Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

Y LLOFFT F A C H'

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y LLOFFT F A C H [Gan y Parch. D. RHAOFYR JONES, Treorci.] PENOD XIV. V I.lojjt Fach" yn son am Jfr. Aaron. Mae enw Mr. Aaron wedi troi i fyny ragor na siwrne. Y tro cyntaf y soniais am dano oedd pan' oeddwn yn traethu am gwrdd eglwys Dinah er's llawerdydd, ac yn bwrw fy llinyn dros gyrddau eglwys yn gyffredinol. Yr wyf yn meddwl imi dd'weyd fod Dinah a minau un bob ochr i'r berth ar y cwestiwn. Ond yr oedd Mr. Aaron yr un ochr i'r berth a'r Llofft Fach ac eraill heblaw ni o bobl reit gyfrifol. Fel taw nid ni oedd yr ochr wannaf. Yn erbyn y menywod y pechodd y gweinidog, am iddo awgrymu y buacai yn gweddu'n well idd nt aros gartre' noson cwrdd eglwys, na thyru yno heb un neges yn y byd ond i foddio cywreinrw\ dd, ac i flingo pobl dranoeth ar ol eu gwaedu'r nos o'r blaen. Aeth i lawr byn theg o raddau yn eu ffafr mewn canlyniad. -Ac imi fod yn gysact, dyna'r geiriau a ddefnyddiais y pryd hwnw. Pan ddeallwch fod Mr. Aaron yn arfer bod yn llewys y merched a'r gwragedd dros y penelin, ac y cae hwynt i wneud unrhyw beth drosto yn yr eglwys a phan ddeallwch hefyd ei fod yn cael ei alw yn brrgethwr y men- ywod gan ryw ddo"barth a gyfrifai freth felly islaw ei urddas ni bydd eisiau d'weyd wrthych yn gyntaf fod ei godwm yn fawr, ac yn ail fod y cwrdd eglw\s a mwy o ryw fath o swyn ynddo i'r chwiorydd nag un cwrdd arall. Beth yw'r swyn sydd iddynt ynddo, 'dwn I ddim. Mae yma wyr a gweision y rhai ni fynant golli cwrdd eglwys am y byd, rhag i chwi feddwl taw'r chwiorydd yn unig sydd yn y camwedd. Mi all'swn enwi dau neu dri na welir mo honynt byth mewn un cwrdd arall yn yr wythnos. 'Does yr un o'r chwiorydd yn euog o beth felly. Ond mae'n haws genyf ddeall awch y dynion i fyn'd i le o'r fath nag awch y menywod. Mi glywais un o'r rhai mwyaf llednais a thyner o'r gwragedd ieuaine yma yn d'weyd siwrne-—nid wyf yn cofio beth arweiniodd i fyny i'r siarad- na all'sai hi ddim edrych ar waed unihyw gre- adur heb ffeintio yn y fan Ond ni chlywais iddi ffeintio erioed mewn cwrdd eglwys, pan fyddai clwyfau ac archollion yn cael eu hagor, a'u trin, a'u glanhau yn ei gvvydd Ach-a fi Ac os byddai argoelion am row," a theuluoedd cyfrifol i mewn ynddo, goreu i gyd: prin y gallech 'stwffio'ch Haw rhwng y bobl fyddai'n bresenol y prydiau hyny. Yr un peth sydd i gyfrif am dano, mi dybiaf, a'r hyn sydd i gyfrif am boblogrwydd llys y polis yn y dre', y clywais mab Maesmelyn yn cyfeirio ato. Mae e'n fath o glerc yno, medde nhw. A pho frasaf fo'r dysgleidiau, ebe Meurig; llawnaf i gyd ydyw o wyr, gwragedd, a phlant. Wel, 'does dim plant yn cael eu gollwng i'r cwrdd eglwys, trwy drugaredd; ond mae pobpeth arall sy'n wir am y naill yn wir am y llall. Sut mae ei gysoni a'r meddwl crefyddol, dywedwch chwi. Yr oeddwn yn edmygu gwroldeb Mr. Aaron yn codi ei lais yn ei erbyn, oblegid nid yw yn un o'r dynion cryfa' ffordd yna; ond prin yr awn ar fy llw fod ei brotest wedi tycio dim. Heb son am ei dynged ei hunan. Peth arall ddywedais am dano oedd mai efe yw'r bwch dihangol" yma oddiar ei ddyfodiad. Wrth yr hyn y golygwn taw ar ei ben ef y gosodir pob diffyg yn yr eglwys, a taw efe welir amla' yn trotian i'r anialwch. Nid oeddwn yn meddwl wrth dd'weyd hyny fod rhan Mr. Aaron yn wahanol i ran gweinidogion yn gyffredin, ond fy mod yn unig ) n cofnodi'r ffaith hono am dano ef. 'Does dim dadl nad yw'r gweinidog yn gyfleus i'w ryfeddu i ddiaconiaid ac aelodau wneud merth)r o hono. Felly y gwelais I hi yma, ac felly y mae eto. Os digwydd i'r achos fyn'd yn ol am flwyddyn neu ddwy, llai o rif yn yr eglwys, a llai o waith yn cael ei wneud, ond odid fawr na chaiff Mr. Aaron awgrym ei fod yn myn'd ar ei oedran ond os daw pethau'n well am flwyddyn neu ddwy wed'yn, caiff pawb eu cyfran o'r clod ond efe. Pan fydd yr amser yn dlawd, y cynhaua' wedi methu, y prisiau yn isel, a'r rhenti yn uchel, ei gyflog ef gaiff ddyodde' gyntaf; a phan f)dd pethau wedi gwella, cynhaua' llawn a phrisiau da am dair blynedd o'r bron, ei gyflog ef fydd y dwaetha'n codi. ''Rhaid peidio rhoi lie i'r gweinidog fyn'd yn falch," ebe Bili Da fydd, pan fentrodd Bhys y Nyddwr son am roi rhagor o arian iddo. 'Roedd Bili 'n hen Dori rhonc yn yr eglwys, yn enwedig os deuai amgylchiadau'r gweinidog i'r bwrdd. Peth rhyfedd oedd hyny hefyd, pan gofiwch taw gweithiwr wrth ei ddiwrnod gwaith oedd ef ei hun, yn byw mewn cotty ar dir Gododin. Hen greadur slafaidd oedd Bili hefyd, os oedd yn cael y gwir, a'i law ar ei het yn ddiatal yn mhresenoldeb ei feistr am y tro, ond yn dyn yn ei boced bryd bynag y cyfarfyddai a'i weinidog. Clywais rywun yn d'weyd rywdro taw o blith caethweision y caed rhai o'r gor- meswyr gwaetha' fu yn y byd erioed. Hawdd genyf gredu hyny, oblegid mae "dyfnder yn galw ar ddyfnder" o hyd; ac yr oedd Bili Dafydd yn siwr o fod yn cael ei dalu dydd Sul wrth drafod y gweinidog am holl gaeth- wasanaeth yr wythnos a basiodd. Ni fyddai BiN yn gweddio dros ei weinidog yr un fath ag eraill. Er engraff: Yn He d'weyd, "Cofia am dy was ein brawd," "Cofia am dy frawd ein gwas," ddywedai Bili. Gwenai Mr. Aaron bob tro y clywai'r berthynas yn cael ei newid, a gwenai llawer gydag ef; ond yr oedd Dinah o'i cho'. Yr hen scwrffil! ebe Dinah; 'ein gwas yn wir Pe cae e'i dalu am 'i waith fel mae e'n talu 'i w'nidog, byddai'n haws siarad ag e' Ond ni chwynai Mr. Aaron. Haf a gauaf, ddydd a nos, hau a medi, oerni a gwres, bugeiliai ei braidd yn ol y Gair, drwy eu galw ar ei ol ac nid eu gyru o'i flaen. Fel y Bugail Da, cymerai yntau eu doluriau arno, gan eu gwneud yn ddoluriau iddo ei hun. Ac megis yr oedd y pryd hwnw pan oedd ambell i ddafad ungorn fel Bili Dafydd yn y fintai, felly y mae eto, pan y mae ganddo ddefaid sydd yn adnabod ei lais yn ei ddilyn, a'i drafferthion mwya' wedi darfod. Mae Bili wedi myn'd i'w gyfri'; ond mae Mr. Aaron yn amlhau erbyn dydd y cyfri' o hyd. Rhaid i mi dd'weyd fod dogn mawr o gyf- rwysdra yn perthyn iddo. Nid yw yn ddyn cryf yn ei feingefn hyny yw, nid yw yn meddu ar allu i gau ei ddwrn a tharo ei droed yn y llawr, pan fydd pethau yn galw am fesurau eithafol. Rhy barod i ildio, ebai ei gyfeillion goreu. Ond rywsut neu gilydd, y mae yn cael ei ffordd yn ddieithriad heb gau ei ddwrn na tharo ei droed yn y llawr; nes gwneud i chwi feddwl ei bod yn bolisi ganddo i ildio peth er mwyn cael mwy. Ac felly yr oedd yn ddi- ameu. Vr wyf yn meddwl imi awgrymu'n barod ei fod yn llwyddo i gael gan y merched a'r gwragedd i wneud unrhyw beth gyda'r achos; ac er iddynt sori wrtho am dipyn y'nghylch bnsnes y cwrdd eglwys, ni fu Mr. Aaron yn hir cyn myn'd i'w llewys drachefn. V mae ganddo ffordd lywaith o'u galw wrth eu henwau bedydd, a throi'n Gwacer wrth eu cyfa-rch. Nid oes ei ail drwy'r holl wlad i ymwel'd," a dwg hyny ef weithiau i wrth- darawiad a'i gym'dogion yn y weinidogaeth. Hwyrach fod yr elfen gymdeithasgar sydd ynddo yn ei demtio i groesi'r ffiniau ond nid wyfyn meddwl ei fod yn euog o geisio proselytio neb. Y mae yn well bugail nag yw o bregethwr, ac yn well casglwr nag un o honynt. Gall dynu gwaed o gareg. Gwyr sut i fyn'd at y dynion mwyaf annhebyg; ac y mae wedi profi scoroedd o weithiau fod y fath beth a chalon gan ddynion a gyfrifid yn ddieuog o beth felly gan bawb a'u hadwaenent. Pan wnaed y ty cwrdd yma yn newydd oddimewn, ac yn lan oddiallan, ryw bum' mlynedd yn ol, casglodd Mr. Aaron agos yr oil a gostiodd heb fyn'd o'r sir, Un 0 erthyglau ei ffydd oedd fod yna allwedd ar gyfer pob clo pe ceid gafael arn i a ffordd i galon a phoced pob dyn ond chwilio am dani. Ymffrostiai ar ol d'od yn ol yn ei sypyn agoriadau, ac yn ei fedr i dd'od o hyd i ben pob ffordd, er fod ambell un yn gorwedd y'nghanol anialwch o ddrain a d'rysni. Mae un engraff wedi cael ei hadrodd ganddo ddwseni o weithiau gyda bias. Pan oedd mewn un man, wrth holi am bersonau abl i roi, rho'wd enw boneddwr iddo oedd yn byw ychydig allan o'r dre', nid am ei fo i yn debyg o roi, ond am ei fod yn debyg o dynu adnoddau'r casglwr allan. Aeth i fyny at balas y dyn mawr, a phwy oedd yn d'od drwy'r glwyd ond y perchen ei hun yn ei ddilad hela, a scor o gwn hela yn gwibio o'i ddeutu, a dau neu dri o weision yn eu cotiau cochion. Ar gychwyn i hela. Ofnai'r gwaetha', a gobeithiai'r gore'. Bore' da, syr," ebai wrth y gwr bjnheddig. A chyn rhoi amser iddo i ateb nac i wrthod, ychwanegodd, gan gyfeirio at un o'r cwn: Dyna gi ffamws, syr-mae hwna'n siwr o fod y ci gore' o'r lot-pe bawn yn arfer betio, mi fetiwn ar hwna nad oes mo'i debyg yn y wlad Ni wyddai Mr. Aaron fwy am gwn hela nag a wyddai am gadnoaid, ond yr oedd ei gyfrwys- dra yn debyg i gyfrwysdra'r cadno. Ac yr oedd ganddo ddigon o wyneb i foddloni dau neu dri o ddynion cyffredin pan fyddai'n casglu. Edrychodd y boneddwr arno'n amheus i gych- wyn; yna'n foddhaus. Mi wela'ch bod ch'i a Ilygad at gi, syr," meddai. Yr oedd y casglwr diniwed wedi hapio disgyn ar y pry'. Chymerwn I ddim canpunt am y ci yna, syr. Mae pedigri'r ci yna yn werth mwy, heb son am 'i boints 'i hun. Y Diwc o' Welinlon oedd 'i dadcu o, a Lady Bela 'i fam o," ac yn y blaen ar ei hobi am bum' munud. Dyna un arall-ac un eto," ebai'r dyn rhy- fygus. "Yn wir, ni welais cystal cenel erioed, a mi wn nad oes eu gwell." "Dowch hefo ni, syr," ebe'r heliwr, "am ddiwrnod o hela. 'Rwy'n siwr fod dyn fel ch'i sy'n 'nabod cwn mor dda yn rfon'd o'i geffyl." Casbeth Mr. Aaron oedd marchogaeth ond ni dd'wedodd hyny. Mae'n ddrwg genyf nas gallaf eich dilyn heddyw," meddai. Yr oeddwn wedi meddwl cael gair hefo ch'i ar fater arall, ond mi wela' fy mod yn eich rhwystro. Mi dd'of i'ch gwel'd eto, gyda'ch caniatad. Bore' da, syr, a phob lwc." "Na, na," ebe Nimrod, mae gormod o gyd- ymdeimlad rhyngom o lawer i mi eich gollwng i fyn'd fel yna. Dof gyda chi i'r ty yn ol." Ac yn ol yr aethant. Daeihant yn ol at y glwyd lweth, y naill mor foddhaus a'r llall, ac fel pe baent yn hen ffrindiau blynyddoedd. Diolch yn fawr," ebe'r pregethwr. We', mae'r ci acw yn fy notio'n lan Maddeuwch i mi am fod mor ewn ond mae'r creadur mor nobl! Dewch eto, cofiwch," ebe'r gwr bon- heddig. Ysgydwasant ddwylo, ac aeth pob un i'w ffordd. Wedi troi'r gornel, tynodd Mr. Aaron bapyr o'i boced, ac ysbiodd arno'n fanwl. Papur pum' punt! Pan aeth at ei gyfeillion, a d'weyd yr hanes, agorasant eu llygaid nes o'ent fel soseri Mae yna ffordd i fyn'd at bawb," ebai, "ac y mae yna ffordd i fyn'd at y boneddwr sy'n meddwl mwy am ei genel na dim arall. Ce's afael ynddi wrth y glwyd, ac aethum ar f'union i'w galon trwy'r cum. Yn ei galon mi ge's afael ar allwedd i'w boced, a phrawf o'r cwbl yw'r pauyr pumpunt hwn." Yr wyf yn gobeithio taw myfi aiff odd'ma' gynta', ac nid Mr. Aaron. Mae yn ddyn ar- dderchog at iws gwlad, ac yn ffitio'r bobl sydd ganddo yn well na neb fu o'i flaen. Mae'n ddyn mawr gan y Methodus hefyd, ac y mae hyny'n golygu pwer. 'Does dim Baptus i ga'l ffor' yma. (l'w barhau).