Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

---;------------------------------------------._---------------------0------------------_0_--Cymru…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

-0-- -0_- Cymru yn y Senedd. Mr. Clement Edwards, Bwrdeisdrefi Dinbych. GWNEIR Bwrdeisdrefi Dinbych i fynu o'r pedair tref, Dinbych, Rhuthyn, Gwrec- sam, a Holt. Saif y ddwy lfaenaf yn Nyffryn Clwyd, a'r ddwy olaf yn Nyffryn Maelor. Mae Holt yn agos i derfyn sir y Mwythig a sir Gaer, a bron, os nad yn hollol Seisnig, a thipyn yn Seisnigaidd yw Gwrecsam hefyd. Gwelir fod y bwrdeisdrefi hyn yn lied bell oddiwrth eu gilydd o ran safle, ac yn gwahaniaethu cryn dipyn o ran eu nodweddion. 0 1868 hyd 1885 cynrychiolid hwy gan Rydd- frydwyr, y diweddar Mr. (wedi hynny y Barnwr) Watkin Williams a'r diweddar Syr Robert A. Cunliffe. Ond yn 1885 ennillodd yr Anrhyd. G. T. Kenyon.y sedd i'r Ceidwadwyr, ac yn eu meddiant hwy y bu am dros ugain mlynedd, er tosted yr ymdrech i'w dwyn oddiarnynt. Ymneillduodd Mr. Kenyon o fod yn gynrych- iolydd am dymhor, a chymerwyd ei le gan Mr. Tudor Howell, ond daeth Mr. Kenyon yn 01 drachefn, ac efe oedd y cynrychiolydd hyd yr etholiad diweddaf, pryd y llwyddodd Mr. Clement Edwards i Ennill y Sedd gyda Mwyafrif o 573. Yr oedd y frwydr yn un galed, a synodd pawb at faint y mwyafrif. Y mae genym ninnau yr hyfrydwch o roddi i'n darllenwyr yr wythnos hon ddarlun y gorchfygwr, gyda braslun o hanes ei yrfa ramantus. Brodor o Knighton, yn- sir Faesyfed, yw Mr. Clement Edwards. Ganwyd ef ychydig dan ddeugain mlynedd yn ol. Efe oedd trydydd mab ei rieni, y rhai oeddynt bobl gyffredin eu hamgylchiadau, ond hynod o barchus. Yn Ysgol Genediaethol ei dref enedigol y cafodd y bachgen ei addysg, a phan yn bedair-ar-ddeg oed dechreuodd ennill ei fywioliaeth yn swyddfa y Mri. Green a Nixon. Gan fod y swyddfa yn gwneyd cryn lawer o waith politicaidd, ac yntau wedi ei fagu mewn awyrgylch felly ar yr aelwyd, cafodd brofiad a fu o wasanaeth mawr iddo mewn blynyddoedd dilynol. Dechreuodd ysgrifenu i'r newydd- iaduron lleol pan yn ieuanc iawn, a bu hynny yn fantais ychwanegol iddo mewn mwy nag un ystyr. Ymsefydlu yn Llundain. Yn 1886 cafodd le mewn swyddfa newydd- iadur yn Llundain. Gwelodd ar unwaith fod cyfleusderau o fewn ei gyrhaedd yn y brifddinas i ymberffeithio mewn addysg a gwybodaeth- cyfleusderau nad oedd bosibl i dref wledig fel Knighton eu rhoddi iddo. Ennillai ei fywiol- iaeth yn y dydd, ac yn yr hwyr mynychai ddosbarthiadau lie y dysgid Ellmynaeg, Ffrancaeg, Lladin, Llenyddiaeth, Hanes, Areithyddiaeth, &c. Synai ei athrawon a'i gydefrydwyr at y rhwyddineb gyda pha un y meistrolai y gwahanol bynciau. Yr un adeg cymerai ddyddordeb mawr mewn gwaith crefyddol yn y Dwyreinbarth. Yr oedd wedi ei fagu yn Eglwys Loegr, ond gwelodd cyn hir wedi ymsefydlu yn Llundain nas gallai barhau yn aelod cydwybodol ohoni. Ymuncdd a'r eglwys Annibynol yn Victoria Park, i'r hon yr oedd y diweddar Barch. Thomas Evans yn weinidog, a chyda'r Annibynwyr y mae wedi aros. Tynnodd sylw ) n fuan fel newyddiadurwr o gymhwysderau a medr tuhwnt i'r cyffredin, ac ni bu yn hir iawn cyn dringo i fod yn olygydd MR. CLEMENT EDWARDS, A.S. Colofn Llafur y Sun, ac ar ol hynny rhoed iddo safle uchel ynglyn a'r Daily News. Pennodwyd ef droion gan olygydd a pherchen- ogion y papyr hwnnw i wneyd ymchwiliadau i faterion pwysig oeddy, t yn cyffroi y cyhoedd, a chynyrchodd ei adroddiadau gyffro mawr droion, mwy nag unwaith buont yn foddion i basio mesurau drwy Dy y Cyffredin. Ryw saith neu wyth mlynedd yn ol galwyd ef yn fargylruthiwr, ac er hynny y mae ci egnion wedi eu rhannu cydrhwng y gyfraith a gwaith llenyddol. Ynglyn a Diwygiadau Cymdeithasol y daeth Mr. Clement Edwards yn ainlwg ac yn enwog gyntaf, a phynciau ac achosion cym- deithasol sydd wedi bod yn brif bynciau ei efrydiaeth a'i ysgrifell. Dywed ef ei hun fod y clod am yr hyn a gyflawnodd a'r enwogrwydd a ennillocld yn ddyledus nid iddo ef ei hun yn gymaint ag i'r cyfleusderau a roddwyd ar ei lwybr. Ond un peth yw fod cyfle ar lwybr dyn, peth arall pur wahanol yw fod y dyn yn gwne)d defnydd ohono. Gwelodd ef ei gyfle cyntaf yn 1888, ynglyn a streic fawr Llafurwyr y Porthladd (Dock Labourers). Ymdaflodd i'r helynt honno gyda holl ynni a brwdfrydedd ei natur, ac yr oedd yn un o'r chwech arweinydd a ddygasant farn i fuddugoliaeth yn yr achos, drwy sicrhau i'r docker y swllt ychwanegol y gofynent am dano. Ymhen dwy flynedd ffurfiodd gyngrhair o Undebau Gwyr y Dociau, a chynrychiolai y cyngrhair hwnnw, i'r hwn y perthynai 130,000 o aelodau, yng Nghyngress Undebau Llafur yn Glasgow yn 1892. Yr oedd yn un o'r rhai a vlwyd i roddi tystiolaeth o flaen y Commissiwn Llaflir yn 1890, a chafodd ganmoliaeth arbenig gan fwy nag un o aelodau y Commissiwn ar gyfrif eglurdeb ei dystiolaeth a gwerth ymarferol ei awgrymiadau. Dywedodd Arglwydd Derby, y Cadeirydd, am dano Le wra y dyn ieuanc yna bethau mawrion ryw ddiwrnod." Rhoddodd Cloi Allan y Glowyr yn 1893 gyfle arall iddo. Yr oedd ar y pryd yn un o olygwyr y Sun, ac yn y cymeriad hwnnw penderfynodd agor trysorfa i gynorthwyo y dioddefwyr. Trv.fnodd i 100 o wragedd glowyr ddod o sir Gaerefrog i Lundain i dystio i'w cyflwr adfydus. Trelnodd arddangosiad mawr yn Hyde Park, pryd y cymerodd dros chwaner miliwn o bersonau eu lie yn yr orymdaith. Am wythnosau yr adeg honno ni chysgodd fwy na y "I thriawry nos ar gyfartaledd, ac erbyn i'r frwydr .ddibennu, ac i gymod gael ei wneyd, yr oedd yn ddeg-pwys ar-hugain yn ysgafnach na phan y dechreuodd. Dichon mai ynglyn a'r Mudiad i Amddiffyn Plant, drwy sicrhau iddynt flwyddyn rhagor o ysgol cyn y caent ddechreu gweithio hanner yr amser yn y ffactries a'r glofeydd, y gwnaeth Mr. Clement Edwards ei wasanaeth mwyaf fel diwygiwr cymdeithasol. Penododd y Daily News ef i wneyd ymchwiliad i achosy plant y caniateid iddynt fod yn absenol o'r ysgolion hanner yr amser wedi y cyrhaeddent un-ar-ddeg oed. Cynyrchodd ei erthyglau s)lw anghyffredin, a deffrowyd cydwybod y genedl Brydeinig fod yn rhaid gwneyd rhywbeth. Gwrthododd y Llywodraeth gymeryd y mater i fyny, ond sicrhawd un o nosweithiau yr aelod preifat i ddwyn Mesur ar y pwnc gerbron Ty y Cyffredin. Mr. Robson, y Cyfreithiwr Cyffredinol yn awr, oedd a gofal y Mesur, ond o'r erthyg'au yn y Daily News y tynai ef a phob siaradwr arall ei resymau drosto. Er gwaethif gwrthwynebiad cryf amryw o'r meistriaid yn y Ty, fe gariwyd ail ddarlleniad y Mesur gyda'r fath fwyafrif ag a sicrhaodd ei basio yn ddeddf cyn. pen ychydig amser. Ac y mae miloedd o blant a rhieni ac