Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Undeb Cymdeithasau Diwylliadol Cymreig Llundain. Llywydd: ELLIS J- GBIFFITH, YSW., CYNHELIR Y s CYFARFOD TERFYNOL YN NGHAPEL HEOL Y CASTELL, OXFORD CIRCUS, W., NOS IAU, MAWRTH 29ain, 1906. t" Traddodir anerchiadau gan WINSTON S. CHURCHILL, Ysw., A.S. {Is-Ysgtfenyddy Trefedigaethau) A MAJOR SEELY, A.S. CYHOEDIUR MANYLION PELL ACII YR WYTILNOS NESAF. ARTHUR E. ROWLANDS, 120, The Grove, Hammersmith, W. R. PIERCE JONES, 27, Argyll Street, W., Ysgrifenyddion. A GRAND TEMPERANCE DEHONSTRATION WILL BE HELD AT New Jewin Welsh Chapel, FANN STREET, ALDERSGATE STREET, E.C., On THURSDAY, MARCH 22nd, 1906. President: MRS. LLOYD GEORGE. SPEAKERS: Mr. WILLIAM CROOKS, M.P. Mr. TOM RICHARDS, M.P. Soloist-Miss LALLA PARRY. Elocution ist-M Pa. D. O. EVANS. DOORS OPEN AT 7 p.m..COMMENCE AT 7.30 p.m. A HEARTY WELCOME TO ALL. St. Padarn's Welsh Church, Hornsey Rca^, N. A COFFEE SUPPER followed by an EVENING CONCERT in aid of the above Church will be held on THURSDAY EVENING, MARCH 15th, 1906, AT EMMANUEL MISSION HALL, Nearly opposite to St. Padrrn's (entrance in Mayton Street). The Supper will be given by Mr. and Mrs. J. HUGHES, Hornsey Road. Eminent Artistes have been secured for the Evening. The following social sketch will be given-" Village Scandal." Mr Danvers, Hostess Miss Violet Plater, Mrs. Beaumont Miss Connie Tuck. Mrs. Oswald, Visitor Miss Jessie Alford. Mrs. Knowal), Miss Ethel Pagp. Mrs. G-aham Miss Ruby Boyd. Molly, Maid Miss Maud Wells. Supper at 7. Concert at 8. Admission One Shilling. Children Half-price. ELECTRIC LIGHTING. Countrg Houses, Shops, Factories, &c. Over 20 years' experience with Oil, Gas, and Steam EngineF, Water Turbines, Motcns, &c. All Work Guaranteed. Pi actical Representative sent to advise, and Estimates free. J. S. CUNNINGTON & CO., ST. MARTIN'S LANE, LONDON, W.C. H. CAMERON, 145, Cannon Street, LONDON, E.C. fiigb-eiass Cailor. FROCK COATS, LOUNGE SUITS AND EVENING DRESS SUITS. The favour of your custom respectfully solicited. Telephone No. 7670 London Wall. W.S.LINCOLN & SON 69, New Oxford Street, LONDON, —— HA.tE ON VIEW AND SALE The LARGEST,and BEST COLLECTION Of COINS and MEDALS in Great Britain. Greek, Roman, Briiish and English Coins, in gold, silver, and copper. Provincial Tokens in silvrr and copper. American, Colonial, and Foreign Coins; Silver and Bronze Medals, War Medals, etc. Lists of the following can be had on application:- Cheap English Silver Coins, Coin and Medal Cabinets, Numismatic Books, Foreign Orders and Decorations, and an Illustrated Catalogue of Medals of the Popes. We shall be peased if vcu u ill favour us with a visit and inspect our Col!e tions, and you vill not in any way be pressed into making a purchase. At the same time, we shall be pleased to have your patronage. ] Publishers of the Best Work rn Tradtsineris Tokens of the Eighteenth Ccntuiy, by J1, tius Ath ins. Cteii 11 £;:1 RCA bicigh, iSi. Cyfeirierpob Gohebiaeth a fwriedir i'n colofnau "The Editor"; pob Hysbysiad, The Adver- tising Managera phob Archeb, "The Managerdr oil i'r Swyddfa, 45, 46, 47, St. Mar this Laney W. C.
Nodiadau Golygyddol.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Nodiadau Golygyddol. YR AMMOD, N1 chafodd Cymru erioed "gystal cyfle ag a roddir iddi yn bresenol i sylweddoli rhai o leiaf o'i dyheuadau cenedlaethol. Ni bu yr un o'i phlant yn dal swydd yn y Llywodraeth Brydeinig ers .llawer canrif beth bynnag hyd yn awr, a dyma y tro cyntaf i Gymro o dafod, yn ogystal ag 0 waed, eistedd ymysg Cynghorwyr y Brenhin. Disgwylir y bydd i'w safle ef, a'r ffaith fod pob aelod Seneddol dros Gymru 'yn cefnogi y Llywodraeth, effeithio er peri i'r Llywodraeth dalu sylw neillduol i hawliau a dyheuadau y Dywysogaeth. Nid dyheuadau plaid a olygwn yn awr, pa mor gref a gorchfygol bynnag y gall y blaid honno fod. Mae'r genedl yn hynach ac yn gryfach nag unrbyw blaid, a phynciau y genedl yw y pynciau pwysicaf. Yr unig ddadl a ellir ddwyn ymlaen dros gadw pynciau plaid yn amlwg ydyw eu bod yn gwasanaethu er hyrwyddo pynciau dyfnach yr holl genedl. Yr oedd yn dda genym weled i Mr. Lloyd-George, yn ei araeth yng Ngbaerdydd dydd Sadwrn, bwysleisio hyn mor bendant pan yn siarad ar bwnc addysg Cymru. Mae rhai agweddau ar y pwnc hwnnw sy'n rhannu ac yn cyffroi pleidiau, ac ofer disgwyl iddynt gael eu penderfynu i foddlonrwydd pawb. Eithr nid ydynt ond lied arwynebol, ac ar ol i'r Senedd ddelio a hwy fe'u hanghofir yn gymharol fuan. Ond y mae i'r pwnc agweddau eraill, nad oes a fynno eglwys a chapel, esgob a phregethwr, fel y cyfryw, ddim a hwy. Gallant anghofio eu gwahaniaethau yn gyfangwbl pan y deuir i ymdrin a'r agweddau hynny. Y mae yn bur glir y gall Cymru cyn pen ychydig amser gael rheolaeth ei haddysg yn hollol i'w dwylaw ei hun. A pha Gymro a wad y fantais aruthrol fyddai o hynny. Mae'n amhosibl i awdurdodau Whitehall drefnu addysg Cymru yn y ffordd effeithiolaf i gyfarfod angen y bywyd Cymreig. Yr unig gwestiwn yn awr yw, a ydyw Cymru yn barod i gydymffurfio a'r ammod sy'n gysyllt- iedig a'r cyfle hwn ? Dyna'r ammod, bod yn un. Oni bydd yn un, oni lefara gyda llais heb anghydsain ynddo, fe a y cyfle heibio, ac ni bydd hithau ddim gwell ohono. A gall bender- fynu, os i heibio felly, na ddychwel drachefn. Nid ydym yn ofni cymaint i wahaniaethau politicaidd ac enwadol fod yn atalfa ar ffordd y genedl i feddiannu ei genedigaeth fraint. Er cryfed y gwahaniaethau yna, y mae gwahan- iaethau cryfach a llawer anhawddach eu gosod i lawr. Y gwahaniaeth fu yn ddinystr i gymwys sylweddoli ei dyheuadau yn yr amser gynt oedd eiddigedd talaethol. Y gwahaniaeth sy'n bygwth dinystrio heddyw yw yr eiddigedd rhwng y dref a'r wlad, rhwng y parthau gweith- faol a'r parthau amaethyddol, mewn gair, rhwng Morganwg a Mynwy a'r gweddill o Gymru. Y mae yn naturiol i'r ddwy sir hyn, sydd a'u poblogaeth a'u gwerth trethiannol mor fawr, gredu y dylent gael nifer cyfartal o gynrychiol- wyr ar y Cyngor. Da y gwnaeth Mr. Lloyd- George i apelio atynt i fod yn fawrfrydig, a chadw mewn cof mai yn y parthau gwledig y megid pobl i lenwi eu trefydd a'u gweithfeydd. Ond dylai y siroedd gwledig, ar y llaw arall, gofio fod gan boblogaeth a gwerth treth- iannol eu hawliau hefyd. Mewn trefn i gael yr undeb hwnnw sydd yn hanfodol i lwyddo i gael cyfundrefn o addysg yn cyfateb i angen Cymru, wedi ei threfnu ac yn cael ei gweinyddu gan Gy/nry, a'i holl sefydliadau yn cael eu bywhau gan yr ysbryd Cymreig, rhaid i'r dref anghofio ei bod yn dref a'r wlad anghofio ei bod yn wlad — rhaid i'r naill a'r llall fwrw ystyriaethau lleol dros y bwrdd yn gyfangwbl. Y genedl sydd yn yr argyfwng, nid unrhyw sir, pa mor boblog neu eang bynag y dichon fod. Fe gofir i un sir sefyll allan yn erbyn y pymtheg craill pan geisiwyd