Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

CLEBER O'R CLWB.

Advertising

-Y DYFODOL

- Football Chat.

CYMANFA GWYL DEWI.

Advertising

CLEBER O'R CLWB.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

mae bron yn amhosibl cael gwir undeb cyd- rhyngddynt. Ar ol canfod fod Cymru gyfan o'r tu cefn iddynt yr oeddem yn disgwyl y buasent yn ymgeisio at greu plaid gref, gryno, a phen- dant y tro hwn. OND fel arall y mae, ac nid oes un adran yn y Senedd heddyw yn fwy cymysglyd ac yn fwy anhawdd i uno na'r 34 Cymry a anfonwyd genym fel gwlad i St. Stephan. Pan dry y genedl arnynt bydd eu tynged yn ail i'r hyn a welwyd mewn etholaethau Seisnig yn ddiweddar, ac ysgubir yr hen haid yn llwyr fel na flinant mo'n tir mwyach. YR oedd Mr. Ellis Griffith a Mr. D. A. Thomas mewn tymher bur ddrwg pwy noson pan ddatthant i'r Clwb ar ol bod yng nghyfarfod cyntaf y Blaid Gymreig yn Westminster. Yno buont yn siarad yn groyw ar bwnc Dadgysylltiad ac yn hawlio ei osod ar unwaith yn ffrynt y frwydr. Yr oedd y lleill am ymddiried ei leoliad yn y rhaglen i'r Weinyddiaeth, ond y profiad cyffredin yw fod yn rhaid hyd yn oed i wthio Rhyddfrydwyr i'w d) ledswyddau, ac na thai i Gymru yn awr i adael i'r pwnc hwn fod yn farw hyd ryw adeg gyfaddas i'n harweinwyr Seneddol. Mae llawer i'w ddweyd tros awydd Mri. Griffith a Thomas, ond gan fod dadganiad Syr Alfred wedi ei dderbyn gan y wlad yn gyffredinol, a Mr. Lloyd George wedi dadgan rai blynyddau yn ol na wnai dderbyn swydd mewn unrhyw Weinyddiaeth nad oedd yn barod i gymeryd cais Cymru yn hyn o fater yn y rhes flaenaf o'i daliadau gwleidyddol, yr ydwyf yn llwyr gredu y gellir bod yn berffaith dawel ar hyn o bryd, beth bynag, y gwna'r Weinyddiaeth hon ryw gais er symud y camwri hwn sy'n gwasgu mor anghyfiawn ar Ymneillduwyr ein cenedl..