Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Pobl a Phethau yng Nghymru.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Pobl a Phethau yng Nghymru. LLEDAENIR newyddion lied anfoddhaol ynghylch sefyllfa iechyd Mr. Evan Roberts, y Diwygiwr. Mae'n eglur fod llafur mawr y llynedd wedi effeithio yn ddwysach arno nag y tybid ar y cyntaf, ac nad ellir gobeithio iddo fod yn abl i efengylu llawer eto am amser hir. BLIN genym -gofnodi marwolaeth y Parch. J. P. Davies, Caerffili, un o weinidogion parch- usaf y Bedyddwyr yn Neheudir Cymru. Bu yn weinidog yn Nhonyfelin, hen gapel Christmas Evans, am dros chwarter canrif. Yr oedd yn fardd a llenor o radd uchel yn ogystal ag yn bregethwr effeithiol. YN ymgomwest gyntaf Cymdeithas Cymry Casnewydd y nos o'r blaen eisteddai y Cadeirydd yn y gadair a enillodd y diweddar loan Emlyn yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn i860. Perthynai y gadair yn awr i wyr y bardd, yr hwn a'i benthyciodd i'r Gymdeithas am y noson. MAE'R byd yn dyfod i'w le. Mae'r Eglwys- wyr am gymanfa ganu ym Mangor y flwyddyn nesaf-un Gymreig. Ac y mae pwyllgor y gymanfa wedi pasio mai yn Gymraeg y mae'r ymdrafod pwyllgorawl i fod. Mae'n rhaid i Ymneillduaeth edrych ati. DARLITHIAI Hawen ar Syr Lewis Morris a Barddoniaeth Cymru Fydd yng Nghaernarfon nos Lun. Cynghorai'r beirdd i bwyso ar ddel- fryd Syr Lewis Morris, sef uno'r bardd a'r gweledydd. Rhoddai ef Elfed ar ben rhestr beirdd heddyw. MAE rhyw "fwgan" yn peri cyffro ahelynt go fawr tuag Abertridwr, gerllaw Caerffili. Nid "goleuo" ond "cnocio" y mae yr ymwelydd dyeithr hwn. Bu heddgeidwad a phregethwr, ac offeiriad, ac ysbrydegydd, yn ceisio ei gystwyo y dyddiau diweddaf, ond parhau i gnocio a wnai erddynt oil. Ymddengys mai glowr o'r enw Craze yw nod dialedd y bwgan hwn. Er i Craze newid ei drigfan dilyna yr aflonyddwch ef. MEWN anerchiad a draddododd yn Aberdar yr wythnos ddiweddaf dywedodd y Parch. W. Hopkyn Rees fod dau beth wedi ei daro ef:- (I) Fod Blwyddiadur yr Annibynwyr am eleni wedi ei lenwi mor Ilawn o restrau ffeiriau yng Nghymru fel nad oedd le ynddo i enwau y Cymry sydd yn genhadon (2) Nad oedd yn y Caniedydd Cynulleidfaol," emynlyfr yr enwad, gymaint ag un emyn genhadol yn cynwys enw Madagascar, yr ynys i'r hon yr aeth Cymry yn genhadon cyntaf, na China, lie y llafuriai Dr. Griffith John. Yr oedd ynddo emynau yn cynwys enwau rhanau eraill o'r byd paganaidd. DYDD Sul diweddaf yr oedd y Prifathraw Rowlands (Dewi Mon) yn cyrhaedd pen ei 70 mlwydd oed. Rhoddwn iddo ein llon- gyfarchiadau ar yr achlysur, a dymunwn iddo flynyddau lawer eto i wasanaethu'r genedl. Cafodd gohebydd y South Wales Daily News ymgom ag ef ynghylch y cyfnewidiadau a ddug y blynyddoedd i fywyd Cymru, ac nid yw yr ysbryd sydd yn dywedyd mai gwell yw y dyddiau a fu na'r dyddiau y sydd wedi cyffwrdd y Prif- athraw eto. Mae Cymru yn ei farn ef wedi gwella yn ddirfawr ym mhob ystyr bron. YNGHYLCH un peth yn unig y tueddai Mr. Rowlands i achwyn, a hwnnw ydoedd Prifysgol Cymru. Ofnaf," meddai, nas gellir dweyd fod genym Brifysgol Gymreig, yn hytrach dylem ei galw yn Brifysgol yng Nghymru. Gwneir ei Senedd i fynu o ddynion sydd bron yn hollol anwybodus ynghylch Cymru a'i dyheuadau. 0 ganlyniad ofer disgwyl iddynt hwy ddatblygu y Brifysgol ar linellau Cymreig. Yn ddiddadl y mae lie i'w diwygio, ac y mae fy nghydym- deimlad i gyda Syr Marchant Williams ac eraill, ond byddai yn ddrwg genyf weled -unrhyw fesurau eithafol yn cael eu mabwysiadu."

PREQETHWYR Y SABBOTH NESAF.

Advertising

Y DYFODOL

Advertising