Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

CLEBER O'R CLWB.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CLEBER O'R CLWB. [Gan yr Hen Shon.] 1 AR y funud olaf y mae Cymry'r ddinas wedi penderfynu i gynhal cinio yn yr Hotel Cecil ar Ddydd Gwyl Dewi. 'Roedd pawb yn dis- gwyl y buasai'r Cymry Fyddion yn dihuno o'u cysgadrwydd erbyn yr adeg, ac yn gwneyd y trefniadau arferol eleni eto; ond mae aelodau'r Gymdeithas honno wedi mynd yn anobeithiol. Mae'r pwyllgor a etholwyd rhyw flwyddyn yn ol yn gwrthod gwneyd dim, tra ar yr un pryd mor anfoneddigaidd a gwrthod rhoddi eu swydd i fynu a gadael i eraill, mwy gwladgarol a mwy gonest yn eu cenhadaeth, i amcanu gwneyd rhywbeth dros genedlaetholdeb yn y ddinas. Ar hyn o bryd, mae'n eglur mai rhyw haid o Foxeriaid oedd y gwyr a benodwyd, oherwydd ni weithiant o gwbl os na chant fod ar y blaen yn mhob peth, a phan fo cais am symud yn dod oddiwrth yr aelodau cyffredin hwynthwy sydd fwyaf parod i dynu'n ol. DA genym ddeall, felly, mai yn annibynol ar y Cymru Fyddion y mae'r wledd eleni i gael ei chynhal. Addawa Mr. Ellis J. Griffith, yr aelod tros Fon, gymeryd y gadair, a disgwylir y Cymry ydynt yn aelodau o'r Weinyddiaeth i'r cynulliad yn ogystal ag amryw o wyr blaenaf y genedl yn Llundain ar hyn o bryd. Mae'r holiadau am docynau yn dra chyffredin, ac argoelion y llenwir neuadd fawr y gwesty enwog hwn ar y noson. Gwyddis y bydd cinio yr Hen Frythoniaid ar yr un adeg yng Ngwesty'r Holborn ond y mae'r Gymdeithas honno mor Geidwadol. fel nad yw mwyafrif Cymry'r ddinas yn cymeryd fawr o ddyddor- ddeb ynddi. Y rheswm, mae'n debyg yw, am fod' yr holl fudiadau ynglyn a hi wedi eu Seis- nigeiddio i'r fath raddau fel nas gellir ei galw yn Gymreig ond mewn enw yn unig. Bu rhai o aelodau y Clwb yn dra awyddus yn ddiweddar i roddi gwledd i'r 34 aelodau a gynrychiolant Gymru a Mynwy yn y Senedd bresenol, ond ar ol cael ymgom a rhai o wyr profedig y C) lch Cymreig yn y ddinas caed fod yr awgrym yn beth nas gellid ei weithio allan gyda rhwyddineb. Mewn pwyllgor a gaed 'roedd Mr. Vincent Evans yn gryf dros gael math o groesawiad cyffredinol, tra y dadleuai Mr. D. R. Hughes dros gwrdd mawr yn y Queen's Hall, ac ar ol ymgom llwyddodd i gytuno a'r Finsent am y tro, a threfnir yn awr i gael neuadd eang neu rhyw ystafelloedd cyhoeddus er cynal y fath gwrdd. 'Ceir danteithion a chan ar y noson, ynghyda araeth neu ddwy gan rai o'n cynrychiolwyr; a rhwng pob peth a'u gilydd credwn y llwyddir i wneyd cynulliad teilwng o'r amcan, os ceir gan yr aelodau i ddod iddo. NID oes argoelion y ceir "plaid Gymreig" yn y Senedd y tymhor hwn eto. Rywfodd neu gilydd y mae'n amhosibl cael undeb cydrhwng ein cynrychiolwyr, a'r rheswm am hyny yw eu bod mor anghymreig. Hawdd yw gwaeddi Hen Wlad fy Nhadau ar adeg etholiad a siarad ambell frawddeg yn llawn llediaith pan yn anerch yr etholwyr, ond ar ol ymgasglu i'r Senedd mae'r cyfan yn cilio a phob adran fel pe'n eiddigeddus o'r adran arall, a'r aelod hwn yn cilwgu ar yr aelod arall rhag iddo lwyddo i ennill mwy o boblogrwydd neu safle uwch, nes y

Advertising

-Y DYFODOL

- Football Chat.

CYMANFA GWYL DEWI.

Advertising

CLEBER O'R CLWB.