Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

Cymru yn y Senedd.- Mr. D.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cymru yn y Senedd.- Mr. D. A. Thomas, Merthyr Tydfil. MAE enw Merthyr Tydfil yn un o'r enwau ar leoedd yng Nghymru sydd yn seinio'n hyfryd ar glust pob gwladgarwr Cymreig. Ni fedd y dref na'r cylchoedd fawr o swynion anian i'w dangos, mae'r golygfeydd mor amddifad o brydferthwch ag y gall unrhyw olygfeydd gael eu gwneud gan fwg a llwch gweithfeydd glo a haiarn. Y rhan y mae wedi gymeryd ym mywyd gwleidyddol Cymru sydd wedi rhoddi i Ferthyr safle arbenig, ac yn peri nad all unrhyw genedlgarwr son am dani heb i'w galon gynhesu. Dyna Hen Etholaeth Henry Richard, y cyntaf o'r to o aelodau seneddol sydd wedi profi mai nid rhyw ran o Loegr yw y parth a adnabyddir wrth yr enw Cymru, y cyntaf i ddweyd wrth y Saeson fod y Cymry yn genedl, yn meddu ei dyheuadau a'i hawliau cenedlaethol, y cyntaf i ddinoethi yr ormes estronol sydd wedi peri i'n gwlad ruddfan o dani am gyhyd o amser. Mae deugain namyn dwy o flynyddoedd wedi pasio er yr etholodd Merthyr Tydfil- gan gynwys Aberdar — Henry Richard i'w chynrychioli yn Nhy y Cyffredin, a chenedlaeth arall o etholwyr a Seneddwyr wedi ymddangos, ond edrychir ar fod yn aelod dros Ferthyr yn anrhydedd mawr byth er '68, ac y mae'r anrhydedd hwnnw wedi bod yn eiddo i Mr. D. A. Thomas bellach am ddeunaw mlynedd. Dyddiau Borcuol. Un o blant y fwrdeisdref a gynrychiolir ganddo yw Mr. D. A. Thomas. Ganwyd ef yn Aberdar ar y chweched-ar hugain o fis Mawrth, 1856, felly yr oedd yn fachgenyn rhwng deuddeg a thair-ar-ddeg pan anrhydeddodd y fwrdeisdref ei hunan drwy wneud "Apostol Heddwch yn aelod Seneddol. Yr oedd ei rieni yn bobl gefnog eu hamgylchiadau, ac yn barchus tuhwnt i fesur gan bawb a'u hadwaen- ent. Ni phreswyliai yng Nghwm Aberdar neb a anrhydeddid yn fwy na Mr. a Mrs. Samuel Thomas, Ysguborwen. Hawdd y gall Mr. D.. A. Thomas ymffrostio yn ei dylwyth, oblegid y mae yn dylwyth o'r hwn yr hanodd enwogion. Yr oedd y diweddar Barchedig David Thomas, y pregethwr a'r gweinidog enwog o Fryste, a gwr fu hefyd yn gadeirydd Undeb Cynulleid- faol Lloegr a Chymru, yn ewythr iddo o frawd ei dad, a chefnder iddo yw y Parchedig Arnold Thomas, o'r un ddinas, yntau hefyd yn un o gyn-gadeirwyr yr Undeb. Rhoed iddo bob manteision addysg, a gwnaeth yntau y defnydd goreu ohonynt. Ni adawodd i gyfoeth ei rieni lesteirio ei ymdrech a'i ymroddiad, ond dangos- odd yn fore fod ynddo uchelgais gref i ragori. Wedi cwrs o addysg mewn ysgolion preifat, aeth i Brifysgol Caergrawnt, a graddiodd yno yn ieuanc iawn, gan gymeryd safle uchel yn yr arholiadau. Cysylitiadau Masnachol. Yr oedd Mr. Samuel Thomas yn cario ymlaen fasnach eang ac yn berchenog glofeydd, ac ar ei farwolaeth ef disgynodd y cyfrifoldeb ynglyn a'r rhai hynny ar y mab. Mae'r fasnach erbyn hyn wedi eangu yn ddirfawr, a glofeydd newyddion mawrion wedi eu hagor, ac nid oes heddyw ond ychydig o feistri yn Morganwg yn fwy eu meddianau a'u cyfrifoldeb na Mr. D. A. Thomas. Lleinw swyddau pwysig yn y cylchoedd. Efe yw Llywydd Siamber Trafnidiaeth Caerdydd, a Phot) by Messrs. Harris (S- Son, Wesley House, High Street, Merthyr. MR. D. A. THOMAS, A.S. phrofa ei graffder a'i ddoethineb o wasanaeth a mantais ddirfawr i fasnach y ddinas fyw honno yn ogystal ag i fasnach Morganwg yn gyfifredinol. Ffynna y teimladau goreu rhyngddo ef a'i weithwyr yn wastad. Rai blynyddoedd yn ol, pan oedd y nifer liosocaf o berchenogion glo- feydd Morganwg wedi ymuno i gloi allan eu gweithwyr, gwrthododd Mr. D. A. Thomas gytuno a hwy, oblegid yr ystyriai na cheisiai y gweithwyr ddim nad oedd resymol a theg. Mae wedi astudio masnach yn ei holl agweddau yn drwyadl, ac ystyrir ei lyfr ar Coal Experts yn awdurdod safonol. Ei Fywyd Politicaidd. Pan y bu farw Mr. C. H. James oedd yn gyd aelod a Mr. Henry Richard dros Ferthyr yn 1888, dewisodd Rhyddfrydwyr y Fwrdeisdref Mr. D. A. Thomas yn ymgeisydd am y sedd wag. A'r fath oedd ei boblogrwydd ar gyfrif y syniad uchel am ei gymhwysder a'i gysylltiadau teuluaidd fel na ddaeth neb allan i'w wrth- wynebu. Yn wir, ni ellir dweyd fod neb wedi ei wrthwynebu o hynny hyd yn awr, oblegid, er fod polio wedi cymeryd lie yno yn 1892, 1900, a 1906, eto ymdrechfa dair-onglog ydoedd bob tro, ac nid Mr. D. A. Thomas, ond ei gyd- aelod, a geisid ddiseddu. Y mae wedi dod allan ar ben y pol ymhob etholiad, ac yn 1892 yr oedd ei fwyafrif yn 9,644, y mwyafrif mwyaf a „ gawsai neb yn y Deyrnas hyd yr etholiad diweddaf. Dengys hyn fod gan gorff yr ethol- wyr, sydd yn weithwyr gan mwyaf, yr ymddir- iedaeth lwyraf ynddo. Drwy ei degwch fel meistr, drwy ei gydymdeimlad a'u dyheuadau, drwy ei garedigrwydd iddynt yn eu caledi, drwy ei barodrwydd i gynorthwyo pob symudiad fydd a'i duedd i'w dyrchafu, y mae Mr. D. A Thomas wedi ennill calon gweithwyr Merthyr Dowlais, ac Aberdar. Radical Annibynol. Yn ei berthynas a gwleidyddiaeth yn gyffred- inol, ac a'r blaid Ryddfrydol yn arbenig, gellid gyda llawer o briodoldeb ei alw yn Radical Annibynol. Mae yn llawn o ysbryd diwygiadol, yn ddirwestwr ac yn pleidio deddfwriaeth ddirwestol, yn Rhydd Fasnachwr, yn wrth- wynebol i lafur Chineaidd yn Neheubarth Affrig, yn bleidiol i fesurau i wneud bywyd y glowr yn fwy diogel a mwy cysurus. Ond efallai mai y pwnc y teimla yn fwyaf selog drosto yw Dadgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru. Yn hyn y mae yn deilwng olynydd i Henry Richard. Ond nid ar yr un llinellau yn hollol yr ymladda efe y frwydr. Nid yw mor barod ag ydoedd "Apos'ol Heddwch" i wrando ar esgusodion arweinwyr ei blaid dros oedi cymeryd y mater mewn Haw. Yr oedd Mr. D. A. Thomas yn un o'r "pedwar gwrth- ryfelwyr Cymreig" yn 1894. Ac os nad ymgymer y Llywodraeth bresenol a'r pwnc cyn pen blwyddyn neu ddwy, ni ryfeddem weled yr aelod hynaf dros Ferthyr yn codi baner gwrthryfel eto. Ac nid yw wedi petruso cymeryd safle annibynol ynglyn a phethau eraill. Nis gwyddom yn sicr a yw yn awr yn perthyn i'r "Blaid Gymreig yn Nhy y Cyffredin ai peidio, hyd yn ddiweddar, beth bynag, safai ar wahan. G.vr o feddwl ac ewyllys annibynol ydyw, nis gellir cael ganddo dynu yn hywaeth ac ufudd ymhob math o dresi. Par hyn ei fod yn c leI ei gamddeall a'i gamesbonio weithiau, fel y digwydd gyda'r dyn cryf yn wastad. Ond pan gymer ef safle annibynol bydd yn abl i roddi rheswm paham y gwna hynny, ac ni ofala os gelwir ef yn fympwyol gan y rhai na allant neu na fynant ei ddeall. Y rhai agosaf ato a'i deallant oreu ac a'i gwerthfawrogant fwyaf, ac nid oes amheuaeth yn meddwl neb o'r rhai hynny ynghylch gonestrwydd a chydwybodol- rwydd ei amcanion a'i awydd dwfn am fod o wir wasanaeth i w genedl.