Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Y PRIF WEINIDOG A'R AELODAU…

Advertising

Y TRI SENEDDWR CYMREIG

Gohebiaethau.

Y DYFODOL

PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.

Advertising

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Yr oedd y danteithion a'r melusion gafwyd wedi eu darparu yn garedig gan Mri. Dan Lloyd a Jenkins. Derbynied pob un o'r ddau ein diolchgarwch llwyraf a chynhesaf am eu car- edigrwydd. Canwyd yn ystod y cyfarfod gan Mr. Evans, a chwareuwyd y berdoneg yn feistr- olgar gan Miss N. Pierce a Mr. Jamieson. Terfynwyd trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau" gan Mr. Griffith Ellis James.—Yn ystod y gwasanaeth nos Sul diweddaf cafwyd dadganiad campus a chywir o'r solo gyssegredig, 0 God, have Mercy," gan Mr. Tom Jenkins. GWYL FLYNYDDOL.—Nos Fawrth, lonawr 3oain, cynhaliwyd gwyl flynyddol (28am) Syr John Puleston yn Capel Brunswick, mewn cysylltiad a'r Genhadaeth Ddwyreiniol. Cynulliad mawr, cyfarfod rhagorol yn mhob ystyr. Ar ol i oddeutu 800 gyfranogi o de da, cymerwyd y Ilywyddiaeth gan Syr John. Traddodwyd anerchiadau gan y Llywydd a'r Parchn. D. Oliver a E. Owen, B.A. (Barrett's Grove), ynghyd a'r Cenhadon Llewelyn Davies a J. T. Davies, Mr. Thomas (archgenadwr), a Mr. Dunn (L.C.M.). Datganwyd gan Miss Parry (Wilton Square), Mrs. Price (Barrett's Grove), Miss Pearce (Mile End), Miss L. Thomas (Morley Hall), Misses Maggie ac Annie Davies (efengylesau), a Miss Cassie Davies. Cyfeiliwyd gan Mrs. Nellie Jones yn ei dull deheuig arferol, a chyfaill caredig arall. Cynhaliwyd cwrdd rhwng y ddau gyfarfod i adloni at aros y cwrdd mawr. Cymerwyd rhan ynddo gan amryw, yn arbenig cor bach Silver Street. Yr oedd y cwrdd yn bob peth i'w ddymuno oddieithr absenoldeb Mr. R. S. Williams yn ei waeledd. Pasiwyd pleidlais barchus o gydymdeimlad a'r teulu yn eu gofid. Yr oedd Syr John, fel arferol, yn hapus, siriol, a derbyniol, a phresenoldeb ei ddwy ferch yno i ranu te ar ddiwedd y cyfarfod, caredigrwydd blynyddol Syr Thomas Lipton. Chwith oedd gweled lie rhai yn wag oedd yn bresennol y flwyddyn ddiweddaf. Lion oedd clywed Syr John yn hysbysu y byddai y caredigrwydd yn parhau, gan obeithio ei weled yno eto. Ter- fynwyd trwy ganu "Dyma Geidwad," &c.- MAELOR.