Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
A. E. ROOTES K 62, Harleyford Rd., Kennington Oval, S.E., BUILDER & DECORATOR. Sanitary Work a Speciality. Every Description of Shop Repairs carried out. ESTIMATES CIVEN FREE. I MY PRICES ARE LOW. The favour of your esteemed orders for work, which I guarantee to be done well, will oblige.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
rhoddi ei amser a'i arian a gwneyd ei oreu dros ledaeniad teyrnas yr Arglwydd yn mhlith ei gydgenedl, ac wedi cymeryd ei ran fel athraw, arolygwr yr ysgol, ysgrifenydd a swyddog yn yr eglwys. Mae pob aelod olioni yn teimlo yn falch o Mr. Davies ac yn dymuno i Mrs. Davies ac yntau hir ddyddiau i wasanaethu eu cenedl. Pasiwyd penderfyniad llongyfarchiadol i Mr. Davies gyda brwdfrydedd mawr. Mr. Timothy Davies, wrth ateb, a ddiolchodd yn fawr i'r siaradwyr am eu geiriau caredig a'r derbyniad cynes a brwdfrydig oeddynt wedi roddi iddo. Diolchodd yn gynes i bawb oedd wedi gweithio mor dda drosto yn yr etholiad.. Yr oedd wedi cael llawer o longyfarchiadau, rhai oddiwrth y rhai uchaf yn y deyrnas, a rhai oddiwrth gymdeithasau yn cynrychioli miloedd o bob], ond y tri oedd ef yn eu werthfawrogi yn fwyaf oedd un a gafodd oddiwrth yr hen eglwys y magwyd ef ynddi, ac oddiwrth ei hen ysgol- feistr, ac yn olaf oddiwrth Eglwys Walham Green heno. Fe wnai ei oreu dros Fesurau Addysg a Dirwest, a chefnogai bob mesur a fyddai er daioni i'r wlad ac yn enwedig i Gymru. GOTHIC HALL.-Nos Iau, Chwefror Isfed, cynhaliwyd yr ail swper goffi a chyngherdd yn y lie uchod. Rhoddwyd y cyntaf gan Mrs. Jones, Roman Road, a Miss Hughes, Earl's Court, dwy foneddiges sydd wedi bod yn ffydi- Ion gyda'r achos yn y West End am lawer blwyddyn, ac yn barod bob amser i estyn cymorth pan fydd galw am hynny. Rhoddwyd y diweddaf gan Misses Williams a Isaac, Culross Street. Dyma ddwy arall sydd wedi bod yn ffyddlon i'r achos da yn y West am flynyddau. Nid dyma y tro cyntaf i'r chwiorydd mwy na'r rhai eraill roi swper, ac nid dyma'r tro diweddaf yn sicr. Cafwyd cyngherddau rhagorol ynglyn a'r gwleddoedd yn y naill a'r llall, a sylweddolwyd symiau rhagorol tuag at yr achos. Bydd y wledd nesaf yn cael ei rhoi gan Mrs. Davies, Wimpole Street, a Mrs. Thomas, Lambeth Walk. Diau y bydd rhyw- rai craill yn barod i roi eto yn mhell cyn hynny. Taled yr Arglwydd iddynt am eu parodrwydd. JEWIN NEWYDD.—Nos Fawrth, Chwefror 6ed, ynglyn a'r Gymdeithas Ddiwylliadol, cyn- haliwyd Cyfarfod A dloniadol yn y lie uchod. Cadeiriwyd yn ddeheuig gan y brawd adnab- yddus, Mr. Ted Jones, a chafwyd caneuon swynol gan Miss Martha Rees, Miss Annie Thomas, Miss Mary Thomas, Miss Maggie Evans, Mr. W. J. Richards (Plumstead), a Mr. David Evans, R.A.M. Trwy garedigrwydd Mr. D. M. Evans a Mr. Mendus Edwards cafwyd hefyd gyflawnder o ddanteithion. Terfynwyd gan City Boy" trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau."—Nos Lun diweddaf traddodwyd darlith gan y Parch. T. E. Roberts, M.A., Aberystwyth, ar "Ryfeddodau'r Aipht a Chanaan." Y mae Mr. Roberts wedi bod yn ymweled a'r gwledydd hyn yn ddiweddar, ac fel y gellid disgwyl cafwyd darlith ddyddorol ac addysgiadol dros ben. Cadeiriwyd gan Mr. Howell J. Williams, C.S.LI., gan yr hwn hefyd y cafwyd sylwadau gwerthfawr. EGLWYS ST. MAIR, CAMBERWELL.—Pregethir yn yr eglwys uchod nos Sul nesaf, y 25am cyf., gan y Canon David Jones, Ficer Penmaenmawr. Y mae yn un o'r pregethwyr mwyaf hyawdl sydd yn perthyn i'r Eglwys yng Nghymru, a dylai pawb wneyd ymdrech i fod yn bresenol i'w wrando. CAPEL STRATFORD. — Cynhaliwyd Cyfarfod Adloniadol, o dan nawdd Cymdeithas Ddir- westol y Chwiorydd, yn y He uchod, nos Iau, Chwefror 15 fed. Cymerwyd rhan ynddo gan Llew Caron, Miss Thomas (Morley Hall), Miss Margaret Daniel, Miss Jennie Morgan (Poplar), Miss Jones (East Ham), Miss James (Clapham), Miss Logan. Gwasanaethwyd wrth y berdoneg gan Miss Parry. Cafwyd caneuon swynol a chwaethus. Darparwyd lluniaeth ardderchog gan y Misses Williams, Angel Lane, Stratford. Mwynhaodd pawb eu hunain yn odidog iawn.
------, PREGETHWYR Y SABBOTH…
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF. YR EGLWYS SEFYDLEDIG. Eglwys St. Benet, Queen Victoria-street— 11.0 a 6.30, Parch. J. Crowle Ellis. Eglwys Dewi Sant, St. Mary's Terrace, Paddingion Green— 11.0 a 6.30, Parch. W. Richards, B.A. Eglwys St. Padarn, Hornsey Road— 11.0 a 6 30, Parch. W. Davies. Eglwys St. Mary, Camberwell New Road- 11.0 a 6.3°, Parch. Canon David Jones, Ficer Penmaenmawr. Cenhadaeth y Dwyrain, Bridge Street, Bow- II. ° a 6.30, Parch. Howell Watkins, B.A. Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Jewin Newydd 10.45, Parch. R. O. Williams. 6.30. J. E. Davies, M.A. Charing Cross Rd. 10.30, Supply Willesden Green. 6.30, P. H. Griffiths. Wilton Square 10.30, Parch. B. T. Salmon, Llan- trisant. 6.30, G. H. Havard, M. A. Falmouth Road 10.45, Mr. T. lluws- Davies, I B, Sc. 6.30, S. E. Prytherch. Mile End Road 11.0, Mr. LI. Davies, Rhydfendigaid. 6.30, D. Oliver. Shirland Road 10.45, Parch. W. H. Davies, Pont- saeson. Holloway 10.30, Parch. J. E. Davies, M.A. 6.30, R 0. Williams. Hammersmith 11.0, Parch. LI. Edwards, M.A. 6.30, F. Knoyle, B.A. Stratford 11.0 a 6 30, Parch J. Wilson Roberts. Clapham Junction 11.0. Parch. D. Oliver. 6.30, Mr LI. Davies, Rhydfendigaid. Walham Green 10.30, Parch. S. E. Prytherch. 6.30, Mr. T. Huws-Davies, B.Sc. Willesden Green 11.0, Parch. P. Hughes Griffiths. Lewisham 11.0, Parch. G. II. Havard, M.A. 6.30, B. T. Salmon, Llan- trisant. Tottenham 11.0. 6.30, Parch. W. H. Davies, PonL- saeson. Walthamstow 11.0, Parch. F. Knoyle, B.A. 6.30, LI. Edwards, M.A. Wood Green 11.0 a 6.30, Mr. Dan Rhys, B.A. YR ANNIBYNWYR. Y Tabernacl, King's Cross- 11.0, Parch. D. C. Jones. 6.30, H. Elvet Lewis. Y Boro', Southwark Bridge Road- 11.0, Parch. Llewelyn Bowyer. 6.30, J. Machreth Rees. Radnor Street, Chelsea- 11.0, Parch. E. Owen, B.A. 6.30, D. C. Jones. Barrett's Grove, Stoke Newington- 11.0, Parch. J. Machreth Rees. 6.30, E. Owen, B.A. East Ham, Sibley Grove- 11.0 a 6.30, Mr. Watkins, New College. Woolwich, Parson's Hill- 6 30, Parch. LI. Bowyer. Battersea Rise— ( 11.0 a 6.30. Y BEDYDDWYR. Castle Street, Oxford Circus J 1.0 a 6.30, Little Alie Street, Aldgate- 11.0 a 6.30, Parch. B. Arberth Evans. Tottenham-II.o a 6.30, Mr. D. Davies, Regent's Park College. Norman Hall, 252, Harrow Road- 3, Ysgol Sul. Y WESLEYAID. City Road- 11.0, Mr. D. Owen. 6.30, Parch. T. Jones. Gothic Hall, St. Thomas Street, W.- 11.0, Parch. T. Jones. 6.30, Mr. D. Owen. Poplar, Duff Street- 3.0, Parch. T. Jones. 6.30, Mr. D. N. Evans. Dymunir am i bob hysbysrwydd ar gyfer y golofn hon gael ei anfon i'r Swyddfa erbyn Dydd Mawrth y fan bellaf.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Before giving your orders for CATERING Send for my Estimates, as I make a Speciality of Teas, Socials, Beanfeasts, nJnnzn.c and all Church or winners, SCHOOL sodais. JCUn nnnn REFRESHMENT ^liailUUll, CONTRACTOR, Maidenhead Court, Aldersgate St., E.C.
Am Gymry Llundain.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
prydferth, ar ran y boneddigesau ieuainc, gan Miss Nellie Lloyd, Kilburn. Dyma drefn y cyngherdd :—Pianoforte solo, Mr. T. Vincent z;1 Davies, organydd yr Eglwys; can, Mr. Tom Jones; adroddiad, Miss Godfrey; can, Miss Maggie Pierce; can, Mr. David Evans; can, Miss A. Davies; adroddiad, Mr. D. Williams can, Mr. Tom Jones adroddiad, Miss Godfrey. Talwyd diolchgarwch cynhesaf i'r "young ladies" am y wledd, i Mrs. Richards am lywyddu, ac i .bawb a gymerasant ran yn y cyngherdd gan Mr. Tom Jenkins, yn cael ei eilio gan foneddwr arall. Diweddwyd trwy i Mr: Tom Jones ganu Hen Wlad fy Nhadau." -¥n ystod y gwasanaeth nos Sul, Chwefror 18fed, canwyd yn swynol gan Miss Annie Davies, Dalston, y solo gyssegredig, "The King of Love my Shepherd is." EALING.—Gwella mae y cyfarfodydd amryw- iaethol a gynhelir yma bob mis mewn cysylltiad a'r Ysgol Sul. Gwelwyd hynny yn amlwg yn y cyfarfod a gynhaliwyd nos Fercher, Chwefror 14eg, yn Swift's Assembly Rooms, High Street, pryd y daeth cynulliad lluosog ynghyd. Sicr hawyd cadeirydd arclderchog yn Mr. Edward Owen, ac mae sefyllfa arianol yr achos yn gryfach trwy ei haelioni. Rhoddwyr y dan- teithion y tro hwn ydoedd Mr. a Mrs. Rowlands, Ealing Road. Mae'r cyfeillion hyn yn teilyngu cymeradwyaeth am y paratoadau a wnaethant gogyfer a'r lluaws oedd yn bresenol, ac iddynt hwy yn hollol mae llwyddiant y cyfarfod yn ddyledus. Cymerwyd rhan yn y canu gan Misses Pink, Niblock, Robinson, a Evans, a'r Mri Hughes a Walters. Adroddwyd gan Miss Doris Bumford Rees, Masters Tommy Rowlands a Gwilym Hughes, a Mr. Samuel, Ealing. Chwareuwyd ar y berdoneg gan Miss Pink, Miss Lily Niblock a'i chyfeilles. Ym- welwyd a ni gan Mr. Richards, organydd King's Cross, a bu mor garedig a'n llonni trwy chwareu ar y berdoneg yn ei ddull meistrolgar. Yn ychwanegol cafwyd anerchiad gan y Parch. F. Knoyle, Hammersmith. FULHAM.-Nos Fercher, Chwefror 14eg, yn Nghapel Walham Green, cynhaliwyd cyfarfod i groesawu a llongyfarch Mr. Timothy Davies, A.S., ar ei waith yn enill buddugoliaeth mor ardderchog yn yr etholiad diweddaf. Daeth cynulliad rhagorol ynghyd. Cafwyd te a phob danteithion trwy garedigrwydd chwiorydd yr eglwys. Cymerwyd y gadair gan y Cynghorwr John Thomas, North End Road. Cafwyd anerchiad da, a chyfeiriodd yn arbenig at y gwaith rhagorol oedd Mr. Davies wedi ei wneyd ar y Cynghor Dinesig a Chynghor Sirol Llun- dain. Cafwyd anerchiadau ar ran yr eglwys gan Mri. John Thomas, Warwick Road, a Tsaac T. Lloyd, dros yr Ysgol Sul gan Mr. John Hughes, a dros y Gymdeithas Ddiwylliadol gan Mri. J. W. Thomas a David Jones, yr oil yn dwyn tystiolaeth uchel i Mr. Davies fel Cristion ac fel dyn. Yr oedd bob amser wedi gweithio yn egniol er dechreuad yr achos yma, ac wedi