Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Dr COOKSEY SON, Inexpensive & Modern Funerals. (Price List on Application). 266, UPPER STREET, ISLINGTON, and 52, AMWELL STREET, PENTONVILLE. Carriage Department, 97, CHAPEL STREET Telephone Nos. 30 and 601, KING'S CROSS.
CYFARFOD MISOL LLUNDAIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFARFOD MISOL LLUNDAIN. Yn Jewin Newydd y cynhaliwyd y Cyfarfod Misol diweddaf, llywydd, y Parch. G. H. Havard, M.A., B.D. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. D. Oliver. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol. Darllenwyd llythyrau oddiwrth deulu y diw- eddar Mr. R. Davies, Bodlondeb, ac oddiwrth Mr. T. Benjamin, Jewin, yn cydnabod cydym- deimlad y C.M. Caniatawyd cais y Parch. J. Tudno Williams, M.A., i newid cyfeiriad ei lythyr trosglwyddiad o Ddyffryn Conwyi Ddyffryn Clwyd. Galwyd sylw at hawliau y "London Welsh Charitable Aid Society." Gwnaed apel wresog a thaer ar ei ran gan Mr. R. L. Whigham, a dymunwyd ar i'r Swyddogion ddwyn y mater teilwng hwn gerbron yr eglwysi y perthynant iddo. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad llwyraf y C.M. a theulu y diweddar Mr. R. S. Williams, Cenhadwr, West Ham, ac hefyd a'n cyfaill anwyl y Parch. J. Elias Hughes, M.A., St. Asaph, yn ei alar ar ol colli ei anwyl briod. Awdurdod- wyd yr Ysgrifenydd i ohebu a Mr. Timothy Davies, A.S., i ofyn ganddo gydsynio a chais y C. M. drwy wasanaethu fel Trysorydd. Gohiri- wyd adroddiad Pwyllgor y Gronfa Fenthyciol hyd y C.M. nesaf, a dymunwyd ar i Swyddogion yr eglwysi yn y cyfamser ei ystyried, a danfon eu penderfyniadau i Mr. R. O. Jones, erbyn Mawrth 14. Cyflwynodd Mr. R. L. Whigham gais o eglwys Charing Cross am genhadon i ddyfod yno i'r amcan o ddewis blaenoriaid. Derbyniwyd y cais, a phenodwyd ar y Parch. S. E. Prydderch, Mri. R. O. Jones, O. M. Williams, ac Isaac Lloyd, i fyned yno nos Sul, Mawrth 4ydd. Llawen iawn genym oedd deall fod y cyfeillion yn Clapham Junction, wedi llwyddo i dalu ^350 o'r ddyled i ffwrdd, a diddymwyd "note of hand am y swm hwn gan y Llywydd yngwydd y C. M. Cyflwynodd Mr. O. Morgan Owen ad- roddiad y Pwyllgor Adeiladu ynglyn a'r achos yn Wood Green, ac yn awgrymu gan fod nerth yr eglwys yno yn fychan, nas gallant gan hyny gymeradwyo yr eglwys i symud ymlaen i adeiladu ar hyn o bryd. Wedi ymdrafodaeth gyffredinol, penderfynwyd cyflwyno yr adroddiad i ystyriaeth Pwyllgor yr Achosion Newyddion, ac fod hwnw i gyfarfod ar unwaith. Cyflwynodd Mr. D. Edwards adroddiad y Pwyllgor Achosion New- yddion, a gohiriwyd ei gadarnhau yn derfynol ar hyn o bryd. Terfnwyd trwy weddi gan Dr. T. Phillips. Am 8.15, cynhaliwyd Seiat, pryd y gweinyddwyd y Sacrament o Swper yr Arglwydd. Siaradwyd gan y Parch. R. O. Williams ar Y parotoad angenrheidiol er gallu cyfranogi yn deilwng o Swper yr Arglwydd," a chan y Parch: D. Oliver, ar "Rhwymedigaeth Cymunwyr i fyw Crist." Yr oedd y gweision yn neillduol o afaelgar a nerthol, ac 'roedd eneiniad dwys yn amlwg ar yr holl wasanaeth, a theimlad pawb oedd, mai da oedd bod yma.
Lien a Chan.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Lien a Chan. "CENINEN" GWYL DEWI. Yn ol ei arfer y mae Golygydd a pherchenog y Geninen wedi dwyn allan eleni eto rifyn Gwyl Dewi. Rhifyn coffa yw, hwn wedi bod o'r dechreuad, a da yw cael lie i gadw yn fyw enwau dynion a wnaethant wasanaeth i'w gwlad a'u cenedl. Dichon yr amheua rhai a yw pawb y rhoddir He i'w coffadwriaeth yn y rhifyn arbenig o'n cylchgrawn cenedlaethol yn haeddu y cyfryw anrhydedd. Ond yr oeddynt i gyd yn ddynion parchus ac o ddylanwad yn eu gwahanol gylchoedd, a'r mwyafrif o honynt yn amlwg iawn ym mywyd ein cenedl. Ymhlith yr enwogion ymadawedig y rhoddir lie i erthyglau arnynt yn y rhifyn hwn ceir Hwfa Mon, Watcyn Wyn, Dr. William James, Canon Eleazar Williams, Dr. Cynhafal Jones, J. Bowen Jones, IB.A., y Bonwr Lewis, Jones o Bata- gonia, Tafolog, Machno, Eiddon Jones, &c. Y mae yr erthyglau wedi eu hysgrifenu gan bersonau yn meddu adnabyddiaeth drwyadl o'r ymadawedigion hyn, ac yn meddu cymhwysder i ddangos eu neillduolion. Ceir yn y rhifyn hefyd doraeth o englynion a phennillion coffa, ynghyda nifer o ganigau ar Dewi Sant a'i wyl. Rhifyn llawn o amrywiaeth, ac yn cynwys cryn lawer o bethau dyddorol ydyw. "DEWI SANT." Mae yr Educational Publishing Co." wedi dwyn allan gyfrol dlos ar Dewi Sant o waith "Owen Rhoscomyl," yr ysgrifenydd a'r nofelydd adnabyddus. Yn Saesneg yr ysgrifenodd Owen, ond ceir ar y tudalen cyferbyn gyfeithiad neu aralleiriad Cymraeg gan y Parch. J. E. Davies. Dywed yr awdwr mai cynyrch ymchwil ymhlith y llawysgrifau Cymreig yn yr Amgueddta Bryd- einig yw y llyfr. Mae ynddo lawer mwy am bobl eraill nag am Dewi yn bersonol, pobl yn perthyn i'r llvvyth yr honnir fod Dewi yn hannu o hono. Yn ol Owen Rhoscomyl, nid oedd Dewi na Goidel na Brython, ond Pictiad, mab Ceredig a ddaeth o dir y gogledd ar hynt orch- fygol i Gymru. Y Pictiaid hyn, medd ef, oedd y Cymry cyntaf, iddynt hwy y perthynai Brychau Brycheiniog, Morgan, Meirion, ac Arthur. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o ysgrifenwyr myn Owen Rhoscomyl mai yn Nyfed a Cheredigion yr ym- laddodd Arthur ei ddeuddeg brwydr. Mae'r gyfrol yn ddifyr dros ben, ond tybiwn fod y nofelydd yn amlygach ynddi na'r hanesydd manwl a gofalus. Drwg genym nas gallwn roi nemawr o gan- moliaeth i'r cyfeithiad neu'r aralleiriad Cymraeg. Mae'r arddull yn ami yn glogyrnog ac aneglur, ac mewn amrywiol fannau yn anghywir. Dyma ychydig engrheifftiau Y traethawd hyny yn lie "y traethawd hwnnw"; "awdurdod gwreidd- iol" yn lie "awdurdod wreiddiol"; "gefnder- oedd yn lie gefnderwyr diwygiwyd am "edited" "danfon ei morwynion 1 Dewi" yn lie "at Dewi" dull gwreiddiol" yn lie ffurf wreiddiol ond dyna ddigon i ddangos yr hyn y cwynwn o'i blegid. Tybiwn mai yn gymhorth i ddarllenwyr ieuainc feistroli y ddwy iaith y bwriedir y llyfr, gresyn, gan hynny, na buasai y Gymraeg yn fwy diwall. Addurnir y gyfrol a nifer o ddarluniau tlysion o'r lleoedd a gysyllta traddoddiad ag enw Dewi. Ond paham yr argraffwyd "Hen Fynyw yn Hen Fenyw o hyd ynghorph y gwaith ?
Am Gymry Llundain.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
un o arweinwyr y cyrddau dadleuol ynglyn a Chymdeithas Lenyddol y lie. Yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf pallodd ei iechyd i raddau ac roedd ei orchwyl fel swyddog o dan Ysgolion Wimbledon wedi cyfyngu ar ei amser fel nas gwelid ef mor ami yn ein cynulliadau. Gedy briod ac un ferch i alaru eu colled, a boed i Dad y 4mddifaid fod yn gysurwr iddynt yn awr eu hiraeth a'-u trallod. LLEIHAU DYLED.-—Gwneir ymdrech arbenig i leihau dyled Capel y Tabemacl y dyddiau hyn, a chynhelir cyfarfodydd cymdeithasol a chyngherddau arbenig yn y neuadd ynglyn a'r lie bob nos Iau. Rhoddir y gwleddoedd gan rai o fechgyn ieuainc y gynulleidfa, a deallwn y gwneir elw rhagorol o'r c)rddau hefyd. PAPVR NEWVDD.—Mae'r papyr Rhyddfrydol newydd, Tribune, yn amcanu at fod yn ddylan- wad pwysig yn y byd gwleidyddol yn Llundain, a nos Sadwrn, Chwef. 24, agorodd adran arbenig a fwriada fod at wasanaeth y Rhyddfrydwyr-fel math 10 lyfrfa a swyddfa i'r blaid Radicalaidd. Yma bwriedir rhoddi pob math o gyfarwyddyd a gwybodaeth am bob cwes:iwn o ddyddordeb i'r blaid, a chan fod y perchenogion yn wyr cyfoethog diau y gweithir y cynllun allan i lwyddiant. Yn agoriad yr ystafelloedd yr oedd torf o Gymry blaenllaw yn bresenol, ac yn eu plith gwelsom Syr Alfred Thomas, Mr. a Mrs. Idris, Mri. E. J. Griffith, S. T. Evans, Vincent Evans, John Hinds, Arthur Griffith, ac ereill. TRO i RUFAIN.-Gan fod tymhor y teithio ar draws y C4andir wedi dechreu yr oedd yn amserol i Gymdeithas Castle Street dreulio noson yn nghwmni un o'r aelodau yn rhoddi ei hanes o daith a gymerodd i lanau Mor y Canoldir yr Hydref diweddaf. Mr. John Hinds, Blackheath, oedd y darlithydd, a hanes Paris, Venice, a Rhufain oedd ganddo yn benaf i'w rhoddi. Cadeiriwyd iddo gan Mr. Vincent Evans, yr hwn hefyd oedd ei lywydd pan ar draws y Cyfandir. Yn ychwanegol at roddi hanes a desgrifiad o'r prif leoedd yr ymwelwyd a hwy caed darluniau rhagorol gyda'r llusern, a theimlai pawb fod y teithwyr wedi cael amser hapus, yn ol y desgrifiadau swynol a roed o'r lleoedd yr ymwelwyd a hwy. "GOHEBYDD Y 'FANER FACH.—Adroddodd Mr. Hinds stori ddoniol am allu'r Finsent i reoli hyd yn oed yr Italiad mwyaf croendew. Wedi ffaelu cael pethau wrth eu bodd mewn gwesty arbenig tynodd Gohebydd y Faner ei gerdyn allan gan ei anfon i bennaeth y ty. Brawychodd hwnnw gymaint wrth weled y fath ohebydd pwysig yn ei dy, a rhoddodd iddynt yr ystafelloedd goreu a'r bwydydd puraf at eu gwasanaeth o hynny allan. Rhyfedd y dylan wad sy gan y riportars yn mhob gwlad AR Y CVFANDIR.Nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf caed hanes taith arall ar draws y Cyfandir. Yn Wilton Square y rhoed hon, a'r darlithydd oedd Mr. R. O. Jones, yr hwn a roddai hanes ei daith yntau trwy ranau uchaf y Cyfandir ar adeg gwyliau'r haf diweddaf. Cadeiriwyd gan y Parch. G. H. Havard, a dangosodd Mr. Farrow nifer o ddarluniau rhagorol drwy'r llusern i ategu'r desgrifiadau dyddorol a roed gan y darlithydd. Y gwledydd yr ymwelwyd a hwy'n benaf oedd Holland, Germany, a Switzerland, a chaed y prif olygfeydd a welir yn Rotterdam, Frankfort, Cologne, a Homburg, yn ogystal ag yn nghyffiniau Zurich a Lucerne yn lied glir o flaen y dorf. Ar y diwedd diolchwyd i Mr. Jones gan Mri. William Evans a J. W. Jones ar ran yr aelodau am noson addysgiadol a dyddorol. Yn ystod y cyfarfod caed unawd gan Mr. D. Parry.
Am Gymry Llundain.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BORo.-Cafodd Cymdeithas Lenyddol yr eglwys hon ddadl ddyddorol iawn nos Fercher diweddaf ar A yw safon ein newyddiaduron yn ddigon uchel?" Mr. W. Lloyd Owen arweiniai ar yr ochr gadarnhaol, a Mr. D. Davies, Deptford Park, yr ochr nacaol. Dywed- wyd pethau gwertbfawr yn ystod y ddadl. Mae i rai o'n newyddiaduron safon dda, ond y mae nifer o honynt hyd yn hyn heb godi i dir uchel mewn mwy nag un ystyr. Dilyn ac nid arwain y farn gyhoedd wna y newyddiaduron. Purer y farn gyhoedd a chodir safon ein newyddiaduron mewn canlyniad. CHARING CRoss.-N os Sul diweddaf, Mawrth 4ydd, bu cenhadon dros Gyfarfod Misol Llun- dain ar ymweliad a'r eglwys uchod gyda'r amcan o'i chynorthwyo i ethol swyddogion. Y cenhadon oeddent y Parch. S. E. Prytherch, Mri. R. O. Jones, Isaac T. Lloyd, ac O. M. Williams. Ar ol cyfrif y pleidlesiau caed fod y brodyr a ganlyn wedi eu dewis Mri. B. Griffiths, Shepherds Bush; Robert Jones, Barnsbury; W. Williams, Argyle Street; a Howell J. Williams, C.S.LI. Yr oedd y dewisiad yn lied unfrydol, ac mae'r eglwys i'w llongyfarch ar benodi i swydd mor bwysig, bersonau ydynt wedi profi ei hunain yn ffydd- loniaid i'r achos yn y gorphenol. WALHAM GREEN.—Cynhaliwyd cyfarfodydd pregethu blynyddol yr eglwys uchod nos Sadwrn, y Sabboth, a nos Lun diweddaf. Gwasanaethwyd eleni gan y Parch. Picton Evans a'r Efengyles Rosina Davies. Cafwyd cynulliadau rhagorol, a mwynhawyd pregethau grymus ac effeithiol. Darfu i ddau aros ar ol nos Sul. Barn pawb yw ein bod wedi cael cyfarfodydd nefolaidd, yn arbenig felly nos Sul pan yr oedd Miss Davies yn cymhell pawb i ddilyn Iesu mor daer ac mor deimladwy nes gwefreiddio y gynulleidfa.