Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
H. CAMERON, 145, Cannon Street, LONDON, E.C. fiigb-eiass tailor. .to,¿ I;. 11"'1 FROCK COATS, LOUNGE SUITS AND EVENING DRESS SUITS. The favour of your custom respectfully solicited. W.S. LINCOLN & SON 69, New Oxford Street, —— LONDON, —— HATE ON VIEW AND SALE The LARGEST and BEST COLLECTION of COINS and MEDALS in Great Britain. Greek, Roman, Brilish and English Coins, in gold, silver, and copper. Provincial Tokens in silver and copper. American, Colonial, and Foreign Coins; Silver and Bronze Medals, War Medals, etc. Lists of the following can be had on application :— Cheap English Silver Coins, Coin and Medal Cabinets, Numismatic Books, Foreign Orders and Decorations, and an Illustrated Catalogue of Medals of the Popes. We shall be pleased if you will favour us with a visit and inspect our Collections, and you will not in any way be pressed into making a purchase. At the same time, we shall be pleased to have your patronage. Publishers of the Best Work on Tradesmen's Tokens of the Eighteenth Century, byJamcs Atkins. C1 own 8 vo Roxburgh, iSj. CYMANFA GWYL DEWI, 1906 (The Welsh Nonconformists' National Festival). Cynhelir y Gymanfa uchod yn y CITY TEMPLE, Nos Fercher Chwefror 28ain, 1906, AM 7 O'R GLOCH (DRYSAU YN AGORED AM 6 O'R GLOCH). Gwasanaethir gan y Brodyr canlynol:— Parch. DAVID YOUNG. D.D., Ealing. Parch. R. 0. WILLIAMS, Holloway. Parch. T. J. WHELDON B.A., Bangor. Parch. J. GOMER LEWIS. D.D..Abertawe Parch. E. OWEN, B.A., Barrett's Grove Arweinydd y Canu, Mr. MAENGWYN DAVIES. Organydd, Mr. DAVID RICHARDS, A.R.C.O. Ysgrifenydd, Parch. THOMAS JONES, 45, Almorah Road, Islington N. Ysg. Arianol (i r hwn y mae pob cais am lyfrau a thaliadau i'w hanfon), Mr. DANIEL RICHARDS, 31, Sun Street, Finsbury, E.C. Groesaw calon i holl Gymry Llundain, a thaer ddymuniad am eu presenoldeb. GWYL DEWI 1906. WELSH NATIONAL DINNER. THIS DINNER WILL BE HELD AT THE HOTEL CECIL (Grand Hall), ON Thursday, March 1st, 1906 (St. Daz;id's Day). The Rt. Hon. LORD LOREBURN (Lord High Chancellor) will be the chief guest. National Music will be rendered by well=known Welsh Artistes. Many of the Welsh Members of Parliament have promised to attend. TICKETS, 6/6 each. To be obtained of Members of Dinner Committee or of the Hon. Sees.:— ARTHUR GRIFFITH, 112, Gower St., W.C. J. OWAIN EVANS, 18, Wilton Rd., Victoria, S.W. ST. MAIR, CAMBERWELL. PRBGBTHIRi Nos Sul Nesaf (Chwef. 25), yn yr Eglwys uchod gan y Parch. CANON JONES, B.A., Ficer Peninaenmawr. Dcchreuir y Cwasalladit am 6.30 p. lit. ELECTRIC LIGHTING. Country Houses, Shops, Factories, &c. Over 20 years' experience with Oil, Gas, and Steam Engines, Water Turbines, Motois, &c. All Work Guaranteed. Practical Representative sent to advise, and Estiinates free. J. S. CUNNINGTON & CO., ST. MARTIN'S LANE, LONDON, W.C.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cyfeirierpob Gohebiaeth a fwriedir z'n colofnau "The Editor" pob Hysbysiad, The Adver- Using Managera phob Archeb, The Manager" a'r oll i'r Swydd/a, 45, 46, 47, St. Martin's Lane, W.C. Bydd yn hyfrydwch gan y Golygvdd dderbyn gohebiaethau ac erthyglau i'w hystyried, ond nis gellir ymrwymo i ddychwelyd vsgrifau gwrthod- edig.
\Nodiadau Golygyddol. j
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Nodiadau Golygyddol. Y GORCHWYL CYNTAF A'I ANHAWS= DERAU.-II. Yn ein rhifyn diweddaf buom yn ymdrin ag agweddau cyffredinol yr anhawsder crefyddol yn yr ysgolion — yr anhawsder i drefnu adran cydwybod a weithia yn esmwyth a didramgwydd, a'r anhawsder i benderfynu pwy sydd i gyfranu yr addysg grefyddol os penderfynir ei bod i'w chyfranu o gwbl. Yr ydym yn teimlo yn gryf na ddylid gosod y cyfrifoldeb hwnnw ar neb heb yn gyntaf feddu sicrwydd o'u cymhwysder ar gyfer y gwaith, ac ni fedrwn yn ein byw weled sut y ceir y sicrwydd hwnnw heb brawflwon. Credwn fod miloedd lawer o Ymneillduwyr yn y wlad nad ydynt yn foddlawn i ymddiried addysg eu plant ym mhethau pwysicaf bywyd i bersonau na wyddant yn iawn beth yw eu cred o berthynas i'r pethau hynny. Ni fedd y Wladwriaeth ddim hawl i ymofyn ynghylch daliadau crefyddol neb, ni ch) dsynia yr un Ymneillduwr iddi wneyd hynny. Ond yn niffyg ymofyn gan ryw awdurdod, os mai yr athrawon sydd i gyfranu yr addysg grefyddol, y mae yn bosibl, ie, yn sicr y bydd personau na chredant fwy yn nwytoldeb y Beibl nag yn nwyfoldeb y Koran yn ymgymeryd a'i esbonio fel gwerslyfr crefyddol. Gwell genym beidio ceisio dychmygu beth fydd effaith hynny ar y plant a ddaw o dan eu hyfforddiant. Yr ydym yn protestio yn bendant yn erbyn j'r Beibl gael ei ddysgu oddigerth fel llyfr crefyddol, fel llyfr Duw, fel mynegiad o ffordd iachawdwr- iaeth drwy Grist. Byddai ei ddysgu fel gwerslyfr hanes neu werslyfr moes yn unig y cam mwyaf dybryd ag ef, ac yn rhwym o wneyd niwed i grefydd nas dichon neb ei fesur. Y mae yr anhawsderau yna yn rhwym o droi i fynu yn yr ysgolion darparedig (provided schools), fel eu gelwir. Beth am yr Ysgolion Enwadol-Eglwysig, Wesleyaidd, a Phabyddol ? A ydynt hwy i gael eu gosod ar yr un tir a'r ysgolion eraill ? A yw pob ysgol lie y dysgir credo a chatecism i gael eu hamddifadu o bob cynorthwy o'r trethi ? Os felly, ac mae'n dra sicr mai felly y bydd, sut y gwneir ynghylch yr adeiladau ? A feddienir hwy naill ai drwy bryniad, neu drwy orthrech Ie y methir eu prynu ? Neu ynte a adeiledir ysgolion eraill i gymeryd eu lie ? A thybied y gellir dod i delerau a'u meddianwyr i'w prynu neu eu rhentu, a ganiateir cyfranu ynddynt ryw addysg grefyddol a fydd yn debyg o gyfarfod dymun- iadau y rhai a'u perchenogant ar hyn 0 bryd ? Os na wneir, y mae yn gwbl sicr y cyfyd gwrth- ryfel. Os gwneir, bydd y cwynion y protestia Ymneillduwyr yn deg yn eu herbyn yn aros heb eu symud. Ni ddylid cymeryd arian y cyhoedd i dalu am ddysgu credo unrhyw sect na phlaid, ond o'r ochr arall ni ddylid gorfodi unrhyw blaid i gymeryd ffurf o addysg grefyddol an- enwadol nad yw y blaid honno yn ei hystyried yn addysg gretyddol o gwbl. t, z;1 Yr ydym wedi nodi yr anhawsderau hyn yn eu noethder a'u grym, oblegid y teimlwn eu bod yn anhawsderau gwirioneddol. A ellir dyfod drostynt mewn rhyw ffordd, ai ynte y cwbl a ellir wneyd yw ceisio dewis y llwybr a lleiaf o anhawsderau ynddo ? Ymddengys i ni fod un ffordd, a dim ond un, yn bosibl i fyned drwy yr anhawsderau a nodasom, a honno ydyw, gwneyd yr addysg yn yr ysgolion yn fydol yn unig, a gadael i'r eglwysi drefnu i gyfranu addysg grefyddol yn ol eu doethineb. Rhaid i ni ddweyd na fedrwn ddeall cysondeb unrhyw Ymneillduwr sy'n cefnogi unrhyw gynllun arall. Mae cynllun Cyngrhair yr Eglwysi Rhyddion o addysg grefyddol anenwadol yn wrthuni per- ffaith o safle Anghydffurfiol, yn hollol anghyson a dadganiadau y Cyngrhair ei hun ynghylch perthynas briodol gwladwriaeth a chrefydd. Ond buasem ni, o'n rhan ein hunain, yn barod i gau ein llygaid rhag gweled anghysonderau pe tybiem fod y cynllun yn un ymarferol. Ond y mae mor anymarferol ag ydyw o anghyson, a hynny oblegid ei fod mor anheg tuag at bawb a phobpeth. Mae yn anheg tuagat y Beibl am ei fod yn ei ddarnio, yn anheg tuag at Gristionog- aeth oblegid ei fod yn cyfleu i feddyliau ieuainc syniad anghyflawn a chyfeiliornus am dani, yn anheg at y nifer liosog o luddewon ac Anffydd- wyr na dderbyniant y Testament Newydd fel rheol bywyd a safon moes, ac yn enwedig yn anheg tuagat Eglwyswyr a Phabyddion sy'n credu fod addysg grefyddol heb ddogma ynddi yn waeth nag ofer. Ac nid yw yn ddichonadwy i gynllun mor anheg at bawb fod yn un ymar- ferol. Prin y disgwyliwn y bydd i fesur Mr. Birrell gael ei selio ar yr egwyddor syml y dadleuwn drosti. Mae yr Ymneillduwyr sydd yn Nhy y Cyffredin, neu fwyafrif ohonynt, ni dybiwn, fel pe yn ofni y byddai i'r blaid Eglwysig gael rhyw fantais arnynt pe cymhellent addysg secularaidd. Ac felly .digon tebyg mai rhyw gymysgedd fydd y Mesur, rhyw ymgais i geisio boddhau pawb ac heb foddhau neb yn y diwedd. Ond beth bynnag fydd darpariadau y Mesur, teimlwn yn gwbl sicr yr erys yr ymryson a'r drafferth hyd nes y gwneir yr ysgolion yn sefydliadau secularaidd, a'r ysgolfeistri yn civil servants, gan daflu yr holl gyfrifoldeb o ddysgu y genedl ieuainc yn y pethau a berthyn i grefydd ar yr eglwysi. Dyna yr unig egwyddor deg tuagat bawb, a chan mai dyna yn unig sydd deg, dyna yr hyn hefyd sydd ymarferol.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Y GOMER PRESS, 9, RED LION COURT, FLEET STREET, E.C am holl Gyhoeddiadau'r Byd a'r Bell ws.