Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Am Gymry Llundain. TYMHOR SIARAD.-Dyma dymhor y siarad wedi dechreu, ac am y chwe mis nesaf ni sonir am ddim ond am areithiau'r Seneddwyr. Y NEWYDD-DDYFODIAID.—Daeth yr aelodau Cymreig yn lied gryno i Westminster yr wythnos hon, a chymerodd pob un y llw arferol yn deyrngar iawn. Eu CROESA wu.-Sut i'w croesawu yw'r pwnc sy'n blino rhai o aelodau y Clwb Rhyddfrydol. Myn rhai mai trwy gael wledd fawr y dylesid dathlu'r enillion Rhyddfrydol, ond os nad ydym yn camgymeryd yn fawr ni wnai ond adran fechan o'n cyd-genedl ymuno mewn peth mor anghymreig a hynny. Pe ceid cynulliad yn y Queen's Hall buasai'n well, ond a gawsid presenoldeb yr holl aelodau ? DOD YN OL.-Cafodd y Cynghorwyr Dinesig amser braf yn Paris yr wythnos ddiweddaf, a thystient ar eu dychweliad i Lundain nos Sadwrn fod y brwdfrydedd wedi bod yn hynod o gynes. Dywedai'r Cymry fuont gyda'r cwm- peini iddynt gael amser dedwydd iawn a llawer iawn o addysg drwy astudio ffyrdd y Ffrancod o ofalu am gysur ac iechyd y dinaswyr yn eu gwlad hwy. Y CusANu.-Ni chlywsom fod gwragedd y cynghorwyr Cymreig wedi bod yn dweyd y drefn wrth eu gwyr ar eu dychweliad o'r ddinas lawen. Gwnaeth y papurau lawer o siarad drwy yr wythnos am y cusanu fu ar ferched y Ffrancod, fel pe bae hynny'n beth dieithr iawn. Tystiai Mr. David Thomas mai dyna arferiad cyffredin y wlad, ac nad oedd angen gwneyd sylw o'r peth. Nid oedd ei feistr wedi gwneyd dim ond ymddwyn fel y dylai pob boneddwr edmygol ei wneuthur. Wel, ar hyn o fater, rhaid derbyn eglurhad gwr profedig fel Mr. Thomas. COR Y BRYTHONIAID.-Nid cor Merlin yw'r unig gor Cymreig yn Llundain, eithr ceir un arall o dan yr enw hwn yn cael ei arwain gan Mr. W. Harries. Nos lau wythnos i'r ddiw- eddaf daeth yr aelodau ynghyd i wledd fawr yn y Cabin Restaurant," 89, Regent Street, o dan lywyddiaeth W. Price, Ysw., er mwyn treulio noson lawen, ac hefyd anrhegu arweinydd y cor a baton hardd. Caed areithiau edmygol gan y cadeirydd ac ereill, a chaneuon gwych gan aelodau y cor, yn ogystal a chan Mr. Ivor Foster, Miss Gwladys Roberts, ac ereill o wyr enwog byd y gan. EISTEDDFOD Y TABERNACL. — Cynhaliwyd eisteddfod lwyddianus yn neuadd capel y Tabernacl nos Sadwrn diweddaf, a daeth torf fawr o bobl ieuainc ynghyd, ac o dan lywydd- iaeth A. L. M. Peate, Ysw., buont yn cystadlu yn bybyr hyd yn agos i hanner nos. Beirniad y gan oedd Mr. J. B. Sackville Evans; y farddoniaeth, "Machreth"; y traethodau, Parch. D. C. Jones, Boro; yr amrywiaeth, Parch. E. Owen, Barrett's Grove; a'r gwniad- waith, Mrs. Elvet Lewis a Miss M. L. Howells. Gofalwyd am y cyfeiliant gan Mr. David Richards, A.R.C.O., a chadwyd ef yn brysur am oiiau i gyfeilio i'r gwahanol unawdwyr, &c. Y BUDDUGWYR.- Yr oedd rhaglen faith wedi ei threfnu, a chan fod y cystadleuaethau yn agored daeth nifer luosog i'r ymdrechfa ar bob gornest. Dyma'r enillwyr :—Adrodd, "Mae Terfyn i Fawredd Cenhedloedd," 1, Mr. Herbert Reynolds, King's Cross; 2, Miss Bessie Thomas. Unawd ar y berdoneg, 1, Miss Blodwen Jones, Essex Road; 2, Miss Lizzie Davies. Ysgrifen oreu, I, Mr. J. Peate, King's Cross; ?, Miss Blodwen Jones. Unawd i blant dan 16, 1, Miss Jennie Evans, Canon- lpury; 2, Miss Blodwen Jones. Traethawd (1) i ferched, rhanwyd rhwng Misses A. R. Jones, Jewin, a Miss Hughes, King's Cross; (2) ar Emynau Cymru," Mr Morgan Owen, Shirland Road. Telyneg, Mr. Josiah Jones, King's Cross. Englyn, Mr. J. Jones, eto. Pedwar penill, rhanwyd rhwng Mr. Joseph Richards, King's Cross, a Mr. Williams, East End Mission. Hanes un o gyfarfodydd y Gym- deithas, rhanwyd rhwng Mr. Lloyd Roberts, Charing Cross, a Mr. D. J. Thomas, King's Cross. Cyfieithiad, Mr. D. Jones, King's Cross. Table centre, rhanwyd rhwng Miss Cassie Davies, Charing Cross, a Miss Winnie Evans, King's Cross. Unawd baritone, Mr. R.. Davies, Shirland Road. Unawd soprano, Miss Winnie Evans, King's Cross. Unawd tenor, Mr. B. D. Jones. Pedwarawd, Mr. B. D. Jones a'i barti. Wythawd, Mr. Stanley Davies a'i barti. Adrodd, Mr. T. J. Jones, Morley Hall. Champion duet, Mri. A. T. Evans, Barnsbury, a — Morgan, Castle Street. AMCAN YR EISTEDDFOD.—Amcan arbenig yr eisteddfod oedd cael arian tuag at ddechreu ffurfio llyfrgell ynglyn a'r Gymdeithas Lenyddol yn y lie, ac yn sicr yr oedd yr amcan yn haeddu'r gefnogaeth a gafodd. Deallwn fod y pwyllgor wedi sicrhau elw da, ac fod amryw addewidion eisoes wedi eu derbyn am roddion haelionus o lyfrau tuag at gychwyn y llyfrgell fwriadedig. BATTERSEA.-Nos Fercher nesaf y cynhelir te a chyngherdd cystadleuol y capel hwn. Mae'r rhagolygon yn addawol, ac yn sicr haedda'r cyfeillion bob cefnogaeth yn eu hanturiaethau cysson. CASTLE STREET.—Daw y Gwir Anrhydeddus Mr. D. Lloyd George i lanw'r gadair yma nos Sadwrn nesaf. Hwn yw'r cyngherdd cenedl- aethol blynyddol ynglyn a'r lie, ac er fod y cantorion goreu wedi eu sicrhau ni ofynir ond swllt am fyned i mewn. DAU GWRDD TE.—Os am wledd o de nos lau, y Isfed o Fawrth, am dano. Dyna'r noson y rhoddir gwledd flynyddol Holloway a King's Cross. Ar ol y te bydd cyngherdd yn y ddau Ie, ac yn y Tabernacl disgwylir Mr. S. T. Evans, A.S., i lanw'r gadair. GWYR Y TE.-Tra yn son am wleddoedd o de a chiniawau, priodol yw nodi y gwneir trefn- iadau arbenig gogyfer a chypulliadau o'r fath gan Mr. J. Shannon, Aldersgate Street. Saif mewn [man canolog, yn gyfleus .i fwyafrif o'n cynulliadau blynyddol, a sicr y rhoddir prisiau mwyaf rhesymol ynglyn ag unrhyw gynulliad ond ymgynghori ag ef. Ceir y manylion yn ein colofn hysbysebol. HEN ARIAN .-Chwilio am arian newydd mae mwyafrif y Cymry yn y ddinas hon, ond i'r chwilotwr am gywreinion mewn hen arian a bathodynau mae'n werth rhoddi tro i faelfa Mri. Lincoln a'i Fab yn Oxford Street. Mae ganddynt amryw o hen ddarnau Prydeinig ar werth, a gellir cael y manylion ond gohebu a hwynt ar unwaith. CHARING CROSS.—Un o'r eglwysi mwyaf cynyddol yn Llundain yw eglwys Charing Cross, ac yn ychwanegol at y pregethau da geir yno y mae'r blaenoriaid yn trefnu i wneyd y lie yn atdyniadol i bobl ieuainc o bob gradd. Mae llyfrgell ragorol eisoes wedi ei sefydlu, a'r lie wedi ei droi yn fath o gartrefle cysurus ar nos- weithiau yr wythnos. Yn ychwanegol at hyn y mae atdyniadau arbenig ynglyn a'r gwasanaeth ar y Sul ar gael ei gwblhau trwy ffurfio cerddorfa fawr i arwain gyda'r canu. AT OFFERYNWYR.—Tra'n son am gerddorfa ac offerynau cerdd, dylai ein darllenwyr, a phawb sydd yn cymeryd dyddordeb yn yr hyn a alwai yr hen bobl yn beirianau canu," dalu ymweliad a ystorfa eang Mri. Withers, yn 22, Leicester Square. Y mae'r ffirm hon yn un o'r rhai hynaf a mwyaf parchus ym myd y gan fel offerynwyr o'r radd flaenaf; a chyn prynu, byddai yn werth ymgynghori a hwy, naill ai yn bersonol neu trwy ysgrifenu. Mae'r stoc sydd ganddynt ar law yn eithriadol o fawr, a gall ein cerddorion fod yn sicr y cant lawn gwerth eu harian yn y lie. GWLEDD A CHWRDD.—Chwefror 12fed, yn Shaftesbury Hall, ar ol gwledda o de da- rhoddedig gan Mrs. Edmunds-cynhaliwyd cwrdd cyhoeddus rhagorol dan lywyddiaeth Mr. J. Rees, Stepney Green. Traddodwyd anerchiadau gan y Parchn. Talvin Davies, Castell-Newydd-Emlyn; G. H. Havard, Wilton Square Maelor E. Owen, Barrett's Grove P. Hughes Griffiths, Charing Cross; a Mrs. Dr. Phillips. Datganwyd gan Miss Parry, Wilton Square Miss Phillips, Castell-Newydd- Emlyn Mrs. Price, Barrett's Grove; Mrs. Hughes, Silver Street; a chor bach Silver Street,-yr oil gyda chyfeiliant deheuig Mrs. Nellie Jones, Barrett's Grove. Pasiwyd pleid- lais barchus o gydymdeimlad a Mr. R. S. Williams a'r teulu yn ei gystudd, gyda'r dy- muniad am ei adferiad.—MAELOR. DEWI SANT, PADDINGTON.-Nos Fawrth, 6ed, yn ystafell yr Eglwys, gerbron y Gymdeithas Lenyddol, traddodwyd un o'r darlithiau goreu a glywsom erioed gan y prif-fardd Elfed, ar ei hoff destyn, "Emynyddiaeth Gymreig." Y cyfnod neillduol y darlithiodd arno ydoedd o ddyddiau Edmwnd Prys hyd ddyddiau Dafydd Jones o Gaio. Yn ddiddadl mae Elfed yn un o ddar- lithwyr goreu y byd, ac yr ydym yn edrych yn bryderus at yr amser y cyhoedda y gyfres o ddarlithiau sydd ganddo ar y pwnc uchod mewn ffurf o lyfr. Siaradwyd hefyd ar y testyn gan y cadeirydd, Parch. W. Richards, Cyn- ygiwyd pleidlais gynes o ddiolchgarwch i'r darlithydd gan Mr. Hugh Jones, ac eiliwyd yn ddoniol gan Llew Caron. Diweddwyd trwy ganu emyn a gweddi. CYMANFA GWYL DEWI.- Y mae llythyr wedi cael ei anfon at swyddogion pob eglwys Gym- raeg yn y ddinas ag sydd yn dal cysylliad a Chymanfa Gwyl Dewi yn City Temple, yn erfyn ar iddynt ddewis dau frawd i fod yn stiwardiaid noson yr wyl, a dau fab neu ddwy ferch ieuainc i werthu rhagleni, ac anfon enwau yr oil i'r ysgrifenydd y cyfle cyntaf. Os digwyddodd i ryw eglwys fod heb gael y nodyn mewn pryd erbyn y Sul diweddaf, hyderaf y caiff yr awgrym yma yn y LONDON WELSHMAN fod yn gymhelliad iddynt wneyd heb golli amser. Bydd hyny yn gymwynas bwysig er sicrhau trefn erbyn yr adeg. Da genym ddeall fod y rehearsals yn mynd yn iawn mor belled. Nos Sul nesaf eto, bydd Maengwyn yn Radnor Street, Mr. R. Griffith yn Gothic Hall, Mr. Lloyd Hughes yn Charing Cross, a Mr. D. W. Thomas yn Battersea Rise. Gofaler am gyflawnder o ragleni, a digon o amser i'r arweinyddion i gael pob mantais ar gyfer eu llafur cariad.—T. JONES, Ysgrifenydd. HAMMERSMITH.—Nos Fercher, y 7fed cyfisol, cynhaliwyd cyfarfod amrywiaethol a the, o dan nawdd y Gymdeithas Ddiwylliadol. Llanwyd y gadair yn ei ddull hwyliog arferol gan y Parch. F. Knoyle, B.A. Datganwyd yn ystod y cyfar- fod gan Miss M. Evans, Miss Roberts, Ealing, Miss M. Parry, Miss Lizzie Jenkins, Mri. J. M. Williams, a Tom Jones. Pedwarawd gan Miss Parry-Jones a'i chyfeillion, a Mr. Ted Bowen a'i gyfeillion. Dadl gan Miss M. Vaughan a Miss Leah Jones. Adroddwyd yn ystod y cyfarfod gan Mrs. Davies, King Street, Mr. Caleb Williams, a Mr. George. Cyfeiliwyd gan Migs M. Parry. Gofalwyd am y "dyn oddimewn gan Miss Maggie Lewis, Miss M. Jenkins, a Miss Lizzie Davies, gan y rhai y cafwyd dan- teithion diguro.—Nos Fawrth diweddaf rhodd- odd Mr. Knoyle ei ddarlith ar y Y Bardd Cwsg," a chawsom wledd ardderchog fel arfer gan y darlithydd. A PROMISING VOCALIST.—Mr. R. Thomas, one of the sons of our contributor, Mr. Philip Thomas, has just entered as a student of the Royal College of Music. He has done so on the advice of Mr. Visetti, the eminent singing- master, who has a high opinion of the promise of his vocal powers. Mr. Thomas throws up a valuable business appointment in favour of this love of music, for which his Welsh blood is no doubt responsible