Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Pobl a Phethau yng Nghymru.

Advertising

* WELSH CROWN LANDS.

Y DYFODOL'

PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.-

Advertising

Pobl a Phethau yng Nghymru.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

dan y teitl Cyfres y Diwygiad." Pryddest Elfed ar Orsedd Gras" a geir yn y rhifyn cyntaf sydd newydd ddod allan. Mae yr argraffvvaith a'r rhwymiad yn lan a deniadol. Am y cynwysiad-wel, ni chyfansoddodd Elfed ddim byd gwell, os cystal, a'r bryddest hon, ac y mae dweyd hynny yn ddigon i ddangos ei gwerth. Y PARCH DAVID JONES, Penmaenmawr, benodwyd gan Esgob Bangor yn Ganon Mygedol yn yr Eglwys Gadeiriol fel olynydd i Dyfrig, yr hwn a ddyrchafwyd i fod yn Ganon Trigiannol. Mae Rheithior Penmaenmawr yn Gymro aiddgar, ac yn Ilenor Cymraeg o radd uchel. Arwydd dda yw fod yr Eglwys yng Nghymru yn rhoddi safleoedd uchel i genedlgarwyr, ac nid i estroniaid, fel y bu yr arfer yn rhy hir. MAE Mr. Dan Roberts, brawd Mr. Evan Roberts, yn ymgeisydd am y weinidogaeth mewn cysylltiad a Chyfarfod Misol sir Forgan- wg. Yn Nyddiadur y flwyddyn hon, ceir enw Mr. Evan Roberts mewn Ilythyrenau italaidd, yr hyn, yn ol ddeddf y Dyddiadur, sy'n golygu ei fod ar dir i'w ddewis i'w ordeinio