynegydd a'm safon I yn wastad. Pan gauai ei llygaid nes crychu a'i thalcen, ac y byddai ei hagwedd yn debyg i un oedd yn disgwyl i bistol gael ei ollwng allan yn ymyl ei chlust, gwyddwn fod yr un a fyddai'n gweddio ar y pryd yn ymhyfhau, ac yn gadael y llwybrau cyfreithlon, gan fyned i drespasu dros diroedd gwaharddedig. Ac yr oedd fy nghydymdeimlad a Dinah a rhai tebyg iddi yn fwy nag a'r trespaswr. By'r eglwys yma yn wag droion yn ystod yr haner can' mlynedd yr wyf wedi bod uwchben fy nhraed, ac yr wyf yn cofio i bregethwr dd'od un tro a ddenodd rai o'r bobl i siarad am roi galwad iddo. Yr oedd y dyn yn siwr o fod yn bregethwr reit dda; ond cefais allan mai ei fai y'marn y doctoriaid oedd ei fod yn setlo cwestiynau anhawdd yn rhy hawdd o lawer iawn, yn siarad yn rhy sych am Galfaria, ac yn rhy ddirmygus o gynefin am yr -Ysbryd Glan. Yr ail Sabbath y bu yma, yr oedd nifer o'i feirniaid wedi ymgasglu at eu gilydd i'r Llofft Fach, a daeth Dinah i fewn ar ryw fusnes. Gofynodd un o honynt iddi —Simon Pitars, os wy'n cofio'n iawn: "Bewt ti'n feddwl o'r pregethwr ene, Dinah ? Ma'r dyn yn burion yn 'i le." ebe hi, ond nid y pwlpud ydi 'i le fe." Pa'm wyt ti'n gweud hyny ? 0, mae eisie tipin mwy o deimlad yn y pwlpud, ac nid trafod yr Ysbryd Glan fel llwyth o fries." A bron nad awn ar fy llw taw Dinah setlodd dynged hwnw yma. Bu fy hen ffrind yn foddion i setlo tynged twsged o ber- sonau a phethau yn ei dydd. Ond nid wyf am i chwi feddwl am foment ei bod yn euog o'r hyn a gondemniai mewn arall. Ac nid wyf am i chwi feddwl hyny am danaf finau chwaith, pan y dywedaf y byddai geiriau Dinah am y pregethwr yn dod i'm cof yn awr ac yn y man wrth wrando ar rai o'r ieuenctid yn ei gollwng gerbron yr orsedd. Ie, "fel llwyth o fries Duw faddeuo i ni i gyd. Nid rhyw lawer o "gewc" oedd genyf at y merched a'r gwragedd a ddeuant yma yn eu tro o fanau eraill, i siarad a chanu. Cystal i mi gyffesu'r cwbl ar ol dechreu. Yr oeddwn yn methu'n glir a deall pwy oedd yn eu danfon, a beth oedd eu neges. Ymofynwyd am un neu ddau y'nghanol y medd'dod mwya'; ond y gwir am dani yw, yr oedd i rywun waeddi carreg a thwll" y pryd hwnw yn ddigon i sicrhau cystad- leuaeth groch yn y fan. Fel nad oedd hyny'n profi dim. Yr oedd genym chwiorydd ieuainc yn yr eglwys yn eu curo i rywle mewn dawn gweddi, siarad, a chanu; a hen famau a'u gyrasent i ffitie heb godi ar eu traed. Nid wyf yn meddwl fod gadael i grotesi heb orphen prifio, amrwd eu deall a simsan eu calon, i redeg o gwmpas y wlad dan esgus efengylu, yn un help i Dduw na dynion. Os gallant wneud tipyn o les gar- tre', byddant foddlon ar hyny. Nid oes neb